Neidio i'r prif gynnwy

1. Disgrifiad

1.1 Bydd Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (“y Ddeddf”) yn cyflwyno pŵer i alluogi i rai elfennau o ddeddfwriaeth trethi Cymru gael eu diwygio yn y dyfodol, pan fydd angen. Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i'w galluogi i addasu Deddfau Trethi Cymru (er mwyn bod yn gryno, mae'r ddogfen hon yn defnyddio'r label “Deddfau Trethi Cymru” i ddisgrifio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 a'r is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Deddfau hynny) (ac is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt) mewn amgylchiadau penodol. Bydd y pŵer hwn i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, yn dibynnu ar frys y rheoliadau.

1.2 Mae'r Ddeddf yn ceisio taro cydbwysedd rhwng rhoi mecanwaith i Weinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol sy'n effeithio ar drethi datganoledig a'r refeniw cysylltiedig gan gydnabod yr un pryd rôl hanfodol Senedd Cymru (“y Senedd”) wrth graffu ar Lywodraeth Cymru a'r ddeddfwriaeth y mae'n ei chyflwyno.

2. Cymhwysedd Deddfwriaethol

2.1 Mae gan y Senedd gymhwysedd deddfwriaethol i wneud y darpariaethau yn Neddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017.

3. Diben y ddeddfwriaeth a'r effaith y bwriedir iddi ei chael

Y rheswm dros y Ddeddf ac esboniad o'i hamseriad

3.1 Yn dilyn cyflwyno'r dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi yn 2018 (a elwir ar y cyd yn “drethi datganoledig”), mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried, gyda chymorth ei rhanddeiliaid, beth fyddai'r dulliau priodol i sicrhau y gellir gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd o dan rai amgylchiadau. Mae angen yr ymyriad hwn yn bennaf i ddiogelu refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru. Ar hyn o bryd, er enghraifft, bob tro y bydd cyllideb neu ddigwyddiad cyllidol y DU, mae Llywodraeth Cymru yn cymryd y risg y gallai fod newid sy'n effeithio ar dreth ddatganoledig sy’n golygu effaith gyllidebol uniongyrchol ar adnoddau Llywodraeth Cymru ac na all Gweinidogion Cymru ymateb iddo mewn modd amserol. 

3.2 Diben bwriedig Gweinidogion Cymru wrth gyflwyno'r Ddeddf hon yw ei gwneud yn bosibl i newidiadau gael eu gwneud i Ddeddfau Trethi Cymru drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn bod newidiadau o'r fath yn angenrheidiol neu'n briodol a phan fo’n ofynnol iddynt gael effaith ar unwaith neu'n fuan wedi hynny. Caniateir y newidiadau hynny er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol a, phan fo’n angenrheidiol mewn rhai achosion, byddant yn cael effaith ôl-weithredol hefyd. I grynhoi: 

  1. i sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gorfodi lle y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol
  2. i ddiogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru
  3. i ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, un lle mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol - ar hyn o bryd, mae trethi ‘rhagflaenol’ yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi – trethi'r DU sy'n cyfateb i'r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru) sy'n effeithio, neu a allai effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru - o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), ac
  4. i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd/tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru, neu a allai effeithio arnynt, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt.

3.3 Ni fydd y pŵer i wneud rheoliadau yn cael ei ddefnyddio i gyflawni newidiadau polisi arferol i'r trethi datganoledig. Ar gyfer newidiadau o'r fath, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau sydd eisoes yn bodoli yn Neddfau Trethi Cymru neu, pan fo angen, yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol. Mae'n glir mai po fwyaf sylweddol yw'r newid, mwyaf yn y byd yw'r angen i wneud y newidiadau hynny mewn ymgynghoriad â dinasyddion Cymru a grwpiau rhanddeiliaid sydd â buddiant, ac ym mhob achos gyda chraffu priodol gan y Senedd.

3.4 Bydd y gallu i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethi yn gyflym iawn yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i senarios lle mae'n ddymunol gwneud newidiadau ar unwaith. Gall ymyriad o'r math hwn fod yn briodol pan fo angen i Weinidogion Cymru 'gau' cynlluniau osgoi trethi yn brydlon neu sicrhau cydymffurfedd â rhwymedigaethau rhyngwladol, os oes angen. Yn achos osgoi trethi, mae gan Awdurdod Cyllid Cymru eisoes ystod o bwerau sydd ar gael iddo ac mae'n eu defnyddio i sicrhau bod pawb yn talu'r swm cywir o dreth ac nad oes neb yn cael mantais annheg. Mewn rhai achosion, er hynny, efallai y bydd angen newid deddfwriaethol hefyd i ddarparu eglurder pellach neu i dynhau'r modd y cymhwysir y darpariaethau o dan sylw. Mae'r gallu i atal gweithgarwch osgoi trethi yn ceisio diogelu'r refeniw y mae gwasanaethau cyhoeddus yn dibynnu arno. Fel y nodir ym mharagraff 8.7 o'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, bydd costau methu â gallu atal gweithgarwch osgoi trethi cyn gynted â phosibl yn dibynnu ar y gweithgarwch a dargedir. Gallai olygu y collir symiau sylweddol o refeniw trethi. 

3.5 I roi enghraifft, gallai ein refeniw treth trafodiadau tir (LTT) a gynhyrchir gan drafodiadau amhreswyl mawr fod yn agored i ymosodiadau osgoi trethi ffyrnig, wedi’u cynllunio. Yn y cyfnod o fis Ebrill i fis Hydref 2021, cafwyd 110 o drafodiadau lle’r oedd y gydnabyddiaeth drethadwy a roddwyd yn fwy na £2 filiwn. Maent wedi cynhyrchu cyfanswm o £52 miliwn o refeniw; 73% o’r holl refeniw a gynhyrchwyd gan drafodiadau amhreswyl. Ni fyddai ond yn cymryd nifer bach o'r prynwyr yn y trafodiadau hynny i geisio osgoi'r dreth i gael effaith sylweddol ar refeniw mewn cyfnod cymharol fyr. Mae angen i Weinidogion Cymru gael pwerau hyblyg er mwyn atal gweithgarwch osgoi trethi o’r fath, a hynny ar unwaith i bob pwrpas pe bai hyn yn digwydd. 

3.6 Effaith fwriedig y ddeddfwriaeth yn bennaf yw rhoi mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru i ddiogelu refeniw Cymru os bydd amgylchiadau allanol yn effeithio ar y refeniw hwnnw. I ddarparu enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn cyflwyno newid i dreth ragflaenol ar fyr rybudd, a fydd yn cael effaith ar unwaith, ac a allai fod â goblygiadau i fusnesau, y farchnad eiddo, yr amgylchedd ac a allai gael effaith gyllidebol uniongyrchol hefyd ar yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru drwy'r broses o addasu'r grant bloc.

3.7 Mae’r papur ymgynghori a gyhoeddwyd yn 2020: Datganoli Trethi yng Nghymru – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (“ymgynghoriad 2020”) yn tanlinellu'r enghraifft ddiweddar o gyflwyno cyfraddau uwch treth dir y dreth stamp (SDLT) ar gyfer anheddau ychwanegol yn 2016 a gynyddodd ymdrech treth dir y dreth stamp [troednodyn 1]. Cododd y cyfraddau uwch yng Nghymru oddeutu £60 miliwn yn 2018-19. Nid oedd Llywodraeth Cymru ond mewn sefyllfa i ymateb i'r addasiad hwn a chyflwyno cyfundrefn debyg drwy ddiwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn ystod ei hynt drwy'r Senedd. Pe na bai'r gwelliant hwn wedi bod yn bosibl, byddai'r addasiad i'r grant bloc wedi bod yn llawer mwy na'r refeniw o'r dreth trafodiadau tir, gan arwain at ostyngiad yn yr adnoddau cyffredinol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Yn y mathau hyn o senarios, heb i'r pwerau gael eu cyflwyno gan y Ddeddf, byddai angen i Lywodraeth Cymru naill ai weithredu gyda chyllideb lai neu ddod o hyd i ffyrdd eraill o godi refeniw o'r fath er mwyn cynnal lefelau adnoddau presennol.

3.8 I'r gwrthwyneb, pan fydd Llywodraeth y DU yn gwneud newidiadau sy'n lleihau refeniw treth y DU o dreth dir y dreth stamp, bydd yr addasiad i'r grant bloc yn gostwng a bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynyddu. Yn y mathau hyn o senarios, pan wneir gostyngiadau treth i drethi rhagflaenol y DU, efallai y bydd angen gweithredu'n gyflym i gyfyngu ar unrhyw achosion annymunol posibl o lurgunio marchnadoedd a allai niweidio busnesau yng Nghymru.

3.9 Mae'r paragraffau uchod yn amlinellu senario treth trafodiadau tir, ond bydd yr un egwyddorion (mewn perthynas ag ymdrech dreth gan dreth ragflaenol) yn gymwys i'r holl drethi datganoledig cysylltiedig. Ar hyn o bryd, mae dwy dreth ddatganoledig sydd â threth ragflaenol: y dreth trafodiadau tir (LTT) a ddisodlodd treth dir y dreth stamp y DU (SDLT), a'r dreth gwarediadau tirlenwi (LDT) a ddisodlodd dreth tirlenwi'r DU.

Y cefndir polisi

3.10 Diwygiodd Deddf Cymru 2014 a Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddarparu ar gyfer sefydlu trethi datganoledig a datgymhwyso trethi rhagflaenol y DU yng Nghymru.

3.11 Sefydlodd Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 fframwaith llywodraethu clir a chryf yng Nghymru i gefnogi'r gwaith o gasglu a rheoli trethi datganoledig Cymru yn effeithiol a sefydlodd hefyd Awdurdod Cyllid Cymru. Yn dilyn y ddeddfwriaeth hon, cyflwynwyd y ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru yn 2018 (Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017).

3.12 Bwriedir i'r Ddeddf hon ddarparu ysgogiad cyllidol ychwanegol i ymateb i amgylchiadau allanol sy'n effeithio ar ein trethi datganoledig. Fel pob gweithrediaeth, mae angen set gymesur ac effeithiol o ddulliau ar Lywodraeth Cymru i reoli’r pwerau treth hynny yn strategol ac yn effeithiol er mwyn diogelu trethdalwyr a chyllid cyhoeddus. Bydd y Ddeddf hon yn cyfrannu at yr ymgyrch dros ddatganoli trethi yn sefydlog drwy alluogi Llywodraeth Cymru i ddiogelu ei chyllid a ddefnyddir i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.

3.13 Newid cyfansoddiadol cymharol ddiweddar yw datganoli trethi, gyda threthi datganoledig ond yn dechrau gweithredu bedair blynedd yn ôl. Ni cheir y gair olaf gyda’r Ddeddf hon ac nid yw ychwaith yn darparu ‘datrysiad’ hirdymor i sut yr ydym am wneud newidiadau brys i’n deddfwriaeth trethi. Yn hytrach, cam ymarferol i’w gymryd yn awr yw hwn wrth inni symud tuag at bensaernïaeth ar gyfer gwneud newidiadau i drethi sy’n iawn i Gymru.

Darpariaethau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

3.14 Mae'r Ddeddf yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau i Weinidogion Cymru i'w galluogi i addasu Deddfau Trethi Cymru (ac is-ddeddfwriaeth a wneir oddi tanynt) mewn amgylchiadau penodol. Bwriedir i hyn yn bennaf ddarparu mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru ar gyfer diogelu refeniw Cymru os yw amgylchiadau allanol yn effeithio ar y refeniw hwnnw. Nodir y rhannau penodol o'r Ddeddf a'r rhesymau paham y credir bod eu hangen isod:

Adran 1: Pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru

3.15 Mae'r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau (i'w harfer naill ai trwy'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’), addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir oddi tanynt. Mae arfer y pŵer i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig i bedwar prawf diben y bwriedir iddynt gyfyngu yn sylweddol ar y defnydd o'r pŵer. Mae'r profion diben yn targedu'r meysydd hynny lle y rhagwelir y bydd angen i Weinidogion Cymru ymateb i ddigwyddiadau allanol er mwyn diogelu refeniw Llywodraeth Cymru a threthdalwyr. Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried bod yr addasiad naill ai'n angenrheidiol neu'n briodol cyn defnyddio'r pŵer i ymateb i'r digwyddiad hwnnw a dim ond at un neu ragor o'r dibenion canlynol y cânt ddefnyddio'r pŵer:

  1. i sicrhau nad yw'r dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir yn cael eu gorfodi lle y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol
  2. i ddiogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â'r dreth gwarediadau tirlenwi a'r dreth trafodiadau tir
  3. i ymateb i newidiadau a wneir i drethi ‘rhagflaenol’ y DU (hynny yw, treth dir y dreth stamp neu'r dreth dirlenwi) sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru, ac
  4. i ymateb i benderfyniadau'r llysoedd/tribiwnlysoedd sy'n effeithio ar Ddeddfau Trethi Cymru neu a allai effeithio arnynt, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt.

3.16 Caiff y Senedd gymeradwyo unrhyw drethi datganoledig a grëir cyn i’r cymal machlud fod yn gymwys (a fydd yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag gwneud rheoliadau pellach gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 – gweler paragraffau 3.57-3.60) i’w cynnwys ar y rhestr o Ddeddfau Trethi Cymru. Os digwydd hyn, byddai pob un o’r pedwar prawf diben yn berthnasol i’r dreth ddatganoledig newydd os oes ganddi dreth ragflaenol y DU gyfatebol. Os nad oes gan y dreth ddatganoledig newydd dreth ragflaenol, dim ond profion diben (a), (b) a (d) fydd yn berthnasol.

3.17 Unig ddiben y senarios a ganlyn yw nodi’r math o amgylchiadau y gellid defnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 ynddynt ar gyfer pob un o’r profion diben. Nid oes unrhyw faterion hysbys mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru wedi eu nodi yn yr enghreifftiau. 

3.18 Mae'r effaith fwriedig fel a ganlyn:

Diben (a): Efallai y bydd Gweinidogion Cymru am wneud newidiadau ar fyr rybudd er mwyn sicrhau nad yw’r trethi datganoledig yn cael eu gorfodi pan fyddai hynny’n arwain at beidio â chydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol penodol megis, er enghraifft, pan fo cytundeb masnach newydd neu gytundeb trethiant dwbl yn dod i ben gyda gwlad arall sydd â goblygiadau i'r trethi datganoledig.

Senario 1
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 - Rhan 5: Cymhwyso’r Ddeddf a DCRHT i bersonau a chyrff penodol

3.19 Mae Rhan 5 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 i bersonau a chyrff penodol, gan gynnwys cwmnïau, partneriaethau ac ymddiriedolaethau.

3.20 Mae’n bosibl y gallai rhwymedigaethau cytuniadau yn y dyfodol arwain at endidau newydd, megis cyfryngau buddsoddi nad ydynt yn perthyn i’r DU, a fydd yn galw am driniaeth debyg i endidau tebyg yn y DU (neu y bydd angen darparu rheolau a saernïwyd yn benodol ar eu cyfer) wrth brynu eiddo yn y DU. Gallai newidiadau o’r fath o bosibl fodloni gofynion y prawf diben yn adran 1(1)(a) pan fyddai triniaeth gyfwerth yn codi yn sgil cydymffurfio â rhwymedigaeth ryngwladol.

