Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023: adroddiad blynyddol Gweinidogion Cymru 2024 i 2025
Sut y cwrddodd Gweinidogion Cymru â’u dyletswydd i ymgynghori â Chyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar benderfyniadau strategol dros y flwyddyn ddiwethaf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Gosodir yr adroddiad hwn gerbron y Senedd yn unol â dyletswydd Gweinidogion Cymru o dan adran 19(3)(b) o Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("y Ddeddf").
Dyletswyddau o dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ("y Ddeddf")
Gwnaed y Ddeddf ar 24 Mai 2023 gan roi sail statudol i waith partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru.
Sefydlodd y Ddeddf y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG) sy'n darparu cyngor a gwybodaeth i Weinidogion Cymru ar waith partneriaeth gymdeithasol, y gwaith o gyflawni nod llesiant "Cymru Lewyrchus", a chaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r CPG yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, cynrychiolwyr cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr yng Nghymru.
Mae adran 17 o'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymgynghori â'r CPG wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch y camau rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn eu cymryd i gyflawni eu hamcanion llesiant a osodir o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae hyn yn caniatáu i'r CPG gael llais uniongyrchol yn y gwaith o lunio'r penderfyniadau strategol hynny ac i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Mae adran 19 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol, adroddiad ynglŷn â’r hyn y maent wedi ei wneud i gydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir o dan adran 17. Rhaid cytuno ar yr adroddiad gyda'r CPG neu gynnwys datganiad yn egluro pam na chytunwyd arno. Rhaid cyhoeddi'r adroddiad, ei gyflwyno i'r CPG a'i osod gerbron y Senedd. Mae'r gofynion hyn yn rhoi cyfle i'r CPG gwestiynu dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar faterion o fewn ei gylch gwaith a sicrhau atebolrwydd.
Daeth y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol sydd ar Weinidogion Cymru i rym ar 1 Ebrill 2024 ac mae'r adroddiad hwn, y cyntaf i gael ei gyhoeddi o dan y ddyletswydd, yn cwmpasu'r flwyddyn ariannol 2024/25.
Yng nghyfarfod cyntaf y CPG ar 1 Chwefror 2024, amlinellodd y Prif Weinidog ar y pryd y dull gweithredu arfaethedig mewn perthynas â chyflawni'r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol sydd ar Weinidogion Cymru a osodir gan adran 17 o'r Ddeddf a chytunodd y Cabinet ac, wedi hynny, y CPG arno. Mae'r dull gweithredu y cytunwyd arno yn golygu y byddai'r ddyletswydd o dan adran 17 yn cael ei chyflawni drwy ymgynghori â'r CPG bob blwyddyn ynghylch y tri sbardun cyffredinol i gyflawni Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn strategol:
- asesu cynnydd drwy'r adolygiad blynyddol o amcanion llesiant
- y rhaglen ddeddfwriaethol flynyddol, a
- blaenoriaethau o ran y gyllideb flynyddol.
Ymgynghori â'r CPG gan Weinidogion Cymru (mis Ebrill 2024 hyd fis Mawrth 2025)
Mae Gweinidogion Cymru wedi cyflawni'r ddyletswydd hon ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25 drwy ymgynghori â'r CPG ar ei ddwy eitem gyntaf yng nghyfarfod 4 Mehefin 2024 y CPG ac ar flaenoriaethau cyllidebol yng nghyfarfod 30 Medi 2024 y CPG. Roedd yr ymgyngoriadau hyn yn caniatáu i aelodau'r CPG gymryd rhan ar gam ffurfiannol o'r broses gwneud penderfyniadau ar gyflawni tri sbardun cyffredinol y Rhaglen Lywodraethu.
Mae manylion cyfarfod mis Mehefin ar gael yma: Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 4 Mehefin 2024: cofnodion. Mae manylion cyfarfod mis Medi ar gael yma: Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 30 Medi 2024: cofnodion.
Yr adolygiad blynyddol o'r amcanion llesiant
Cafwyd trafodaeth gadarnhaol ar yr adolygiad o amcanion llesiant Llywodraeth Cymru yng nghyfarfod y CPG ym mis Mehefin 2024 a chyflwyniad ysgrifenedig pellach gan aelodau'r undeb llafur. Cytunodd yr aelodau fod rhaid i Waith Teg fod wrth wraidd yr hyn a wnawn.
Yn ystod blwyddyn gyntaf y ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol, gwnaethom gydnabod na fyddem yn gallu cael trafodaeth mor gyflawn ag yr hoffem ei chael, gyda'r CPG ond yn cael ei gyfle cyntaf i drafod yr amcanion llesiant ym mis Mehefin, a'r adroddiad blynyddol yn gorfod cael ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf.
Roedd y safbwyntiau a ddarparwyd gan aelodau'r CPG yn ymwneud â geiriad a chwmpas yr amcanion a oedd yn nodi ystod o ffyrdd o fwrw ymlaen â'r adolygiad o'r amcanion llesiant. Bydd eu safbwyntiau hefyd yn llywio gweithredoedd Gweinidogion Cymru ac yn gwneud y mwyaf o'u cyfraniad at y nodau llesiant.
Ysgrifennodd Sarah Murphy AS, y Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol ar y pryd, at y CPG ym mis Gorffennaf 2024 yn cydnabod bod y materion a godwyd gan aelodau'r CPG yn fewnbwn hanfodol i ystyriaethau ehangach ar gyflawni wrth symud ymlaen, er bod y Cabinet wedi dod i'r casgliad y byddent yn cadw'r amcanion llesiant presennol.
Mae manylion cyfarfod mis Gorffennaf ar gael yma: Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: 10 Gorffennaf 2024. Mae'r llythyr a gyhoeddwyd sy'n ymdrin ag amcanion llesiant i'w weld yma: Llythyr at aelodau'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: amcanion lles.
Y rhaglen ddeddfwriaethol flynyddol
Ymgynghorwyd â'r CPG ar y rhaglen ddeddfwriaethol arfaethedig cyn iddi gael ei hystyried gan y Cabinet. Deddfwriaeth yw un o'r prif ysgogiadau sydd gan y Llywodraeth i weithredu newid a gall gael effaith sylweddol ar fywydau dinasyddion. Dyna pam yr oedd hi mor bwysig bod y Prif Weinidog ar y pryd yn gallu trafod blaenoriaethau deddfwriaethol â'r CPG cyn cwblhau'r rhaglen ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, nodwyd, ar adeg y drafodaeth, ein bod eisoes ychydig dros 3 blynedd i mewn i'r rhaglen 5 mlynedd bresennol, ac roedd ffocws Llywodraeth Cymru bellach ar sicrhau cyflawni blaenoriaethau deddfwriaethol a oedd eisoes yn cael eu datblygu.
Rhoddwyd trosolwg o'r holl Filiau arfaethedig i'r aelodau a chanolbwyntiodd y drafodaeth ar y Bil Bysiau gan fod yr aelodau yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y mae system drafnidiaeth gyhoeddus dda yn ei chael ar y gweithlu. Ymrwymodd y Prif Weinidog ar y pryd i hysbysu'r aelodau ar adeg lansio'r ymgynghoriad Cam 1 ar y Bil hwnnw (a gyhoeddodd yn y Senedd yn ei ddatganiad deddfwriaethol ar 9
Gorffennaf). Nododd y byddai'r Bil yn gosod y cyfeiriad cyffredinol ond y byddai materion fel hygyrchedd a chydraddoldeb o ran y dull ar gyfer trafnidiaeth ledled Cymru yn faterion ar gyfer yr is-ddeddfwriaeth o dan y Bil, a oedd yn allweddol o ran cyflawni. Roedd y drafodaeth hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru, gydag aelodau yn gweld rhinweddau yn yr holl Filiau arfaethedig. Cafodd barn y CPG ei chyflwyno i'r Cabinet a'r Gweinidogion Bil perthnasol fel rhan o gwblhau'r rhaglen ddeddfwriaethol cyn datganiad y Prif Weinidog ar y pryd i'r Cyfarfod Llawn.
Mae'r cofnodion ar gyfer y drafodaeth hon wedi'u cyhoeddi yma: Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 30 Medi 2024: cofnodion.
Y blaenoriaethau o ran y gyllideb flynyddol
Ymgynghorwyd â'r CPG ar y dull gweithredu mewn perthynas â'r Gyllideb Flynyddol ar 30 Medi gan y Prif Weinidog, a roddodd hefyd drosolwg i aelodau'r CPG o'r ymarfer gwrando cyhoeddus a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru dros yr haf.
Trafododd yr aelodau y ffordd orau o rymuso staff i sicrhau gwelliannau o ran cyflawni.
Llywiodd barn aelodau'r CPG nid yn unig benderfyniadau ar flaenoriaethau cyllidebol i gefnogi'r amcanion llesiant, ond hefyd gyngor i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ar ei gwaith ynghylch syniadau tymor canolig i dymor hirach am ddull gweithredu newydd o ran Adolygiad Gwariant Cymru. Roedd hyn yn gam pwysig ar ein taith at bartneriaeth.
Roedd y CPG yn flaenorol wedi cael cyfle cynnar, yn ei gyfarfod cyntaf ym mis Chwefror 2024, i drafod cyllideb ddrafft y flwyddyn flaenorol gyda'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd, cyn iddi gael ei chyhoeddi. Yn y cyfarfod hwn, diolchodd yr aelodau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am y trafodaethau a oedd eisoes wedi'u cynnal gyda phartneriaid cymdeithasol, gan gydnabod y penderfyniadau anodd a wynebwyd gan Weinidogion Cymru wrth osod y gyllideb ddrafft. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ymgysylltiad parhaus y CPG yn y broses o osod y gyllideb flynyddol.
Mae'r cofnodion ar gyfer y drafodaeth hon wedi'u cyhoeddi yma: Cyfarfod Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol, 30 Medi 2024: cofnodion
