Neidio i'r prif gynnwy

Sut i gael gofal iechyd llygaid brys a rheolaidd gan optometrydd GIG Cymru Manylion

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Problemau llygaid brys

Os oes gennych broblem llygaid sydd angen sylw brys, cysylltwch yn uniongyrchol â'ch optometrydd (optegydd) lleol. Mae optometryddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymwysedig sy'n rhoi diagnosis o broblemau iechyd llygaid a'u trin. Mae'r mwyafrif o bractisau optometreg yng Nghymru yn cynnig gwasanaethau iechyd llygaid y GIG. Gallwch fynd i'ch practis arferol neu gysylltu ag unrhyw optometrydd ar y stryd fawr sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG. 

Os oes gennych broblemau llygaid brys y tu allan i oriau, cysylltwch â GIG 111 Cymru

Mae triniaeth y GIG ar gyfer problemau iechyd llygaid ar gael yn rhad ac am ddim. Dyma enghreifftiau o broblemau llygaid brys:

  • golwg sy’n troi’n aneglur neu’n niwlog yn sydyn
  • golwg sy'n dirywio
  • goleuadau'n fflachio
  • brychau neu smotiau tywyll yn y maes golwg
  • llygaid sy’n teimlo’n goslyd neu fel petai grut/tywod ynddynt
  • llygad sy’n waetgoch, yn boenus neu’n gochlyd
  • cur pen/pen tost
  • amrant chwyddedig neu byfflyd
  • crafiad ar y llygad
  • llygad yn smicio/twitsio

Profion llygaid rheolaidd ac atal

Mae profion llygaid rheolaidd yn sicrhau bod problemau'n cael eu canfod yn gynnar, gan amddiffyn eich golwg ac adnabod cyflyrau difrifol fel glawcoma, diabetes a phwysedd gwaed uchel. Dylech gael prawf llygaid bob 2 flynedd, neu'n amlach os bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i wneud hynny.

Profion llygaid y GIG am ddim

Yng Nghymru, mae profion llygaid y GIG ar gael yn rhad ac am ddim ar gyfer: 

  • plant hyd at 16 oed
  • pobl ifanc o dan 19 oed mewn addysg amser llawn

Mae GIG Cymru hefyd yn rhoi sbectol i blant sydd angen un yn rhad ac am ddim.