Senario 2
Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 - Rhan 3: Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig

3.21 Mae Rhan 3 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth am sut y dylid codi’r dreth ar warediadau trethadwy ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig, gan gynnwys y personau y mae’r dreth i’w chodi arnynt, cyfrifo’r dreth, rhyddhadau, gofynion cofrestru a chyfrifyddu, a thalu, adennill ac ad-dalu’r dreth.

3.22 Mae nifer o Rannau o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 sy’n cynnwys diffiniadau sy’n deillio o aelodaeth y DU o’r UE yn y gorffennol. Un enghraifft yw’r diffiniad o wastraff nad yw’n beryglus (gofyniad 5 o adran 16(1) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017). Mae’n bosibl y gallai cytundebau a chytuniadau masnach yn y dyfodol gynnwys gofynion ar gyfer diffiniadau cyffredin rhwng y gwledydd neu’r endidau contractio, nad ydynt gyfwerth â’r diffiniadau presennol. Yn y senario hon, gellid defnyddio adran 1(1)(a) i sicrhau cydymffurfedd â goblygiadau rhyngwladol.

Diben (b): Caiff Gweinidogion Cymru wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi trethi y gellir ei atal wedyn ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys achosion pan fo Awdurdod Cyllid Cymru a/neu Lywodraeth Cymru o'r farn y bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn golygu na fydd unrhyw amheuaeth ynghylch y ffordd y bwriedir cymhwyso’r darpariaethau deddfwriaethol, ac y bydd o fudd i drethdalwyr o bosibl gan y bydd yn atal hyrwyddo cyfleoedd i osgoi nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd. Cymerwyd camau o'r fath gan Lywodraeth y DU i ddiogelu cyfundrefnau treth a threthdalwyr yn y gorffennol ac mae Gweinidogion Cymru am allu cymryd camau tebyg.

Senario 1
Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 - Rhan 2: Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy

3.23 Mae Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017  yn darparu’r rheolau mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a thrafodiadau esempt, gan osod yr amodau y mae’n ofynnol eu bodloni cyn ceir gwarediad trethadwy o wastraff drwy dirlenwi. Mae nifer o gysyniadau sy’n allweddol i weithrediad y dreth, er enghraifft, gwaredu’r deunydd fel gwastraff, ac nad yw’r defnydd o’r deunydd sy’n ganlyniad i’w waredu drwy dirlenwi yn dad-wneud bwriad i daflu deunydd o’r neilltu. Mae’n bosibl y byddai angen newidiadau gan ddefnyddio’r pŵer yn y Bil i wrthsefyll unrhyw weithgarwch osgoi trethi trwy, o bosibl, geisio manteisio ar fwlch ymddangosiadol yn y diffiniadau hynny er mwyn ceisio gwaredu gwastraff drwy dirlenwi heb ysgwyddo tâl treth. Mewn achosion o’r fath, caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio adran 1(1)(b) i unioni’r mater ac osgoi unrhyw achosion pellach o osgoi trethi.

Senario 2
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 - Rhan 3: Cyfrifo treth a rhyddhadau

3.24 Mae Rhan 3 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfrifo’r dreth, y bandiau a’r cyfraddau treth, a’r rhyddhadau sydd ar gael (gan gynnwys y Rheol Wedi’i Thargedu yn Erbyn Osgoi Trethi ynghylch pob hawliad o ryddhad). Mae’r rheolau sy’n ymwneud â’r rhyddhadau penodol i’w gweld yn Atodlen 2 (i’r graddau eu bod yn gymwys i drafodiadau cyn-gwblhau) ac Atodlenni 6 i 22. Gellid ‘cau’ unrhyw gyfleoedd ymddangosiadol i osgoi trethi yn gyflym drwy wneud newidiadau gan ddefnyddio’r pŵer i wneud rheoliadau yn y Ddeddf hon a’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Byddai hyn yn atal, yn gyflym, ymgeiswyr newydd i’r trefniadau osgoi trethi a fyddai am geisio manteisio ar y rhyddhadau.

Diben (c): Caiff Gweinidogion Cymru wneud newidiadau mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi rhagflaenol y DU a fydd yn effeithio ar yr addasiad i grant bloc Cymru a thrwy hynny'r refeniw sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Senario 1
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 - Rhan 6: Ffurflenni treth a thaliadau

3.25 Mae Rhan 6 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae ffurflenni i’w dychwelyd a thaliadau i’w gwneud mewn perthynas â’r dreth, ac mae hyn yn cynnwys y rheolau gohirio a’r gweithdrefnau. Gallai Llywodraeth y DU newid ei rheolau ar drafodiadau hysbysadwy. Er enghraifft, ar hyn o bryd, nid yw trafodiadau rhydd-ddaliadol gyda chydnabyddiaeth drethadwy o lai na £40,000 yn drafodiadau hysbysadwy ar gyfer treth dir y dreth stamp a’r dreth trafodiadau tir. Pe bai Llywodraeth y DU yn cynyddu’r ffigur hwnnw, byddai hynny yn golygu symleiddio treth ar gyfer trethdalwyr treth dir y dreth stamp oherwydd byddai llai o drafodiadau yn arwain at rwymedigaeth ffeilio. Er hynny, byddai goblygiadau o ran atebolrwydd treth hefyd oherwydd, heb unrhyw newidiadau eraill, byddai cynyddu’r ffigur hysbysadwy yn golygu na fyddai’r dreth yn cael ei thalu o dan y priod reolau cyfraddau preswyl uwch. Gall y newid gan Lywodraeth y DU arwain felly at newid y symiau a delir i’r Gronfa Gyfunol, a pheri i brawf diben 1(1)(c) fod yn berthnasol felly. Yn yr achos hwn, gall Gweinidogion Cymru ddewis efelychu newidiadau’r DU i leihau’r rhwymedigaethau ffeilio (yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd) ond eu cyfyngu fel mai dim ond i’r trafodiadau hynny sy’n agored i brif gyfraddau preswyl y dreth trafodiadau tir y byddant yn gymwys.

Senario 2
Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 - Rhan 2: Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy

3.26 Mae Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn darparu’r rheolau mewn perthynas â gwarediadau trethadwy a thrafodiadau esempt, gan osod yr amodau sy’n rhaid eu bodloni cyn ceir gwarediad trethadwy o wastraff drwy dirlenwi. Mae nifer o gysyniadau sy’n allweddol i weithrediad y dreth, er enghraifft, gwaredu’r deunydd fel gwastraff, ac nad yw’r defnydd o’r deunydd sy’n ganlyniad i’w waredu drwy dirlenwi yn dad-wneud bwriad i daflu deunydd o’r neilltu.

3.27 Mae’n bosibl y gallai Llywodraeth y DU wneud newidiadau i’r dreth ragflaenol a fydd yn arwain at dynhau’r diffiniadau fel y gallai mwy o weithgarwch ddod o fewn cwmpas ei threth, gan hyd yn oed greu beth fyddai’n amod ychwanegol at ddibenion y dreth gwarediadau tirlenwi. Gallai hyn effeithio ar y swm a delir i’r Gronfa Gyfunol (oherwydd byddai’r dreth ragflaenol yn gwneud ymdrech dreth a fyddai’n fwy nag yr oedd yn flaenorol), a gallai hefyd effeithio ar yr amgylchedd wrth i Gymru ddod yn lle rhatach i waredu gwastraff ynddo. Yn unol â hyn, gall Gweinidogion Cymru ystyried gwneud rheoliadau sy’n bodloni’r prawf diben yn adran 1(1)(c) i leihau’r effaith ar y Gronfa Gyfunol. Darperir nifer o’r pwerau gwneud rheoliadau ar gyfer gwneud newidiadau o’r fath eisoes, ond maent yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft ac ni ellir eu gwneud gydag effaith ôl-weithredol (yn ôl i’r dyddiad y gwnaed cyhoeddiad gan Weinidogion Cymru). Bydd y pwerau yn y Ddeddf hon yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud drwy’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, a, phan fo’r amodau perthnasol yn cael eu bodloni, byddant hefyd yn caniatáu i reoliadau gael effaith ôl-weithredol.

