Canlyniadau manwl a throsolwg o’r fethodoleg ar gyfer amcangyfrif y nifer o achosion o gosb gorfforol yn erbyn plant a gofnodwyd gan yr heddlu, sy'n ymwneud â Deddf Plant (Cymru) 2020.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Data monitro ar gyfer Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020
Daeth Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 ('y Ddeddf') i rym ar 21 Mawrth 2022. Mae'r Ddeddf yn diddymu'r amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin o 'gosb resymol' a oedd ar gael o'r blaen i rieni a'r rhai sy'n gweithredu in loco-parentis fel amddiffyniad i gyhuddiadau o ymosod ar neu guro plentyn.
Cyhoeddwyd yr adolygiad ôl-weithredu 3 blynedd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: synthesis tystiolaeth a data) ar 16 Rhagfyr 2025. Mae'r synthesis yn seiliedig ar amrywiaeth eang o ffynonellau data ac ymchwil, gan gynnwys data gan Heddluoedd yng Nghymru, lle bo data o'r fath ar gael.
Mae'r adroddiad hwn yn ategu'r amcangyfrif yr achosion o gosb gorfforol yn erbyn plant lefel uchel a gyhoeddwyd yn yr adolygiad ôl-weithredu 3 blynedd o'r Ddeddf. Hefyd, mae’n darparu disgrifiad lefel uchel o'r fethodoleg a ddefnyddiwyd.
Adroddiadau
Adroddiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 336 KB
Cyswllt
Ymchwil Plant a Theuluoedd
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
