Trosolwg o Ddeddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.
Cynnwys
Trosolwg
Mae Deddf Cyllido Gofal Plant (Cymru) 2019 (y Ddeddf) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ariannu gofal plant rhieni sy’n gweithio, cyhyd â bod y plant a’r rhieni yn bodloni meini prawf penodol o ran cymhwysedd.
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer system wirio ceisiadau a chymhwysedd genedlaethol ar gyfer y cynllun ariannu gofal plant. Bydd hyn yn caniatáu i gyrff Llywodraeth perthnasol (fel Cyllid a Thollau ei Fawrhydi ac Adrannau eraill Llywodraeth y DU) rannu gwybodaeth.
Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:
Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:
Dod i rym
Daeth adrannau 13 a 14 i rym ar 31 Ionawr 2019, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 13 o’r Ddeddf yn darparu bod darpariaethau eraill y Ddeddf yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion. Nid oes unrhyw orchmynion cychwyn wedi’u gwneud o dan y Ddeddf hon hyd yn hyn.
Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.
Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth
Cyflwynwyd y Bil gan Huw Irranca-Davies AS, y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol (ar y pryd) ar 16 Ebrill 2018 ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 12 Rhagfyr 2018.
Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.
Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):
Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 30 Ionawr 2019.
