Neidio i'r prif gynnwys

Cyflwyniad

Nod y canllaw hwn yw cynorthwyo ymarferwyr sy'n gweithio mewn meithrinfeydd, ysgolion a sefydliadau addysg bellach (SAB) a gynhelir i ddeall y canlynol:

  • beth yw ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • sut mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei ddefnyddio yn y system anghenion dysgu ychwanegol
  • sut i baratoi a chynnal cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • sut i helpu plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn 
  • sut i ddefnyddio gwybodaeth i ddatblygu cynllun datblygu unigol (CDU) sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn 

Hefyd, mae'r canllaw yn berthnasol i ymarferwyr sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol ac sy'n arfer eu dyletswyddau ADY wrth baratoi a chynnal CDU ar gyfer plant neu bobl ifanc ag ADY. 

Yn y canllaw hwn:

  • mae'r term 'ysgol' yn cyfeirio at feithrinfeydd ac ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol (mae unedau cyfeirio disgyblion wedi'u cynnwys yn y diffiniad o ysgol a gynhelir at ddibenion y system ADY, ac felly mae ymarferwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion yn gallu defnyddio'r canllaw hwn hefyd) 
  • mae 'plentyn' yn cynnwys plant sy'n derbyn gofal a phlant nad oes ganddynt alluedd, oni nodir yn wahanol 
  • mae 'person ifanc' yn cynnwys person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond yn iau na 25 oed 
  • mae 'rhiant' yn cynnwys unrhyw un sy'n gofalu am y plentyn neu'r person ifanc, neu sydd â chyfrifoldeb rhiant 
  • ystyr 'cyfaill achos' yw person a benodir gan Dribiwnlys Addysg Cymru i gynrychioli a chefnogi plentyn nad oes ganddo alluedd mewn materion ADY

Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn mewn addysg

Mewn addysg, mae modd defnyddio dull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, nid dim ond y rhai sydd ag ADY. Mae'r dull hwn yn sicrhau bod plant, eu rhieni a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn penderfyniadau am eu dysgu a'r gefnogaeth maen nhw’n ei derbyn. 

Mae'n gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol: 

  • trin y plentyn neu'r person ifanc fel unigolyn 
  • deall eu dymuniadau, eu cryfderau, eu safbwyntiau a'u dyheadau 
  • gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei feddwl, yn ei deimlo ac yn gobeithio amdano 
  • canolbwyntio ar eu diddordebau, eu dewisiadau a'u nodau 
  • cydnabod yr hyn sydd ei angen arnynt i gadw'n iach ac yn ddiogel a bod â’r gallu i ddysgu
  • sicrhau bod eu llais yn ganolog mewn prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau 

Mae'r dull hwn yn hyrwyddo ymarfer cynhwysol ac yn helpu ysgolion a SABau i greu amgylcheddau dysgu effeithiol lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei gefnogi, a bod pobl yn gwrando arno.

Hefyd, mae'n sicrhau bod pawb sy'n rhan o daith addysgol y plentyn neu'r person ifanc yn deall beth sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc, sut mae’n dysgu orau, sut mae’n cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd a pha gymorth sydd ei angen ar y plentyn neu berson ifanc er mwyn ffynnu.

Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ("y Ddeddf ADY") yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol i ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu'r person ifanc, gan sicrhau ei fod yn ganolog i benderfyniadau yn ymwneud â chynllunio ei addysg, yn awr ac yn y dyfodol. 

Os nodir bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, rhaid i'r ysgol, SAB neu'r awdurdod lleol baratoi CDU. Mae CDU yn ddogfen gyfreithiol sy'n nodi anghenion y plentyn neu'r person ifanc a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a fydd yn ei helpu. 

Rhaid i bobl ifanc gydsynio bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a oes ganddynt ADY neu a oes angen paratoi, cynnal neu gadw CDU. Os nad yw person ifanc yn cydsynio bod penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a oes ganddo ADY, dylai ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol barhau i geisio diwallu ei anghenion trwy ddarparu cymorth ychwanegol. Mae modd gwrthdroi’r penderfyniad hwn ac mae gan y person ifanc hawl i newid ei feddwl ar unrhyw adeg. 

Mae Pennod 31 o'r Cod ADY yn darparu canllawiau ar achosion lle nad oes gan riant plentyn neu berson ifanc alluedd, ac mae'n egluro pwy sy'n gallu cynrychioli’r rhiant.

Cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gosod y plentyn neu'r person ifanc wrth wraidd y drafodaeth gan ganolbwyntio ar y canlynol: 

  • dyheadau’r plentyn neu berson ifanc
  • yr hyn sy'n bwysig i’r plentyn neu’r person ifanc 
  • yr hyn sy'n bwysig i’r plentyn neu’r person ifanc er mwyn datblygu a gwneud cynnydd 
  • yr hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio o safbwyntiau gwahanol 

Mae presenoldeb mewn cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn dibynnu ar bwy sy'n ymwneud ag addysg y plentyn neu'r person ifanc. Dylid ystyried safbwyntiau'r plentyn neu'r person ifanc ynglŷn â phwy sy'n mynychu'r cyfarfod. Gall y cyfarfod gynnwys arweinwyr bugeiliol, athrawon, darlithwyr, tiwtoriaid, y CADY a gweithwyr proffesiynol o asiantaethau ehangach fel gofal cymdeithasol neu iechyd. 

Dylid gwahodd y plentyn neu'r person ifanc hefyd, yn dibynnu ar yr hyn sy'n briodol yn yr amgylchiadau. 

Gall pobl ifanc a rhieni plentyn ddod â rhywun i'w cefnogi ac eirioli drostynt yn y cyfarfod (er enghraifft aelod o'r teulu, ffrind neu gyfaill achos). Yn yr achosion hyn, dylent sicrhau cytundeb ymlaen llaw gan yr ysgol, y SAB neu'r awdurdod lleol, gan egluro pwrpas y sawl sy’n mynychu gyda nhw. 

Mae cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i fod yn anffurfiol, ac mae'n bwysig bod pawb yn teimlo'n gartrefol ac yn gyfforddus.

Trefnu cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Dylid cynnal cyfarfodydd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau, er enghraifft:

  • pan fydd ysgol, SAB neu awdurdod lleol yn ystyried a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY 
  • at ddibenion drafftio CDU 
  • o leiaf bob 12 mis er mwyn adolygu CDU presennol, neu cyn hynny os yw’r amgylchiadau wedi newid yn sylweddol 
  • ar adegau pontio

Mae'r gofyniad sylfaenol yn nodi bod yn rhaid adolygu CDU bob blwyddyn. Fodd bynnag, gellir adolygu CDU ar unrhyw adeg os yw’r amgylchiadau wedi newid yn sylweddol, neu os oes cais yn cael ei wneud gan:

  • un o gyrff y GIG
  • plentyn neu riant plentyn 
  • person ifanc 

Rhaid i gorff llywodraethu neu awdurdod lleol adolygu CDU yn dilyn cais gan blentyn, rhiant neu berson ifanc oni bai bod y corff o'r farn bod yr adolygiad yn ddiangen.

Mae adolygiadau effeithiol yn ymateb i newid. Weithiau mae amgylchiadau'n newid yn annisgwyl. Er enghraifft, mae heriau newydd yn dod i'r amlwg, mae cyfleoedd yn codi, ac mae anghenion y plentyn neu'r person ifanc yn esblygu. Pan fydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen adolygu CDU a chynnal cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gynt na'r disgwyl. 

Mae'r Cod ADY yn caniatáu ar gyfer yr hyblygrwydd hwn, gan gydnabod bod yn rhaid i gymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn addasu mewn amser real. Mae gwybod pryd i gychwyn adolygiad cynnar yn dangos bod ymarferwyr yn gwrando ar y plentyn neu'r person ifanc ac yn addasu'r ddarpariaeth er mwyn diwallu ei anghenion newidiol, yn hytrach nag aros am ddyddiad sydd wedi'i drefnu nad yw'n briodol mwyach. 

Sut i gynnal cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Mae cyfarfodydd ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i sicrhau bod plentyn neu berson ifanc wrth wraidd y broses sy'n nodi ei ADY ac yn pennu natur a maint y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. 

Mae'n debyg mai cynnal cyfarfodydd gyda phawb yn yr un ystafell yw'r dull gweithredu mwyaf effeithiol yn y rhan fwyaf o achosion. Os oes rhwystrau sy’n atal hyn, gallai fod yn fwy priodol cynnal cyfarfod rhithwir, naill ai'n gyfan gwbl neu'n rhannol. 

Dylai pawb sy'n cymryd rhan mewn cyfarfod wyneb yn wyneb neu rithwir gydymffurfio â chod ymddygiad yr ysgol, y SAB neu'r awdurdod lleol ar gyfer cyfarfodydd. Rhaid dilyn gweithdrefnau diogelu arferol hefyd. 

Er mwyn dilyn ethos ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, dylai ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol wneud y canlynol: 

  • bod yn hyblyg er mwyn hwyluso dull sy'n briodol yn yr amgylchiadau unigol
  • cynnwys y plentyn neu'r person ifanc ac, yn achos plentyn, rhiant y plentyn 
  • rhoi mesurau ar waith i hwyluso cyfranogiad y plentyn neu'r person ifanc 

Gall y rhan fwyaf o gyfarfodydd bara rhwng un a dwy awr, ond mae hyn yn gallu amrywio gan ddibynnu ar faint o bobl sy'n cymryd rhan a faint o bethau sydd angen eu trafod. Gall y cyfarfod cychwynnol gymryd mwy o amser. 

Trwy gydol y broses, dylai ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth mewn ffordd sy'n adlewyrchu dewisiadau iaith a chyfathrebu'r plentyn a’i riant neu’r person ifanc, er mwyn cefnogi cyfranogiad llawn ac ystyrlon gan y plentyn, a’i riant neu’r person ifanc. Hefyd, bydd yn rhaid i'r person sy'n trefnu'r cyfarfod gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau perthnasol o ran y Gymraeg a hygyrchedd. 

Sut i gynorthwyo plentyn neu berson ifanc i gymryd rhan

Dylai'r person sy'n trefnu'r cyfarfod feddwl yn ofalus ynghylch sut i greu amgylchedd cefnogol lle mae pawb yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus i rannu eu safbwyntiau. 

Dylai hyn gynnwys trafodaeth am unrhyw drefniadau a fydd yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi'r plentyn neu'r person ifanc yn ystod y cyfarfod. Gallai hyn gynnwys darparu: 

  • cyfieithydd ar y pryd ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith gyntaf
  • dogfennau mewn fformat priodol, er enghraifft print mawr neu braille 
  • cyfarpar arbenigol sydd ei angen ar y plentyn neu'r person ifanc er mwyn cymryd rhan yn effeithiol 

Er mwyn hyrwyddo cyfranogiad ystyrlon, dylai ysgolion, SAB ac awdurdodau lleol ystyried y canlynol: 

  • cynnal cyfarfod ar wahân gyda phlentyn a’i riant neu gyda’r person ifanc a dim ond un neu ddau o weithwyr proffesiynol er mwyn rhannu eu safbwyntiau cyn y prif gyfarfod 
  • y plentyn neu’r person ifanc yn mynychu rhan o'r cyfarfod yn unig 
  • sicrhau bod cynllun yr ystafell yn gweddu i'r plentyn a’i riant neu i’r person ifanc 
  • cynnal y cyfarfod mewn ystafell sy'n gyfarwydd i'r plentyn a’i riant neu i’r person ifanc
  • cynnal cyfarfod byr sy'n canolbwyntio ar y materion dan sylw yn unig os yw hynny'n helpu 
  • sicrhau bod aelod o staff yn bresennol y mae’r plentyn neu’r person ifanc yn ymddiried ynddo ac sy'n gallu helpu i egluro materion a phenderfynu a yw'r plentyn neu'r person ifanc wedi deall 
  • paratoi’r person ifanc neu’r plentyn a rhiant y plentyn ar gyfer y cyfarfod ymlaen llaw, er enghraifft trwy roi cyfle iddynt ymweld â'r ystafell ymlaen llaw, gan esbonio trefn y cyfarfod, a sôn am y cwestiynau sy'n debygol o gael eu gofyn 
  • cytuno ymlaen llaw ar arwydd syml y gall y plentyn neu'r person ifanc ei ddefnyddio os oes angen seibiant arno neu os ydyw eisiau gadael 
  • caniatáu i'r plentyn neu'r person ifanc fynd â rhywbeth i'r cyfarfod sy'n ei helpu i deimlo'n ddigynnwrf, er enghraifft tegan i leihau straen 
  • cynnig cyfarfod dilynol er mwyn siarad am yr hyn a drafodwyd a rhannu unrhyw syniadau neu adborth 

Os yw'r plentyn neu'r person ifanc yn gallu rhannu’r hyn y mae’n ei feddwl, gellid gwneud hyn drwy: 

  • siarad â'r rhiant neu oedolyn y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ymddiried ynddo
  • defnyddio symbolau, lluniau neu luniadau 
  • creu fideo byr neu nodyn llais 
  • defnyddio technoleg gynorthwyol neu ddulliau cyfathrebu amgen fel braille neu Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Os nad yw'r plentyn neu'r person ifanc yn ymuno â'r cyfarfod, mae sawl ffordd greadigol o ddod â llais y plentyn neu'r person ifanc i mewn i'r ystafell hyd yn oed os nad yw’r unigolyn yn bresennol. Er enghraifft:

  • gallai'r plentyn neu'r person ifanc recordio ei hun yn siarad am yr hyn sy'n bwysig iddo, yr hyn sy'n mynd yn dda, a'r hyn yr hoffai ei newid (gellir chwarae'r recordiad ar ddechrau'r cyfarfod) 
  • mae casgliad o luniau sy'n dangos y plentyn neu'r person ifanc yn gwneud pethau mae’n eu mwynhau yn gallu helpu pawb yn yr ystafell i gysylltu â’r unigolyn fel person go iawn yn hytrach na dim ond yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu mewn adroddiadau 
  • mae'n bosibl y bydd yn haws i blant iau yn benodol fynegi eu hunain mewn ffordd weledol trwy ddod ag eitem maen nhw wedi'i gwneud neu lun maen nhw wedi'i dynnu 
  • gellid gofyn cwestiynau i'r plentyn neu'r person ifanc ymlaen llaw, ac yna darllen yr atebion ysgrifenedig neu wedi'u harddweud yn y cyfarfod (dylid rhoi’r un pwyslais ar yr atebion hyn â'r hyn a ddangosir at gyfraniadau oedolyn) 
  • gallai eiriolwr fod yn bresennol i gynrychioli safbwyntiau'r plentyn neu'r person ifanc 

Paratoi ar gyfer cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen tystiolaeth a chyngor er mwyn gwneud penderfyniadau am faterion ADY mewn cyfarfodydd. Er mwyn hwyluso'r broses hon, gall trefnydd y cyfarfod ofyn am wybodaeth gan wahanol asiantaethau, gweithwyr proffesiynol ac unigolion cyn y cyfarfod, a bydd yn ystyried pwy ddylai fynychu. 

Gallai'r pwyntiau isod fod yn ddefnyddiol er mwyn strwythuro'r broses o gasglu a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys ar gyfer unigolion sy'n cyflwyno cyfraniadau ysgrifenedig cyn y cyfarfod. 

  • Beth ydych chi'n ei edmygu neu'n ei werthfawrogi am y plentyn neu'r person ifanc? 
  • Yn eich barn chi, beth yw'r pethau pwysicaf ym mywyd y plentyn neu'r person ifanc ar hyn o bryd ac yn y dyfodol (dyheadau)? 
  • Yn eich barn chi, beth sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc er mwyn ei helpu i ddatblygu a gwneud cynnydd? 
  • Beth sydd angen i bobl eraill ei wybod neu ei wneud er mwyn helpu'r plentyn neu'r person ifanc? 
  • Beth sy'n gweithio ac sydd angen ei barhau? 
  • Beth sydd ddim yn gweithio ac sydd angen ei newid? 
  • A oes unrhyw gwestiynau?

Dylid rhannu cyngor neu adroddiadau sy'n cael eu darparu gan asiantaethau neu weithwyr proffesiynol hefyd. Dylai'r plentyn a’i riant neu'r person ifanc gael digon o amser i ystyried y rhain cyn y cyfarfod.

Yn ystod y cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Bydd natur pob cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn wahanol. Bydd cyfarfodydd yn newid er mwyn diwallu anghenion y plentyn a’i riant neu anghenion y person ifanc. Fodd bynnag, mae'r camau canlynol yn cael eu dilyn fel arfer. 

  • Cyflwyniadau: mae'r rhai sy'n mynychu'r cyfarfod yn cyflwyno eu hunain ac yn rhoi esboniad cryno o sut maen nhw'n cyfrannu at addysg y plentyn neu'r person ifanc. 
  • Trafodaethau: bydd y cyfarfod yn rhyngweithiol, gan roi cyfle i bawb gyfrannu a thrafod y canlynol: 
    • yr hyn maen nhw'n ei hoffi a'i edmygu am y plentyn neu'r person ifanc
    • yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc ac ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc
    • yr hyn sy'n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio
  • Camau gweithredu: ar sail y trafodaethau, mae'n bosibl y bydd nodiadau'n cael eu datblygu neu y bydd diwygiadau'n cael eu gwneud yn uniongyrchol i'r CDU.
  • Adolygiad: bydd crynodeb byr o'r pwyntiau trafod allweddol yn cael ei nodi ac efallai y bydd yr amserlen ar gyfer yr adolygiad nesaf yn cael ei thrafod.

Y nod yw creu system gydweithredol a thryloyw sy'n sicrhau deilliannau gwell i blant a phobl ifanc. 

Ar ôl cyfarfod sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Ar ôl y cyfarfod, gallai'r person sy'n arwain y cyfarfod roi cyfle i'r plentyn a’i riant neu'r person ifanc drafod yr wybodaeth a'r cyngor a gasglwyd. 

Rhaid i'r plentyn a’i riant neu'r person ifanc gael gwybod yn ysgrifenedig (gyda hawliau apelio clir) am unrhyw benderfyniadau ffurfiol a gafodd eu gwneud yn y cyfarfod. Er enghraifft, gallai'r rhain gynnwys:

  • penderfyniadau yn ymwneud ag a oes gan y plentyn ADY
  • natur ac ehangder y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
  • pwy sy'n cynnal ac yn adolygu'r cynllun
  • a oes penderfyniad wedi'i wneud i roi'r gorau i'r cynllun 

Trwy gydol y broses, dylai ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol gyfathrebu yn agored, yn glir ac yn rheolaidd gyda'r plentyn a’i riant neu gyda’r person ifanc. Dylai hyn gynnwys diweddariadau amserol ar gynnydd a chefnogaeth. 

Datblygu cynllun datblygu unigol (CDU)

Os penderfynir bod gan blentyn neu berson ifanc ADY, bydd CDU yn cael ei baratoi.

Mae CDU yn ddogfen statudol sy'n cynnwys disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc a'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen oherwydd anhawster neu anabledd dysgu'r plentyn neu'r person ifanc. 

Rhaid i ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol ddefnyddio'r ffurflen CDU safonol i baratoi neu gynnal CDU. Rhaid defnyddio'r ffurflen benodol CDU ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal ar gyfer plentyn sy'n derbyn gofal. Rhaid gwneud hyn er mwyn sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei drin yn deg ac yn gyson, ac er mwyn sicrhau bod CDU'r plentyn neu'r person ifanc yn symud gyda’r unigolyn os ydyw’n newid lleoliad. 

Er bod yn rhaid defnyddio'r ffurflenni hyn, y bwriad yw eu bod yn cynorthwyo'r gwaith o ddatblygu CDU sydd wedi'i deilwra i bob plentyn neu berson ifanc, gan adlewyrchu amgylchiadau, anghenion, cryfderau a dyheadau unigol y plentyn neu'r person ifanc. Gall hyn olygu bod CDU yn amrywio o ran hyd ac arddull yn dibynnu ar anghenion ac amgylchiadau'r plentyn neu'r person ifanc unigol. 

Dylid cydgynhyrchu CDU trwy ddefnyddio dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan sicrhau bod penderfyniadau'n adlewyrchu safbwyntiau'r plentyn neu'r person ifanc a safbwyntiau'r rhai sy'n eu hadnabod orau. 

Felly, dylid ysgrifennu'r CDU: 

  • mewn arddull sy'n dangos ei fod yn perthyn i'r plentyn neu'r person ifanc ac nad yw’n rhan o broses weinyddol yn unig 
  • gan ddefnyddio arddull hygyrch sy'n cyd-fynd ag anghenion a dealltwriaeth y plentyn neu'r person ifanc 
  • mewn iaith blaen (boed hynny yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith), sy'n osgoi defnyddio jargon 
  • gan esbonio perthnasedd unrhyw derminoleg dechnegol, fel bod pawb sy'n darllen y CDU yn gallu ei ddeall, gan gynnwys, lle bynnag y bo modd, y plentyn neu'r person ifanc

Defnyddio ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn rhoi gwybod am benderfyniadau

Bwriad y broses gynhwysol o ddatblygu CDU, a'r ddyletswydd i ystyried safbwyntiau, dymuniadau a theimladau'r plentyn a’i riant neu'r person ifanc, yw dileu pryderon yn gynnar ac atal anghytundebau rhag codi. Dylai ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar roi cyfle i blant, eu rhieni a phobl ifanc godi pryderon neu ofyn cwestiynau ym mhob cam o'r broses. Bydd hyn yn sicrhau bod modd ystyried materion a'u datrys yn brydlon. 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nogfen Llywodraeth Cymru: Anghenion dysgu ychwanegol (ADY): gwneud penderfyniadau a chyfathrebu.

