Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Cwblhawyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) (Cymru) 2022 ac mae i’w weld isod.

Nid oes unrhyw ddarpariaethau penodol yn Neddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) (Cymru) 2022 sydd, ynddynt eu hunain, yn codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru.

Deddf Deddfau Trethi Cymru (Pŵer i Addasu) 2022

Yr opsiwn a ffefrir

Cyflwyno deddfwriaeth sy'n cynnwys pŵer i Weinidogion Cymru wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru drwy reoliadau cadarnhaol drafft neu gadarnhaol ‘gwnaed’ er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol ar fyr-rybudd, sef:

  1. i sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gorfodi lle y byddai gwneud hynny yn anghydnaws â rhwymedigaethau rhyngwladol
  2. i ddiogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru
  3. i ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol) sy'n effeithio, neu a allai effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, a
  4. i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd/tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar weithrediad Trethi Datganoledig Cymru neu a allai effeithio arnynt, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt.

Nid oes unrhyw gostau o ganlyniad i'r Ddeddf yn uniongyrchol. Bydd y costau'n codi pan fydd unrhyw is-ddeddfwriaeth yn cael ei llunio, ac os digwydd hynny. Nid yw'r costau gweinyddol a gweithredu sydd ynghlwm wrth gyflwyno'r cyfryw newidiadau drwy is-ddeddfwriaeth, na'r amserlen gysylltiedig, yn hysbys ar hyn o bryd. Byddai asesiad effaith llawn a chadarn, gan gynnwys costau amcangyfrifedig, yn cael ei gwblhau ar gyfer unrhyw reoliadau a wneir yn y dyfodol o dan y pŵer a ddarperir gan y Ddeddf hon i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd hyn yn rhan o rwymedigaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Memorandwm Esboniadol ar yr adeg y caiff y rheoliadau eu gwneud neu eu gosod ar ffurf drafft, a byddai'n cynnwys sail resymegol ar gyfer pam y dylai'r rheoliadau fod yn destun naill ai’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, a goblygiadau peidio â gwneud y rheoliadau.

  • Cam: Y Cydsyniad Brenhinol
  • Cyfnod gwerthuso: 2021/22 - 2022/23
  • Blwyddyn sail brisiau: Dim
  • Cyfanswm Cost: Anhysbys (Gwerth presennol: Dim)
  • Cyfanswm Manteision: Anhysbys (Gwerth presennol: Dim)
  • Gwerth Presennol Net: Dim

Cost gweinyddu

Costau

Diben y Ddeddf yw sicrhau ei bod yn bosibl gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru o dan rai amgylchiadau penodol ac am gyfnod penodedig, drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru. Felly, nid oes unrhyw gostau gweinyddol uniongyrchol o ganlyniad i roi’r Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf. Bydd y costau a’r costiadau yn codi pan gaiff unrhyw is-ddeddfwriaeth ei pharatoi. Mae'n debygol y bydd Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, o bosibl, yn mynd i gost weinyddol yn sgil y gwaith hwn. Fodd bynnag, mae ansicrwydd ynghylch y gost hon ar hyn o bryd am nad yw'r math penodol o newid yn hysbys. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, mae'n debygol y bydd y costau yr eir iddynt gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn cael eu talu o gyllidebau presennol.

Gan mai newidiadau eithriadol, nas rhagwelir bydd y rhain, mae'n anodd eu dosbarthu'n grwpiau ymlaen llaw. Er enghraifft, ar gyfer achosion o osgoi trethi, gallai fod diwygiad er mwyn sicrhau y cyflawnir effaith fwriedig wreiddiol y ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae'n bosibl y byddai hynny'n galw am newidiadau eraill (fel yr angen i newid ffurflen dreth), neu gallai fod angen prosesau ychwanegol. Gall fod cost ynghlwm wrth y cyfryw newidiadau. Fodd bynnag, gallai hyn gael ei wrthbwyso o bosibl gan arbedion ymylol ar weithgarwch cydymffurfio pellach, neu weithgarwch ymgyfreitha, os bydd y newid deddfwriaethol yn atal achosion pellach o osgoi trethi.

Ni wyddys sawl gwaith y caiff y pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Fodd bynnag, disgwylir mai nifer fach o weithiau y caiff ei ddefnyddio ac y bydd yn gyfyngedig i'r amgylchiadau a nodir. Yn ogystal â hyn, mae oes y pŵer i wneud rheoliadau yn gyfyngedig (gweler paragraff 3.57). Caiff nifer y darnau o is-ddeddfwriaeth ei adolygu'n barhaus fel rhan o asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny. Bydd y mecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau yn cynnwys ystyried a allai, neu pryd y gallai, Bil Cyllid blynyddol fod yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i Gymru. Fodd bynnag, nid yw'n sefyllfa 'naill ai neu’ oherwydd ystyrir hyd yn oed os bydd gan Gymru Fil Cyllid blynyddol, y bydd yn angenheidiol o hyd cael mecanwaith i ymateb i ddigwyddiadau y tu allan i gylch y Bil Cyllid hwnnw er mwyn diogelu cyllid Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru.

I grynhoi, nid oes unrhyw gostau ynghlwm wrth y Ddeddf yn uniongyrchol. Nid yw'r costau gweinyddol a fydd yn codi drwy is-ddeddfwriaeth yn y dyfodol yn hysbys, gan nad yw'n bosibl mesur maint a natur y newidiadau posibl sydd eu hangen i Ddeddfau Trethi Cymru yn y dyfodol, y caiff Gweinidogion Cymru ymateb iddynt gan ddefnyddio'r pŵer a ddarperir gan y Ddeddf. Mae'r fath lefel o ansicrwydd yn golygu y byddai ceisio darparu costau yn cynhyrchu ffigurau a allai fod yn gamarweiniol a/neu amrywiaeth o gostau sy'n rhy eang i ychwanegu gwerth gwirioneddol.

  • Pontio: Anhysbys
  • Rheolaidd: Anhysbys
  • Cyfanswm: Anhysbys
  • Gwerth Presennol:

Arbedion cost

Ni ragwelir unrhyw arbedion cost pontio. Fodd bynnag, un o amcanion allweddol y Ddeddf yw sicrhau bod modd gwneud arbedion cost yn y dyfodol drwy ddarparu dull lle y gall Gweinidogion Cymru ymateb yn gyflym i newidiadau i bolisi trethi Llywodraeth y DU sy'n effeithio ar drethi datganoledig ac, yn sgil hynny, y grant bloc. Bydd hyn yn diogelu refeniw Cymru. Gallai fod arbedion cost ymylol pellach hefyd o ran costau cydymffurfio neu ymgyfreitha Awdurdod Cyllid Cymru os llwyddir i atal achosion o osgoi trethi yn y dyfodol. Enghraifft o newid diweddar yw cyflwyno newidiadau dros dro i gyfraddau'r Dreth Trafodiadau Tir ym mis Gorffennaf 2020. Er bod gan Lywodraeth Cymru bwerau cadarnhaol ‘gwnaed’ eisoes yn yr achos hwn i ddelio â newidiadau mewn cyfraddau, y dybiaeth yw y gall fod achlysuron yn y dyfodol pan fydd newidiadau pellach y bydd angen i Weinidogion Cymru ymateb yn gyflym iddynt.

  • Pontio: Anhysbys
  • Rheolaidd: Anhysbys
  • Cyfanswm: Anhysbys
  • Gwerth Presennol:
  • Cost gweinyddu net: Dim costau uniongyrchol

Costau cydymffurfio

Mae'n bosibl y bydd y Ddeddf yn arwain at gostau cydymffurfio yn y dyfodol ond, fel gydag elfennau eraill, bydd yr union gostau hynny a'u maint yn dibynnu ar natur y newidiadau anhysbys hynny yn y dyfodol. Felly, nid yw'r costau cydymffurfio yn hysbys.

  • Pontio: Anhysbys
  • Rheolaidd: Anhysbys
  • Cyfanswm: Anhysbys
  • Gwerth Presennol:

Costau eraill

Ni ragwelir unrhyw gostau eraill.

  • Pontio:
  • Rheolaidd:
  • Cyfanswm:
  • Gwerth Presennol:

Costau heb eu meintioli ac anfanteision

Nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol o ganlyniad i roi’r Cydsyniad Brenhinol i’r Ddeddf. Bydd costau gweinyddol heb eu meintioli yn sgil rheoliadau a wneir gan y ddeddfwriaeth hon. Nid yw'n bosibl meintioli'r costau ychwanegol hyn ar hyn o bryd ac nid yw'r costau amcangyfrifedig na'r arbedion cost yn hysbys. Fodd bynnag, bydd Asesiadau Effaith Rheoleiddiol ar wahân, gan gynnwys costau amcangyfrifedig, yn cael eu cwblhau ar gyfer unrhyw reoliadau a wneir gan ddefnyddio'r pwerau yn y Ddeddf.

