Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Gorffennaf 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (‘y Ddeddf’) yn diwygio ac yn moderneiddio’r ffordd y caiff etholiadau’r Senedd ac etholiadau lleol eu cynnal yng Nghymru, drwy weithredu llawer o’r cynigion yn y Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2022, er mwyn cryfhau atebolrwydd a rheolaeth ddemocrataidd. Mae’r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ynghylch:

  • gweinyddu a chofrestru ar gyfer etholiadau
  • peilota newidiadau i’r system etholiadol
  • y system ar gyfer monitro ac adolygu trefniadau etholiadol llywodraeth leol
  • datgymhwyso cynghorwyr cymuned rhag bod yn aelodau o Senedd Cymru
  • cymhwyso’r arfer llwgr o ddylanwad amhriodol i etholiadau Senedd Cymru ac i etholiadau llywodraeth leol, a
  • swyddogaethau a chyfansoddiad Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Mae adran 72 yn darparu bod y Ddeddf yn dod i rym fel a ganlyn: 

  • daeth Pennod 3 o Ran 1, Rhan 2 o Atodlen 1, adrannau 61 a 66 a Rhan 3 i rym ar 10 Medi 2024, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol
  • daw Pennod 1 o Ran 2 ac adrannau 25, 30, 62 a 63 i rym ar 9 Tachwedd 2024, sef ddeufis ar ôl y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol
  • daw adran 65 i rym ar 6 Mai 2027
  • yn amodol ar adran 72(5), daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

Darllen adran 22 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 ar legislation.gov.uk.

Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud:

a'r Memorandwm Esboniadol:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) (‘y Bil’) i’r Senedd ar 2 Hydref 2023 gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar y pryd. Cafodd ei basio gan y Senedd ar 9 Gorffennaf 2024 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Medi 2024.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf 2026 a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru, fel y cafodd ei ddiweddaru yn dilyn y Cydsyniad Brenhinol: