Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn edrych ar gyflawniadau disgyblion yn y pynciau di-graidd yng Nghyfnod Allweddol 2 a 3 ar gyfer 2018.

Mae’r ystadegau ar gyrhaeddiad ym mhynciau di-graidd yn cynnwys data terfynol ar gyfer asesiadau athrawon Cymru 2018.

Newidiadau i gyhoeddi’r ystadegau yma ar lefel is na Chymru

Yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddiadau asesiadau athrawon yn y dyfodol, ni fydd y adroddiad ystadegol hwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia.

Pwyntiau allweddol

Cyfnod Allweddol 3

  • Ers 2017 gwelwyd cynnydd yng nghanran y disgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig ym mhob pwnc. Gwelwyd y cynnydd mwyaf yng Nghymraeg Ail Iaith (0.7 pwynt canran) a’r gostyngiad mwyaf yn Ieithoedd Tramor Modern (0.3 pwynt canran).
  • Ar gyfartaledd, roedd canran y disgyblion a gyrhaeddodd y lefel ddisgwyliedig yn y pynciau di-graidd yn 2018 0.2 pwynt canran yn uwch nag yn 2017. Mae cyfradd y cynnydd wedi disgyn dros y pum mlynedd diwethaf.
  • Ym mhob pwnc, cyrhaeddodd canran uwch o ferched na bechgyn y lefel ddisgwyliedig. Gwelwyd y bwlch mwyaf rhwng merched a bechgyn mewn Cymraeg Ail Iaith (11.9 pwynt canran) a’r bwlch lleiaf yn Addysg Gorfforol (2.0 pwynt canran).

Cyfnod Allweddol 2

  • Mae’r canran o ddisgyblion a gyflawnodd y lefel ddisgwyliedig (Lefel 4) neu uwch wedi cynyddu pob blwyddyn ers 2011. Yn 2018 cyflawnodd 81.3% o ddisgyblion y lefel disgwyliedig neu uwch yng Nghymraeg Ail Iaith, cynnydd o 0.4% o’i gymharu â 2017.

Data pellach

Bydd dadansoddiad pellach o'r canlyniadau a ddangosir yn y datganiad hwn yn ôl rhyw a lefel cyrhaeddiad ar gael ar StatsCymru.

Adroddiadau

Asesiadau athrawon o bynciau di-graidd y Cwricwlwm Cenedlaethol, 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 446 KB

PDF
446 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.