Manteision

Un o fanteision allweddol y Ddeddf yw sicrhau bod gan Weinidogion Cymru ddull ystwyth a chymesur i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru mewn ymateb i newidiadau polisi trethi a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi 'rhagflaenol' y DU (hynny yw, un lle mae gan Gymru dreth ddatganoledig gyfatebol - ar hyn o bryd mae ‘trethi rhagflaenol’ yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi, sef trethi'r DU sy'n cyfateb i'r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru), a bod y Senedd yn gallu craffu arnynt. Yn benodol, caiff y pŵer ei ddefnyddio i ddiogelu refeniw treth Llywodraeth Cymru, neu leihau atebolrwyddau trethdalwyr mewn ffordd amserol. Ar hyn o bryd, os bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno newid i ‘dreth ragflaenol’ sy'n effeithio ar drethi a ddatganolwyd i Gymru ac, yn sgil hynny, grant bloc Cymru, a hynny ar unwaith, mae Gweinidogion Cymru yn gyfyngedig o ran ei hadnoddau i ymateb i'r newid hwnnw mewn ffordd amserol a chymesur. Un o fanteision ychwanegol y Ddeddf yw y bydd yn ceisio cynnig ffordd arall o atal achosion o osgoi talu trethi a ddatganolwyd i Gymru pan gaiff yr achosion hynny eu nodi.

Mae’r defnydd o’r pŵer i wneud rheoliadau a ddarperir gan y Ddeddf wedi’i gyfyngu o ran amser ac mae Gweinidogion Cymru o dan rwymedigaeth statudol, fel rhan o'r adolygiad o'r Ddeddf, i gynnal asesiad o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a'r rheoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r Deddfau hynny.

Ni ellir meintioli'r fantais hon, ond gallai fod yn sylweddol. Fodd bynnag, byddai'r costau amcangyfrifedig yn dibynnu ar y math o newid a wneir ac nid yw hyn yn hysbys ar hyn o bryd.

  • Cyfanswm: Anhysbys
  • Gwerth Presennol:

Tystiolaeth, rhagdybiaethau ac ansicrwydd allweddol

Un o nodau allweddol y Ddeddf yw darparu dull priodol a hyblyg (er yn gyfyngedig o ran amser) i oresgyn ansicrwydd posibl (hynny yw, darparu mecanwaith cymesur i ymateb i newidiadau i bolisi trethi a gyflwynir ar fyr rybudd gan Lywodraeth y DU, neu ddigwyddiadau allanol penodedig eraill, sy'n effeithio ar adnoddau Llywodraeth Cymru). Yn benodol, gwelir hyn drwy'r gyfres o newidiadau y mae Llywodraeth y DU wedi'u gwneud i dreth dir y dreth stamp yn gymharol reolaidd ac, yn aml, ar unwaith neu fwy neu lai'n syth ar ôl eu cyhoeddi.

Er enghraifft, ar 1 Ebrill 2016, cyflwynodd Llywodraeth y DU system codi treth newydd gyda chyfraddau newydd, uwch o dreth dir y dreth stamp yn cael eu codi ar anheddau a brynir os oes gan y prynwr fuddiant mewn annedd arall eisoes. Ni all Gweinidogion Cymru gyflwyno tâl newydd drwy'r pwerau sydd gennym i wneud rheoliadau ar hyn o bryd. Yn yr achos hwn, bu modd inni gyflwyno tâl tebyg drwy Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 pan oedd yn mynd drwy gyfnodau craffu'r Senedd. Fodd bynnag, fel arall, byddai'r addasiad i'n grant bloc wedi bod yn fwy o lawer na'r refeniw o’r dreth trafodiadau tir, a byddai wedi arwain at lawer llai o adnoddau, neu angen i gynyddu'r cyfraddau a godir ar drethdalwyr eraill. Dangosir hyn gan y cyfraddau uwch ar anheddau ychwanegol, a gododd tua £60 miliwn yng Nghymru yn 2018-19. Mae'r gost bosibl yma yn dibynnu ar faint o newid a wneir i bolisi gan Lywodraeth y DU ond gallai fod yn sylweddol iawn.

7. Opsiynau

7.1 Amlinellir dau opsiwn isod ac ystyrir manteision ac anfanteision y ddau yn fras. Yr opsiynau yw:

  • Opsiwn 1 – gwneud dim
  • Opsiwn 2 – rhoi Bil ar waith a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru gan ddefnyddio rheoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ neu ddrafft er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol lle y mae angen newid Deddfau Trethi Cymru ar unwaith neu'n fuan iawn wedi hynny

7.2 Yna, ceir dadansoddiad o gostau a manteision y ddau opsiwn ym Mhennod 8.

7.3 Mae'r ymgynghoriad Datganoli Trethi yng Nghymru – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, a gynhaliwyd yn 2020, yn nodi'r angen i sicrhau bod modd gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd mewn nifer o amgylchiadau fel:

  1. i atal achosion o osgoi trethi a ddatganolwyd i Gymru
  2. i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol
  3. i ymateb i benderfyniad tribiwnlys neu lysoedd uwch, ac
  4. i ymateb i newidiadau i bolisi trethi a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gan Gymru dreth ddatganoledig gyfatebol - ar hyn o bryd, mae trethi ‘rhagflaenol’ yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi – trethi'r DU sy'n cyfateb i'r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru).

7.4 Ystyrir mai dim ond dau opsiwn sydd ar gael ar hyn o bryd, neu a fydd ar gael cyn hir, y gellir eu rhoi ar waith er mwyn gwneud newidiadau penodol i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd: naill ai dibynnu ar fecanweithiau presennol neu roi mecanweithiau newydd cymesur ac ystwyth ar waith i gyflwyno'r cyfryw newidiadau drwy is-ddeddfwriaeth. Ar y cyfan, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad o blaid cyflwyno Bil i roi’r pwerau angenrheidiol i Weinidogion Cymru.

7.5 Opsiwn arall a ystyriwyd yn yr ymgynghoriad oedd cyflwyno Bil sy'n cyfateb i Fil Cyllid blynyddol Llywodraeth y DU. Byddai Bil Cyllid i Gymru, i bob pwrpas, yn cynnwys mesurau codi refeniw ac, o bosibl, penderfyniadau ynghylch pennu trethi. Byddai hefyd yn darparu mecanwaith ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Yn y ddogfen ymgynghori, nodir mai un o'r ystyriaethau allweddol yw nifer y darnau o is-ddeddfwriaeth a gynhyrchir gan Ddeddfau Trethi Cymru a ph'un a yw'n ymarferol i grynhoi'r ddeddfwriaeth honno mewn Bil Cyllid Cymru yn flynyddol, neu’n llai aml. Ers i'r trethi gael eu cyflwyno ym mis Ebrill 2018, mae un ar ddeg set o is-ddeddfwriaeth wedi cael eu gwneud. Mae’r rhain yn cynnwys pedwar cynnydd blynyddol yn seiliedig ar chwyddiant i'r cyfraddau sy'n daladwy ar gyfer y dreth gwarediadau tirlenwi a phedair set o reoliadau sy’n gosod cyfraddau a bandiau’r dreth trafodiadau tir neu sy’n gysylltiedig â hwy.

7.6 Fel y nodir ym mharagraff 3.57, mae’r Bil hwn yn cynnwys cymal machlud sy’n cyfyngu oes y pŵer i wneud rheoliadau i ddyddiad estynedig, sef 30 Ebrill 2031 fan hwyraf. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i bensaernïaeth hirdymor ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, a fydd yn cynnwys ystyried p’un a ydy’n briodol i Gymru gael Bil Cyllid / Trethi blynyddol, neu lai rheolaidd.

7.7 O gofio'r cysylltiad rhwng yr ymdrech dreth a wneir gan ‘drethi rhagflaenol’ y DU – hynny yw, y trethi hynny a ddatganolwyd i Gymru – a'u heffeithiau ar adnoddau Llywodraeth Cymru drwy'r addasiad i'r grant bloc, mae'r gallu i ymateb yn gyflym, yn hyblyg a'r tu allan i broses cyllideb Cymru yn hanfodol. Felly, gall fod angen i elfennau o’r Ddeddf hon fod yn rhan o’r datrysiad tymor hwy hwnnw o hyd. Mae mynd ati i wneud newidiadau heb gyfrwng deddfwriaethol blynyddol yn gymhleth. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i wireddu fframwaith hygyrch ar gyfer ein trethdalwyr a’u cynghorwyr – rhywbeth nad yw bob amser yn wir yn achos newidiadau Llywodraeth y DU.

7.8 Yn olaf, yn ei hymateb i Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid “i broses ddeddfwriaethol ar gyfer y gyllideb”, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai Bil Cyllid sy'n cwmpasu trethiant a chynlluniau gwariant yn arwain at nifer o gymhlethdodau ac y byddai angen ei ystyried yn ofalus iawn. Nid ystyrir bod yr opsiwn hwn o fewn cwmpas yr asesiad hwn. Fodd bynnag, bydd ystyriaeth bellach ar y mater hwn yn rhan o'r asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny, fel sy'n ofynnol yn ôl yr adolygiad statudol o'r Ddeddf hon.