Offerynnau ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn helpu i nodi'r hyn sy'n bwysig am y plentyn neu'r person ifanc

Mae modd defnyddio gwahanol offerynnau ac adnoddau er mwyn helpu i rannu'r hyn sy'n bwysig am y plentyn neu'r person ifanc. Nid oes angen i ymarferwyr ddefnyddio pob un ohonynt, dim ond y rhai sy'n teimlo’n ystyrlon ac yn ddefnyddiol i'r plentyn neu'r person ifanc. Mae'r offerynnau hyn yn cael eu defnyddio'n rheolaidd mewn ysgolion ar gyfer llawer o blant, nid dim ond y rhai sydd ag ADY. Maen nhw’n cynorthwyo ysgolion, SABau ac awdurdodau lleol i weithio mewn ffordd gynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Dyma rai enghreifftiau o offerynnau y gallwch eu defnyddio.

Proffil un dudalen

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Proffil un dudalen yn gwahanu'r hyn sy'n bwysig i blentyn neu berson ifanc (yr hyn sy'n ei wneud yn hapus ac yn fodlon ac yn gwella ei lesiant) oddi wrth yr hyn sy'n bwysig ar ei gyfer (y cymorth neu'r gefnogaeth sydd ei hangen arno i gadw'n iach ac yn ddiogel), gan weithio hefyd tuag at gydbwysedd rhwng y ddau.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn yn nodi'r hyn sydd angen bod yn bresennol neu'n absennol ym mywyd y plentyn neu'r person ifanc er mwyn sicrhau ei fod yn derbyn cymorth mewn ffyrdd sy'n gwneud synnwyr iddo, gan gadw'n iach ac yn ddiogel ar yr un pryd.
  • Mae'r offeryn yn darparu crynodeb cyflym o bwy yw'r plentyn neu'r person ifanc, a sut i'w gefnogi, sy’n addas i bawb sy'n gweithio gyda’r plentyn neu’r person ifanc.

Offeryn gwerthfawrogi

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Gwerthfawrogi yn nodi'r rhinweddau y mae pobl yn eu hoffi a'u hedmygu am y plentyn neu'r person ifanc. Mae'n helpu pobl sy’n cefnogi i weld yr hyn sy'n gwneud plentyn neu berson ifanc yn unigryw.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi doniau a rhinweddau plentyn neu berson ifanc.
  • Mae'r offeryn yn sicrhau ein bod yn gweld y plentyn neu'r person ifanc fel person go iawn ac mae'n gwrthwneud y pwyslais cyson ar yr hyn sydd o'i le.
  • Mae'r offeryn yn nodi'r bobl sydd â chysylltiad personol â'r plentyn neu'r person ifanc a'r rhai sydd â gwybodaeth wirioneddol am yr hyn sy'n bwysig iddo.

Beth sy'n gweithio a ddim yn gweithio

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Beth sy'n gweithio a ddim yn gweithio yn helpu i nodi yr hyn sy'n gweithio'n dda i blentyn neu berson ifanc, yr hyn sy'n teimlo'n ddefnyddiol ac a ddylai aros yr un peth, yn ogystal â'r hyn nad yw’n gweithio ac sydd o bosibl angen ei newid. 

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn yn annog pawb i edrych ar y sefyllfa o safbwyntiau gwahanol er mwyn cael darlun clir o'r hyn sy'n mynd yn dda a'r hyn sydd angen ei wella.

Diwrnod da, diwrnod gwael

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Diwrnod da, diwrnod gwael yn archwilio'r hyn sy'n golygu bod plentyn neu berson ifanc yn cael diwrnod da neu ddiwrnod gwael, gan fyfyrio ar yr hyn sy'n bwysig iddo. 

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn yn helpu ymarferwyr i ddeall nid yn unig yr hyn sydd ei angen ar y plentyn neu'r person ifanc o safbwynt academaidd, ond yr hyn sy'n bwysig iddo yn emosiynol ac yn gymdeithasol trwy gydol y diwrnod cyfan, gartref ac yn yr ysgol.
  • Mae'r offeryn yn datgelu'r 'pethau bach' sy'n bwysig iawn, gan ddangos yr hyn sydd angen bod yn bresennol a'r hyn sydd angen bod yn absennol ym mywyd plentyn neu berson ifanc er mwyn sicrhau hapusrwydd. Gall yr wybodaeth helpu'r rhai sy'n rhan o fywyd y plentyn neu'r person ifanc i gynnwys llawer o adegau da bob dydd er mwyn codi ysbryd plentyn neu berson ifanc. 
  • Wrth bontio, mae'r offeryn yn darparu gwybodaeth glir am y plentyn neu'r person ifanc i'r lleoliad newydd, er mwyn dangos a yw hwn yn ddiwrnod da neu’n ddiwrnod gwael i’r plentyn neu’r person ifanc.

Cylch perthynas

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Cylch perthynas yn nodi pwy yw'r bobl bwysig ym mywyd plentyn neu berson ifanc.

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn yn helpu i ddatgelu pwy yw'r bobl bwysicaf i'r plentyn neu'r person ifanc ac a oes unrhyw faterion pwysig i’w nodi sy’n ymwneud â chydberthnasoedd.
  • Mae'r offeryn yn helpu i nodi gyda phwy y dylid siarad wrth gasglu gwybodaeth.
  • Mae'r offeryn yn dangos cydberthnasoedd a all gael eu cryfhau neu eu cefnogi.

Dyheadau

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Dyheadau yn helpu ymarferwyr i ddarganfod, ar sail doniau a thalentau plentyn neu berson ifanc, yr hyn sy'n bwysig iddo, yr hyn mae eisiau bod a beth mae eisiau ei wneud. 

Sut mae hyn yn helpu 

  • Mae'r offeryn yn nodi'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc. 
  • Mae'r offeryn yn cynorthwyo myfyrdod ar hunaniaeth a dyheadau yn y dyfodol. 
  • Mae'r offeryn yn cysylltu cryfderau a diddordebau â nodau ystyrlon. 
  • Mae'r offeryn yn cynorthwyo cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a chymorth wedi'i deilwra.

Offeryn 4 plws 1 

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud:

Mae'r offeryn 4 plws 1 yn helpu'r plentyn neu'r person ifanc i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi digwydd trwy edrych ar beth sydd wedi'i brofi a'i ddysgu, beth sydd wedi plesio'r plentyn neu'r person ifanc a beth mae’n poeni amdano. Mae'r cwestiwn plws 1 olaf yn canolbwyntio ar y camau nesaf. 

Sut mae hyn yn helpu 

  • Mae'r offeryn hwn yn datgelu patrymau o ran yr hyn y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ymateb yn dda iddo. Hefyd, mae'n datgelu meysydd lle mae cynnydd yn cael ei wneud, heriau parhaus a sut i addasu'r dull gweithredu. 
  • Mae'r offeryn hwn yn helpu i ddatblygu mewnwelediad i ymatebion ac anghenion y plentyn neu'r person ifanc.
  • Mae'r offeryn hwn yn hyrwyddo ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na rhagdybiaethau, gan helpu ymarferwyr i ddysgu o brofiad er mwyn cefnogi'r hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc.

Siart cyfathrebu

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud

Mae'r offeryn Siart cyfathrebu yn darparu cipolwg ar sut mae plentyn neu berson ifanc yn cyfathrebu, yn ogystal â ffordd o ddeall yr hyn sydd wedi'i gyfathrebu. 

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn hwn yn helpu i ganolbwyntio ar gyfathrebu plentyn neu berson ifanc, waeth a ydyw’n defnyddio geiriau i siarad ai peidio.
  • Mae'r offeryn hwn yn darparu gwybodaeth glir am sut i ymateb i'r ffordd y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn cyfathrebu.

Cofnod dysgu

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud 

Mae'r offeryn Cofnod dysgu yn darparu ffordd o gofnodi dysgu parhaus ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd. Mae modd ei ddefnyddio i gofnodi mewnwelediadau o ddydd i ddydd ac mae'n adlewyrchu arferion gwrando, arsylwi a dysgu parhaus er mwyn llywio ac addasu cymorth parhaus. 

