Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1. Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022. Fe’u lluniwyd gan Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Cefndir y ddeddf a chrynodeb ohoni

2. Mae Senedd Cymru (“y Senedd”) wedi pasio tair Deddf sy’n ymwneud â threthu; Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’), Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (‘DTTT’) a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (‘DTGT’). Cyfeirir at y tair Deddf hyn gyda’i gilydd fel ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn y Ddeddf.

3. Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud newidiadau, drwy reoliadau, i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud y newidiadau hynny at unrhyw un neu ragor o’r pedwar diben a bennir yn y Ddeddf.

4. Gellir gwneud y rheoliadau naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, neu mewn achosion brys yn unig, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (trafodir hyn ymhellach isod).

Sylwebaeth ar yr adrannau

Adran 1: Pŵer i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru etc.

5. Mae adran 1(1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir odanynt os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasiadau’n angenrheidiol neu’n briodol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—

6. Is-adran 1(1)(a) – sicrhau na osodir treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol. Gellid defnyddio’r pŵer yn adran 1 at y diben hwn, er enghraifft, pan ymrwymir i gytundeb masnach neu gytundeb trethiant dwbl â gwlad arall a phan fo gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir mewn achos penodol yn groes i’r cytundeb hwnnw.

7. Is-adran 1(1)(b) – diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir. Efallai y bydd Gweinidogion Cymru am gymryd camau o’r fath pan fônt o’r farn y bydd diwygio’r ddeddfwriaeth yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch y ffordd y bwriedir ei chymhwyso, yn ogystal ag mewn achosion pan fanteisir ar fwlch. Ni ddiffinnir osgoi trethi yn y Ddeddf ac felly mae’n cymryd ei ystyr naturiol.

8. Is-adran 1(1)(c) – ymateb i newidiadau a wneir i’r trethi rhagflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Diffinnir y trethi rhagflaenol yn adran 1(4) fel treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.

9. Is-adran 1(1)(d) – ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Ni fydd y penderfyniadau hyn o reidrwydd yn benderfyniadau ynghylch darpariaethau Deddfau Trethi Cymru eu hunain, neu eu rheoliadau cysylltiedig. Gall penderfyniadau sy’n effeithio ar y trethi rhagflaenol neu benderfyniadau ynghylch pwyntiau cyfreithiol cyffredinol hefyd effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru a’u rheoliadau cysylltiedig.

10. Mae adran 1(2) yn nodi bod cyfyngiadau penodol ar y pŵer cyffredinol a ddarperir i Weinidogion Cymru gan adran 1. Nodir y cyfyngiadau hynny yn adrannau 2(4), (5) a (6) ac fe’u trafodir ymhellach isod.

11. Mae adrannau 1(3) ac 1(4) yn darparu cyfres o ddiffiniadau.

Adran 2: Rheoliadau o dan adran 1 - atodol

12. Mae adran 2(1) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 osod treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir a gosod neu estyn atebolrwydd i gosb.

13. Mae adran 2(2) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 gael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag:

  • nad yw’r rheoliadau yn gosod unrhyw gosb newydd neu’n estyn atebolrwydd i unrhyw gosb bresennol yn ôl-weithredol (adran 2(2)(a))
  • nad yw rheoliadau sy’n creu neu’n cynyddu atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(b))
  • nad yw rheoliadau sy’n lleihau neu’n tynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(c)).

14. Mae adran 2(3)(a) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

15. Mae adran 2(3)(b) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol etc.

16. Nid yw adrannau 2(1) i 2(3) yn rhestr gynhwysfawr o’r hyn y caniateir i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 ei wneud.

17. Mae adran 2(4)(a) yn atal y pŵer yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno. Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud yn bennaf â chreu Awdurdod Cyllid Cymru a’i lywodraethiant.

