Neidio i'r prif gynnwy

Golwg gyffredinol ar y broses apelio o ran cwympo coed yng Nghymru yn unol â Deddf Coedwigaeth 1967.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Deddf Coedwigaeth 1967 sy'n rhoi'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cwympo coed yng Nghymru a Lloegr. Mae'n nodi hefyd pryd mae angen cael trwydded cwympo coed. Rhaid i berchnogion coetir gael trwydded cyn cwympo coed sy'n tyfu, er bod rhai eithriadau.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) sy'n gyfrifol am reoleiddio'r drefn cwympo coed yng Nghymru. Mae'n gwneud hynny trwy'r dyletswyddau a'r pwerau a roddir iddo yn Neddf Coedwigaeth 1967. Mae'n bosib y bydd adegau pan fyddwch am apelio yn erbyn penderfyniad sydd wedi cael ei wneud gan CNC. 

Os byddwch am apelio, bydd cyfle i chi gyflwyno'ch achos i Bwyllgor Cyfeirio (CoR). Panel yw hwn o 3 neu 4 o arbenigwyr annibynnol ym maes coedwigaeth. Y Gweinidog Newid Hinsawdd fydd wedi'u penodi. Bydd y Pwyllgor yn gwrando ar eich tystiolaeth chi a thystiolaeth CNC mewn perthynas â'r achos dan sylw. Yna bydd yn paratoi adroddiad o argymhellion i'r Gweinidog. Y Gweinidog fydd yn penderfynu'n derfynol ar y mater. 

Yr hawl i apelio a'r rhesymau dros apelio

I gael apelio, mae'n rhaid:

  • bod gennych yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad penodol, a rhaid 
  • defnyddio'r rhesymau perthnasol i apelio

Gallwch apelio i Weinidogion Cymru o dan yr adrannau canlynol o Ddeddf Coedwigaeth 1967:

  • adran 16: Adolygu penderfyniad i wrthod trwydded cwympo coed neu amodau'r drwydded
  • adran 17B: Apelio yn erbyn hysbysiad ailstocio 
  • adran 20: Adolygu cyfarwyddiadau cwympo
  • adran 21: Y trywyddau sy'n agored i berson y mae cyfarwyddiadau cwympo yn effeithio'n andwyol arno
  • adran 25: Apelio yn erbyn hysbysiad o dan adran 24 (Hysbysiad i gydymffurfio ag amodau neu gyfarwyddiadau)
  • adran 26A: Apelio yn erbyn hysbysiadau o dan adrannau: 
    • 24C(3) (newid/atal, dirymu trwydded lle torrir amod), a 
    • 24D(2) (sy'n gofyn i i berchennog neu ddeiliad buddiant dilynol gymryd camau)
  • adran 26B: Apelio yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adran 24E(2) (heb dorri amodau)

Fe welwch grynodeb o'r rhain yn Neddf Coedwigaeth 1967: hawliau a rhesymau dros apelio. Maen nhw'n cael eu disgrifio'n fanwl hefyd yn Neddf Coedwigaeth 1967 (ar gov.uk).

Os nad oes gennych hawl i apelio neu os nad ydych yn defnyddio'r rhesymau perthnasol i apelio, ni fyddwn yn gallu derbyn ac ystyried eich apêl.

Gall awdurdodau lleol hefyd wrthwynebu os yw'r hysbysiad a gyflwynir i chi yn effeithio ar goed neu goetir sy'n dod o dan Orchymyn Diogelu Coed (TPO). Os felly, bydd CNC yn trafod hyn gyda chi.

Cyn penderfynu apelio

Cyn dechrau'r broses apelio ffurfiol, rydym yn eich annog i drafod eich achos gyda Swyddog Coetir CNC. Dylech wneud cyn gynted ag y medrwch a gallai ddatrys eich problem. Dim ond 3 mis sydd gennych i apelio, o'r diwrnod ar ôl i chi dderbyn yr hysbysiad neu'r penderfyniad.

Bydd yr angen i gydymffurfio â hysbysiad yn cael ei ohirio nes bod yr apêl wedi'i chwblhau. Yr eithriad yw pan fydd "meini prawf argyfwng" ar waith. Sef pan fydd CNC o'r farn bod yr hysbysiad yn angenrheidiol i ymateb i risg difrifol o niwed i:

  • harddwch naturiol
  • fflora
  • ffawna
  • nodweddion daearegol
  • nodweddion ffisiograffigol
  • cynefinoedd naturiol 

Bryd hynny, daw'r hysbysiad i rym ar ddyddiad ei roi. Byddai angen i chi gydymffurfio â'r hysbysiad o'r dyddiad y daw i rym. Ond bydd dal gennych yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad os ydych am wneud hynny.

Sut i wneud cais

Rhaid i chi apelio o fewn 3 mis o'r diwrnod ar ôl i chi gael yr hysbysiad neu'r penderfyniad. Yr enw ar y 3 mis yw'r cyfnod rhagnodedig ac fe'i nodir yn y rheoliadau isod. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw apeliadau sy'n ein cyrraedd yn hwyr. Yr eithriad yw pan ddylai hysbysiad sy'n atal trwydded cwympo coed fod wedi dod i ben cyn i'r cyfnod atal ddod i ben. Er enghraifft, lle rydych wedi cydymffurfio â'r amodau, gan felly cael gwared ar y rhesymau dros atal y drwydded, ond bod y cyfnod atal yn hirach na'r cyfnod apelio o 3 mis. Mewn achos o'r fath, cewch apelio unrhyw bryd yn y ystod y cyfnod atal.

Nid oes rheidrwydd arnoch i holi arbenigwr i'ch cynghori wrth gyflwyno apêl. Ond efallai y byddai'n ddoeth i chi ystyried gwneud hynny. 

Mae ffurflenni gwahanol ar gyfer rhesymau gwahanol dros apelio. Pan fydd CNC yn:

  • anfon penderfyniad neu 
  • hysbysiad atoch

bydd yn anfon y ffurflen apelio berthnasol atoch hefyd a chyfarwyddiadau ar sut i apelio. 

Mae manylion ffurflenni apelio a'r cyfnodau rhagnodedig i'w gweld hefyd yn y rheoliadau canlynol:

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 (ar gov.uk) a ddiwygiwyd gan:

Diwygiadau i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1987 (ar gov.uk)

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Cymru a Lloegr)(Diwygio) 2002 (ar gov.uk)

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023 (ar gov.uk) (Mae'r rheoliad hwn yn delio'n benodol â hysbysiadau o dan y pwerau newydd yn Neddf Coedwigaeth 1967 ar amodau amgylcheddol a'r risg o niweidio'r amgylchedd).  

I apelio, mae angen i chi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • ffurflen apelio berthnasol, wedi'i llenwi, gan ddefnyddio'r rhesymau perthnasol dros apelio 
  • copi o'r hysbysiad neu'r penderfyniad
  • copi o'r cyfarwyddyd neu'r drwydded cwympo coed wreiddiol 
  • map yn dangos yr ardal sy'n dod o dan apêl 
  • copi o unrhyw TPO sy'n effeithio ar safle'r apêl a manylion cyswllt yr awdurdod lleol perthnasol
  • unrhyw wybodaeth arall yr ydych yn teimlo sy'n berthnasol i'ch achos

Anfonwch yr wybodaeth hon:

Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
d/o Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth
Y Gangen Polisi Adnoddau Coedwigaeth
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Anfonwch gopi o'r ffurflen hefyd at CNC:

Cyfoeth Naturiol Cymru
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru 
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10  3NQ

Y broses apelio

Ar ôl i'ch apêl ein cyrraedd, byddwn yn: 

  • cadarnhau bod y rhesymau dros apelio yn ddilys
  • cadarnhau bod yr apêl wedi cyrraedd o fewn y 'cyfnod rhagnodedig'
  • cadarnhau bod 'sylwedd' i'r apêl 

Bydd apêl yn cael ei hystyried fel un 'heb sylwedd' os, er enghraifft: 

  • nad oes pwrpas neu werth difrifol i'w weld i'r apêl
  • nad oes rhesymau penodol dros apelio wedi'u nodi
  • mae'n ymddangos na fyddai unrhyw obaith i'r apêl lwyddo, ar sail cynnwys y ffurflen 

Nid yw'r rhestr hon yn un gyfan a byddwn yn ystyried pob apêl yn unigol.

Os gwelir nad oes sail i'ch rhesymau dros apelio, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam ein bod yn gwrthod eich apêl.

Os yw'r apêl yn ddilys, byddwn yn cydnabod bod eich apêl wedi cyrraedd ac yn esbonio manylion y broses apelio. Efallai y gwnawn ni ofyn am ragor o wybodaeth.

Byddwn yn ysgrifennu hefyd at CNC i ofyn iddyn nhw gyflwyno gwybodaeth am yr apêl.

Byddwn yn trefnu bod Pwyllgor Cyfeirio'n clywed yr apêl ar ddyddiad cyfleus. Byddwn yn trefnu ymweliad â'ch safle os byddwch chi neu'r Pwyllgor yn gofyn am hynny.

Byddwn yn rhannu'r holl dystiolaeth a gawsom gennych chi a CNC rhwng pawb perthnasol cyn y gwrandawiad.

Byddwn yn eich gwahodd i'r gwrandawiad i gyflwyno'ch achos i'r Pwyllgor a fydd hefyd yn clywed tystiolaeth gan CNC. Gallwch ddod yn gorfforol i'r gwrandawiad neu gallwn drefnu cyfarfod ar-lein. 

Bydd y Pwyllgor yn ysgrifennu adroddiad o argymhellion. Bydd yn ei roi i'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar gyfer ei ystyried. Yr eithriad i hyn yw adroddiadau am gyfarwyddiadau cwympo coed. CNC fydd yn ystyried yr adroddiadau hynny.

Gan ddibynnu ar natur yr apêl, gall y Gweinidog:

  • benderfynu cadarnhau, gwrthdroi neu addasu penderfyniad neu hysbysiad gan CNC, neu 
  • eu gorchymyn i roi hysbysiad arall e.e. i ddod â'r cyfnod atal ar drwydded cwympo coed i ben

Ar gyfer hysbysiadau sy'n ymwneud ag amodau amgylcheddol neu'r risg o niweidio'r amgylchedd, gall y Gweinidog:

  • gadarnhau, neu 
  • ganslo'r hysbysiad

hyd yn oed os mai dim ond un elfen sydd wedi bod yn destun apêl lwyddiannus. Os yw'n cael ei ganslo, bydd CNC yn ail-gyhoeddi'r hysbysiad i ddileu'r elfen yr apeliwyd yn llwyddiannus yn ei herbyn.

Byddwn yn anfon cadarnhad ysgrifenedig o ganlyniad eich apêl a'r rhesymau dros y penderfyniad.

Ar ôl eich apêl

Os nad oedd eich apêl yn llwyddiannus, rhaid i chi gydymffurfio â phenderfyniad gwreiddiol CNC a/neu delerau'r hysbysiad a roddwyd i chi. Gall peidio â gwneud hynny arwain at gamau gorfodi neu gosb gan CNC. 

Ar gyfer hysbysiadau sy'n ymwneud ag amodau amgylcheddol neu'r risg o niweidio'r amgylchedd, efallai y bydd gennych hawl i iawndal os oedd eich apêl yn llwyddiannus, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau. Gweler adran 6 o Ganllawiau CNC ar gyfer Ymgeiswyr a Deiliaid Trwydded Cwympo Coed (ar naturalresourceswales.gov.uk) am ragor o wybodaeth.

Mae penderfyniad y Gweinidog yn derfynol. Dim ond ar bwynt cyfreithiol y gellir ei herio yn yr Uchel Lys (a elwir yn "adolygiad barnwrol"). Rhaid cael caniatâd y Llys i wneud hynny. Dylech holi barn gyfreithiol annibynnol i gael rhagor o wybodaeth os bydd y sefyllfa hon yn codi.