Opsiwn 1: Gwneud dim

7.9 Yn y senario hon, pe bai'n cael ei nodi bod angen gwneud un o'r mathau o newidiadau a nodir ym mharagraff 3.2 i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd, byddai Llywodraeth Cymru yn gallu defnyddio un o dri mecanwaith deddfwriaethol sy'n bodoli eisoes i roi'r newid ar waith::

  • proses bresennol y Bil Brys neu ‘garlam’. Byddai hyn yn galluogi Gweinidogion Cymru i roi newid ar waith yn gymharol (hynny yw, ar gyfer y mathau hyn o fecanweithiau deddfwriaethol, efallai y caiff newid ei roi ar waith unwaith y bydd Bil Brys neu Fil ‘carlam’ yn cael y Cydsyniad Brenhinol, sydd fel arfer yn cymryd tua thri mis) fyr rybudd. Byddai costau neu risgiau ariannol ac o ran enw da i Lywodraeth Cymru wrth ddefnyddio'r mathau hyn o fecanweithiau nad ydynt braidd wedi cael eu defnyddio'n flaenorol a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol. Byddai llai o amser neu gyfleoedd cyfyngedig i graffu arnynt hefyd. Mae Bil Brys yn dwyn costau ‘busnes fel arfer’ y Senedd ac yn dilyn, yn fras, y pedwar Cyfnod arferol y mae'r Senedd yn mynd drwyddynt wrth ystyried Bil, ond gyda rhai addasiadau sylweddol i fynd ag ef drwy'r Cyfnodau yn gyflym. Nid Biliau Brys yw Biliau ‘carlam’, ac nid yw'r un gofynion yn gymwys iddynt. Nid ydynt ychwaith yn ddarostyngedig i'r un Rheolau Sefydlog. Byddai Bil ‘carlam’ yn mynd drwy'r Cyfnodau mor gyflym ag y bo modd, ond gwneir hynny yn unol â'r Rheolau Sefydlog ar gyfer Bil arferol o hyd. Byddai'r cyfryw Fil hefyd yn dwyn costau ‘busnes fel arfer’ y Senedd a Llywodraeth Cymru. Mae paragraffau 2.7-2.27 o ymgynghoriad Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (2020)  yn nodi'r prosesau ar gyfer Biliau Brys a ‘charlam’ yn fanwl.
  • y broses safonol bresennol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, sy'n debygol o gymryd tua 12 i 18 mis. Byddai'r mecanwaith deddfwriaethol hwn yn sicrhau bod modd cynnal prosesau tystiolaeth a chraffu estynedig a thrylwyr, ond ni fyddai'n galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newid gofynnol i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd.
  • mewn rhai achosion, y pwerau is-ddeddfwriaethol sy'n bodoli eisoes yn Neddfau Trethi Cymru. Er bod nifer o bwerau sy'n golygu bod modd rhoi newidiadau ar waith, fel y gallu i greu, diwygio neu ddirymu rhyddhadau o’r dreth trafodiadau tir, maent yn ddarostyngedig yn bennaf i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Mae hyn yn golygu mai dim ond pan fydd y Senedd wedi cymeradwyo'r broses o wneud y rheoliadau y gall y rheoliadau hynny gael effaith. Bydd hyn yn arwain at oedi o ran y dyddiad y gall newid ddod i rym. I'r gwrthwyneb, gall Llywodraeth y DU wneud newidiadau i drethi presennol ar unwaith drwy Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968. Dim ond drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ y mae Deddfau Trethi Cymru yn caniatáu i gyfraddau treth a bandiau treth gael eu newid. At hynny, mae rhannau o Ddeddfau Trethi Cymru lle na chymerwyd pwerau penodol i wneud rheoliadau; yn y dreth trafodiadau tir, un maes allweddol yw'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyfrifo treth. Er enghraifft, pe bai Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno gordal newydd, mae'n annhebygol y gellid cyflawni hyn yn llawn drwy'r set bresennol o bwerau gwneud rheoliadau.

Opsiwn 2: Rhoi Bil ar waith er mwyn ei gwneud yn bosibl i reoliadau gael eu cyflwyno i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru o dan amgylchiadau penodol ar fyr rybudd

7.10 Yn y senario hon, bydd Gweinidogion Cymru yn cael y pwerau i gyflwyno is-ddeddfwriaeth i wneud newidiadau penodol i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd. Ar gyfer pob un o'r mathau o newidiadau a nodir ym mharagraff 3.2, byddai hyn yn golygu y byddai gan Weinidogion Cymru ddull o ymateb yn brydlon ac yn gymesur:

i. I gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol

Mae'r gallu i wneud newidiadau yn gyflym yn ystyried bod Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol wedi'i hanelu'n bennaf at gynnal enw da Cymru a Llywodraeth Cymru.

ii. Er mwyn atal achosion o osgoi trethi a ddatganolwyd i Gymru

Mae'r gallu i atal gweithgarwch osgoi er budd dinasyddion Cymru am y bydd yn diogelu'r refeniw y mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno. Mae'n annheg i bobl geisio osgoi eu hatebolrwydd treth. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb mor gyflym â phosibl er mwyn rhoi terfyn ar y gweithgarwch hwn.

iii. Pan wneir newidiadau i drethi rhagflaenol y DU gan Lywodraeth y DU a fydd yn effeithio ar yr addasiad i grant bloc Cymru ac, felly, adnoddau Llywodraeth Cymru yn gyffredinol

Byddai ymateb yn amserol yn golygu bod newidiadau yn gallu cael eu gwneud i'r trethi datganoledig er mwyn diogelu'r refeniw sydd ar gael ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Hefyd, os bydd Llywodraeth y DU yn lleihau ei hymdrech dreth drwy dreth ragflaenol, bydd yn rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru gynnig gostyngiadau tebyg i drethdalwyr Cymru yn gynt nag y byddai modd ei wneud drwy ddefnyddio mecanweithiau presennol.

iv. Er mwyn ymateb i benderfyniad tribiwnlys neu lysoedd uwch

Bwriedir i hyn gwmpasu sefyllfaoedd lle y mae angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, er enghraifft lle y cafwyd penderfyniad anffafriol gan lys. Byddai'r pŵer yn cael ei ddefnyddio cyn lleied â phosibl o dan yr amgylchiadau hyn.

8. Costau a manteision

8.1 Mae'r dadansoddiad cost ar gyfer Opsiynau 1 a 2 yn asesiad o'r gwahanol fecanweithiau deddfwriaethol yn bennaf. Mae'n rhoi cymhariaeth eang o'r costau nodweddiadol pe bai angen i Weinidogion Cymru wneud newid deddfwriaethol i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd er mwyn ymateb i amgylchiadau allanol. Yn unol â’r rhagdybiaeth allweddol, bydd yr adnodd sydd ei angen i fwrw ymlaen â Bil brys neu Fil ‘carlam’, deddfwriaeth sylfaenol, neu ddefnyddio’r pwerau presennol i wneud is-ddeddfwriaeth, yn cyfateb yn fras i'r adnodd sydd ei angen ar Weinidogion Cymru i ymateb gan ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau a nodir yn opsiwn 2. Byddai unrhyw fân gostau ychwanegol neu arbedion cost yn cael eu hamsugno o fewn gweithgareddau presennol a’r costau rhedeg heb fawr o effaith.

8.2 Byddai'r costau allweddol yn dibynnu ar y math o newid deddfwriaethol sydd ei angen, a'r gost sydd ynghlwm wrth roi'r newid ar waith. Nid yw'r costau gweinyddol a gweithredu sydd ynghlwm wrth gyflwyno'r cyfryw newidiadau drwy is-ddeddfwriaeth, na'r amserlen gysylltiedig, yn hysbys ar hyn o bryd. Ar y cyfan, gall fod costau cydymffurfio, ac arbedion cost o bosibl, i rai busnesau a dinasyddion. Fodd bynnag, mae hyn yn dibynnu ar natur y newidiadau a’r rheoliadau a wneir yn y dyfodol. Mae'r asesiad hwn yn tybio y byddai unrhyw gostau gweithredu (er enghraifft, newidiadau i systemau neu brosesau Awdurdod Cyllid Cymru) yr un fath ni waeth pa fecanwaith deddfwriaethol a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gyflwyno'r newid.

8.3 Byddai asesiad effaith ar wahân, gan gynnwys costau amcangyfrifedig, yn cael ei gwblhau pan fyddai'r pwerau gwneud rheoliadau a ddarperir gan y Ddeddf yn cael eu defnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd hyn yn rhan o rwymedigaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Memorandwm Esboniadol ar yr adeg y caiff y rheoliadau eu gwneud neu eu gosod ar ffurf drafft, a byddai'n esbonio pam y dylai'r rheoliadau fod yn destun naill ai gweithdrefn gadarnhaol ddrafft neu weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, a goblygiadau peidio â gwneud y rheoliadau.