Diben (d): Caiff Gweinidogion Cymru wneud newidiadau os bydd penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai newid deddfwriaethol o fudd iddo (gan gynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â threthi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill sy’n effeithio ar y trethi datganoledig), neu er mwyn egluro’r gyfraith yn well. Caiff Gweinidogion Cymru wneud newidiadau os bydd penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai newid deddfwriaethol o fudd iddo (gan gynnwys penderfyniadau sy'n ymwneud â threthi rhagflaenol y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill sy’n effeithio ar y trethi datganoledig), neu er mwyn egluro’r gyfraith yn well.

Senario 1
Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 - Rhan 6: Ffurflenni treth a thaliadau

3.28 Mae Rhan 6 o Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae ffurflenni i’w dychwelyd a thaliadau i’w gwneud mewn perthynas â’r dreth, ac mae hyn yn cynnwys y rheolau gohirio a’r gweithdrefnau. Gallai penderfyniad llys ganfod nad oedd unrhyw agwedd ar y rheolau yn gweithredu fel y credai Awdurdod Cyllid Cymru a llawer o gynghorwyr. Gall fod angen egluro’r rheolau i sicrhau bod cyfundrefn y dreth trafodiadau tir yn parhau i weithio mewn modd cydlynus. Gallai fod angen darparu’r eglurhad hwnnw ar unwaith. Er enghraifft, gallai unrhyw ganfyddiad sy’n newid rhwymedigaethau ffeilio presennol trethdalwyr neu sy’n gyfystyr â thrafodiad hysbysadwy danseilio hunanasesu effeithiol at ddibenion y dreth trafodiadau tir. Byddai’r pwerau yn y Ddeddf hon yn galluogi eglurhad o’r fath, os ystyrir bod hynny yn angenrheidiol neu’n briodol, drwy beri i’r prawf diben yn adran 1(1)(d) fod yn berthnasol a gellid bwrw ati yn gyflym gyda hwnnw os ystyrir bod brys gan ddefnyddio’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

Senario 2
Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 - Rhan 5: Cosbau

3.29 Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi cosbau mewn perthynas â threthi datganoledig, ac mewn cysylltiad â hyn. Mae’r angen i ddefnyddio’r pŵer yn y Ddeddf yn fwyaf tebygol o godi ar gyfer y Rhan hon o ganlyniad i benderfyniadau gan y llys. Er enghraifft, gallai penderfyniad gan lys ganfod bod y cymhwysiad o ‘amgylchiadau arbennig’ neu ‘esgus rhesymol’ yn gulach nag yr ystyriwyd ei fod yn rhesymol yn wreiddiol. Felly, naill ai ni fydd trethdalwyr yn cael gostyngiad yn eu cosb mewn amgylchiadau priodol, neu, i’r gwrthwyneb, dylid darparu’r gostyngiadau mewn llawer mwy o sefyllfaoedd, gan olygu bod y gyfundrefn gosbau yn aneffeithiol o ganlyniad. Byddai defnyddio’r pŵer yn is-adran 1(1)(d) yn y mathau hyn o amgylchiadau yn sicrhau bod y gyfraith yn glir i’r trethdalwyr yn ogystal ag i Awdurdod Cyllid Cymru, ac yn sicrhau bod y rheolau yn gweithredu’n effeithiol.

3.30 Mae'r dibenion wedi'u cyfyngu i sicrhau bod y defnydd o'r pŵer yn gyfyngedig, gan gydnabod y cydbwysedd rhwng rhoi'r gallu i Weinidogion Cymru i ymateb i ddigwyddiadau allanol mewn ffordd hyblyg ac ystwyth, a phwysigrwydd craffu ar weithredoedd Gweinidogion Cymru gan y Senedd.

Adran 2: Rheoliadau o dan adran 1 - atodol

3.31 Mae adran 2 yn darparu y caiff rheoliadau wneud newidiadau i'r trethi datganoledig gan gynnwys gwneud newidiadau i'r symiau sy'n daladwy gan drethdalwyr. Mae adran 2 hefyd yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 orfodi treth a/neu ymestyn cosbau arfaethedig a gall y rheoliadau hynny hefyd gael effaith ôl-weithredol. Fodd bynnag, mae adran 2 yn nodi na cheir gorfodi cosb newydd neu newid i gosb sy'n bodoli eisoes yn ôl-weithredol.

Effaith ôl-weithredol

3.32 Mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod angen gallu gwneud newidiadau deddfwriaethol yn ôl-weithredol, lle y credir bod hynny'n angenrheidiol neu’n briodol, fesul achos. Y rheswm dros hyn yw bod y gallu i ymateb i ddigwyddiadau allanol a allai effeithio ar refeniw Llywodraeth Cymru yn golygu bod angen i'r ddeddfwriaeth gael effaith o ddyddiad sy'n gynharach na'r dyddiad y gwneir y rheoliadau. Er enghraifft, yn achos gweithgarwch osgoi, gallai fod yn briodol i effaith y ddeddfwriaeth fod yn gymwys o ddyddiad pan gyhoeddodd Gweinidogion Cymru y byddai newidiadau'n cael eu gwneud i fynd i'r afael â gweithgarwch osgoi penodol. O ran newidiadau i'r trethi rhagflaenol, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi y gwneir newidiadau i'r trethi datganoledig i gynyddu neu leihau'r ymdrech dreth, a'i bod yn ddymunol i'r newidiadau hynny gael effaith o ddyddiad cyn y gwneir y rheoliadau pan fônt yn cydymffurfio â’r rheolau ar wneud newidiadau yn ôl-weithredol.

3.33 Mae adran 2 yn cyflwyno cyfyngiad sy’n atal rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru sy’n cael effaith ôl-weithredol rhag cael eu cymhwyso o ddyddiad sydd ymhellach yn ôl na’r dyddiad y rhybuddiwyd neu y cyhoeddwyd am y newid deddfwriaethol, naill ai drwy ddatganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig Gweinidogol. Mewn achosion lle ceir effaith dreth ‘negatif’ (hynny yw, lle mae unrhyw atebolrwydd treth newydd neu atebolrwydd treth uwch mewn perthynas â’r dreth trafodiadau tir neu’r dreth gwarediadau tirlenwi) ar drethdalwr yn unig y bydd y cyfyngiad yn gymwys.

3.34 Er hynny, bydd y cyfyngiad yn dal i ganiatáu i Weinidogion Cymru ddefnyddio’r pŵer i wneud newidiadau gydag effaith ôl-weithredol ymhellach yn ôl na dyddiad unrhyw gyhoeddiad pan fo’r newid hwnnw yn gostwng y dreth a godir. Er enghraifft, pe bai’n ymateb i newid i Gyllideb y DU, byddai hyn yn sicrhau bod trethdalwyr Cymru yn gallu elwa ar y gostyngiad ar yr un pryd â threthdalwyr yn Lloegr.

3.35 Mae adran 2 hefyd yn cyfyngu ar y gallu i leihau neu dynnu’n ôl yn ôl-weithredol yr hawl i gredyd treth at ddibenion y dreth gwarediadau tirlenwi yn ôl i ddyddiad y cyhoeddiad Gweinidogol (naill ai drwy ddatganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig) yn unig. Nid yw’r cyfyngiadau hyn yn gymwys pan fo’r rheoliadau yn cael yr effaith o gynyddu neu gyflwyno credyd treth newydd i gyfundrefn y dreth gwarediadau tirlenwi.

3.36 Cydnabyddir bod defnyddio deddfwriaeth ôl-weithredol yn ddadleuol ac, yn unol â hynny, mae adran 3 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol (gweler paragraff 3.42).

Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016

3.37 Mae adran 2 yn nodi na chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu darpariaethau Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016. Yr effaith a fwriedir yw nodi'r darpariaethau a sefydlodd Awdurdod Cyllid Cymru. Ni ragwelir y byddai angen i Weinidogion Cymru ymateb ar fyr rybudd i newidiadau i sefydlu, aelodaeth a gweithrediad adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru megis Awdurdod Cyllid Cymru. Byddai'r rhain yn cael eu hystyried yn newidiadau polisi arferol y gellir mynd i'r afael â hwy dros gyfnod hwy sy'n debygol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.

3.38 Mae adran 2 hefyd yn gwahardd rheoliadau a wnaed gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 rhag gwneud newidiadau i unrhyw reolau sy’n berthnasol i ymchwilio i droseddau. Mae adrannau o Ddeddfau Trethi Cymru yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ddiwygio rhywfaint o ddeddfwriaeth y DU drwy reoliadau.

Diwygio cyfraddau trethi a bandiau trethi datganoledig

3.39 Mae adran 2 hefyd yn nodi na chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu rheoliadau sy'n pennu bandiau trethi a chyfraddau trethi ar gyfer y dreth trafodiadau tir (Adrannau 24(1) a pharagraffau 27(4) a 28(1) o Atodlen 6 i  Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017) a'r dreth gwarediadau tirlenwi (Adrannau 14(3), 14(6) a 46(4) o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017). Yr effaith a fwriedir yw nodi'r pŵer i wneud rheoliadau cyfraddau a bandiau’r dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi gan fod y rhain eisoes yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, ac felly gellir gwneud newidiadau ar unwaith eisoes i'r darpariaethau hyn. Defnyddiwyd y pwerau hyn sawl gwaith ers i’r ddwy dreth ddatganoledig ddechrau gweithredu ym mis Ebrill 2018 ac ystyrir eu bod yn gweithredu’n effeithiol. Effaith hyn hefyd yw culhau cwmpas y pŵer cadarnhaol ‘gwnaed’ yn y Ddeddf hon ymhellach i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.

Diwygio gweithdrefn graffu bresennol Senedd Cymru mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru

3.40 Mae adran 2 yn nodi na chaiff rheoliadau o dan adran 1 newid unrhyw un o weithdrefnau craffu bresennol Senedd Cymru mewn perthynas â gwneud offeryn statudol o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddfau Trethi Cymru. Bydd y cyfyngiad hwn yn gymwys i’r holl bwerau gwneud rheoliadau, waeth pryd y cawsant eu mewnosod yn Neddfau Trethi Cymru. Bydd hyn yn cynnwys y rheini sy’n bodoli eisoes ac unrhyw rai a grëir wedi hynny, drwy unrhyw fodd.

3.41 Er enghraifft, ni fydd modd newid rheoliadau sydd eisoes yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn Neddfau Trethi Cymru i fod yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.

Adran 3: Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sydd ag effaith ôl-weithredol

3.42 Mae adran 3 yn nodi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ar eu dull o wneud rheoliadau sydd ag effaith ôl-weithredol. Rhaid cyhoeddi'r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy'n dechrau â dyddiad y Cydsyniad Brenhinol. Mae drafft diwygiedig o'r datganiad hwnnw wedi'i gyhoeddi adeg Cyfnod 3 a bydd fersiwn derfynol yn cael ei chyhoeddi yn unol â’r gofyniad statudol.

3.43 Mae enghreifftiau o ba bryd y caiff Gweinidogion Cymru ystyried gwneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  1. pan wneir newid gan Lywodraeth y DU sy'n cael effaith ar unwaith ac sy'n darparu mantais treth, a masnachol felly, i endidau sy'n agored i'r dreth ragflaenol,
  2. pan wneir newid gan Lywodraeth y DU sy'n cael effaith ar unwaith ac sy'n cynyddu symiau treth a godir gan dreth ragflaenol a fydd yn cael effaith sylweddol ar yr addasiad i'r grant bloc,
  3. pan fo angen atal gweithgarwch osgoi trethi,
  4. pan fo penderfyniad llys yn golygu na chaiff y ddeddfwriaeth weithredu yn unol â bwriad y Senedd pan gafodd ei deddfu,
  5. pan fo rheoliadau wedi cael eu gwneud gan ddefnyddio’r pwerau yn y Ddeddf (naill ai drwy’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) ac mae Gweinidogion Cymru yn dymuno diwygio effaith y rheoliadau, er mwyn i’r newidiadau gael effaith o’r un dyddiad y cafodd y rheoliadau gwreiddiol effaith.

3.44 Bydd y defnydd o ddeddfwriaeth sy’n cael effaith ôl-weithredol yn cael ei gyfyngu fel arfer i achosion lle effaith y rheoliadau yw rhoi budd i drethdalwyr Cymru. I ddarparu enghraifft, os byddai Llywodraeth Cymru am i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad yn eu hatebolrwydd treth o'r un dyddiad ag y cyflwynwyd newid tebyg yn Lloegr (boed hynny o ganlyniad i fabwysiadu'r un polisi neu bolisi gwahanol), neu, os credir ei bod yn briodol bod y dreth yn cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol cyn y dyddiad y gwnaed y rheoliadau.

3.45 Pan fo atebolrwyddau yn cael eu cynyddu yn ôl-weithredol, a lle y gallai trethdalwyr fod wedi disgwyl yn rhesymol i newidiadau ôl-weithredol gael eu cyflwyno, caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n cynyddu atebolrwydd trethdalwyr. Er enghraifft, pan nodir bod trethi'n cael eu hosgoi, gall y Gweinidogion gyhoeddi y bydd y cynllun yn cael ei gau drwy reoliadau yn y dyfodol o ddyddiad y cyhoeddiad hwnnw. Er hynny, pan fo’r rheoliadau yn creu atebolrwydd treth ddatganoledig, neu atebolrwydd uwch o’r fath, dim ond gydag effaith ôl-weithredol i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar neu Ddatganiad Ysgrifenedig i’r Senedd y ceir eu gwneud. Mae’r un cyfyngiadau yn berthnasol hefyd pan fo’r rheoliadau yn lleihau hawl i gredyd treth at ddibenion y dreth gwarediadau tirlenwi, neu’n tynnu hawl o’r fath yn ôl.

Adran 4: Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1

3.46 Mae adran 4 yn nodi bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol. Bydd y Ddeddf yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau gan ddefnyddio naill ai'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’. Bydd Gweinidogion Cymru yn ceisio defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft pan fo modd, sy'n golygu na all y rheoliadau ddod i rym ond pan fo'r Senedd wedi cymeradwyo eu gwneud. Bydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r rheoliadau hyn pan fo angen llai o frys ac mae amser i'r Senedd gymeradwyo'r rheoliadau cyn iddynt gael eu gwneud.

3.47 Er hynny, caiff Gweinidogion Cymru ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ lle maent o'r farn ei bod yn angenrheidiol oherwydd brys (er enghraifft, lle y bydd angen i'r rheoliadau gael effaith ar unwaith neu'n fuan wedi hynny, ac felly cyn y gallai'r Senedd gymeradwyo set o reoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft). Bydd hyn yn sicrhau y gall newidiadau, lle y bo'n briodol, ddod i rym cyn gynted ag y gwneir y rheoliadau, wrth aros am gymeradwyaeth y Senedd. ‘gwnaed’ Rhaid i’r gymeradwyaeth honno gael ei rhoi  o fewn cyfnod nad yw’n hwy na 60 o ddiwrnodau (diwrnodau calendr sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y rheoliadau eu gwneud, ond heb gynnwys unrhyw gyfnodau pan fo’r Senedd mewn cyfnod o doriad neu wedi'i diddymu sy’n 4 diwrnod neu fwy) i alluogi'r rheoliadau hynny i barhau mewn effaith. Bydd cyfiawnhad llawn am yr angen i weithredu ar frys ac i gyflwyno newid drwy reoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’ yn cael ei nodi yn y Memorandwm Esboniadol i'r rheoliadau hynny.

3.48 Mae gan y rheoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ effaith dros dro naill ai tan bleidlais y Senedd neu'r mae'r rheoliadau yn methu o ganlyniad i beidio â chynnal pleidlais y Senedd o fewn y cyfnod gofynnol o 60 o ddiwrnodau. Os bydd y Senedd yn cymeradwyo'r rheoliadau bydd ganddynt effaith barhaol wedyn.

3.49 Ar gyfer rheoliadau cadarnhaol drafft a rheoliadau cadarnhaol ‘gwnaed’,  y bwriad yw bod y cyfnod craffu a ddarperir yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng yr awydd i ddarparu gwaith craffu da ac i sicrhau bod sicrwydd deddfwriaethol yn cael ei ddarparu i'r newidiadau a gynhwysir yn y rheoliadau. Bydd Gweinidogion Cymru yn cynnig amserlen cyn y bleidlais sy'n adlewyrchu'r dyddiad erbyn pryd y mae angen i'r rheoliadau ddod i rym, cymhlethdod y materion dan sylw a'r amser y mae ei angen i ddarparu craffu addas, a'r awydd i ddarparu sicrwydd cynnar i drethdalwyr (a nifer y trethdalwyr yr effeithir arnynt).

3.50 Er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer craffu gan y Senedd, ni all y Senedd ystyried unrhyw gynnig i gymeradwyo rheoliadau a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, ac ni all bleidleisio arno, hyd nes y bydd 28 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, o’r dyddiad y gwneir y rheoliadau a chan gynnwys y dyddiad hwnnw. Nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fydd y Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad sy’n 4 diwrnod neu fwy.

Adran 5: Rheoliadau sy'n peidio â chael effaith - atodol

3.51 Mae adran 5 o'r Ddeddf yn nodi’r hyn sy’n digwydd pan fydd rheoliadau a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn peidio â chael effaith o ganlyniad i fethu â chael cymeradwyaeth y Senedd. Bydd y rheoliadau sydd wedi methu yn cael effaith yn ystod y cyfnod o’r dyddiad y deuant i rym nes iddynt gael eu gwrthod neu pan ddaw’r cyfnod o 60 o ddiwrnodau i ben. Bydd unrhyw atebolrwydd treth newydd neu atebolrwydd treth uwch a gyflwynir gan y rheoliadau sydd wedi methu yn cael ei drin fel pe na bai erioed yn bodoli, a bydd unrhyw dynnu'n ôl neu leihau hawl i gredyd treth hefyd yn cael ei drin fel pe na bai erioed wedi codi. Yn yr un modd, bydd unrhyw atebolrwydd i gosb neu i swm uwch o gosb a ddigwyddodd o ganlyniad i'r rheoliadau sydd wedi methu ac a ysgwyddwyd tra oedd y rheoliadau sydd wedi methu yn dal mewn grym, yn cael ei drin fel pe na bai erioed wedi codi.

3.52 Mae adran 5 hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefyllfaoedd lle y gallai camau fod wedi'u cymryd o ganlyniad uniongyrchol i'r rheoliadau sydd wedi methu. Er enghraifft, pan fo safleoedd wedi'u harolygu neu ddogfennau wedi'u harchwilio yn ystod y cyfnod pan oedd y rheoliadau'n ddilys. Yn yr achosion hynny, mae unrhyw gamau sydd wedi'u cymryd yn dal yn ddilys, er gwaethaf y rheoliadau sydd wedi methu.

3.53 Ym mhob achos, bwriad adran 5 yw sicrhau bod y risg o ddefnyddio'r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ i'w hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru yn unig ac nid gan drethdalwyr Cymru. Mae trethdalwyr Cymru i’w diogelu rhag heriau sy'n ymwneud ag unrhyw beth a wnaed, neu na wnaed, wrth ddibynnu ar y rheoliadau a fethodd yn ystod y cyfnod yr oedd y rheoliadau a fethodd mewn grym.

Adran 6: Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon

3.54 Rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediaeth ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw cyn pen 4 blynedd o’r dyddiad y daeth y Ddeddf i rym (y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol). Cynhelir yr adolygiad fel un rhwymedigaeth benodol, ac nid yw’n ofynnol cynnal unrhyw adolygiadau pellach o’r ddeddfwriaeth.

3.55 Ar ôl i gasgliadau’r adolygiad gael eu cyhoeddi, a chyn pen pum mlynedd o’r dyddiad y daw’r Ddeddf i rym, bydd Gweinidogion Cymru yn cyhoeddi datganiad i gadarnhau a gaiff y rheoliadau a ganiateir drwy adran 7 o’r Ddeddf i ymestyn oes y pŵer i wneud rheoliadau (hyd at dyddiad estynedig, sef 30 Ebrill fan hwyraf) eu gwneud ai peidio.

3.56 Rhaid i'r adolygiad gynnwys asesiad gan Weinidogion Cymru o unrhyw ddulliau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru. At hynny, fel rhan o'r adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd ac unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.

Adran 7: Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben

3.57 Bydd cynnwys cymal machlud yn gwahardd Gweinidogion Cymru rhag gwneud rhagor o reoliadau gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth y Ddeddf i rym. Er hynny, mae adran 7 yn darparu un cyfle i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau, gan ganiatáu i’r pŵer yn adran 1 barhau mewn grym hyd at 30 Ebrill 2031. Mae adran 7 hefyd yn darparu bod y rheoliadau i oedi’r dyddiad y daw’r pŵer i ben yn arferadwy drwy offeryn statudol a’u bod yn arferadwy unwaith yn unig.

3.58 Mae’r rheoliadau sy’n darparu ar gyfer ymestyn yr amser ar gyfer y pŵer a ddarperir gan adran 1 yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft (rhaid gosod drafft o’r rheoliadau gerbron y Senedd a’u cymeradwyo cyn y gallant gael effaith).

3.59 At hynny, ni ellir gosod y rheoliadau ar ffurf drafft cyn y cyhoeddir casgliadau’r adolygiad. Ni all y Senedd ychwaith gymeradwyo’r rheoliadau ar ôl i’r cyfnod cychwynnol o bum mlynedd ddirwyn i ben.

3.60 Yn olaf, nid yw’r ffaith bod y pŵer a ddarperir yn adran 1 yn dod i ben yn effeithio ar y rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru cyn i’r pŵer ddod i ben. Felly, bydd y rheoliadau hynny yn parhau mewn grym ar ôl i allu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau newydd ddirwyn i ben.

