Neidio i'r prif gynnwy

Golwg gyffredinol ar Ddeddf Coedwigaeth 1967 a'r gweithdrefnau a'r pwerau a ddisgrifir ynddi ynghylch trwyddedau cwympo coed.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae cwympo coed yn rhan angenrheidiol o'r gwaith o reoli coetir yn gynaliadwy. Trwy gwympo coeden, mae'r pren - a'r carbon sydd wedi'i gloi ynddo - yn gallu cael ei gynaeafu a’i ddefnyddio at amrywiaeth o ddibenion. O'i ddefnyddio at rai dibenion, fel adeiladu, bydd y carbon yn aros yn y pren a gellid ei ddefnyddio hefyd yn lle deunyddiau trwm ar garbon fel dur a choncrid. Mae rheoli coetiroedd yn cyfrannu hefyd at gynnal a gwella cyflwr cynefinoedd coetir. 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rheoleiddio cwympo coed gan ddefnyddio pwerau yn Neddf Coedwigaeth 1967 ("y Ddeddf")

Trwy'r Ddeddf ceir: 

  • fframwaith cyfreithiol ar gyfer cwympo coed yng Nghymru a Lloegr 
  • yr angen am drwyddedau cwympo 
  • y dyletswyddau a'r pwerau sydd gan CNC:
    • i reoleiddio cwympo coed
    • i ddatblygu creu coetir
    • i gynhyrchu a chyflenwi pren a chynhyrchion coedwigaeth eraill

Mae'r Ddeddf yn nodi gweithdrefnau a phwerau hefyd mewn perthynas â 

  • thrwyddedau cwympo coed 
  • gorchmynion cadw coed, a 
  • chyfarwyddiadau cwympo coed 

gan gynnwys trefn i bobl allu apelio yn erbyn penderfyniadau CNC wrth iddo arfer ei ddyletswyddau rheoleiddio. 

Cydbwyso dyletswyddau

O dan y Ddeddf, rhaid i CNC geisio sicrhau cydbwysedd rhesymol rhwng plannu coed a rheoli a chynhyrchu pren ar y naill law a gwarchod bioamrywiaeth a'r amgylchedd ar y llall.

Er mwyn eu helpu â'r ddyletswydd hon, cafodd Deddf Coedwigaeth 1967 ei diwygio gan Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 i ddiogelu bywyd gwyllt a'r amgylchedd yn well yn ystod gwaith cwympo coed. Mae disgrifiad cyffredinol o'r pwerau newydd hyn, sut maen nhw'n cael eu gweithredu a'u canllawiau ar ein tudalen we: Deddf Coedwigaeth 1967: pwerau newydd.

Trwyddedau cwympo coed

Rhaid i berchnogion gael trwydded cyn cwympo coed sy'n tyfu, er bod rhai eithriadau.

Dysgwch fwy am yr eithriadau a sut i wneud cais am drwydded cwympo coed ar wefan CNC

Fel rhan o'u dyletswyddau rheoleiddio, gall swyddogion Coetir Rheoleiddio CNC archwilio safle, er enghraifft:

  • i sicrhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'r amodau yn y drwydded cwympo, neu 
  • i ymchwilio ble mae coed wedi cael eu cwympo heb ganiatâd trwydded cwympo. 

Gallai'r swyddog roi hysbysiad ffurfiol i chi, o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967, i fynd i'r afael â mater os na ellir ei ddatrys trwy drafod. Mewn achos o'r fath, bydd hefyd yn rhoi'r ffurflen apelio berthnasol i chi gan esbonio ble i'w hanfon. 

Apelio yn erbyn penderfyniad gan CNC