Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o ddata sy'n ymwneud â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.

Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi dau adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol dair a phum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027).

I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data a gasglwyd am yr ail gyfnod o 12 mis ar ôl gweithredu'r Ddeddf, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

Prif ganfyddiadau

  • Cafodd 125 o unigolion eu hatgyfeirio am gymorth rhianta y tu allan i'r llys yn y flwyddyn adrodd hon.
  • Manteisiodd 115 o unigolion newydd ar y cynnig o gymorth rhianta a pharhaodd 20 o unigolion i ddefnyddio’r cymorth o'r flwyddyn adrodd flaenorol.
  • O'r 135 unigolion hyn, cwblhaodd 110 o unigolion y sesiynau yn llawn. Mae 20 o unigolion wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol.
  • Adroddodd 90 o'r unigolion a gwblhaodd y sesiynau ganlyniad cadarnhaol mewn holiadur a ddosbarthwyd ôl iddynt gwblhau’r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Data monitro cymorth rhianta y tu allan i'r llys, Ebrill 2023 i Fawrth 2024 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 47 KB

XLSX
47 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dan Boon

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.