Gweithredu a chyflawni

3.61 Mae'r Ddeddf yn darparu ar gyfer gweithredu drwy alluogi Gweinidogion Cymru i wneud is-ddeddfwriaeth a chrynhoir y pŵer hwn yn Nhabl 1 o'r Memorandwm Esboniadol hwn.

3.62 Fel y nodir ym mharagraffau 3.54-3.56, rhoddir dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf a’r defnydd o’r pŵer i wneud rheoliadau bedair blynedd ar ôl i’r ddeddfwriaeth gychwyn.

3.63 Daeth y Ddeddf i rym y diwrnod ar ôl y diwrnod iddi gael y Cydsyniad Brenhinol.

Rhychwant tiriogaethol

3.64 Mae'r Ddeddf yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

4. Ymgynghori

Ymgynghori ar gynigion i alluogi newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru

4.1 Roedd y papur ymgynghori a gyhoeddwyd yn 2020: Datganoli Trethi yng Nghymru – Ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (“ymgynghoriad 2020”) yn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn datblygu trefniadau trethi datganoledig yng Nghymru. Gofynnodd ymgynghoriad 2020 am farn ynghylch a oes gan Weinidogion Cymru y dulliau priodol i sicrhau y gallant wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ar fyr rybudd mewn nifer o amgylchiadau. Roedd yn nodi cynnig Llywodraeth Cymru i roi pwerau hyblyg a chymesur i Weinidogion Cymru, i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru, yn ddarostyngedig i graffu priodol gan y Senedd. Roedd yr ymgynghoriad yn cynnig rhoi tri phŵer i Weinidogion Cymru i ymateb i amgylchiadau allanol lle y gallai fod angen gwneud newidiadau ar unwaith, neu'n gyflym iawn, i Ddeddfau Trethi Cymru.

4.2 Roedd ymgynghoriad 2020 hefyd yn nodi cynnig ar gyfer “clo” y Senedd. Bwriedid i'r “clo” hwn gael ei gymhwyso i'r defnydd o'r pŵer i wneud rheoliadau mewn rhai amgylchiadau fel ffordd o ymateb i bryderon bod y pŵer yn anarferol o eang. Roedd y “clo” yn gofyn am bleidlais yn y Senedd i ddatgloi'r defnydd o'r pŵer i wneud rheoliadau. Byddai hyn yn golygu y byddai egwyddorion cyffredinol y rheoliadau yn destun gwaith craffu cyn iddynt gael eu drafftio.

Ymatebion i'r ymgynghoriad

4.3 Gwahoddwyd barn ar ymgynghoriad 2020 fel rhan o gyfnod ymgynghori a ddechreuodd ar 16 Gorffennaf 2020 ac a ddaeth i ben ar 15 Hydref 2020. Cafodd yr ymgynghoriad ei hyrwyddo drwy Twitter ac anfonwyd e-byst at fwy na 90 o randdeiliaid unigol Trysorlys Cymru, a chyrff cynrychioliadol allweddol.

4.4 Cynhaliodd Llywodraeth Cymru sawl gweminar a digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid ar-lein yn ystod y cyfnod ymgynghori, gan gynnwys â Phwyllgor Technegol Cymru y Sefydliad Siartredig Trethu, a chynhaliwyd sesiwn briffio technegol ehangach hefyd â'r Sefydliad Siartredig Trethu (cymerodd tua 200 o bobl ran ynddi). Hefyd, cynhaliwyd sesiwn gweithgor â Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr, ac â Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig.

4.5 Cafwyd lefel eithaf da o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad o gofio mai ymgynghoriad technegol, bach ydoedd. Daeth yr ymatebion oddi wrth bedwar unigolyn, a phedwar sefydliad. Roedd dau o'r rhain yn gyrff proffesiynol, y naill yn sefydliad academaidd, a'r llall yn gymdeithas llywodraeth leol. Cyflwynwyd yr ymatebion gan ymatebwyr yng Nghymru, neu gangen Cymru o sefydliadau sy'n gweithredu ledled y DU.

4.6 Mae'r Ymgynghoriad crynodeb o'r ymatebion yn nodi bod rhanddeiliaid yn gefnogol ar y cyfan i'r egwyddor o ddefnyddio pwerau gwneud rheoliadau os bydd amgylchiadau allanol penodol yn effeithio ar Ddeddfau Trethi Cymru. Nodwyd yn benodol pa mor agored yw trethi datganoledig, a refeniw, i newidiadau trethi a wnaed ar lefel y DU i drethi rhagflaenol. Er hynny, awgrymwyd y dylai meini prawf llym, megis clo’r Senedd, fod ar waith cyn y gellir defnyddio'r pwerau. Ystyriwyd bod hyn yn angenrheidiol gan fod y defnydd o'r pŵer yn benagored a gellid ei ddefnyddio i fod yn gymwys i 'amgylchiadau eraill o angen eithriadol' anhysbys neu heb eu diffinio.

4.7 Yn dilyn ystyriaeth bellach, penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylid cyfyngu ar y defnydd o'r pŵer a bod gweithrediad ymarferol clo o'r fath yn heriol. Mae paragraff 3.15 o'r Memorandwm Esboniadol hwn yn nodi y bydd arfer y pŵer i wneud rheoliadau yn ddarostyngedig yn lle hynny i bedwar prawf diben y bwriedir iddynt gyfyngu ar y defnydd o'r pŵer. Rhaid ystyried bod yr addasiad naill ai'n angenrheidiol neu'n briodol ac ni ellir ei arfer ond i addasu Deddfau Trethi Cymru (neu is-ddeddfwriaeth gysylltiedig) at y dibenion penodedig a chyfyngedig a nodir yn y Ddeddf.

4.8 Y bwriad polisi gwreiddiol fel y'i nodwyd ym Mhennod 3 o ymgynghoriad 2020 oedd y dylid cael tri phŵer i wneud rheoliadau i alluogi Gweinidogion Cymru i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru (neu is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y Deddfau hynny).

4.9 Diben ‘Pŵer 1’ oedd galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth i atal gweithgarwch osgoi neu efadu trethi, i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol yn ôl yr angen, neu i ddelio ag achosion o “angen eithriadol”. Bwriedir i hyn gwmpasu sefyllfaoedd anhysbys yn y dyfodol ond hefyd sefyllfaoedd megis yr angen i wneud newidiadau i ddeddfwriaeth lle y cafwyd penderfyniad anffafriol gan lys.

4.10 Yn unol â’r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae 'efadu' wedi'i ddileu gan ei fod yn cael ei ystyried yn ddiangen o gofio y byddai hyn eisoes yn drosedd o dan y gyfraith bresennol, ac mae 'amgylchiadau eraill o angen eithriadol' bellach wedi'i ddileu, gyda'r dibenion ar gyfer gwneud y rheoliadau yn ymwneud yn benodol â phenderfyniadau gan lysoedd a thribiwnlysoedd yn unig. Bernir nad yw'n briodol defnyddio pwerau gwneud rheoliadau ar gyfer unrhyw amgylchiadau sydd heb eu diffinio neu heb eu pennu.

4.11 Bwriad ‘Pŵer 2’ oedd rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fyddant o'r farn ei bod yn hwylus er budd y cyhoedd i wneud hynny. Felly, gallai'r pŵer fod wedi cael ei ddefnyddio i wneud newidiadau o unrhyw fath i unrhyw ddarpariaeth yn Neddfau Trethi Cymru ac is-ddeddfwriaeth gysylltiedig. Y bwriad, yn benodol, oedd rhoi llwybr i Weinidogion Cymru allu gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru mewn ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU yng Nghyllidebau'r DU lle y ceir effaith ar yr addasiad i'r grant bloc a, thrwy hynny, ar y refeniw sydd ar gael i Lywodraeth Cymru.

4.12 Mae’r pŵer hwn bellach wedi'i gulhau i ymdrin yn benodol ag amgylchiadau pan fo angen i Weinidogion Cymru ymateb i newidiadau i drethi rhagflaenol a fyddai'n effeithio ar y swm a delir i Gronfa Gyfunol Cymru.

4.13 Roedd 'Pŵer 3' yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau cadarnhaol drafft (y 'rheoliadau dilynol') i ddiwygio'r rheoliadau a grëwyd drwy ddefnyddio 'Pŵer 1' neu 'Bŵer 2' (y rheoliadau 'gwreiddiol'). Yn sgil dadansoddi pellach, er hynny, daeth i’r amlwg bod gorgyffwrdd rhwng y ddau bŵer gwreiddiol (gan fod 'Pŵer 2' yn ddigon eang i gwmpasu popeth y byddai Pŵer 1 yn ei gwmpasu), ac y gallai fod yn heriol nodi pa bŵer y dylid ei ddefnyddio at ba ddibenion. Y casgliad yw mai'r un pŵer mewn gwirionedd oedd y pwerau diwygio ar wahân a geisir, sef pŵer i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru (neu is-ddeddfwriaeth gysylltiedig) mewn amgylchiadau penodol, ac mai un pŵer i wneud rheoliadau oedd y cyfan yr oedd ei angen, yn ddarostyngedig naill ai i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ yn dibynnu ar frys y rheoliadau.

Rhesymau dros beidio ag ymgynghori ar Fil drafft

4.14 Mae'r darpariaethau a gynhwysir yn y Ddeddf yn cyd-fynd â'r egwyddorion a nodwyd yn yr ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2020. Mae'r cynigion penodol wedi'u mireinio ymhellach yng ngoleuni’r ymatebion a dderbyniwyd. Yn dilyn ystyriaeth fanwl, datblygwyd wedi hynny hefyd nifer o newidiadau, mewn perthynas â gweithrediad y gweithdrefnau ar gyfer gwneud rheoliadau yn arbennig. Mae'r newidiadau hyn wedi'u rhannu a cheisiwyd arbenigedd a mewnbwn oddi wrth gyrff allweddol sy'n cynrychioli trethi a chyfrifyddiaeth. O gofio lefel yr ymatebion i'r ymgynghoriad a hyd y ddeddfwriaeth, bernid ei bod yn fwy priodol ac effeithlon rhannu a gwahodd sylwadau ar y ddeddfwriaeth oddi wrth randdeiliaid allweddol yn hytrach na chyhoeddi Bil drafft fel rhan o ymgynghoriad llawn.

Ymgynghori yn y dyfodol ar reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon

4.15 Mewn llawer o achosion, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gwahodd sylwadau ar y bwriad i ddeddfu gan ddefnyddio'r pwerau a ddarperir gan y Ddeddf, ar natur y newid nac ar ei amseriad cyn gwneud rheoliadau. Er hynny, yn ddarostyngedig i’r risg o ragflaenu rhoddir ystyriaeth fesul achos i ymgysylltu'n anffurfiol, ac yn gyfrinachol, â rhanddeiliaid allweddol, cyn ac wrth ddrafftio rheoliadau i ganfod a fydd y ddeddfwriaeth yn cyflawni ei hamcan. Yn benodol, lle diben y rheoliadau yw ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i dreth ragflaenol, neu os nad oes angen i'r dyddiad dod i rym fod ar unwaith, efallai y bydd cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu. Bydd manylion unrhyw ymgynghoriad, neu resymau manwl dros beidio â chynnal ymgynghoriad o’r fath, yn cael eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol a fydd yn cyd-fynd ag unrhyw reoliadau yn y dyfodol.

5. Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth

5.1 Mae'r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau i wneud is-ddeddfwriaeth.

  1. y person neu'r corff y rhoddir y pŵer iddo
  2. ym mha ffurf y dylid arfer y pŵer
  3. priodoldeb y pŵer sydd wedi'i ddirprwyo
  4. y weithdrefn sydd wedi’i chymhwyso; hynny yw, p'un a yw'n "weithdrefn gadarnhaol", yn "weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’", yn  "weithdrefn negyddol", neu "ddim gweithdrefn", ynghyd â rhesymau pam y credir ei bod yn briodol.

5.2 TBydd Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch cynnwys yr is-ddeddfwriaeth lle y bernir ei bod yn briodol gwneud hynny. Penderfynir ar union natur yr ymgynghoriad pan fydd y cynigion yn cael eu ffurfioli.

Crynodeb o’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth yn narpariaethau Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

Adran 1 (1a-d)

I bwy y rhoddir y pŵer Gweinidog-ion Cymru

Ffurf

Rheoliadau

Priodoldeb y pŵer dirprwyedig

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gael y pŵer i addasu Deddfau Trethi Cymru a'r rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Ni chaiff y pŵer hwn ei ddefnyddio ond pan fydd un o Weinidogion Cymru o'r farn bod yr addasiadau'n angenrheidiol neu'n briodol at unrhyw rai o'r dibenion canlynol neu mewn cysylltiad â hwy.

  1. sicrhau nad yw'r dreth gwarediadau tirlenwi neu’r dreth trafodiadau tir yn cael ei gorfodi lle y byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol
  2. diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â'r dreth gwarediadau tirlenwi neu’r dreth trafodiadau tir
  3. ymateb i newid i dreth ragflaenol sy'n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir i Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (c. 32)
  4. ymateb i benderfyniad gan lys neu dribiwnlys sy'n effeithio, neu a allai effeithio ar, weithrediad unrhyw rai o Ddeddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan unrhyw un o’r Deddfau hynny.
Y Weithdrefn

Cadarnhaol drafft neu Gadarnhaol ‘gwnaed’Cadarnhaol drafft neu Gadarnhaol ‘gwnaed’

Rheswm dros y weithdrefn

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol ddrafft lle y mae Gweinidogion Cymru'n nodi bod angen ymateb yn gyflym i amgylchiadau allanol.

Rhagnodir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ mewn achosion lle y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod eu hangen am resymau brys.

Adran 7

I bwy y rhoddir y pŵer: Gweinidog-ion Cymru

Ffurf

Rheoliadau

Priodoldeb y pŵer dirprwyedig

Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gael y pŵer i ddarparu un cyfle i’r Senedd gymeradwyo rheoliadau a osodir gan Weinidogion Cymru a fydd yn ymestyn y pŵer i wneud rheoliadau hyd at ddyddiad estynedig, sef 30 Ebrill 2031 fan hwyraf.

Y Weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Rheswm dros y weithdrefn

Bydd y weithdrefn gadarnhaol ddrafft yn caniatáu i’r Senedd graffu ar yr angen i ymestyn oes y pŵer i wneud rheoliadau hyd at dyddiad estynedig, sef 30 Ebrill 2031 fan hwyraf.

5.3 Nid oes unrhyw bwerau i wneud cyfarwyddydau na chyhoeddi codau a chanllawiau yn narpariaethau’r Ddeddf.

Troednodiadau

1. Mae “ymdrech treth dir y dreth stamp” yn cyfeirio at faint o dreth y mae'r dreth a ragflaenodd y dreth trafodiadau tir yn ei chasglu. Os bydd yr ymdrech yn fwy, bydd yr addasiad i'r grant bloc yn cynyddu, gan arwain at fwy o leihad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gan leihau ei hadnoddau yn gyffredinol. Os bydd ymdrech treth dir y dreth stamp yn lleihau, bydd y gwrthwyneb yn digwydd, gan arwain at fwy o adnoddau i Lywodraeth Cymru yn gyffredinol.