Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (‘Deddf 2013’) yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru (‘y Comisiwn’) ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau. 

Mae Deddf 2013 yn rhoi swyddogaethau gweinyddu etholiadol i’r Comisiwn ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddogaethau gael eu harfer gan fwrdd a sefydlir gan y Comisiwn o’r enw y Bwrdd Rheoli Etholiadol.

Mae Deddf 2013 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch y canlynol:

  • dyletswyddau’r Comisiwn i fonitro’r trefniadau ar gyfer llywodraeth leol ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol
  • dyletswyddau prif gynghorau i fonitro’r trefniadau ar gyfer y cymunedau yn eu hardal ac i gynnal adolygiadau lle bo hynny’n briodol
  • y weithdrefn ar gyfer adolygiadau a rhoi’r argymhellion ar waith
  • adolygiadau o ffiniau etholaethau’r Senedd a gynhelir gan y Comisiwn
  • adolygu aelodaeth cyrff cyhoeddus penodol
  • materion eraill sy’n ymwneud â chynnal llywodraeth leol yng Nghymru
  • swyddogaethau’r Comisiwn wrth benderfynu ar y taliadau a’r pensiynau sy’n daladwy i aelodau a chyn-aelodau awdurdodau penodol (gan gynnwys awdurdodau lleol)

Mae sylwebaeth fanwl ar ddarpariaethau amrywiol y Ddeddf fel y’i pasiwyd ar gael yn y Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf.

Gweler Nodiadau Esboniadol o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 ar legislation.gov.uk.

Gweler Deddf Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 ar legislation.gov.uk.

Cafodd enw byr Deddf 2013 (ei henw byr yn flaenorol oedd Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013) ei ddiwygio gan adran 11(1) o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (‘Deddf 2024’).

Gweler adran 11 o Ddeddf 2014 ar legislation.gov.uk.

Dod i rym

Mae adran 75 o Ddeddf 2013 yn gwneud darpariaeth ynghylch dod â’r Ddeddf i rym. 

Gweler adran 75 o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 ar legislation.gov.uk.

Daeth adrannau 1, 70 i 72 (ac Atodlen 3), a 75 a 76 i rym ar 30 Gorffennaf 2013, sef y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, yn unol ag adran 75(1).

Daeth Rhannau 2, 3 a 4, adrannau 51 i 54, 59 i 62, 64 i 67, 73 (ac Atodlenni 1 a 2) ac adran 74 i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol.

Daw gweddill darpariaethau Deddf 2013 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig.

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-deddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
TeitlRhifDyddiad gwneudDyddiad dod i rym
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) a Sir Abertawe (Cymunedau) (Diwygiadau Amrywiol) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 11316 Gorffennaf 202631 Gorffennaf 2026
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cymunedau) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 10222 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gorchymyn Sir Abertawe (Cymunedau) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 9519 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gorchymyn Sir Ceredigion (Cymunedau) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 9417 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Cymunedau) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 8717 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gorchymyn Sir Benfro (Cymunedau) 2026 ar legislation.gov.uk2026 Rhif 8311 Mawrth 2026Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 314 (Cy. 82)16 Mawrth 2022Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2022 Rhif 314 (Cy. 82) ar legislation.gov.uk 
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 248 (Cy. 74)7 Mawrth 202211 Mawrth 2022
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2022 ar legislation.gov.uk2022 Rhif 13 (Cy. 7)5 Ionawr 20227 Ionawr 2022
Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) (Diwygio) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1387 (Cy. 364)8 Rhagfyr 202110 Rhagfyr 2021
Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1232 (Cy. 311)3 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1232 (Cy. 311) ar legislation.gov.uk 
Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1228 (Cy. 310)2 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1228 (Cy. 310) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Dinas a Bwrdeistref Sirol Casnewydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1216 (Cy. 305)1 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1216 (Cy. 305)
Gorchymyn Sir Gwynedd (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1223 (Cy. 307)1 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1223 (Cy. 307) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Caerffili (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1217 (Cy. 306)1 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1217 (Cy. 306) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021 (dirymwyd) ar legislation.gov.uk 2021 Rhif 1215 (Cy. 304)1 Tachwedd 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1215 (Cy. 304) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) ar legislation.gov.uk20212021 Rhif 1181 (Cy. 292)25 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1181 (Cy. 292) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1182 (Cy. 293)25 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1182 (Cy. 293) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Ddinbych (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1159 (Cy. 284)18 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1159 (Cy. 284) ar legislation.gov.uk 
Gorchymyn Dinas a Sir Caerdydd (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1160 (Cy. 285)18 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1160 (Cy. 285)  ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1161 (Cy. 286)18 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1161 (Cy. 286) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Ceredigion (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1140 (Cy. 277)11 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1140 (Cy. 277) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1138 (Cy. 275)11 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1138 (Cy. 275) ar legislation.gov.uk 
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Torfaen (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1139 (Cy. 276)11 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1139 (Cy. 276) ar legislation.gov.uk   
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1113 (Cy. 268)4 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1113 (Cy. 268) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1114 (Cy. 269)4 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1114 (Cy. 269) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1111 (Cy. 266)4 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1111 (Cy. 266) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Ynys Môn (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1112 (Cy. 267)4 Hydref 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1112 (Cy. 267) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1080 (Cy. 255)22 Medi 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1080 (Cy. 255) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol  Pen-y-bont ar Ogwr (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1084 (Cy. 258)22 Medi 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1084 (Cy. 258) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Dinas a Sir Abertawe (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1075 (Cy. 254)22 Medi 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1075 (Cy. 254) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1082 (Cy. 257)22 Medi 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1082 (Cy. 257) ar legislation.gov.uk
Gorchymyn Sir Powys (Trefniadau Etholiadol) 2021 ar legislation.gov.uk2021 Rhif 1081 (Cy. 256)22 Medi 2021Gw. erthygl 1(2) a (3) o 2021 Rhif 1081 (Cy. 256) ar legislation.gov.uk

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 26 Tachwedd 2012 gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y pryd. Yn dilyn newid ym mhortffolios y Gweinidogion ym mis Mawrth 2013, awdurdododd y Prif Weinidog Lesley Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, i fod yr Aelod newydd sy’n gyfrifol am y Bil o 18 Mawrth 2013 ymlaen.

Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 18 Mehefin 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Gorffennaf 2013.