Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n cymharu defnydd o orsafoedd trenau, ar gyfer pob gorsaf fesul llinell neu lwybr ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Pwyntiau allweddol

Image
Yn 2021-22, roedd cynnydd yn nifer y cofnodion ac allanfeydd ym mhob gorsaf reilffordd ledled Cymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Cynyddodd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn 2021-22 (1 Ebrill 2021 i 31 Mawrth 2022) i 29.0 miliwn o 8.7 miliwn yn y flwyddyn flaenorol (2020-21). Fodd bynnag, arhosodd yn sylweddol is na'r 50.4 miliwn a gofnodwyd yn ystod 2019-20 (cyn pandemig COVID-19).
  • Mae cyfanswm y bobl a aeth i mewn ac allan o orsafoedd yng Nghymru wedi mwy na threblu rhwng 2020-21 a 2021-22 (o 8.7 miliwn i 29.0 miliwn) sy'n adlewyrchu llacioar y cyfyngiadau teithio a osodwyd o ganlyniad i'r pandemig.
  • Arhosodd y defnydd o orsafoedd rheilffyrdd yn is na'r lefelau cyn y pandemig, gyda'r defnydd yn 2021-22 42% yn is nag yn 2019-20.
  • Yn 2021-22, roedd cynnydd yn nifer y mynediadau ac ymadawiadau ym mhob gorsaf ledled Cymru o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
  • Caerdydd Canolog yw'r orsaf brysuraf yng Nghymru o hyd sy'n cyfrif am dros chwarter holl fynediadau ac ymadawiadau i orsafoedd.
  • Y defnydd o orsafoedd rheilffordd yng Nghymru sy'n gyfrifol am oddeutu 1.6% o gyfanswm y DU.

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael drwy ein dangosfwrdd, gellir dod o hyd i dablau ar StatsCymru.

Adroddiadau

Defnydd gorsafoedd rheilffordd: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

James Khonje

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.