18. Mae adran 2(4)(b) ac (c) yn atal y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu rheoliadau sy’n pennu cyfraddau a bandiau ar gyfer treth trafodiadau tir neu gyfraddau treth ar gyfer gwarediadau tirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i addasu’r cyfraddau a’r bandiau treth hynny drwy gyfrwng rheoliadau, sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

19. Mae adran 2(5) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

20. Mae adran 2(6) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag newid unrhyw weithdrefn gan y Senedd ar gyfer gwneud offerynnau statudol o dan Ddeddfau Trethi Cymru. Er enghraifft, os bydd darpariaeth yn Neddfau Trethi Cymru yn darparu bod rhaid i offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu’r ddarpariaeth honno fel bod rhaid i’r offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

21. Mae adran 2(7) yn darparu nad yw’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru eisoes i wneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru. Yn yr un modd, nid yw gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau eraill yn Neddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer yn adran 1.

Adran 3: Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredol

22. Mae adran 3(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ynghylch eu polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.

23. Mae adran 3(2) yn darparu bod rhaid cyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

24. Mae adran 3(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio eu datganiad polisi. Os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig hwn.

Adran 4: Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1

25. Mae adran 4(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.

26. Mae adran 4(2) yn darparu y caniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu, pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod angen eu gwneud ar frys, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

27. O dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaniateir gwneud offeryn statudol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi.

28. O dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, caniateir gwneud offeryn statudol a chaniateir iddo ddod i rym cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Pan ddefnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, mae adran 4(4) yn darparu bod rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru, ac mae adran 4(5) yn darparu bod rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau o fewn cyfnod o 60 niwrnod ar y mwyaf (nid yw’r cyfnod o 60 niwrnod yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod) er mwyn i’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn barhau i gael effaith ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Mae adran 4(6) yn darparu, pan fo’r Senedd yn pleidleisio ar gynnig i gymeradwyo’r offeryn cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod ac na chaiff yr offeryn ei gymeradwyo, y bydd y rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais. Mae adran 4(7) yn darparu na chaniateir gwneud unrhyw gynnig yn y Senedd i gymeradwyo’r offeryn a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (ac felly ni chaiff y Senedd ystyried yr offeryn na phleidleisio arno) hyd nes y bydd 28 o ddiwrnodau (nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod)  wedi mynd heibio o’r dyddiad (ac yn cynnwys y dyddiad) y gwneir yr offeryn.

Adran 5: Rheoliadau’n peidio â chael effaith - atodol

29. Mae adran 5 yn nodi’r hyn sy’n digwydd os yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 yn cael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ond yn methu â chael cymeradwyaeth y Senedd (a’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn hwnnw felly’n peidio â chael effaith).

30. Mae adran 5(2) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd, neu atebolrwydd uwch, i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

31. Mae adran 5(3) yn darparu bod unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth, neu leihau hawlogaeth o’r fath (mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi) na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.

32. Mae adran 5(4) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd i gosb, neu gynyddu swm cosb, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.

33. Mae adran 5(5) yn darparu nad yw’r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod camau a gymerwyd gan y trethdalwr yn unol â’r rheoliadau yn ystod y cyfnod roeddent yn cael effaith yn parhau’n ddilys, ac yn yr un modd bydd yn diogelu camau a gymerwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru.

Adran 6: Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon

34. Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw o fewn 4 blynedd i’r dyddiad y daw’r Ddeddf i rym. Rhaid i’r adolygiad hwnnw gynnwys asesiad o unrhyw fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac i reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. At hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Senedd ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol wrth gynnal yr adolygiad.

Adran 7: Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben

35. Mae adran 7(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn dod i ben bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r Ddeddf i rym, oni bai bod rheoliadau o dan adran 7(2) yn darparu bod y pŵer i barhau mewn grym am gyfnod pellach. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfnod pellach hwnnw ddod i ben ar 30 Ebrill 2031 neu cyn hynny.

36. Dim ond unwaith y caniateir arfer y pŵer yn adran 7(2) (adran 7(3)).

37. Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y pŵer yn adran 7(2) gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft (adran 7(4)).

38. Mae adran 7(5) yn darparu na chaniateir gosod rheoliadau a wneir o dan adran 7(2) gerbron y Senedd cyn i gasgliadau’r adolygiad sy’n ofynnol gan adran 6 gael eu cyhoeddi. Mae hefyd yn darparu na chaiff y Senedd gymeradwyo’r rheoliadau ar ôl i’r cyfnod cychwynnol o bum mlynedd ddod i ben.

