Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol”) wedi ei deddfu ochr yn ochr â Deddf Cynllunio (Cymru) 2026 (“y Ddeddf Gynllunio”), sy’n cynnwys y brif ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu’r system gynllunio yng Nghymru. 

Mae’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn diwygio ac yn diddymu deddfiadau ac yn gwneud darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed mewn cysylltiad â’r ‘brif’ Ddeddf Gynllunio. Yn aml, ymdrinnir â darpariaethau canlyniadol a throsiannol o’r fath mewn Atodlen neu Atodlenni i Ddeddf. Fodd bynnag, o ystyried bod y darpariaethau naill ai ag oes cyfyngedig yn ymarferol, neu y byddant o ddiddordeb cyfyngedig iawn i’r mwyafrif o ddarllenwyr y gyfraith gynllunio, drwy eu gosod mewn Deddf ar wahân mae’r darpariaethau o sylwedd (a’r rhai a ddefnyddir fwyaf aml) yn y Ddeddf Gynllunio yn rhydd o Atodlenni hir o ddarpariaethau canlyniadol a throsiannol.

Mae’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn cynnwys chwe adran a phum Atodlen. Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Mae adran 5 o’r Ddeddf Darpariaethau Canlyniadol yn nodi pryd y bydd darpariaethau’r Ddeddf yn dod i rym:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Bydd unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan Ddeddf 2026 yn cael ei hychwanegu pan fydd yr is-ddeddfwriaeth honno wedi ei gwneud.

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil i’r Senedd ar 15 Medi 2025 gan Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni, ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan y Senedd ar 10 Mawrth 2026 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 27 Ebrill 2026.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Lluniwyd Memorandwm Esboniadol yn wreiddiol i’w ystyried gan y Senedd ochr yn ochr â’r Bil. Mae’r Memorandwm hwn bellach wedi’i ddiwygio a’i ddiweddaru i adlewyrchu ffurf derfynol y Ddeddf: