Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 (y Ddeddf) yn darparu y bydd isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol gan bersonau penodol yng Nghymru. Mae hefyd yn ei gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi am bris is na hynny ac yn sefydlu trefn orfodi dan arweiniad awdurdodau lleol. 

Mae’r Nodiadau Esboniadol yn rhoi esboniad o ddarpariaethau unigol y Ddeddf, lle bo angen:

Darllenwch yr Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adrannau 26 i 30 i rym ar 10 Awst 2018, sef y diwrnod ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae adran 28(2) o’r ddeddf yn darparu bod y darpariaethau eraill yn dod i rym pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud un neu ragor o orchmynion.

Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu gwneud: 

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog dros Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol (ar y pryd) ar 23 Hydref 2017, ac fe’i pasiwyd gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar 19 Mehefin 2018.

Mwy o wybodaeth am Ddeddf a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd ar senedd.cymru.

Mae’r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Senedd Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):

Cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018.