Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r nodyn gwybodaeth hwn yn tynnu ar ddeunydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ac mae wedi'i gynllunio i helpu i ddeall Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn well. Mae hyn yn cynnwys newidiadau allweddol i gyfraith cyflogaeth, hawliau'r gweithlu a pharatoi ar gyfer diwygiadau sydd ar ddod a fydd yn effeithio ar y sector gofal cymdeithasol.

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025, a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 18 Rhagfyr 2025, yn cynnwys nifer o fesurau allweddol a fydd yn cael eu cyflwyno'n raddol rhwng 2026 a 2027. Bydd hyn yn rhoi amser i gyflogwyr baratoi, gan hefyd sicrhau bod gan weithwyr wybodaeth glir am eu hawliau newydd.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ddarllen y dogfennau hyn: Taflen Wybodaeth Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025Rhoi'r Ddeddf Hawliau Cyflogaeth ar waith: Ein map trywydd ar gyfer cyflawni newid

Gallwch hefyd archwilio'r canllawiau ymarferol i fusnesau i baratoi ar gyfer y newidiadau i gyflogaeth, yn ogystal â dolenni defnyddiol at bartneriaid, fel Acas, a all gynnig rhagor o gymorth. Gallwch hefyd gofrestru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Ddeddf drwy e-bost.

Mesurau allweddol yn y Ddeddf ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru

Cytundebau Cyflog Teg ym maes gofal cymdeithasol i oedolion

Mae Deddf Hawliau Cyflogaeth 2025 yn cynnwys pwerau i sefydlu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i gytuno ar Gytundebau Cyflog Teg ar gyfer y Gweithlu Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gyflwyno Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol fel bod y gweithlu hwn yn cael ei gydnabod a'i wobrwyo am y rôl bwysig y mae'n ei chwarae wrth helpu ein pobl fwyaf agored i niwed. 

Ar 24 Chwefror, lansiwyd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch datblygu Corff Negodi Gofal Cymdeithasol i Gymru i drafod Cytundebau Cyflog Teg ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, gan gynnwys ei strwythur a'i swyddogaethau. Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 28 Ebrill 2026. Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnwys rhagor o wybodaeth am Gytundebau Cyflog Teg. 

Tâl Salwch Statudol 

Tâl Salwch Statudol yw isafswm y tâl statudol y mae cyflogai yn gymwys i’w gael am gyfnodau pan na all weithio oherwydd salwch. Mae'r newidiadau allweddol i'r Tâl Salwch Statudol fel a ganlyn:

  • Bydd gweithwyr cymwys bellach â hawl i gael Tâl Salwch Statudol o'u diwrnod llawn cyntaf o absenoldeb salwch, yn hytrach na'r pedwerydd.
  • Mae'r terfyn enillion isaf wedi'i ddileu i sicrhau bod Tâl Salwch Statudol ar gael i bob cyflogai, ni waeth beth fo'i enillion wythnosol. Mae'r newidiadau a gyflwynwyd gan y Ddeddf yn golygu y bydd cyfradd y Tâl Salwch Statudol naill ai'n 80% o enillion cyflogai neu gyfradd safonol bresennol y Tâl Salwch Statudol, pa un bynnag sydd isaf.

Daw'r newidiadau hyn i rym o fis Ebrill 2026 ymlaen.  

Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau yn y daflen wybodaeth Tâl Salwch Statudol. Ceir hefyd ganllawiau defnyddiol ynghylch sut mae gwahanol fathau o gyflogaeth yn effeithio ar gymhwystra ar gyfer Tâl Salwch Statudol.

Contractau Dim Oriau 

Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi diwedd ar hyblygrwydd unochrog a Chontractau Dim Oriau sy'n camfanteisio gan sicrhau bod pob swydd yn darparu sylfaen ddiogel a rhagweladwy fel y gall gweithwyr gynllunio eu bywydau a'u cyllid yn well. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno cyfres o fesurau i gyflawni hyn gan gynnwys:

  • yr hawl i oriau wedi'u gwarantu
  • rhybudd rhesymol o ran sifftiau
  • iawndal am sifftiau a gaiff eu canslo

Mae'r newidiadau hyn hefyd yn gymwys i weithwyr asiantaeth. Disgwylir iddynt ddod i rym o 2027 ymlaen yn dilyn cynnal ymgynghoriad yn 2026.

Ceir rhagor o wybodaeth am y newidiadau yn y daflen wybodaeth Contractau Dim Oriau.

Creu'r Asiantaeth Gwaith Teg

Bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn cael ei sefydlu yn Asiantaeth Weithredol o'r Adran Fusnes a Masnach, ac iddi swyddogaethau gweinyddol. Bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn dwyn ynghyd swyddogaethau gorfodi presennol y wladwriaeth (ee CThEF a Fisâu a Mewnfudo y DU) ac yn goruchwylio cydymffurfiaeth o ran yr isafswm cyflog, tâl gwyliau a thâl salwch. Dros amser, bydd hefyd yn gyfrifol am orfodi ystod ehangach o hawliau cyflogaeth. Y nod yw y bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn dod yn un lle y gall gweithwyr a chyflogwyr droi ati am help.

Bydd yr Asiantaeth Gwaith Teg yn cael ei sefydlu ym mis Ebrill 2026, ond heb unrhyw bwerau gorfodi i ddechrau.

Ceir rhagor o wybodaeth yn y daflen wybodaeth Asiantaeth Gwaith Teg.

Mynediad cryfach i undebau llafur a throthwyon cydnabyddiaeth is

Mae Llywodraeth y DU yn diddymu Deddf yr Undebau Llafur 2016 a Deddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) 2023. Bydd hyn yn diweddaru deddfwriaeth bresennol undebau llafur ac yn ailosod cysylltiadau diwydiannol rhwng undebau, cyflogwyr a gweithwyr. Bydd diddymu Deddf yr Undebau Llafur 2016 yn golygu y bydd hawliau mynediad undebau llafur yn ehangu a bydd trothwyon cydnabyddiaeth yn gostwng. Bydd hyn yn debygol o gynyddu gweithgarwch undebau, cydfargeinio a thrafodaethau yn y gweithle.

Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau yn y daflen wybodaeth undebau llafur.

Mesurau eraill yn y Ddeddf 

Gallwch fynd i wefan Llywodraeth y DU i gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 2025 a thaflenni ffeithiau am fesurau eraill sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf, gan gynnwys profedigaeth, absenoldeb tadolaeth ac absenoldeb rhiant di-dâl, gweithio'n hyblyg, a diswyddo annheg.