Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: Ebrill 2025 i Fawrth 2026
Data am cymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys, atgyfeiriadau i'r gwasanaethau Cymdeithasol, ac i’r Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS).
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.
Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi 2 adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol 3 a 5 mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027). Cyhoeddwyd yr adolygiad ôl-weithredu tri blynedd Deddf ar 16 Rhagfyr 2025 (Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020: adroddiad synthesis.
I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data a gasglwyd am y pedwerydd gyfnod o 12 mis ar ôl gweithredu'r Ddeddf, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.
Dylid dehongli’r data yn ofalus o ystyried eu bod yn ymwneud â blwyddyn yn unig. Mae'r holl rifau sy'n ymwneud â chymorth rhianta y tu allan i'r llys yn cael eu talgrynnu i'r 5 agosaf i leihau unrhyw risg o ddatgelu data. Oherwydd bod y niferoedd yn cael eu talgrynnu i'r 5 agosaf, gall swm unrhyw ganrannau ddod i fwy na 100%.
Prif bwyntiau
Yn y cyfnod mis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026:
- cafodd 130 o unigolion eu hatgyfeirio am gymorth rhianta y tu allan i'r llys yn y flwyddyn adrodd hon
- manteisiodd 120 o unigolion newydd ar y cynnig o gymorth rhianta a pharhaodd 15 o unigolion i ddefnyddio’r cymorth o'r flwyddyn adrodd flaenorol
- o'r 135 unigolion yn ddefnyddio’r cymorth, cwblhaodd 105 o unigolion y sesiynau yn llawn
- mae 25 o unigolion wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol; datgysylltodd 10 o unigolyn o’r gefnogaeth yn y flwyddyn adrodd hon
- adroddodd 90 o'r unigolion a gwblhaodd y sesiynau ganlyniad cadarnhaol mewn holiadur a ddosbarthwyd ôl iddynt gwblhau’r sesiynau; nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd
Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys
Yn ystod y pedwerydd flwyddyn ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, roedd 130 o atgyfeiriadau newydd am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys ledled Cymru gan yr heddlu.
Rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026, dewisodd 120 o unigolion newydd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta. Roedd 15 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol, ac wedi parhau i ddefnyddio’r cymorth rhwng mis Ebrill 2025 a mis Mawrth 2026. O'r 135 unigolion hyn, mae 105 wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn ac mae 25 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol. Datgysylltodd 10 o unigolyn o’r gefnogaeth.
O'r unigolion a oedd yn defnyddio'r cymorth rhianta rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026, nododd 89% o'r unigolion eu bod yn y grŵp "Gwyn" a 5% yn y grŵp “Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd Asiaidd”. Dywedodd llai na 5 unigolyn eu bod yn y grwpiau "Grwpiau ethnig cymysg neu lluosog", "Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig" neu "Grŵp ethnig arall". Roedd 55% yr unigolion yn fenywod a 45% yn ddynion. Canran yr unigolion anabl oedd 5%.
Derbyniodd llai na 5 unigolion y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl dweud mai dyma oedd eu dewis.
Gofynnir i'r unigolion sy'n manteisio ar y cymorth rhianta lenwi holiadur a ddosberthir gan awdurdodau lleol ar ôl iddynt gwblhau'r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 90 o’r unigolion a lenwodd yr holiadur wedi adrodd canlyniad cadarnhaol. Mae canlyniad cadarnhaol yn cael ei ddiffinio fel gwelliant yn ymddygiad y plentyn, neu welliant o ran lles neu effeithiolrwydd rhieni.
Atgyfeiriadau i'r gwasanaethau cymdeithasol
Bydd data ar atgyfeiriadau i gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2025 i fis Mawrth 2026 yn cael eu hychwanegu yn ddiweddarach. Bydd hwn yn cynnwys:
- nifer y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol sy'n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol
- nifer yr asesiadau a gwblhawyd gan wasanaethau cymdeithasol sy'n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol
Gwasanaeth Erlyn y Goron
Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yng Nghymru yn monitro achosion yn ymwneud â’r Ddeddf. Mae hwn yn cynnwys:
- nifer yr achosion sy’n cael eu hatgyfeirio atynt
- nifer y cyhuddiadau
- y canlyniadau’r achosion hyn
Ni ellir cyhoeddi ffigurau sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau at y CPS yng Nghymru. Mae hyn oherwydd bod nifer yr achosion a adroddwyd yn llai na phump, a allai beri risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol.
Gwybodaeth gefndir
Amcan cyffredinol y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd eu cosbi’n gorfforol, a hynny drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn golygu nad yw’r amddiffyniad ar gael bellach o fewn tiriogaeth Cymru i rieni na’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis (yn gweithredu â chyfrifoldeb rhiant), fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod cyffredin ar blentyn neu guro plentyn sydd yn eu gofal.
Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ers mis Mawrth 2022. Cafodd y grant ei greu wrth baratoi ar gyfer y Ddeddf yn dod i rym. Mae’n ariannu cymorth rhianta, wedi’i deilwra y gall yr heddlu atgyfeirio pobl ato fel dewis arall yn lle erlyniad mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu ei bod hi'n briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys.
Mae'r awdurdodau lleol yn cofnodi data ynghylch nifer yr atgyfeiriadau am gymorth rhianta a geir gan yr heddlu, yn ogystal â’r cyfraddau ar gyfer yr unigolion sy’n manteisio ar y cymorth, yn ei gwblhau, a’r canlyniadau i unigolion. Hefyd, caiff data demograffig, geisiadau ar gyfer yr ymyrraeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ac atgyfeiriadau nad ydynt gan yr heddlu eu casglu. Mae crynodeb o’r data hyn am y pedwerydd flwyddyn ers i’r Ddeddf ddod i rym yn cael ei gyflwyno isod. Mae rhai unigolion wedi datgysylltu o'r gefnogaeth cyn cwblhau'r sesiynau, heb unrhyw fwriad o gwblhau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gallai nifer yr unigolion sydd wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn neu yn rhannol fod yn llai na chyfanswm yr unigolion a ddewisodd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Datganiad o gydymffurfiaeth â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau
Mae ein hymarfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR). OSR sy'n gosod y safonau o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol gydymffurfio â nhw.
Mae ein holl ystadegau yn cael eu cynhyrchu a'u cyhoeddi yn unol â nifer o ddatganiadau a phrotocolau i wella dibynadwyedd, ansawdd a gwerth. Mae'r rhain wedi'u nodi yn Natganiad Cydymffurfiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae'r ystadegau swyddogol (OSR) hyn yn dangos y safonau a ddisgwylir o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus yn y ffyrdd canlynol. Mae hyn yn berthnasol i'r holl ystadegau yn y datganiad hwn ar wahân i'r rhai sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau gwasanaethau cymdeithasol sy'n ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad (OSR). Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am ystadegau gwasanaethau cymdeithasol a'u dosbarthiad yn y datganiad ystadegol gweithgareddau gwasanaethau cymdeithasol, a’r adroddiad ansawdd.
Dibynadwyedd
Lluniwyd y datganiad gan ystadegwyr sy'n gweithio o dan oruchwyliaeth Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr ystadegau, y data a'r deunyddiau esboniadol yn cael eu cyflwyno'n ddiduedd ac yn wrthrychol.
Mae'r ystadegau hyn yn cael eu casglu o amrywiaeth o ffynonellau. Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y casgliad data hwn ar 21 Mawrth 2022 ac mae'n cael ei gasglu gan awdurdodau lleol bob chwe mis. Mae data ar gysylltiadau ac asesiadau gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu casglu gan Lywodraeth Cymru drwy wybodaeth reoli gan wasanaethau cymdeithasol, a daw data atgyfeiriadau CPS o CPS.
Ansawdd
Caiff y ffigurau cyhoeddedig a gyflwynir eu llunio gan ddadansoddwyr proffesiynol drwy ddefnyddio'r data diweddaraf sydd ar gael a chymhwyso dulliau gan ddefnyddio eu barn broffesiynol a'u sgiliau dadansoddi. Mae ystadegau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru yn glynu wrth y Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol sy'n ategu elfen ansawdd y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ac egwyddorion ansawdd allbynnau ystadegol y System Ystadegol Ewropeaidd.
Mae Llywodraeth Cymru yn casglu data ar gyfer Ffurflen Monitro Data Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Mae awdurdodau lleol yn llenwi ffurflenni ar sail y data sydd wedi’u storio ar eu systemau TG priodol ac yn dychwelyd y ffurflenni wedi'u cwblhau i Lywodraeth Cymru drwy e-bost. Canllawiau a diffiniadau a ddarperir i awdurdodau lleol ar gyfer y data y mae’n ofynnol iddynt eu cyflwyno. Mae’r data’n dibynnu ar awdurdodau lleol yn cadw cofnodion cywir ond mae’r systemau wedi’u hen sefydlu ac yn ddibynadwy.
Mae ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn cynnal archwiliadau dilysu ac yn cyfeirio ymholiadau at awdurdodau lleol lle bo angen. Er bod ffurflen fonitro'r Grant Cymorth Rhianta y Tu Allan i'r Llys wedi cael ei dilysu'n fewnol, gofynnir am ddata’r CPS a data atgyfeiriadau gwasanaethau cymdeithasol gan y CPS a’r tîm ystadegau gwasanaethau cymdeithasol, yn y drefn honno. Yna, mae’r datganiad ystadegol yn cael ei ddrafftio a'i gymeradwyo gan uwch ystadegwyr ac yn cael ei gyhoeddi yn unol â’r datganiad ar gyfrinachedd a gweld data sy’n seiliedig ar y golofn dibynadwyedd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.
Gwerth
Pwrpas y datganiad ystadegol yw darparu tystiolaeth ar gyfer gweithredu polisi, caniatáu i awdurdodau lleol fonitro eu hatgyfeiriadau yn erbyn pob awdurdod lleol arall yng Nghymru, a rhoi gwybod i'r cyhoedd yn ehangach am atgyfeiriadau sy'n ymwneud â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Mae amseroldeb y data yn golygu bod yr wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei darparu gan ddefnyddio data dibynadwy. Mae sicrhau bod yr wybodaeth hon ar gael yn y ffurflen hon yn darparu un ffynhonnell ddiffiniol o ddata ar yr atgyfeiriadau, a'r defnydd o gymorth rhianta, mewn perthynas â Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
Mae croeso ichi gysylltu â ni yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn. Fel arall, gallwch gysylltu â'r OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy fynd i'w gwefan.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ymchwil plant a theuluoedd
E-bost: ymchwil.plantatheuluoedd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR: 83/2026