39. Mae adran 7(6) yn darparu bod rheoliadau a wneir o dan adran 1, cyn i’r pŵer hwnnw ddod i ben, yn parhau mewn grym ar ôl iddo ddod i ben.

Adran 10: Enw byr

40. Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.

Cofnod y trafodion yn Senedd Cymru

41. Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd yn:

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (senedd.cymru)

Cyfnod Dyddiad
Cyflwynwyd 13 Rhagfyr 2021
Cyfnod 1 – Dadl 26 Ebrill 2022
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau 09 Mehefin 2022
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau 05 Gorffennaf 2022
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Senedd 12 Gorffennaf 2022
Y Cydsyniad Brenhinol 08 Medi 2022

Mynegai o ofynion y Rheolau Sefydlog

Mae’n ofynnol cynnwys y tabl isod pan fydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil wrth ei gyflwyno, i ddangos sut mae gofynion y Rheolau Sefydlog wedi'u cyflawni yn y Bil. Er nad yw'r Rheolau Sefydlog hyn bellach yn gymwys i'r fersiwn derfynol hon sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf, mae'r adran hon wedi'i chynnwys at ddibenion cyfeirio ac i ddangos y rhesymeg dros brif adrannau'r Memorandwm Esboniadol.

Tabl 2: Mynegai o ofynion y Rheol Sefydlog
Rheol sefydlog Adran Tudalennau
26.6(i) Datgan y byddai darpariaethau’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Datganiad yr Aelod  
26.6(ii) Nodi amcanion polisi y Bil. Pennod 3 – Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael Tud 4 para 3.1
26.6(iii) Nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu. Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Tud 29 para 7.1
26.6(iv)

Nodi’r ymgynghori a gafwyd, os cafwyd unrhyw ymgynghori o gwbl, ar y canlynol:

  1. amcanion polisi y Bil a’r ffyrdd o’u gwireddu
  2. manylion y Bil, ac
  3. Bil drafft, naill ai yn llawn neu’n rhannol (ac os yn rhannol, pa rannau).
Pennod 4 – Ymgynghori Tud 18 para 4.1
26.6(v) Nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio. Pennod 4 – Ymgynghori Tud 18/19 para 4.3-4.13
26.6(vi) Os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. Pennod 4 – Ymgynghori Tud 19 para 4.14
26.6(vii) Crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil. Atodiad 1 – Nodiadau Esboniadol Tud 49
26.6(viii)

Nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol:

  1. y costau gweinyddol gros, y costau cydymffurfio gros a’r costau gros eraill y byddai darpariaethau’r Bil yn arwain atynt
  2. yr arbedion gweinyddol y byddai'r Bil yn arwain atynt
  3. costau gweinyddol net darpariaethau'r Bil
  4. dros ba gyfnodau amser y disgwylid i'r holl gostau ac arbedion hynny godi, ac 
  5. ar bwy y byddai’r costau’n syrthio.
Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Tud 25
26.6(ix) Nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol. Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Tud 33-35-
26.6(x)

Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:

  1. y person neu’r corff y rhoddir y pwer iddo ac ym mha fodd y mae’r pŵer i gael ei arfer
  2. pam y bernir ei bod yn briodol dirprwyo’r pŵer, a 
  3. gweithdrefn y Senedd (os oes un) y mae’r is-ddeddfwriaeth a wnaed neu sydd i’w gwneud wrth arfer y pŵer i fod yn ddarostyngedig iddi, a pham y barnwyd ei bod yn briodol iddi fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn honno (ac nid ei gwneud yn ddarostyngedig i unrhyw weithdrefn arall).
Pennod 5 – Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth Tud 21 para 5.1
26.6(xi) Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef neu hi ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio. Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6(xi) yn gymwys i’r Bil hwn  
26.6(xii) Nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf. Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol Tud 47 para 10.16
26.6B Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol. Nid yw'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6B ar gyfer Tabl Deilliadau yn gymwys i'r Bil hwn gan fod y Bil yn ddarn annibynnol o ddeddfwriaeth.  
26.6C Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad y ddeddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil. Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6C yn gymwys i'r Bil hwn