Sut mae hyn yn helpu

  • Mae'r offeryn hwn yn darparu ffordd o gofnodi dysgu parhaus (gan ganolbwyntio ar yr hyn a weithiodd yn dda a'r hyn na weithiodd yn dda) ar gyfer unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd.
  • Mae'r offeryn hwn yn dangos yr hyn sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc ac ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc. 
  • Mae'r offeryn hwn yn gallu disodli nodiadau neu gofnodion traddodiadol. Mae'n helpu ymarferwyr i weld pwysigrwydd canolbwyntio llai ar gyflawni tasgau, a rhoi mwy o ffocws ar gynorthwyo plant a phobl ifanc i gael bywyd da yn seiliedig ar wrando a dysgu parhaus.

Proffil a chytundebau gwneud penderfyniadau

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud: 

Mae'r offeryn Proffil a'r cytundebau gwneud penderfyniadau yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth glir o sut mae plentyn neu berson ifanc yn gwneud penderfyniadau a sut maen nhw eisiau derbyn cymorth i wneud penderfyniadau.

Sut mae hyn yn helpu 

  • Mae'r offeryn hwn yn helpu ymarferwyr i ddeall pa gymorth sydd ei angen ar blentyn neu berson ifanc er mwyn bod wrth wraidd dewisiadau sy’n ymwneud â’i fywyd. 
  • Mae'r offeryn hwn yn dangos beth sy'n bwysig i'r plentyn neu'r person ifanc o safbwynt ymreolaeth, a pha amodau sy'n ei helpu i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth. Mae hyn yn helpu ymarferwyr i benderfynu lefel y cymorth sydd ei angen i sicrhau nad yw'r plentyn neu'r person ifanc yn derbyn cymorth annigonol (gan ei adael heb y cymorth sydd ei angen arno) ac nad ydyw’n cael gormod o gymorth (eraill yn gwneud penderfyniadau drosto yn ddiangen).

Paru cymorth 

Beth mae'r offeryn hwn yn ei wneud 

Mae'r offeryn Paru cymorth yn darparu dull strwythuredig o nodi sut i baru sgiliau, cymorth, pobl a rhinweddau personol. Mae'n cynnig ffordd syml o gofnodi'r hyn sydd ei angen i baru cymorth.

Sut mae hyn yn helpu 

  • Mae'r offeryn hwn yn helpu ymarferwyr i feddwl am y cymorth y mae plentyn neu berson ifanc ei eisiau a'i angen. Mae modd defnyddio'r offeryn i baru plentyn neu berson ifanc ag aelodau staff presennol, neu ar gyfer manyleb y person wrth recriwtio staff neu wirfoddolwyr.

Dolenni defnyddiol

Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn esbonio'r hyn y mae'n ofynnol i sefydliadau ei wneud yn ôl y gyfraith er mwyn diwallu ADY plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, SABau, awdurdodau lleol a chyrff y GIG.

Cynllun Datblygu Unigol (CDU): enghraifft o ffurflen safonol

CDU enghreifftiol sy'n dangos anghenion dysgwyr, cymorth a deilliannau disgwyliedig ar gyfer plant a phobl ifanc ag ADY.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY): gwneud penderfyniadau a chyfathrebu

Nod y canllawiau hyn yw cynorthwyo ysgolion a gynhelir ac awdurdodau lleol yng Nghymru i wneud y canlynol:

  • casglu gwybodaeth gynhwysfawr a chadarn i wneud penderfyniadau teg, cyson a thryloyw ynglŷn ag a oes gan blentyn neu berson ifanc ADY
  • cyfathrebu'n glir â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd

Anghenion dysgu ychwanegol: canllawiau addysg ôl-16

Mae'r casgliad hwn yn cynnwys cyllid, darpariaeth, lleoliad a mesur cynnydd ar gyfer addysg ôl-16.

Canllaw am hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan y system anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Mae hyn yn esbonio hawliau plant, eu rhieni a phobl ifanc o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf ADY”).

Egwyddorion Anghenion Dysgu Ychwanegol Hwb: Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Enghreifftiau o offerynnau a thechnegau ar gyfer ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Tribiwnlys Addysg Cymru

Mae’n gwneud penderfyniadau yn ymwneud ag apeliadau am ADY a honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn ysgolion.