Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru i archwilio effaith dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu Treth Gyngor ar gasglu Treth Gyngor.

Cwblhawyd yr ymchwil yn 2022 ac roedd yn cynnwys ymchwil desg, gwaith dadansoddi ystadegau meintiol a gwaith maes.

Prif ganfyddiadau

  • Mae lefel uchel o ymwybyddiaeth o fewn cynghorau fod y gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor wedi'i dileu.
  • Mae lefel y newid mewn gweithgarwch gorfodi o ganlyniad i'r mesur yn amrywio o un cyngor i'r llall. Y prif newidiadau a nodwyd gan gynghorau oedd cynnydd yn y defnydd a wneir o orchmynion arwystlo, rhagor o atgyfeirio yn ôl at gasglwyr trethi a chynnydd mewn achosion o ddileu dyled Treth Gyngor.
  • Roedd yn destun pryder i Cyngor ar Bopeth Cymru fod rhai cynghorau yng Nghymru yn dal heb ddiweddaru deunydd cyfathrebu yn sgil dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu Treth Gyngor.
  • Wrth gymharu cyfraddau casglu cynghorau yng Nghymru o 2017-2018 tan 2021-2022 gyda grwpiau rheoli, gwelir bod cyfraddau cyfartalog casglu Treth Gyngor yng Nghymru yn uwch nag oeddynt yn Lloegr ac yn yr Alban, ac o'u cymharu â chynghorau tebyg yn Lloegr. Cynghorau Cymru oedd yr unig grwp a weithredodd y mesur o ddileu'r gosb o garchar o fewn amserlen y broses gymharu.
  • Mae dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu Treth Gyngor wedi arwain at heriau i gynghorau o ran ymgysylltu â grwpiau penodol o bobl nad ydynt yn talu.
  • Roedd Cyngor ar Bopeth Cymru o'r farn fod effaith dileu'r gosb o garchar yn gadarnhaol iawn. Mae'n rhoi cyfle i ddyledwyr dalu ar gyfradd y gallant ei fforddio. Cyn dileu'r gosb, roedd tystiolaeth fod rhai dyledwyr mor bryderus ynghylch y defnydd o'r gosb o garchar nes eu bod yn ad-dalu'r ddyled ar lefel a oedd yn achosi niwed iddynt eu hunain.

Adroddiadau

Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: Dileu'r Gosb o Garchar am Beidio â Thalu Treth Gyngor , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 601 KB

PDF
601 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Deall effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: Dileu'r Gosb o Garchar am Beidio â Thalu Treth Gyngor (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 266 KB

PDF
266 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.