Neidio i'r prif gynnwy

Nodau a methodoleg

Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (y Ddeddf) i rym ym mis Mai 2023. Mae'r Ddeddf yn cyflawni ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu i roi sail statudol i bartneriaethau cymdeithasol yng Nghymru (Llywodraeth Cymru (LlC), 2021), gan ddarparu fframwaith ar gyfer gwella llesiant drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol a hyrwyddo gwaith teg. Mae'r Ddeddf hefyd yn newid sut mae gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei ddyrannu a'r ffyrdd y mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu caffael drwy gaffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Ar ddiwedd cyfnod ôl-weithredu o bum mlynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adrodd i'r Senedd ar ganfyddiadau o werthusiad ynghylch sut mae'r Ddeddf wedi gweithio ac a yw wedi cyflawni'r hyn yr oedd wedi’i fwriadu. Nod cyffredinol yr ymchwil a gyflwynir yma yw cefnogi darpariaeth gwerthuso ôl-weithredu'r Ddeddf, drwy ddatblygu theori newid fel y cam cyntaf wrth sefydlu fframwaith ar gyfer ymchwil yn y dyfodol. 

Mae'r theori newid a gyflwynwyd yn y prif adroddiad yn disgrifio pam mae’r Ddeddf yn angenrheidiol a'r hyn y mae'n anelu at ei gyflawni. Wrth wneud hyn, mae'r theori newid yn sefydlu'r adnoddau, y mewnbynnau, y gweithgareddau a'r allbynnau sydd eu hangen er mwyn i'r Ddeddf gyflawni ei heffeithiau disgwyliedig. Mae'r risgiau a'r rhagdybiaethau sy'n sail i wireddu'r theori newid, y gofynion data a'r ffynonellau posibl ar gyfer monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y Ddeddf, hefyd wedi'u hamlinellu.

At ei gilydd, mae'r theori newid yn darparu asesiad o'r amodau cyn y Ddeddf y gellir mesur newid a chynnydd ohonynt. Bydd y theori newid yn llywio datblygiad fframwaith gwerthuso, gan ddarparu sail y gall gwerthuswyr yn y dyfodol asesu sut mae'r Ddeddf wedi ei gweithredu a pha allbynnau mae'n eu cynhyrchu (er enghraifft, gwerthuso prosesau); a monitro a gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth yn gadarn dros ei 5 mlynedd gyntaf.

Mae'r theori newid sylfaenol wedi'i chrynhoi mewn pedwar model rhesymeg sy'n ymdrin â darpariaethau allweddol y Ddeddf: y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol (CPG), y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol (DPG), Gwaith Teg, a Chaffael Cyhoeddus Cymdeithasol Gyfrifol. Datblygwyd y modelau rhesymeg yn fewnol yn gyntaf gydag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru; Yna, cafodd y modelau rhesymeg ar gyfer yr CPG, DPG a Gwaith Teg eu profi a’u mireinio ymhellach mewn gweithdy gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol, gan gynrychioli Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, busnesau ac undebau llafur. Nid oedd yn bosibl profi'r model rhesymeg caffael gyda rhanddeiliaid oherwydd y nifer isel o ymatebion i'r gwahoddiad i’r gweithdy ar gyfer y ddarpariaeth hon.  

Cynhaliwyd yr ymchwil rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Mehefin 2023, oedd yn gorgyffwrdd â chyfnod pan oedd y Ddeddf (Bil ar y pryd) yn dal i fod yn destun craffu gan y Senedd. Datblygwyd y modelau rhesymeg drafft a gynhyrchwyd gydag arweinwyr polisi Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2022 yn ystod Cyfnod 2 y Bil. Cynhaliwyd y gweithdy i randdeiliaid ym mis Mawrth 2023, ar ôl trafodion Cyfnod 4 y Bil.

Canfyddiadau

Yn gyffredinol, roedd cyfranogwyr gweithdy’r rhanddeiliaid yn cefnogi'r canlyniadau a gyflwynwyd yn y modelau rhesymeg cychwynnol. Mae’r adborth ychwanegol gan gyfranogwyr wedi ei grynhoi isod.

Dyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol

  • Awgrymodd cyfranogwyr y gallai budd ychwanegol yn sgil y Ddeddf gynnwys lleihau anghydraddoldebau cymdeithasol ac yn y gweithle.
  • Roedd galwadau am integreiddio di-dor â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Er mwyn cyflawni'r canlyniadau a fwriadwyd, argymhellodd cyfranogwyr fwy o gyfranogiad gan y gweithlu; mwy o ymgysylltu gan gyflogwyr a'r llywodraeth; canllawiau statudol i egluro'r newidiadau disgwyliedig; a fframwaith sylfaenol ar gyfer adrodd yn y dyfodol.
  • Roedd y cyfranogwyr o’r farn bod addysg a hyfforddiant yn hanfodol i helpu cyflogwyr a gweithwyr i ddeall egwyddorion partneriaeth gymdeithasol.
  • Nododd cyfranogwyr risgiau hefyd i gyflawni'r DPG yn llwyddiannus. Roedd y risgiau hyn yn cynnwys dealltwriaeth gyfyngedig o’r Ddeddf Llesiant ymhlith cyflogwyr a gweithwyr; heriau gwleidyddol sy'n rhwystro ymgysylltu â rhanddeiliaid; cyfyngiadau oherwydd pwerau datganoledig; cyfranogiad tocenistaidd gan gyfranogwyr; cyfyngiadau amser ac adnoddau; ac anghydbwysedd dylanwad posibl ymhlith partneriaid.

Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol

  • Mynegodd y cyfranogwyr bryderon y gallai natur lefel uchel y canlyniadau ei gwneud hi'n anodd i'r rhai sy'n ymwneud â'r CPG nodi'r hyn a ddisgwylir ganddynt.
  • Argymhellodd y cyfranogwyr y dylai'r Ddeddf egluro cyfrifoldebau gwahanol grwpiau ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yng Nghymru.
  • Awgrymwyd hefyd fod angen i wahaniaethau rhwng yr CPG a'r DPG fod yn gliriach.
  • I gyfranogwyr, gallai ychwanegu canlyniadau lefel is i'r theori newid helpu i egluro nodau a gwerthoedd yr CPG, a'r hyn a ddisgwylir gan randdeiliaid.
  • Cynigiodd cyfranogwyr ddyraniad adnoddau, addysg, arweiniad a hyfforddiant i gefnogi partneriaid cymdeithasol a sicrhau effeithiolrwydd yr CPG.
  • Ymhlith y risgiau i i gynnal CPG llwyddiannus a nodwyd gan gyfranogwyr roedd cyngor gan yr CPG nad oedd o ansawdd digonol; colli manteision deialog groes ymhlith grwpiau rhanddeiliaid; cyfyngiadau adnoddau; ac o bosibl, diffyg dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth ymhlith rhanddeiliaid.

Gwaith Teg

  • Awgrymodd y cyfranogwyr y dylid ymgorffori Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol o fewn y ddarpariaeth Gwaith Teg ar gyfer gwell atebolrwydd.
  • Cynigiodd y cyfranogwyr y dylid integreiddio â’r Ddeddf Llesiant fel nod arall ar gyfer y ddarpariaeth Gwaith Teg.
  • O ran y cyfranogwyr, dylid cynnwys lleisiau'r rhai y mae'r Ddeddf yn effeithio arnynt wrth asesu canlyniadau at ddibenion gwerthuso yn y dyfodol.
  • Ymhlith y gweithgareddau arfaethedig a awgrymwyd gan gyfranogwyr y gweithdy i gyflawni'r canlyniadau Gwaith Teg a fwriadwyd oedd rhannu arferion gorau ar draws sectorau; Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth i sefydliadau ddeall eu gweithlu'n well; a hyrwyddo addysg ar Waith Teg.
  • Roedd y risgiau a nodwyd gan gyfranogwyr fel rhai a allai effeithio ar gyflawni darpariaeth Gwaith Teg y Ddeddf, yn cynnwys pryderon ynghylch effaith bosibl amodau economaidd ehangach ar degwch yn y gweithle; heriau o ran cydbwyso'r Ddeddf â'r ddeddfwriaeth bresennol; pryderon am ymgysylltu tocenistaidd â rhanddeiliaid; a chostau a llwyth gwaith cynyddol i fusnesau.

Monitro a gwerthuso yn y dyfodol

Fel casgliad i ymchwil theori newid, argymhellir ystyried y canlynol wrth ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer adolygiad ôl-weithredu cyfnod pum mlynedd y Ddeddf:

  1. Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru gytuno ar y fframwaith gwerthuso pan fo'n rhesymol bosibl, yn rhannol er mwyn caniatáu digon o amser i gaffael ei chamau cyntaf. Dylid cadarnhau'r cyllid sydd ei angen ar gyfer y gwahanol elfennau gwerthuso erbyn y flwyddyn ariannol yn fuan ar ôl i'r Ddeddf gael ei gweithredu.
  2. Dylid penodi contractwyr allanol i ymgymryd ag agweddau allweddol ar yr ymchwil. Gallai'r gofyniad dan gontract gynnwys cynnal asesiad gwerthuso ac astudiaeth gwaelodlin, gan adeiladu ar y dadansoddiad theori newid a gyflwynwyd yn yr adroddiad hwn, fel cam cynnar wrth gynllunio a chynnal yr adolygiad ôl-weithredu.
  3. Gellid datblygu fframwaith gwerthuso o amgylch tri cham cwmpasu a chynllunio gwaith gwerthuso (a allai gynnwys asesiad gwerthuso ac astudiaeth gwaelodlin); gwerthuso proses; ac fel y cam olaf, gwerthusiad effaith.
  4. Dylid ailedrych ar y modelau rhesymeg a gynhyrchir fel rhan o'r theori newid yn rheolaidd wrth i'r Ddeddf ddatblygu. Dylid ailedrych ar y model rhesymeg ar gyfer caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol fel gweithgaredd gwerthuso cynnar, i gynnwys craffu allanol ar bartneriaid.
  5. Dylai'r adolygiad ôl-weithredu, lle bo'n bosibl, leihau'r baich ac osgoi dyblygu o ran casglu data. Dylid datblygu dull cydweithredol a systematig o gasglu data sy'n gweithio i osgoi dyblygu a defnyddio prosesau casglu data sefydledig neu gylchoedd adrodd (er enghraifft, trwy'r CPG) gymaint â phosibl. Dylid amlinellu prosesau adrodd, ochr yn ochr ag ystyriaethau ar sut y gellir rhannu data orau â gwerthuswyr, fel rhan o waith pennu cwmpasu a chynllunio’r gwerthuso.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Rhaglen Ymchwil Fewnol

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Kate Mulready
Rhaglen Ymchwil Fewnol
Ebost: RhYF.IRP@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 113/2023
ISBN digidol 978-1-83504-963-1

Image
GSR logo