Neidio i'r prif gynnwy

Eich hawliau a'ch rhesymau dros apelio mewn cysylltiad ag adrannau perthnasol Deddf Coedwigaeth 1967 ("y Ddeddf").

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Dyma grynodeb o'ch hawliau i apelio a'r rhesymau dros apelio. Bydd dolenni i: 

Rhaid i chi apelio o fewn 3 mis o'r diwrnod ar ôl i chi gael yr hysbysiad neu'r penderfyniad. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw apeliadau sy'n ein cyrraedd yn hwyr. Yr eithriad yw pan ddylai hysbysiad sy'n atal trwydded cwympo coed fod wedi dod i ben cyn i'r cyfnod atal ddod i ben. Er enghraifft, lle rydych wedi cydymffurfio â'r amodau, gan felly cael gwared ar y rheswm dros atal y drwydded, ond bod y cyfnod atal yn hirach na'r cyfnod apelio o 3 mis. Mewn achos o'r fath, cewch apelio unrhyw bryd yn ystod y cyfnod atal.

Adolygu penderfyniad i wrthod trwydded cwympo neu amodau trwydded (adran 16)

Hawl i apelio 

Chi yw'r ymgeisydd am y drwydded cwympo coed a naill ai:

  • gwrthodwyd rhoi trwydded cwympo i chi, ac y cafodd cais i gwympo'r un coed ei wneud a'i wrthod fwy na thair blynedd cyn y cais presennol, neu
  • nid yw CNC wedi penderfynu ar gais o fewn tri mis ar ôl ei dderbyn, neu fwy na hynny  os cytunwyd ar hynny gan yr ymgeisydd a CNC, neu
  • bod amod ynghlwm wrth eich trwydded cwympo coed a'ch bod am iddi gael ei hadolygu

Y rhesymau 

Esboniwch pam eich bod yn teimlo'ch bod wedi cael cam am i ni wrthod trwydded cwympo neu gan amodau'r drwydded. 

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979:

  • ffurflen 4: cais i adolygu penderfyniad i wrthod trwydded (penderfyniad wedi'i wneud)
  • ffurflen 5: cais i adolygu penderfyniad i wrthod trwydded (heb gael penderfyniad)
  • ffurflen 6: cais i adolygu amodau trwydded 

Apelio yn erbyn hysbysiad ailstocio (adran 17B)

Hawl i apelio 

Mae hysbysiad ailstocio wedi'i gyflwyno i chi, ar ôl i chi gwympo coed heb ganiatâd, yn eich gorchymyn naill ai i ailblannu'r safle neu safle cydbwyso, ac i gynnal y coed am 10 mlynedd.

Y rhesymau 

Nodwch pam eich bod yn gwrthwynebu'r hysbysiad neu unrhyw amod sydd wedi'i gynnwys yn yr hysbysiad.

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) 1987

  • ffurflen 6A: hysbysiad gwrthwynebu hysbysiad ailstocio

Adolygu cyfarwyddiadau cwympo coed (adran 20)

Hawl i apelio 

Mae'n rhaid eich bod wedi cael cyfarwyddiadau gan CNC ynghylch cwympo coed. 

Y rhesymau  

  • ni fydd cwympo'r coed yn gyfystyr â choedwigaeth dda, fel a ddisgrifir yn adran 18(1), neu 
  • at ddibenion sy'n gysylltiedig â'u dyletswydd i hyrwyddo sefydlu a chynnal cronfeydd wrth gefn digonol o goed sy'n tyfu: 
    • ni fydd cwympo'r coed yn atal dirywiad neu ddirywiad pellach o'r pren, neu 
    • ni fydd cwympo'r coed yn gwella tyfiant coed eraill 

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979:

  • ffurflen 7: cais i adolygu cyfarwyddiadau cwympo

Y trywyddau sy'n agored i berson y mae cyfarwyddiadau cwympo yn effeithio'n andwyol arno (adran 21)

Hawl i apelio 

Mae'n rhaid eich bod wedi cael cyfarwyddiadau cwympo, a'ch bod yn credu y bydd eu dilyn yn arwain at golled ariannol net i chi. Gallwch:

  • ofyn i CNC brynu'r coed dan sylw os oes gennych yr hawl i werthu'r coed, ar gyfer eu cwympo ar unwaith, neu
  • ofyn i'r Gweinidog brynu'ch budd yn y tir cysylltiedig 

Y rhesymau 

Os byddwch yn dioddef colled net o ganlyniad i'r cwympo ar ôl ystyried unrhyw fantais.

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979

  • ffurflen 8: hysbysiad sy'n gofyn am brynu coed neu dir o dan adran 21(2)

Apelio yn erbyn hysbysiadau sy'n gofyn am gydymffurfio ag amodau neu gyfarwyddiadau a roddir o dan adran 24 (adran 25)

Hawl i apelio 

Chi yw'r person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo fel yr ymgeisydd neu berchennog y tir a byddwch wedi cael:

  • hysbysiad i gydymffurfio ag amodau'r gwaith sydd angen ei wneud fel y'u nodir mewn trwydded gwympo neu
  • hysbysiad i gydymffurfio â chyfarwyddiadau cwympo

Y rhesymau 

  • os ydych yn credu bod y gwaith dan sylw wedi'i wneud yn unol â'r amodau/cyfarwyddiadau y mae'r hysbysiad yn cyfeirio atyn nhw, neu
  • os ydych yn credu nad yw'r camau y mae'r hysbysiad yn gofyn amdanyn nhw yn gyson â'r cyfarwyddiadau neu amodau'r drwydded cwympo coed

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) 1987

  • ffurflen 9: cais i adolygu hysbysiad adran 24 

Apelio yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adran 24C(3) ac adran 24D(2) (adran 26A)

Hawl i apelio: hysbysiadau adran 24C(3)

Chi yw naill ai: 

  • y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo
  • y person sydd â'r budd/ystad yn y tir y cyfeirir ato yn adran 10(1) o'r Ddeddf
  • perchennog y coed

a'ch bod wedi cael hysbysiad am i chi beidio â chydymffurfio ag amodau "amgylcheddol" trwydded cwympo coed 

Y rhesymau 

  • os ydych wedi neu wrthi'n cydymffurfio â'r amod y cyfeirir ati yn yr hysbysiad 
  • bod atal neu ddiddymu'r drwydded cwympo coed yn afresymol neu'n anghymesur
  • bod newid amod y drwydded cwympo coed neu osod amod newydd yn afresymol neu'n anghymesur 
  • bod cam a nodir yn yr hysbysiad yn afresymol neu'n anghymesur
  • os yw'r hysbysiad yn atal y drwydded cwympo coed, dylai'r cyfnod atal fod wedi dod i ben drwy hysbysiad a roddir o dan adran 24C(7)(b) o'r Ddeddf

Hawl i apelio: hysbysiadau adran 24D(2)

Chi yw: 

  • deiliad y budd neu'r ystad yn dilyn y sawl y cafodd yr hysbysiad gwreiddiol ei roi iddo, a'ch 
  • bod wedi cael hysbysiad yn gofyn i chi gymryd camau ac nid oedd y perchennog blaenorol wedi cymryd y camau hynny

Y rhesymau

  • os ydych yn credu bod cam a nodir yn yr hysbysiad yn afresymol neu'n anghymesur

Ffurflen a rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio)(Cymru) 2023

  • ffurflen 9A: Apelio yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adrannau 24C, 24D a 24E o'r Ddeddf

Apelio yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adran 24E(2) (adran 26B)

Hawl i apelio

Chi yw naill ai 

  • y person y rhoddwyd yr hysbysiad iddo
  • y person sydd â'r budd/ystad yn y tir y cyfeirir ato yn adran 10(1) o'r Ddeddf
  • perchennog y coed

ac sydd wedi cael hysbysiad am fod CNC yn credu bod cwympo coed yn unol â'r drwydded yn achosi neu'n debygol o achosi niwed sylweddol i'r amgylchedd.

Y rhesymau 

  • nid yw'r gwaith cwympo yn achosi nac yn debygol o achosi'r niwed a nodir yn yr hysbysiad
  • bod atal neu ddiddymu'r drwydded cwympo coed yn afresymol neu'n anghymesur 
  • bod newid i'r drwydded cwympo coed yn afresymol neu'n anghymesur 
  • os yw'r hysbysiad yn atal y drwydded cwympo coed, dylai'r cyfnod atal fod wedi dod i ben drwy hysbysiad a roddir o dan adran 24E(4)(b) o'r Ddeddf

Ffurflen a Rheoliadau perthnasol 

Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023

  • ffurflen 9A: Apelio yn erbyn hysbysiadau a roddir o dan adrannau 24C, 24D a 24E o'r Ddeddf