Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o Ddeddf Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) 2026, ei gynnydd trwy'r Senedd a'r is-ddeddfwriaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 (‘y Ddeddf’) yn sefydlu cynllun sgorio hylendid bwyd i Gymru. Mae’r cynllun yn darparu bod awdurdodau bwyd yng Nghymru yn arolygu sefydliadau busnes bwyd yn ardaloedd yr awdurdodau ac yn llunio sgoriau hylendid bwyd y sefydliadau hynny.

Mae sgôr hylendid bwyd i’w lunio drwy sgorio safonau hylendid bwyd sefydliad yn erbyn meini prawf a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (“ASB”).

Caiff sefydliad busnes bwyd apelio yn erbyn ei sgôr hylendid bwyd a gwneud sylwadau amdani.
Rhaid i awdurdod bwyd hysbysu’r ASB am sgôr hylendid bwyd sefydliad yn ei ardal, a rhaid i’r ASB gyhoeddi’r sgôr.

Rhaid i sefydliad busnes bwyd hysbysu’r cyhoedd am ei sgôr hylendid bwyd.

Mae methu â hysbysu’r cyhoedd yn drosedd, y gellid ei chosbi drwy ddirwy neu gosb benodedig.
O dan amgylchiadau penodol caiff sefydliad busnes bwyd ofyn am ail-bennu ei sgôr.

Mae’r Ddeddf hefyd yn nodi pwerau a chyfrifoldebau awdurdodau bwyd a’r ASB a chyfrifoldebau gweithredwyr sefydliadau busnes bwyd.

Mae’r Nodiadau Esboniadol i’r Ddeddf yn rhoi sylwebaeth fanwl ar y darpariaethau amrywiol:

Darllenwch y Ddeddf yn llawn:

Dod i rym

Daeth adran 27 (Cychwyn) i rym ar ddiwedd y cyfnod o 2 fis sy’n dechrau â’r diwrnod y cafodd y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir drwy orchymyn sydd i’w wneud gan Weinidogion Cymru, yn unol ag adran 27(2).

Mae’r Gorchmynion canlynol wedi eu gwneud:

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf

Is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan y Ddeddf
EnwRhifDyddiad gwnaedDyddiad dod i rymDogfennau ategol
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016 ar legislation.gov.uk2016 Rhif 429 (Cy. 138)18 Mawrth 201628 Tachwedd 20162016 Rhif 429 (Cy. 138): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig) ar senedd.cymru
Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 ar legislation.gov.uk2013 Rhif 2903 (Cy. 282)12 Tachwedd 2013

28 Tachwedd 2013

Daeth Rheoliad 8 i rym ar 28 Tachwedd 2014.

2013 Rhif 2903 (Cy. 282): Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig ar senedd.cymru)

Ystyriaeth y Senedd o’r ddeddfwriaeth

Cyflwynwyd y Bil ar 28 Mai 2012 gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd. Cafodd y Bil ei basio gan Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru bryd hynny) ar 22 Ionawr 2013.

Mwy o wybodaeth am y Bil a gofnod o hynt y Bil trwy'r Senedd (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd) ar senedd.cymru.

Mae'r Memorandwm Esboniadol a luniwyd gan Lywodraeth Cymru (fel y cafodd ei ddiwygio ar ôl Cyfnod 2):