Opsiwn 1: Gwneud dim

Costau

8.4 O dan yr opsiwn hwn, er mwyn ymateb i angen a nodir am newid, byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad ynghylch pa fecanwaith deddfwriaethol presennol i'w ddefnyddio yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Byddai'r costau'n dibynnu ar y math o fecanwaith deddfwriaethol a roddir ar waith, p'un ai drwy bwerau brys, carlam, deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth bresennol.

Bil Brys / Bil ‘carlam’

8.5 Ar gyfer Bil Brys neu ddeddfwriaeth ‘garlam’, byddai costau gweinyddol nodweddiadol Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â'r math hwn o ddeddfwriaeth yn berthnasol. Efallai y bydd yr amserlenni byrrach ynghyd â gofynion Bil Brys neu Fil ‘carlam’ yn gofyn am neilltuo cryn dipyn o adnoddau gan Lywodraeth Cymru, er y byddai hynny am gyfnod byr. Yn ogystal â mewnbwn gan yr adran bolisi, y gwasanaethau cyfreithiol, y cwnsleriaid deddfwriaethol a'r gwasanaeth cyfieithu, mae'n debygol y byddai angen cymorth ychwanegol i ffurfio ‘tîm y Bil’ (Rheolwr y Bil a Dirprwy Reolwr y Bil o leiaf fel arfer). Byddai'r gost hon yn dibynnu ar faint y ddeddfwriaeth a pha mor gymhleth ydyw.

Deddfwriaeth sylfaenol

8.6 Ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, byddai costau gweinyddol nodweddiadol sy'n gysylltiedig â drafftio a rheoli Bil gan y Llywodraeth. Mae'r gofynion o ran adnoddau yn debygol o fod yn debyg i'r rhai ar gyfer Bil Brys neu Fil ‘carlam’, o ran ffurfio ‘tîm y Bil’; fodd bynnag, eir i'r costau hyn dros gyfnod hwy, tua 12-18 mis fel arfer.

8.7 Yn allweddol, ni fyddai defnyddio deddfwriaeth sylfaenol yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym pe bai angen rhoi newid a nodwyd ar waith. Mae effaith yr oedi hwn yn debygol o ddibynnu ar y math o newid. Bydd hyn yn cynnwys:

  1. Derbyn na fydd Cymru yn cydymffurfio â'i rhwymedigaethau rhyngwladol am tua 12-18 mis. Ar y cyfan, mae'n debygol y bydd y gost bosibl yma yn ymwneud yn fwy ag enw da.
  2. Derbyn y bydd unrhyw weithgarwch osgoi yn parhau yng Nghymru am tua 12-18 mis. Bydd costau methu ag atal gweithgarwch osgoi mor gyflym â phosibl yn dibynnu, wrth gwrs, ar y gweithgarwch a dargedir. Gallai olygu y collir symiau sylweddol o refeniw treth. Hefyd, gallai fod mwy o gostau adnoddau i Awdurdod Cyllid Cymru mewn perthynas â gweithgarwch cydymffurfio pellach (a threuliau ymgyfreitha posibl) wrth fynd i'r afael ag unrhyw achosion ychwanegol sy'n codi yn y cyfamser.
  3. Derbyn na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu ymateb i newidiadau a wneir i drethi rhagflaenol ac addasiadau dilynol i grant bloc Cymru (cyfran yr adnoddau sydd ar gael gan Lywodraeth y DU a neilltuir i Gymru) am tua 12-18 mis, a allai olygu bod Cymru yn colli refeniw. Yn y senario hon, byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai weithredu â chyllideb lai neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o godi refeniw o'r fath er mwyn cynnal y lefelau presennol o adnoddau. I'r gwrthwyneb, gallai hefyd arwain at oedi wrth gyflwyno newidiadau a fyddai'n lleihau'r baich treth ar drethdalwyr Cymru.
  4. Derbyn na fydd Gweinidogion Cymru yn gallu ymateb i benderfyniadau tribiwnlys neu lysoedd uwch am tua 12-18 mis, a allai arwain at gostau ariannol a niweidio enw da. Mae'n anodd rhag-weld costau a fydd yn gysylltiedig â defnyddio'r pŵer mewn perthynas â'r maes hwn gan y gallai amrywio'n sylweddol.

8.8 Er enghraifft: cododd y cyfraddau uwch yng Nghymru tua £60 miliwn yn 2018-19. Pe na bai Cymru wedi bod mewn sefyllfa i ymateb a chyflwyno cyfundrefn debyg yn yr un cyfnod rhwng 25 Tachwedd 2015 a 1 Ebrill 2016, byddai'r cyfuniad o gynnydd yn yr addasiad i'r grant bloc a cholli'r refeniw ychwanegol wedi arwain at leihad sylweddol yn adnoddau Llywodraeth Cymru yn gyffredinol. Y rheswm dros hyn yw y byddai treth dir y dreth stamp wedi bod yn gwneud mwy o ymdrech dreth ac y byddai'r addasiad i'r grant bloc wedi cael ei addasu i gynnwys yr ymdrech gynyddol honno. Roedd hwn yn fater na chododd am nad oedd y dreth trafodiadau tir wedi dod i rym eto ac am fod cyfundrefn cyfraddau uwch wedi cael ei chynnwys yn Neddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ar ôl i Lywodraeth Cymru geisio barn ar ei dull o ymdrin â chyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir.

8.9 Anallu i ymateb yn brydlon i newidiadau a wneir i drethi rhagflaenol y DU sydd fwyaf tebygol o gael effaith sylweddol ar refeniw Cymru. Mae'r gost bosibl yn dibynnu ar faint y newid polisi a roddir ar waith gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r trethi rhagflaenol hynny sy'n cyfateb i'r rhai a ddatganolwyd i Gymru. Gallai hyn fod yn sylweddol; er enghraifft, mae senario 4 ym Mhennod 4 o ymgynghoriad Datganoli Trethi: Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (2020), yn rhoi enghraifft ddiweddar pan gyflwynwyd cyfraddau uwch treth dir y dreth stamp ar gyfer anheddau ychwanegol yn 2016 a gynyddodd yr ymdrech dreth [troednodyn 1]. Cododd y cyfraddau uwch yng Nghymru tua £60 miliwn yn 2018-19. Pe na bai Cymru wedi bod mewn sefyllfa i ymateb a chyflwyno cyfundrefn debyg (drwy welliant i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn ystod ei hynt drwy'r Senedd), byddai'r addasiad i'r grant bloc wedi bod yn llawer mwy na'r refeniw o’r dreth trafodiadau tir, a fyddai wedi arwain at leihad yn adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru.

8.10 At hynny, byddai defnyddio mecanweithiau deddfwriaethol sylfaenol neu frys hefyd yn gallu arwain at gostau gweinyddol ychwanegol i Awdurdod Cyllid Cymru (a threthdalwyr) a fyddai'n gysylltiedig â chasglu (neu dalu) treth o'r trethdalwyr hynny a oedd yn talu yn seiliedig ar y gyfraith gyfredol, yn hytrach na'r gyfraith sy'n cynnwys y newidiadau a oedd wedi'u cynnwys yn y ddeddfwriaeth sylfaenol cyn iddi gael y Cydsyniad Brenhinol. Nid yw’r gost bosibl yn hysbys, gan y byddai’n dibynnu ar natur y newid a gyflwynid. Byddai hyn yn wir pe bai'r ddeddfwriaeth, er enghraifft, yn cynnwys dyddiad i’r newidiadau ddod i effaith sef y dyddiad y cyflwynwyd y Bil. Ym mron pob achos, mae'n debygol y byddai'r dreth a delid yn seiliedig ar y gyfraith gyfredol ac na fyddai'n seiliedig ar y newidiadau yn y Bil hwnnw cyn iddo gael ei basio a chael y Cydsyniad Brenhinol. Mae'n bosibl y bydd defnyddio gweithdrefnau Bil Brys neu ‘garlam’ yn lleihau rhywfaint o'r ansicrwydd a grëid gan yr amserlenni byrrach, ond ni fyddai'n cael gwared ar yr ansicrwydd hwnnw'n gyfan gwbl.

8.11 Dylid nodi, ar gyfer deddfwriaeth frys, ‘garlam’ a sylfaenol, y gallai effeithiau unrhyw newid ar drethi, gyda chymeradwyaeth y Senedd, gael effaith yn ôl-weithredol ar adegau prin. Gallai hyn helpu Llywodraeth Cymru i leihau'r risg y caiff mwyfwy o refeniw ei golli, yn enwedig ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, o gofio faint o amser y gall Bil ei gymryd i fynd ar ei hynt drwy'r Senedd. Fodd bynnag, gallai fod cost bosibl o hyd i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru (er enghraifft, mwy o ymholiadau) yn gysylltiedig â'r ansicrwydd a grëwyd ynglŷn â pha ddeddf a fydd yn gymwys i ddigwyddiad neu weithgaredd trethadwy nes i'r ddeddfwriaeth gael y Cydsyniad Brenhinol a chychwyn.

Is-ddeddfwriaeth

8.12 Bydd nifer o sefyllfaoedd lle y gellid defnyddio’r pwerau presennol yn Neddfau Trethi Cymru i wneud newidiadau. Er enghraifft, mae pwerau gwneud rheoliadau yn y dreth trafodiadau tir i greu, diwygio a dirymu rhyddhadau. Ar y cyfan, mae'r pwerau hyn yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, felly dim ond pan fydd y Senedd wedi cymeradwyo'r rheoliadau drafft y gall y rheoliadau ddod i rym. O dan rai amgylchiadau, bydd hyn yn arwain at oedi cyn y gellir rhoi newid ar waith. Mae hefyd yn debygol y bydd y gostyngiad mewn refeniw yn parhau ac y bydd oedi posibl o ran trafodiadau wrth i drethdalwyr aros i'r newidiadau newydd ddod i rym (os yw'r newid yn golygu y byddant o bosibl yn talu llai o dreth).

8.13 Gall fod rhai amgylchiadau brys lle y byddai'n briodol i Weinidogion Cymru gyflwyno is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio'r pwerau newydd i wneud rheoliadau o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, yn hytrach na'r pwerau presennol sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft. Ni ragwelir y bydd unrhyw wahaniaeth mewn costau gweinyddu rhwng y ddwy weithdrefn. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai costau neu arbedion cost i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r ffaith bod y rheoliadau cadarnhaol drafft yn dod i rym yn hwyrach na phe bai'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ wedi cael ei defnyddio. Nid yw'n bosibl meintioli'r costau neu'r arbedion cost hyn gan nad yw natur y newid yn hysbys ar hyn o bryd.

8.14 Un ystyriaeth allweddol arall yw bod meysydd sylweddol lle nad yw'r pwerau i wneud y newidiadau dymunol yn bodoli, sy'n golygu mai dim ond y llwybr deddfwriaeth sylfaenol y gellir ei gymryd. Er enghraifft, un maes allweddol yw'r darpariaethau sy'n ymwneud â chyfrifo treth ar gyfer y dreth trafodiadau tir. Yn y meysydd hyn, bydd y Ddeddf yn rhoi'r pŵer i gyflwyno rheoliadau gan ddefnyddio naill ai'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, pa un bynnag y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol yn dibynnu ar natur y newid.

Manteision

8.15 Un o fanteision opsiwn 1 yw nad oes angen unrhyw adnoddau ar hyn o bryd i fwrw ati â’r opsiwn hwn. Fodd bynnag, pe bai angen i Lywodraeth Cymru wneud newid ar fyr rybudd, a phe na bai pwerau is-ddeddfwriaeth yn bodoli eisoes, yna mae'n debygol y byddai angen Bil Brys neu ‘garlam’ a byddai hyn yn galw am ddefnyddio rhagor o adnoddau. Mae sawl anfantais hefyd, gan gynnwys llai o amser neu gyfleoedd cyfyngedig i ymgymryd â gwaith craffu, risg i enw da sy'n gysylltiedig â defnyddio mecanwaith sydd braidd wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol, a chostau gweinyddol uwch o bosibl ac oedi cyn i'r ddeddfwriaeth ddod i rym.

Opsiwn 2

Costau

8.16 O dan yr opsiwn hwn, mae gofynion gweinyddol a gofynion o ran adnoddau i wneud y canlynol:

  1. cyflwyno'r ddeddfwriaeth sylfaenol i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau cadarnhaol drafft neu gadarnhaol ‘gwnaed’ yn y dyfodol
  2. cyflwyno rheoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ neu gadarnhaol drafft fel y bo angen yn y dyfodol.

8.17 Caiff costau uniongyrchol cyflwyno'r ddeddfwriaeth sylfaenol arfaethedig eu talu gan ddefnyddio cyllid presennol swyddogion a gwasanaethau cyfreithiol Llywodraeth Cymru. Nid oes unrhyw gostau eraill yn gysylltiedig â chyflwyno'r ddeddfwriaeth hon.

8.18 Ymhlith y prif gostau eraill fydd yn deillio o'r opsiwn hwn fydd y costau gweinyddol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru sydd ynghlwm wrth ddatblygu a chyflwyno'r is-ddeddfwriaeth, a chostau i'r Senedd sydd ynghlwm wrth graffu ar y ddeddfwriaeth.

8.19 Mae'r arbedion cost posibl ar gyfer opsiwn 2 yn dibynnu ar y math o newid, fel y nodir ym mharagraff 3.2:

  1. Galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod Deddfau Trethi Cymru yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, lle y bo'n briodol. Er bod yr arbedion cost posibl yn fach, os na fydd Deddfau Trethi Cymru yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, gallai hynny beri niwed i enw da.
  2. Galluogi Gweinidogion Cymru i atal gweithgarwch osgoi cyn gynted â phosibl drwy roi eglurhad pellach a dileu unrhyw amheuaeth am y bwriad i gymhwyso'r darpariaethau deddfwriaethol. Bydd yr arbedion costau sydd ynghlwm wrth atal gweithgarwch osgoi cyn gynted â phosibl yn dibynnu, wrth gwrs, ar y gweithgarwch hwnnw.
  3. Galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i newidiadau a wneir i drethi rhagflaenol sy'n effeithio ar grant bloc Cymru. Gallai fod arbedion cost sylweddol i Lywodraeth Cymru a threthdalwyr. Heb yr opsiwn hwn, gallai Llywodraeth Cymru fod mewn senario lle y mae angen iddi weithredu â chyllideb lai neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o godi refeniw o'r fath er mwyn cynnal y lefelau presennol o adnoddau.
  4. Galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb i benderfyniad tribiwnlys neu lysoedd uwch. Mae'n anodd rhag-weld y costau a fydd yn gysylltiedig â defnyddio pŵer mewn perthynas â'r maes hwn gan y gallai amrywio'n sylweddol, ond bwriedir iddo gwmpasu sefyllfaoedd lle y mae angen gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth lle y cafwyd penderfyniad anffafriol gan lys o safbwynt Llywodraeth Cymru neu Awdurdod Cyllid Cymru.

Effaith defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ar drethdalwyr ac Awdurdod Cyllid Cymru

8.20 O dan rai amgylchiadau brys, cynigir y byddai'r rheoliadau yn cael eu gwneud gan ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Mae'r weithdrefn hon yn wahanol i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft am fod effaith y rheoliadau yn gallu cael ei gwneud, a gall ddod i rym, cyn i'r Senedd gymeradwyo gwneud y rheoliadau. Mae'r rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn cael effaith dros dro nes i'r Senedd bleidleisio arnynt. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau, bydd y newidiadau yn cael effaith barhaol. Os na fydd y rheoliadau yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd, bydd gan drethdalwyr sydd wedi talu mwy o dreth o ganlyniad i'r newidiadau aflwyddiannus hynny hawl i wneud cais i unrhyw dreth ychwanegol a dalwyd gael ei had-dalu gan Awdurdod Cyllid Cymru. Caiff y risg sy'n gysylltiedig â'r rheoliadau ei dwyn gan Lywodraeth Cymru yn unig ac nid gan drethdalwyr Cymru.

8.21 Os bydd angen newid systemau a phrosesau Awdurdod Cyllid Cymru er mwyn rhoi newidiadau deddfwriaethol ar waith, efallai y bydd costau datblygu a gweithredu ynghlwm wrth hynny. Gall fod costau o ran adnoddau i Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wrth iddo ddelio â mwy o ymholiadau gan drethdalwyr neu eu cynghorwyr mewn ymateb i'r newidiadau. Os bydd y rheoliadau yn methu maes o law, efallai y bydd angen newidiadau pellach i systemau/prosesau er mwyn dychwelyd i'r rheolau blaenorol a helpu trethdalwyr i sicrhau eu bod yn talu'r swm cywir o dreth. Fodd bynnag, byddai hyn yn dibynnu ar union natur y darpariaethau deddfwriaethol a sut y cafodd unrhyw newidiadau eu rhoi ar waith. Mae'r gost yn debygol o fod yn isel, ond nid yw'n bosibl meintioli costau penodol ar hyn o bryd gan eu bod yn debygol o amrywio fesul achos. Byddai unrhyw gostau gweithredu posibl yr un fath ni waeth pa lwybr deddfwriaethol a fyddai'n cael ei gymryd.

Ôl-weithredu

8.22 Bydd newidiadau i ddeddfwriaeth trethi fel arfer yn cael effaith heb fod yn gynharach na'r dyddiad y caiff y rheoliadau eu gwneud. Fodd bynnag, bydd yn bosibl i newid gael effaith o ddyddiad cyn y dyddiad gwneud, ond bydd yn gwbl eithriadol. Darperir enghraifft lle y gwneir newid gan Lywodraeth y DU sy’n cael effaith ar unwaith ac sy’n codi symiau sylweddol o dreth gan dreth ragflaenol ac a fydd yn cael effaith sylweddol ar yr addasiad i'r grant bloc. Yn y senario hon, bwriad y defnydd o ôl-weithredu o ran costau yw diogelu refeniw Llywodraeth Cymru a lliniaru effeithiau posibl newidiadau polisi trethi’r DU sy’n effeithio ar drethi datganoledig ac felly ar grant bloc Cymru. Mae'r Ddeddf yn amddiffyn trethdalwyr drwy sicrhau bod y defnydd o’r pŵer i wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol, wedi ei gyfyngu i'r dyddiad y mae un o Weinidogion Cymru'n gwneud datganiad llafar neu ysgrifenedig i'r Senedd, os cynyddu swm y dreth sy'n daladwy yw’r effaith honno. Os nad yw effaith y newid yn cynyddu atebolrwydd trethdalwr gall y rheoliadau gael effaith o ddyddiad cyn y cyhoeddiad gan Weinidogion Cymru.

8.23 Mae paragraff 3.45 yn nodi bod Gweinidogion Cymru wedi eu gwahardd rhag cymhwyso gydag effaith ôl-weithredol o ddyddiad sydd ymhellach yn ôl na’r dyddiad y rhybuddiwyd neu y cyhoeddwyd am y newid deddfwriaethol, naill ai drwy ddatganiad llafar neu Ddatganiad Ysgrifenedig Gweinidogol. Bydd y cyfyngiad ond yn berthnasol mewn achosion lle ceir effaith dreth ‘negatif’ – hynny yw, pan fo atebolrwydd newydd neu uwch ar drethdalwr mewn perthynas â’r dreth trafodiadau tir neu’r dreth gwarediadau tirlenwi. Er hynny, bydd y cyfyngiad yn dal i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer i wneud newidiadau gydag effaith ôl-weithredol ymhellach yn ôl na dyddiad unrhyw gyhoeddiad lle y mae’r newid hwnnw yn gostwng y dreth a godir. Er enghraifft, pe bai’n ymateb i newid i Gyllideb y DU, byddai hyn yn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn gallu elwa ar y gostyngiad ar yr un pryd â threthdalwyr yn Lloegr.

Manteision

8.24 Yn yr ymgynghoriad Datganoli Treth: Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (2020) , nododd Llywodraeth Cymru dair mantais allweddol o ran cyflwyno Deddfau Trethi Cymru:

  • Sicrhau bod adnoddau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu defnyddio'n fwy effeithlon ac effeithiol
  • Cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fuddsoddi mewn gwella llesiant,
  • Darparu gwell ysgogiadau cyllidol i Weinidogion Cymru a defnyddio'r ysgogiadau hyn i wella canlyniadau pobl Cymru.

 8.25 Mae'r manteision hyn yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a ddaeth i rym ym mis Ebrill 2016. Nod y Ddeddf yw gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol yng Nghymru a helpu i greu gwlad rydym oll am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

8.26 Bwriedir i'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon barhau i gefnogi manteision hysbys Deddfau Trethi Cymru yn y ffyrdd a ganlyn:

1. Sicrhau bod adnoddau cyhoeddus yng Nghymru yn cael eu defnyddio'n fwy effeithlon ac effeithiol

8.27 Bwriedir i'r Ddeddf ddarparu dull ychwanegol o fynd i'r afael yn gyflym â gweithgarwch osgoi a nodir, gan sicrhau bod y rhai sy'n agored i dalu trethi datganoledig Cymru yn talu'r swm cywir ar yr adeg y'i bwriadwyd gan y Senedd wrth basio Deddfau Trethi Cymru.

2. Cynyddu'r adnoddau sydd ar gael i gyrff cyhoeddus yng Nghymru fuddsoddi mewn gwella llesiant

8.28 Mae'r Ddeddf yn helpu i gyflawni'r nod o fabwysiadu system casglu a rheoli treth er mwyn cyflawni blaenoriaethau Cymru. Mae'n darparu dull ychwanegol er mwyn sicrhau y gall Gweinidogion Cymru wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru mewn ffordd hyblyg a chymesur, yn enwedig mewn ymateb i newidiadau i drethi rhagflaenol a wneir gan Lywodraeth y DU a allai effeithio ar adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ei chyllid a ddefnyddir i gyllido gwasanaethau cyhoeddus.

3. Darparu gwell ysgogiadau cyllidol i Weinidogion Cymru

8.29 Nod y Ddeddf yw sicrhau bod gan Weinidogion Cymru ysgogiad cyllidol ychwanegol i ymateb i amgylchiadau allanol a gwneud newidiadau drwy is-ddeddfwriaeth (gan ddefnyddio naill ai'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) mewn meysydd o Ddeddfau Trethi Cymru lle mai'r unig opsiwn ar hyn o bryd fyddai cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol, gydag amserlenni hwy, neu ddeddfwriaeth frys (neu mewn rhai achosion y pwerau cadarnhaol drafft sy'n bodoli eisoes dim ond lle tybir bod angen cyflwyno'r newid ar unwaith).

8.30 Nodwedd allweddol o ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ o dan rai amgylchiadau yw y gellir rhoi effaith y newidiadau ar waith ar unwaith, gan gynyddu neu leihau refeniw, gan ddibynnu pa ganlyniadau polisi y mae Llywodraeth Cymru yn dymuno’u cael. Bydd hyn yn rhoi mwy o eglurder i drethdalwyr a'u cynrychiolwyr.

8.31 Bydd galluogi Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau ar unwaith i'r trethi datganoledig yn lleihau'r effaith bosibl ar adnoddau cyffredinol Llywodraeth Cymru hefyd. Mae galluogi newidiadau deddfwriaethol i gael effaith ar unwaith hefyd yn sicrhau y gall trethdalwyr gael budd o'r newidiadau hynny cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn gallu rheoli'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn well. Mae hyn yn unol â'r nod llesiant o greu Cymru ffyniannus, gan alluogi Gweinidogion Cymru i ddefnyddio gwell ysgogiadau cyllidol i wella canlyniadau pobl Cymru cyn gynted â phosibl.

8.32 At hynny, gallai'r pŵer cadarnhaol ‘gwnaed’ gael ei ddefnyddio hefyd mewn senarios lle mae gan Weinidogion Cymru bwerau i wneud rheoliadau eisoes ond bod angen gwneud newid brys. Er enghraifft, gall Gweinidogion Cymru gyflwyno rhyddhad newydd ar gyfer treth trafodiadau tir drwy reoliadau eisoes. Fodd bynnag, mae cyflwyno rhyddhad newydd gan ddefnyddio pŵer cadarnhaol ‘gwnaed’ yn rhoi budd ychwanegol sef y gallai effaith y rhyddhad gael ei rhoi ar waith ar unwaith, yn hytrach nag unwaith y cwblheir y weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn y Senedd, sy'n cymryd o leiaf dair wythnos eistedd. Mae hyn yn golygu bod trethdalwyr Cymru yn gallu hawlio'r rhyddhad cyn gynted â phosibl (er bod angen cymeradwyaeth y Senedd o hyd er mwyn i'r rheoliadau gael effaith barhaol).

8.33 Caiff y rhesymeg dros gyflwyno newid drwy reoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ newydd yn hytrach na phŵer cadarnhaol drafft i wneud rheoliadau sy'n bodoli eisoes ei nodi yn y Memorandwm Esboniadol pan gaiff y pŵer ei ddefnyddio. Bydd yn cynnwys materion fel: gweithredu ar frys, gwahaniaethau cystadleuol/afluniol rhwng trethi'r DU a threthi Cymreig, y dreth dan sylw, a diffyg llwybrau eraill, ar wahân i ddeddfwriaeth sylfaenol, i roi'r newid ar waith.

8.34 Yn olaf, mantais ychwanegol yw y bydd yr ysgogiad cyllidol gwell hwn yn sicrhau mwy o gydraddoldeb rhwng Gweinidogion Cymru a Llywodraeth y DU, gan fod Llywodraeth y DU eisoes yn gallu gwneud newidiadau i drethi sy'n bodoli eisoes ar unwaith drwy Ddeddf Casglu Trethi Dros Dro 1968. I'r gwrthwyneb, dim ond cyfraddau treth a bandiau treth y mae Deddfau Trethi Cymru yn caniatáu iddynt gael eu newid drwy reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Mae'r dull hwn yn fuddiol gan fod ymarferwyr treth yn gyfarwydd ag ef ac yn ei ddeall yn dda. Yn yr achosion brys hyn, bydd Gweinidog Cymru yn ysgrifennu at y Llywydd i'w hysbysu bod y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn cael ei defnyddio. Hefyd, y cyfnod mwyaf y gall y cyfryw reoliadau barhau mewn grym heb gymeradwyaeth y Senedd fydd 60 o ddiwrnodau eistedd. Bydd hyn, er enghraifft, yn rhoi digon o amser i'r pwyllgorau perthnasol gymryd tystiolaeth ac ysgrifennu eu priod adroddiadau, ac i randdeiliaid gyflwyno sylwadau ar y newidiadau. Mewn llawer o sefyllfaoedd, bydd y Senedd yn cael mwy o gyfle i ystyried y newidiadau arfaethedig na Senedd y DU mewn perthynas â'i Biliau Cyllid neu newidiadau i drethi a wneir y tu allan i'r Deddfau Cyllid (er enghraifft, the Deddf Treth Dir y Dreth Stamp 2015) .

