Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn edrych ar gyflawniadau disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, gan gynnwys gwybodaeth yn ôl rhyw a lefel cyflawniad ar gyfer 2018.

Newidiadau i Feysydd Dysgu y Cyfnod Sylfaen

Cafodd y Meysydd Dysgu diwygiedig eu cyflwyno ar sail statudol o fis Medi 2015 ymlaen. Golyga hyn mai’r cohort o blant a ddechreuodd yn y Derbyn ym mis Medi 2015 fydd yr un cyntaf i gael ei asesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau ar eu newydd wedd ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn haf 2018.

Felly, dylai cymariaethau o ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen gyda blynyddoedd blaenorol gael eu hosgoi gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymharol.

Newidiadau i gyhoeddi’r ystadegau yma ar lefel is na Chymru

Yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddiadau asesiadau athrawon yn y dyfodol, ni fydd y adroddiad ystadegol hwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia.

Prif bwyntiau

Deilliannau’r Cyfnod Sylfaen

Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn cyflawni'r deilliant disgwyliedig o 5 neu’n uwch ym mhob maes dysgu, o 93.4% yn 'Natblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol' i  84.0% yn 'Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (Saesneg)' yn 2018.

Cyfnod Allweddol 2

Cyflawnodd y mwyafrif o ddisgyblion o leiaf y lefel disgwyliedig (Lefel 4) neu’n uwch ym mhob pwnc, o 92.1% yng Ngwyddoniaeth i 89.7% yng Nghymraeg yn 2018.

Cyfnod Allweddol 3

Mae mwy na 9 allan o bob 10 disgybl yn cyflawni o leiaf y lefel disgwyliedig (lefel 5) neu’n uwch ym mhob pwnc yn 2018, o 93.8% yng Nghymraeg i 91.2% yn Saesneg.

Gwahaniaethau Rhyw

Perfformiodd merched yn well na bechgyn ym mhob pwnc craidd/maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar ddiwedd y ddau Gyfnod Allweddol.

Data pellach

Bydd dadansoddiad pellach o'r canlyniadau a ddangosir yn y datganiad yma yn ôl rhyw a lefel cyrhaeddiad ar gael ar StatsCymru.

Adroddiadau

Deilliannau’r cyfnod syflaen ac asesiadau athrawon o cynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 884 KB

PDF
884 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.