Neidio i'r prif gynnwy

Comisiynwyd y gwerthusiad hwn gan Lywodraeth Cymru i adolygu’r eithriad Nam Meddyliol Difrifol gan ganolbwyntio ar ei weithrediad a’i effaith.

Cwblhawyd yr ymchwil yn 2022 ac roedd yn cynnwys ymchwil desg, gwaith dadansoddi ystadegau meintiol a gwaith maes.

Prif ganfyddiadau

  • Mae ymwybyddiaeth ymhlith cynghorau, a sefydliadau trydydd parti sy'n cefnogi pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol, o safoni'r ymyriad eithriad Treth Gyngor ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol. Caiff yr ymyriad hwn ei groesawu gan gynghorau a sefydliadau sy'n cefnogi preswylwyr sydd â Nam Meddyliol Difrifol.
  • Roedd y rhan fwyaf o gynghorau yn teimlo bod cyflwyno dull gweithredu safonol ar gyfer eithriadau Treth Gyngor ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol wedi bod yn effeithiol. Wedi dweud hynny, mae lefel y mesurau gweithredu sydd wedi'u cyflwyno gan gynghorau yn amrywio.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o gynghorau eu bod yn defnyddio'r ffurflen gais safonol. Nid oedd y rhan fwyaf o ymatebwyr yn ymwybodol o unrhyw fesurau ychwanegol, megis cyhoeddusrwydd, hyfforddiant neu hygyrchedd gwefan o fewn eu cyngor.
  • Er bod amrywiaeth rhwng cynghorau o ran gweithredu'r mesurau ymyrryd, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr eithriadau Treth Gyngor ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol ledled Cymru ers safoni'r eithriad Nam Meddyliol Difrifol yn 2019. Mae'r cynnydd hwn yn amlwg ym mhob cyngor.
  • Cyn 2019, roedd y boblogaeth a all fod yn gymwys am eithriad Treth Gyngor ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol (fel yr awgrymir gan ystadegau cyhoeddus ar fudd-daliadau a chyflyrau anabledd cysylltiedig) yn cynyddu'n fwy cyflym na nifer yr eithriadau ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol a ddyfarnwyd ledled Cymru.
  • Mae cymhwysiad yr eithriadau Treth Gyngor ar gyfer pobl sydd â Nam Meddyliol Difrifol yn weddol gyson ar draws cynghorau Cymru mewn perthynas â phoblogaeth a all fod yn gymwys y cyngor hwnnw. Nid oes yr un cyngor yn cymhwyso nifer eithriadau sy'n sylweddol is na'r disgwyl.

Adroddiadau

Deall Effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: safoni’r eithriad Nam Meddyliol Difrifol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 769 KB

PDF
769 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Deall Effaith Ymyriadau Treth Gyngor yng Nghymru: safoni’r eithriad Nam Meddyliol Difrifol (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 269 KB

PDF
269 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.