Crynodeb

8.35 Opsiwn 2 yw'r opsiwn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. Ystyrir mai mantais yr opsiwn hwn yw y bydd yn sicrhau bod gan Weinidogion Cymru bwerau priodol a chymesur i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd o dan amgylchiadau penodol, gan sicrhau bod gan y Senedd ddigon o amser i graffu. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol pan wneir newidiadau i drethi rhagflaenol y DU gan Lywodraeth y DU y gallai fod iddynt oblygiadau sylweddol i'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

8.36 Y prif gostau fydd yn deillio o'r opsiwn hwn, unwaith y bydd y Ddeddf sy'n darparu'r pwerau yn cael y Cydsyniad Brenhinol, fydd y costau gweinyddol i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru sydd ynghlwm wrth ddatblygu a chyflwyno is-ddeddfwriaeth. Bydd costau cydymffurfio hefyd, a chynnydd neu ostyngiad posibl mewn atebolrwydd treth i rai busnesau a dinasyddion. Fodd bynnag, nid yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd a byddant yn dibynnu ar y newidiadau a wneir yn y dyfodol. Bydd asesiad effaith ar wahân, gan gynnwys costau amcangyfrifedig, yn cael ei gwblhau pan gaiff y pŵer ei ddefnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.

9. Asesiad cystadleuaeth

9.1 Ni ddisgwylir i'r Ddeddf ei hun newid y gofynion sylfaenol ar fusnesau. Rhoddir ystyriaeth ddyledadwy i asesiadau cystadleuaeth ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth ganlyniadol.

Prawf hidlo cystadleuaeth
Cwestiwn Rhowch ateb cadarnhaol neu negyddol
C1: Yn y farchnad/marchnadoedd yr effeithir arni/arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni gyfran o’r farchnad sy’n fwy na 10%? Nac oes
C2: Yn y farchnad/marchnadoedd yr effeithir arni/arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan unrhyw gwmni gyfran o’r farchnad sy’n fwy nag 20%? Nac oes
C3: Yn y farchnad/marchnadoedd yr effeithir arni/arnynt gan y rheoliad newydd, a oes gan y tri chwmni mwyaf gyda’i gilydd gyfran o’r farchnad sy’n o leiaf 50%? Nac oes
C4: A fyddai costau’r rheoliad yn effeithio llawer mwy ar rai cwmnïau o gymharu ag eraill? Nac oes
C5: A yw’r rheoliad yn debygol o effeithio ar strwythur y farchnad, gan newid nifer neu faint y cwmnïau? Nac oes
C6: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau sefydlu uwch i ddarpar gyflenwyr neu gyflenwyr newydd, nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu? Nac oes
C7: A fyddai’r rheoliad yn arwain at gostau rheolaidd uwch i ddarpar gyflenwyr neu gyflenwyr newydd, nad oes rhaid i gyflenwyr presennol eu talu? Nac oes
C8: A yw newid technolegol cyflym yn un o nodweddion y sector? Nac oes
C9: A fyddai’r rheoliad yn cyfyngu ar allu cyflenwyr i ddewis pris, ansawdd, ystod neu leoliad eu cynhyrchion? Nac oes

10. Crynodeb o’r asesiad effaith integredig

Ymrwymiad Llywodraeth Cymru

10.1 Mae blaenoriaethau polisi trethi Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu 2021-26, ac maent yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i greu Cymru sy’n fwy cyfartal, yn decach ac yn fwy cyfiawn yn gymdeithasol. Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chynhyrchu refeniw i gefnogi gwariant cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru, a galluogi datblygu trethi mwy graddoledig. Mae hyn hefyd yn caniatáu datblygu dull gweithredu mwy strategol o ran trethi canolog a lleol yng Nghymru, gan sicrhau ei bod yn gallu ymdrin yn well ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau.

10.2 Mae'r Ddeddf hon yn cyfrannu at y nod llesiant cenedlaethol o 'Gymru ffyniannus', gan gydnabod rôl graidd trethiant o ran ariannu gwasanaethau cyhoeddus. Prif amcan y Ddeddf yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu’r refeniw Cymreig a godir drwy drethi datganoledig sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru ac i osgoi goblygiadau andwyol i fusnesau, y farchnad eiddo, a'r amgylchedd. Mae’r amcan hwn yn cyd-fynd yn amlwg â phump o’r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Atal a’r tymor hir

10.3 Mae'r Ddeddf yn cynnig mesur ‘ataliol’ i alluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn ystwyth pan fydd angen newid Deddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd. Mae angen y Ddeddf er mwyn diogelu’r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, bob tro y ceir cylch cyllideb yn y DU, mae risg y gallai newid gael ei wneud sy'n effeithio ar drethi datganoledig ac sy’n cael effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Cymru.

10.4 Nod y Ddeddf yw cydbwyso'r angen i fynd i'r afael â bwlch yn y tymor byr – sef y diffyg mecanwaith hyblyg i ymateb i angen dybryd i wneud newid i Ddeddfau Trethi Cymru ond hefyd i fodloni anghenion hirdymor. Mae'r Ddeddf yn darparu bod rhaid i'r adolygiad statudol gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan unrhyw un neu ragor o'r Deddfau hynny. Mae gan y Ddeddf gymal machlud sy'n cael ei sbarduno bum mlynedd wedi i'r Ddeddf ddod i rym sy'n golygu na ellir gwneud rheoliadau pellach gan ddefnyddio'r pŵer (er y gellir oedi'r cymal machlud, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd, i 30 Ebrill 2031). Mae'r Ddeddf yn rhan o ddatblygiad mwy hirdymor o'r fframwaith cyllidol a threthi datganoledig. Gellir ei hystyried yng nghyd-destun strategaeth drethi ehangach, gan gynnwys diwygio a chryfhau’r berthynas â llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill.

10.5 Er enghraifft, mae faint o is-ddeddfwriaeth a gynhyrchir o ganlyniad i'r Ddeddf yn rhan o'r adolygiad statudol o'r Ddeddf ac yn cyfrannu at ystyriaethau yn y dyfodol ynghylch a all Bil Cyllid neu broses ddeddfwriaethol arall fod yn gyfrwng deddfwriaethol priodol i Gymru. Fodd bynnag, nid yw'n sefyllfa ‘naill ai/neu’ oherwydd yr ystyrir, hyd yn oed os bydd gan Gymru Fil Trethiant Datganoledig blynyddol, y bydd yn parhau’n angenrheidiol cael mecanwaith i ymateb i ddigwyddiadau y tu allan i gylch y Bil Trethiant Datganoledig hwnnw er mwyn diogelu cyllid Llywodraeth Cymru a threthdalwyr Cymru.

Cydweithio a chynnwys

10.6 Yn dilyn cyflwyno'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried, gyda chymorth ein rhanddeiliaid a’n partneriaid, beth fyddai'r dulliau cywir a phriodol i sicrhau y gellir gwneud newidiadau i “Ddeddfau Trethi Cymru” ar fyr rybudd o dan rai amgylchiadau. Mae’r cydweithio ar ddatblygu'r Ddeddf hon yn adlewyrchu natur dechnegol y cynigion. Cafodd ymgynghoriad polisi 2020 Datganoli Trethi yng Nghymru – ymgynghoriad ar ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru nifer bach ond rhesymol o ymatebion gan gyrff treth a chyfrifyddiaeth proffesiynol yn bennaf. Mae'r cynnig polisi a'r darpariaethau yn y Ddeddf yn deillio o weithio'n agos a rhannu syniadau ac arbenigedd gyda rhanddeiliaid yn ogystal â newidiadau a wnaed yn ystod Cyfnodau craffu’r Senedd.  Ar ben hynny, mae'r Datganiad Polisi ar ddefnyddio'r pŵer gan Weinidogion Cymru yn ôl-weithredol hefyd wedi'i lunio drwy gydweithio ac ymgynghori â rhanddeiliaid sy'n arbenigo ar drethi. Mae Awdurdod Cyllid Cymru hefyd wedi bod yn bartner allweddol wrth ddatblygu'r cynnig a chynllunio'r modd y caiff ei gyflawni.

10.7 Mae ymgysylltu ehangach yn digwydd hefyd â rhanddeiliaid ynghylch trethiant datganoledig yn fwy cyffredinol. Cydnabyddir ei bod yn bwysig parhau i godi ymwybyddiaeth o drethi Cymreig, a bydd y pwyslais ar ddigwyddiadau cyllidol mawr, megis Cyllideb Cymru, yn gwella dealltwriaeth o oblygiadau datganoli cyllidol i bobl a busnesau.

10.8 10.8 Mae gennym bartneriaethau gweithio cryf ag Awdurdod Cyllid Cymru a CThEM er mwyn i wybodaeth allweddol allu cael ei rhannu’n gyflym ac yn effeithiol drwy sianeli gweithredol sefydledig. Mae'r rhain yn cynnwys cynhadledd flynyddol Trysorlys Cymru a gweithio gyda chyrff proffesiynol. Mae'r Grŵp Ymgysylltu ar Drethi yn galluogi trafodaethau ar ddatblygiadau o ran polisi trethi gyda’r rhai a all gynrychioli barn trethdalwyr Cymru. Ceir manylion pellach am y gweithgarwch ymgysylltu yn fwy cyffredinol yn Adran 13 o'r Adroddiad ar Bolisi Trethi Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ar 2o Rhagfyr 2021. Mae hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth fel y'i nodir yn Fframwaith Polisi Trethi Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ddiweddaru.

Effeithiau

10.9 Mae'r Bil yn gweithredu i roi’r pŵer i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol. Felly, nid oes unrhyw gostau gweinyddol uniongyrchol o ganlyniad i'r Ddeddf. Bydd asesiad effaith ar wahân yn cael ei gwblhau pan gaiff y pŵer gwneud rheoliadau a ddarperir ei ddefnyddio i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynnwys yr is-ddeddfwriaeth pan ystyrir ei bod yn briodol gwneud hynny. Bydd union natur yr ymgynghoriad yn dibynnu ar natur y cynigion ac ar yr amser fydd ar gael.

10.10 Yn gyffredinol, mae trethi datganoledig yn codi refeniw er mwyn ariannu gwariant cyhoeddus yng Nghymru. Gall trethiant datganoledig fod yn sbardun pwerus i ddylanwadu ar newid ymddygiad, yn ogystal â chreu refeniw i helpu gwario cyhoeddus i ddiwallu anghenion Cymru a'n galluogi i ddatblygu trethi mwy graddoledig.  Mae hefyd yn caniatáu inni ddatblygu dull mwy strategol o drethu yng Nghymru, gan sicrhau ei fod yn gallu mynd i'r afael yn well ag anghenion a blaenoriaethau dinasyddion a busnesau.

10.11 Ochr yn ochr â'r costau a'r manteision a gyflwynir yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol, ystyriwyd nifer o effeithiau posibl eraill a chynhaliwyd asesiad effaith integredig. Ceir crynodeb o’r asesiad effaith isod.

10.12 Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth gyflawni unrhyw rai o’u swyddogaethau. Mae canlyniadau’r asesiad hwn yn dangos nad oes unrhyw effeithiau negyddol posibl ar blant a phobl ifanc yn sgil y Ddeddf. Mae’r asesiad effaith llawn ar gael yn Atodiad 1.

10.13 Daeth asesiad o'r effaith ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r casgliad nad yw’r ddeddfwriaeth yn cael unrhyw effeithiau penodol ar bobl â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Fodd bynnag, gallai peidio â gweithredu’r ddeddfwriaeth hon arwain at lai o refeniw i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Byddai hyn, yn ei dro, yn golygu llai o gyllid i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus Cymru. Gellid dadlau y byddai unrhyw ostyngiad mewn refeniw yn debygol o gael effaith neu anfantais fwy ac anghymesur ar aelwydydd incwm is yng Nghymru, gan fod y rhai sy’n elwa fwyaf ar wasanaethau cyhoeddus yn tueddu i fod y rhai ar incwm is na’r cyfartaledd. Mae rhai grwpiau gwarchodedig yn fwy tebygol o fod yn y categori hwn. Felly, gellid ystyried bod y Ddeddf hon, drwy ddiogelu gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, yn gam cadarnhaol anuniongyrchol i’r grwpiau hyn. Mae asesiad effaith llawn ar gael ar gais.

10.14 Ystyriwyd cydnawsedd y Ddeddf â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Mae'r dadansoddiad hwnnw wedi canfod nad yw'r Bil yn debygol o gynnwys darpariaethau sy'n anghydnaws â'r Confensiwn. Nid yw'r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer effaith ôl-weithredol. Cydnabyddir y gall deddfwriaeth sy'n effeithio ar drafodiadau neu ddigwyddiadau yn y gorffennol, hyd yn oed os nad yw’n dechnegol ôl-weithredol, gyffwrdd â'r hawliau a nodir yn Atodlen 1 i Ddeddf Hawliau Dynol 1998 ("hawliau'r Confensiwn”). Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod y Ddeddf yn taro cydbwysedd priodol rhwng rôl y ddeddfwrfa wrth graffu ar newidiadau i bolisi trethi, Rheol y Gyfraith a natur unigryw newidiadau polisi trethi a'u heffeithiau cyllidol ac economaidd uniongyrchol. Mae budd i’r cyhoedd mewn rheoli'r newidiadau hynny er mwyn cynnal cysondeb refeniw ac ariannu gwasanaethau cyhoeddus ehangach ac osgoi ansefydlogrwydd yn y farchnad. Nid yw'r dull a gynigir yn ddigynsail ac ystyrir bod y dadleuon er budd y cyhoedd yn glir.

10.15 Cynhaliwyd Asesiad o'r Effaith ar Ddiogelu Data a ddaeth i'r casgliad nad yw'r Ddeddf yn creu unrhyw ofynion newydd sy'n ymwneud â phreifatrwydd na rhannu gwybodaeth. Ni fydd unrhyw effaith o ganlyniad i'r Ddeddf hon.

10.16 Mae'r effaith ar y Gymraeg wedi'i harchwilio drwy Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg a ddaeth i'r casgliad na fyddai’r Ddeddf yn cael unrhyw effaith benodol ar ddefnyddio'r Gymraeg nac ar gymunedau Cymraeg eu hiaith. Bydd y Bil yn helpu i weithredu’r trethi datganoledig yn effeithiol. Gall hyn, yn ei dro, helpu i gyflawni ein hamcanion polisi Cymraeg yn uniongyrchol. Mae asesiad effaith llawn ar gael ar gais.

10.17 Daeth ystyriaeth o effaith y ddyletswydd ar fioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd ac adnoddau naturiol i'r casgliad na fyddai unrhyw effaith negyddol ar y meysydd hyn. Nid oes angen Asesiad Amgylcheddol Strategol nac Asesiad o’r Effaith ar Gyllidebau Carbon.

10.18 Mae'r Asesiad statudol o'r Effaith ar Gyfiawnder (JIA) yn crynhoi canlyniad yr ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, Daeth yr asesiad i'r casgliad nad yw'r cynigion yn debygol o gael unrhyw effaith ar y system gyfiawnder, neu mai effaith fach y byddent yn ei chael. Mae’r asesiad effaith ar gael yn Atodiad 2.

10.19 Daeth yr asesiad sgrinio prawfesur gwledig i'r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol o ganlyniad i'r Ddeddf hon.

10.20 Daeth asesiad effaith economaidd-gymdeithasol i'r casgliad nad oes unrhyw effaith negyddol o ganlyniad i'r Ddeddf hon. Un o fanteision anuniongyrchol unrhyw reoliadau yn y dyfodol a alluogir gan y pŵer yn y Ddeddf hon fyddai diogelu refeniw Llywodraeth Cymru ac, o ganlyniad, diogelu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y potensial i ddiogelu trethdalwyr hefyd, pe bai’r newidiadau yn lleihau maint y dreth sy’n daladwy gan drethdalwyr Cymru.

11. Adolygu ar ôl gweithredu

11.1 Mae'r Ddeddf yn darparu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth fel y bo angen. Fel y nodir ym mharagraffau 3.54-3.56, rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediaeth ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw cyn pen pedair blynedd o’r dyddiad y daeth y Ddeddf i rym. Cynhelir yr adolygiad fel un rhwymedigaeth benodol, ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw adolygiadau pellach o’r ddeddfwriaeth.

11.2 Ar ôl i gasgliadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi datganiad i gadarnhau a gaiff y rheoliadau a ganiateir drwy adran 7 o’r Ddeddf i ymestyn oes y pŵer gwneud rheoliadau (hyd at 30 Ebrill 2031 fan hwyraf) eu gwneud ai peidio.

Troednodiadau

1. Mae “ymdrech treth dir y dreth stamp” yn cyfeirio at faint o dreth y mae'r dreth a ragflaenodd y dreth trafodiadau tir yn ei chasglu. Os bydd yr ymdrech yn fwy, bydd yr addasiad i'r grant bloc yn cynyddu, gan arwain at fwy o leihad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gan leihau ei hadnoddau yn gyffredinol. Os bydd ymdrech treth dir y dreth stamp yn lleihau, bydd y gwrthwyneb yn digwydd, gan arwain at fwy o adnoddau i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol.