Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o bwerau newydd o fewn Deddf Coedwigaeth 1967, eu gweithredu a chanllawiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflawniad

Mae cwympo coed yn rhan angenrheidiol o waith reoli coetiroedd cynaliadwy. Mae'n cynaeafu carbon sydd wedi'i gloi mewn pren at sawl diben. Mae hefyd yn ddull pwysig ar gyfer: 

  • cynnal, neu 
  • gwella 

cyflwr cynefinoedd coetir. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio cwympo coed drwy Ddeddf Coedwigaeth 1967. Rhaid i berchnogion gael trwydded cyn cwympo coed sy'n tyfu, yn amodol ar esemptiadau cyfyngedig.

Pwerau newydd

Nid oedd Deddf Coedwigaeth 1967 yn caniatáu i amodau gael eu hychwanegu at drwyddedau cwympo coed er mwyn gwarchod:

  • bywyd gwyllt
  • cynefinoedd, neu 
  • yr amgylchedd 

yn ystod gweithrediadau cwympo coed.

Mae hyn yn golygu y gallai CNC fod wedi rhoi trwydded cwympo coed nad oedd yn cefnogi deddfwriaeth amgylcheddol arall. 

Hefyd, nid oedd gan CNC unrhyw bwerau i ddiwygio, atal neu ddirymu trwydded cwympo coed os oedd rhywbeth yn troi'n annerbyniol. Gallai hyn gynnwys: 

  • yr angen i newid rhywogaeth coeden i'w hailblannu yn sgil risg o glefyd, neu
  • sensitifedd annisgwyl yn dod i'r amlwg megis presenoldeb rhywogaeth warchodedig, neu
  • niwed amgylcheddol yn digwydd yn ystod gweithrediadau cwympo coed

Diwygiwyd Deddf Coedwigaeth 1967 i:

  • alluogi ychwanegu amodau amgylcheddol at drwyddedau cwympo
  • caniatáu i drwyddedau gael eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu ar ôl iddynt gael eu rhoi

Mae'r diwygiadau yn rhan o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (ar legislation.gov.uk). Gallwch ddod o hyd iddynt yn adrannau 36-44. 

Gweithredu

Rydym wedi rhoi canllawiau i CNC, sef “Diwygio Deddf Coedwigaeth 1967: egwyddorion gweithredu”. Rydym yn disgwyl iddynt eu defnyddio wrth roi'r pwerau ar waith. Mae CNC wedi amlinellu’r ffordd y byddant yn rhoi’r pwerau ar waith. Gweler “Diwygio Deddf Coedwigaeth 1967: dulliau gweithredu Cyfoeth Naturiol Cymru‌” sy’n seiliedig ar ein canllawiau anstatudol. 

Canllawiau

Mae CNC wedi llunio canllawiau ar y ffordd y byddant yn rhoi’r pwerau newydd ar waith. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y canlynol: 

Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar drwyddedau cwympo coed ac apelio yn erbyn penderfyniadau gan CNC. Gweler Deddf Coedwigaeth 1967 a thrwyddedau cwympo coed.