Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Trosolwg

Byddwn yn datblygu ac yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o orlifoedd storm a’u cysylltiad gyda materion eraill yn ymwneud ag ansawdd dŵr.

Byddwn yn datblygu dealltwriaeth o sut mae pobl yn ymwneud â'u hafonydd a'u hamgylchedd a sut y maent yn cael eu hysgogi i gymryd camau i leihau eu heffeithiau eu hunain ar ansawdd dŵr.  Mae’n rhaid i'r cyfathrebu hwn hefyd dynnu sylw at sut mae ymddygiad cwsmeriaid a rhanddeiliaid yn effeithio'n uniongyrchol ar effeithiolrwydd y rhwydwaith – a bod camddefnyddio carthffosydd yn gallu arwain at niwed i'r amgylchedd. 

Byddwn yn ceisio datblygu’r pecyn o gyngor a gwybodaeth sydd ar gael ynghylch camddefnyddio carthffosydd, camgysylltu carthffosydd a  lleihau rhwystrau.

Byddwn hefyd yn ystyried datblygu ymgyrch integredig ar draws sefydliadau partner ar wella ansawdd dŵr gan gyfeirio'n benodol at orlifoedd. 

Byddwn yn diweddaru'r cynllun gweithredu hwn yn rheolaidd fel ein bod yn adlewyrchu cynnydd unrhyw weithgareddau yn y cynlluniau eraill. Bydd pob sefydliad partner hefyd yn parhau â'u cyfathrebu o ddydd i ddydd ynghylch eu camau gweithredu tuag at wella ansawdd dŵr.

Ein hymrwymiadau

Sefydliad Arweiniol     Gweithred     Pam?   Erbyn Pryd Diweddariad Hydref 2023
CCW – llais defnyddwyr dŵr / Dŵr Cymru   Codi gwelededd a chynrychiolaeth mewn digwyddiadau gwleidyddol allweddol i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cyfleoedd a’r heriau sydd yn deillio o orlifoedd storm.       Cynyddu tryloywder yn ein gwaith Parhaus  Trefnodd CCW gynhadledd Dŵr a Newid Hinsawdd mewn cydweithrediad â NIC Cymru a Chomisiwn Dylunio Cymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd 2023.
Tasglu   Byddwn yn cydweithio ar ymgysylltu â'r cyhoedd, ac yn dechrau ymgyrch newydd yn ymwneud â chamddefnyddio carthffosydd wedi'i llywio gan y gwaith y mae Water UK a'r diwydiant yn ei wneud yn ogystal â dysgu o adolygiadau eraill o effeithiolrwydd ymgyrchoedd yn y dyfodol.        Addysgu a grymuso cwsmeriaid i chwarae eu rhan i atal rhwystrau a allai achosi gorlifoedd storm a llygredd afonydd yng Nghymru. Parhaus Lansiodd Defra ymgyrch Bin the Wipe yn San Steffan ac mae Water UK yn bwriadu cynnal ymgyrch ym mis Chwefror. 
CCW – llais defnyddwyr dŵr Byddwn yn lansio ac yna'n datblygu prosiect Cerdded gyda Dŵr sy'n mapio ac yn arddangos teithiau cerdded sy'n helpu pobl i wneud cysylltiad â'r amgylchedd dŵr.     Helpu pobl i werthfawrogi dŵr drwy hwyluso eu perthynas eu hunain â'u hamgylchedd.  Helpu pobl i wneud cyswllt rhwng eu defnydd o wasanaethau dŵr â’u heffaith ar yr amgylchedd. Cwblhawyd Lansiwyd prosiect gwreiddiol Cerdded gyda Dŵr ym mis Hydref 2022 ac fe'i ailgyflwynwyd ym mis Mehefin 2023. Roedd hyn yn cynnwys creu mwy o adnoddau yng Nghymru:
CCW – llais defnyddwyr dŵr    Byddwn yn hwyluso sgwrs agored yng Nghymru ynglŷn â’r wybodaeth y mae pobl am ei derbyn i ddeall perfformiad amgylcheddol cwmnïau dŵr (cyfarfod Pwyllgor Bwrdd Cyhoeddus CCW Cymru 23/09/22).    Cynyddu tryloywder ac atebolrwydd gwybodaeth amgylcheddol cwmnïau dŵr ar eu heffaith amgylcheddol er mwyn cynyddu ymddiriedaeth y cyhoedd  Cwblhawyd

Roedd dau o gyfarfodydd Pwyllgor Bwrdd Cyhoeddus Cymru CCW yn trafod sut rydym yn cyfathrebu perfformiad amgylcheddol cwmnïau ac yn ystyried y dewisiadau a wnawn er mwyn sicrhau ansawdd dŵr da.

Mae CCW yn cynnal gweithdai diwydiant dŵr ar wybodaeth amgylcheddol a gwahoddwyd Dŵr Cymru i gyflwyno ei data gorlif a dysgu oddi wrth eraill sydd â mentrau tebyg yn y diwydiant. Bydd CCW a Dŵr Cymru yn rhoi adborth i'r tasglu erbyn mis Chwefror 2024.

Rydym yn gofyn i Hafren gymryd rhan yn y gweithdy fel y gallwn ystyried ymagwedd Tîm Cymru.

Dangosodd ein hymchwil gan ddefnyddwyr fod y cyhoedd eisiau dyddiau ar:

• Amlder digwyddiadau llygredd
• Effaith gollyngiadau carthion

CCW – llais defnyddwyr dŵr      Rydym yn sefydlu Fforwm Dinasyddion ar gyfer Cymru a Lloegr i gyd-greu camau gweithredu i helpu i newid ymddygiad sy'n effeithio ar yr amgylchedd.    Deall pa wybodaeth a chamau gweithredu sydd eu hangen arnom i helpu pobl i chwarae eu rhan i leihau eu heffaith amgylcheddol wrth ddefnyddio eu gwasanaethau dŵr gartref.    Cwblhawyd Mae fforwm wedi'i sefydlu a bydd cyfarfodydd yn cael eu trefnu i asesu barn cwsmeriaid.
CCW – llais defnyddwyr dŵr    Rydym yn paratoi cyfres o bodlediadau sy'n canolbwyntio ar yr amgylchedd a byddwn yn edrych ar un sy'n canolbwyntio ar ansawdd dŵr afonydd.    Helpu pobl i werthfawrogi dŵr drwy hwyluso eu perthynas eu hunain â'u hamgylchedd. 
Helpu pobl i wneud cyswllt rhwng eu defnydd o wasanaethau dŵr â’u heffaith ar yr amgylchedd.  
Cwblhawyd Ers ei lansio yn haf 2022 mae podlediad WaterFall CCW yn cynnwys 56 pennod gyda chynnwys atyniadol ar leihau effaith amgylcheddol. Mae penodau #45 a #36 yn cyflwyno straeon a mentrau yng Nghymru
Dŵr Cymru     Ymgyrch ymgysylltu â'r cyhoedd yn ymwneud â sbwriel a chamddefnyddio carthffosydd – Atal y Bloc. Cynyddu dealltwriaeth o'r rôl y gall pawb ei chwarae wrth fynd i'r afael â materion ansawdd dŵr    Cwblhawyd Mae'r rownd ddiweddaraf o weithgaredd ymgyrch Stopio'r Bloc wedi cael ei lansio. 
Dŵr Cymru   Hyrwyddo map gorlifoedd rhyngweithiol ar y we, sydd wedi ei nodi yn y ffrydiau gwaith eraill.    Gwella dealltwriaeth pobl o orlifoedd storm a chynnig tryloywder am niferoedd y gorlifoedd a’u heffaith.   Cwblhawyd Mae map sy'n dangos data 2021 a 2022 ar gael yn awr.  
Hafren Dyfrdwy   Fel rhan o Addewidion Afonydd byddwn yn gweithio gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol fel Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn i ofalu am afonydd a mynd i'r afael ymhellach â materion ar draws ein rhanbarth. Byddwn yn glanhau ac yn adfer afonydd a glannau afonydd ar draws ein rhanbarth, gan ddefnyddio ein Hyrwyddwyr Cymunedol gwirfoddol ar y cyd â Glandŵr Cymru. Helpu pobl i werthfawrogi dŵr drwy hwyluso eu perthynas eu hunain â'u hamgylchedd. 
Helpu pobl i wneud cyswllt rhwng eu defnydd o wasanaethau dŵr â’u heffaith ar yr amgylchedd.  
Cwblhawyd Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn
Cyfoeth Naturiol Cymru   Byddwn yn parhau i adrodd ar berfformiad Cwmnïau Dŵr gan ychwanegu gwybodaeth am orlifoedd storm i’r cylch adrodd.     Cynyddu tryloywder yn ein gwaith   Cwblhawyd Fe wnaethom gyhoeddi ein hadroddiadau perfformiad blynyddol ar gyfer Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy ym mis Gorffennaf 2023, gan gynnwys dadansoddiad o ddata Monitro Hyd Digwyddiadau.

Ym mis Awst, gwnaethom gyhoeddi ein hadroddiad data gollyngiadau blynyddol cyntaf hefyd sy'n egluro ein safbwynt rheoleiddio cyfredol ar ddata gorlifoedd storm ar gyfer 2022. Roedd hyn yn cynnwys manylion am gamau gweithredu ar reoleiddio gorlifoedd stormydd, nawr ac yn y dyfodol hefyd.
Cyfoeth Naturiol Cymru   Cryfhau ein cyfathrebiadau ar ansawdd dŵr drwy secondio Swyddog Cyfathrebu ar Secondiad i weithio’n unswydd ar gyfathrebu ansawdd dŵr. Datblygu a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o orlifoedd a'u perthynas gyda materion ansawdd dŵr eraill.   Cwblhawyd Mae CNC wedi recriwtio swyddog cyfathrebu pwrpasol ar ansawdd dŵr.

Ym mis Awst fe wnaethom gyhoeddi bwletin rhanddeiliaid yn darparu diweddariadau allweddol gan aelodau'r Tasglu yn erbyn y cynlluniau gweithredu. Mae bwriad i gyhoeddi rhagor o ddiweddariadau i ddilyn.
Rydym yn paratoi blog erbyn hyn yn trafod y defnydd o orlifoedd, sut rydym yn newid ein dull o reoleiddio gorlifoedd, a sut y gall perchnogion tai helpu i leihau blocio mewn pibelli.
Tasglu    Archwilio'r gwaith o ddatblygu ymgyrch gyfathrebu integredig yn ymwneud â materion ansawdd dŵr ehangach. Datblygu a gwella dealltwriaeth y cyhoedd a dangos camau gweithredu   Cwblhawyd  Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ym mis Awst 2023.

Cyhoeddir gwybodaeth chwarterol yn diweddaru rhanddeiliaid ar gyflawni gweithredoedd y Tasglu. Bydd y rhifynnau dilynol yn cynnwys targedau penodol i wella ymgysylltu â’r cyhoedd.
Llywodraeth Cymru     Cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer gorlifoedd storm. Cynyddu tryloywder yn ein gwaith a nodi’r gwaith sydd ar waith neu wedi’u gynllunio o fewn y Rhaglen.   Cwblhawyd Mae'r Cynlluniau Gweithredu’n fyw ac ar wefan Llywodraeth Cymru.