Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma'r tro cyntaf inni gyfrifo enillion prentisiaethau. Mae'r dulliau a ddefnyddir yma yn newydd ac arbrofol.

Mae'r ystadegau yn yr erthygl hon ond yn cynnwys prentisiaid a arhosodd ar eu prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn, o fis Ebrill i fis Mawrth, a hynny er mwyn sicrhau bod gennym ddata enillion blwyddyn gyfan.

Mae’r cyfraddau llwyddiant yn yr erthygl hon yn uwch na’r cyfartaledd, am nad ydynt yn cynnwys dysgwyr a adawodd cyn diwedd y flwyddyn ariannol.

Y prif bwyntiau

  • Roedd dysgwyr a oedd yn ennill llai yn llai tebygol o gwblhau eu prentisiaeth yn llwyddiannus ym mlwyddyn academaidd 2021/22.
  • Cyn pandemig COVID-19 a'r argyfwng costau byw, roedd y gyfradd lwyddiant i brentisiaid yn debyg ar gyfer pob lefel o enillion.
  • Rhwng 2018/19 a 2021/22 gwelwyd y gostyngiad mwyaf yn y gyfradd lwyddiant ymhlith prentisiaid a oedd yn ennill llai na £15,000.
  • Ni ellir esbonio'r gyfradd lwyddiant is ymhlith dysgwyr a oedd yn ennill llai yn llwyr gan y math o brentisiaethau a ddilynwyd na demograffeg y dysgwyr.
  • Ymhlith prentisiaid cyflog isel a oedd yn byw mewn cymdogaethau difreintiedig, roedd y cyfraddau llwyddiant yn is nag ymhlith prentisiaid cyflog isel a oedd yn byw mewn cymdogaethau llai difreintiedig.
  • Mae'r dystiolaeth hon yn ategu'r ddamcaniaeth bod costau byw yn ffactor pwysig wrth ystyried dysgwyr na chwblhaodd eu prentisiaethau yn 2021/22.

Cyfradd lwyddiant prentisiaethau yn ôl enillion

Ffigur 1: Roedd cyfraddau llwyddiant is ymhlith prentisiaid a oedd yn ennill llai yn 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart yn dangos cyfraddau llwyddiant is ymhlith dysgwyr a oedd yn ennill llai yn ystod eu prentisiaeth yn 2021/22. Yn 2018/19, roedd y gyfradd lwyddiant yn fwy tebyg ar draws lefelau enillion gwahanol.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol

[Nodyn 1] Nid yw prentisiaid nad oeddent mewn prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn (Ebrill 2018 neu 2021 hyd at y mis Mawrth canlynol) wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn.

[Nodyn 2] Mae'r enillion yn cynnwys incwm y dysgwr o bob cyflogaeth, nid dim ond ei brentisiaeth. Nid ydynt yn cynnwys enillion hunangyflogedig.

[Nodyn 3] Ni fesurwyd deilliannau yn 2019/20 a 2020/21 oherwydd y tarfu yn sgil y pandemig.

Mae'r data i'w gweld yn Nhabl 1 y daenlen ategol

Roedd y gostyngiad yng nghyfraddau llwyddiant prentisiaethau rhwng 2018/19 a 2021/22 yn fwy i brentisiaid a oedd yn ennill llai na £15,000. Roedd yn llai i brentisiaid oedd yn ennill mwy na £30,000.

I ddysgwyr a oedd yn ennill rhwng £15,000 a £30,000, nid oedd ennill mwy yn gysylltiedig â chyfraddau llwyddiant uwch.

Yn 2021/22, ymhlith prentisiaid a oedd yn ennill llai na £10,000, roedd cyfradd lwyddiant o 76%, o gymharu â 94% ymhlith prentisiaid a oedd yn ennill y swm cyfatebol yn 2018/19.

Ymhlith prentisiaid a oedd yn ennill rhwng £32,500 a £35,000, roedd cyfradd lwyddiant o 92% yn 2021/22, o gymharu â 97% yn 2018/19.

Demograffeg

Ffigur 2: Cyfradd lwyddiant prentisiaethau yn ôl enillion ymhlith grwpiau dethol â chyfraddau llwyddiant is yn 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart yn dangos, o fewn gwahanol grwpiau, mai ymhlith dysgwyr a oedd yn ennill llai na £15,000 yn ystod eu prentisiaeth yr oedd y cyfraddau llwyddiant isaf. Roedd hyn yn wir ar gyfer grwpiau a nodwyd fel rhai a brofodd y gostyngiad mwyaf mewn cyfraddau llwyddiant yn yr adroddiad Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion: prentisiaethau sylfaen, prentisiaethau mewn Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal, prentisiaid sy'n byw yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig, a phrentisiaid 20 i 24 oed.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol, Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019

[Nodyn 1] Nid yw prentisiaid nad oeddent mewn prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn (Ebrill 2021 hyd at y mis Mawrth canlynol) wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn.

[Nodyn 2] Mae'r enillion yn cynnwys incwm y dysgwr o bob cyflogaeth, nid dim ond ei brentisiaeth. Nid ydynt yn cynnwys enillion hunangyflogedig.

Mae'r data i'w gweld yn Nhabl 2 y daenlen ategol

Ni ellir esbonio'r gyfradd lwyddiant is ymhlith dysgwyr a oedd yn ennill llai yn llwyr gan y math o brentisiaethau a ddilynwyd na demograffeg y dysgwyr.

Ymhlith prentisiaid sy'n byw yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig yng Nghymru, y gyfradd lwyddiant ar gyfer y rhai a oedd yn ennill llai na £15,000 oedd 71%. Cyrhaeddodd y gyfradd lwyddiant 84% ar gyfer y rhai a oedd yn ennill rhwng £15,000 ac £20,000.

Mewn prentisiaethau Iechyd, Gwasanaethau Cyhoeddus a Gofal yr oedd y cyfraddau llwyddiant isaf yn 2021/22. Ymhlith y rhai a astudiodd am y flwyddyn ariannol lawn, y gyfradd lwyddiant oedd 82%, ond i brentisiaid yn y sector a oedd yn ennill llai na £15,000, y gyfradd lwyddiant oedd 74%.

Dosbarthiad o enillion

Ffigur 3: Canran y prentisiaid ym mhob band enillion yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart yn dangos bod 24% o brentisiaid yn y data yn ennill llai na £15,000, 46% yn ennill rhwng £25,000 a £34,999, a 10% yn ennill mwy na £35,000. Mae’r enillion yn wahanol yn ôl prentisiaeth, oedran, p’un a oedd yr unigolyn eisoes yn cael ei gyflogi gyda’r un cyflogwyr cyn dechrau’r brentisiaeth, a sector y cyflogwr.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol

[Nodyn 1] Nid yw prentisiaid nad oeddent mewn prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn (Ebrill 2021 hyd at y mis Mawrth canlynol) wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn.

[Nodyn 2] Mae'r enillion yn cynnwys incwm y dysgwr o bob cyflogaeth, nid dim ond ei brentisiaeth. Nid ydynt yn cynnwys enillion hunangyflogedig.

Mae'r data i'w gweld yn Nhabl 3 y daenlen ategol

Mae'r prentisiaid a oedd yn fwy tebygol o ennill llai na £15,000 yn cynnwys:

  • prentisiaethau sylfaen
  • prentisiaethau'r sector preifat
  • prentisiaid dan 20 oed
  • prentisiaid nad oeddent eisoes yn gweithio i'w cyflogwr cyn iddynt ddechrau ar eu prentisiaeth
  • prentisiaid sy'n byw yn y 10% o gymdogaethau mwyaf difreintiedig.

Roedd 9 o bob 10 prentis a gynhwyswyd yn y data hyn eisoes yn gweithio i'w cyflogwr cyn iddynt ddechrau ar eu prentisiaeth.

Roedd 1 o bob 12 prentis yn y data hyn yn ennill llai na £10,000 yn 2021-22.

Ffigur 4: Canran y prentisiaid a oedd yn ennill llai na £15,000 yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 fesul sector

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart yn dangos bod enillion prentisiaid yn wahanol iawn ar draws sectorau. Roedd 84% o brentisiaid a oedd yn gweithio ym maes Gwallt a Harddwch yn ennill llai na £15,000, o gymharu â 6% o brentisiaid ym maes Busnes, Gweinyddu a'r Gyfraith.

Ffynhonnell: Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru, Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol

[Nodyn 1] Nid yw prentisiaid nad oeddent mewn prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn (Ebrill 2021 hyd at y mis Mawrth canlynol) wedi'u cynnwys yn yr ystadegau hyn.

[Nodyn 2] Mae'r enillion yn cynnwys incwm y dysgwr o bob cyflogaeth, nid dim ond ei brentisiaeth. Nid ydynt yn cynnwys enillion hunangyflogedig.

Mae'r data i'w gweld yn Nhabl 3 y daenlen ategol

Prentisiaid Gwallt a Harddwch, ac Addysg a Hyfforddiant oedd fwyaf tebygol o fod yn ennill llai na £15,000. Yr enillion cyfartalog (canolrifol) i brentisiaid Gwallt a Harddwch oedd £10,100.

Roedd llai na 15% o brentisiaid Busnes, Gweinyddu a'r Gyfraith; Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu; ac Amaethyddiaeth, Garddwriaeth a Gofal Anifeiliaid yn ennill llai na £15,000.

Tuedd yn y data

Mae'r data yn yr erthygl hon ond yn cynnwys prentisiaid a oedd yn eu prentisiaeth am y flwyddyn ariannol gyfan, o fis Ebrill i fis Mawrth. Ar gyfer 2021/22, mis Ebrill 2021 i fis Mawrth 2022 fyddai hyn. Mae hyn yn golygu bod prentisiaid yn y set ddata hon yn fwy tebygol o gwblhau eu prentisiaeth na'r prentis cyffredin, am fod llawer o brentisiaid wedi gadael cyn mis Mawrth.

Cyfradd lwyddiant prentisiaid yn y data hyn oedd 83% ar gyfer 2021/22. Y gyfradd lwyddiant o gyfrif pob prentis yn 2021/22 oedd 66%.

Mae'n bosibl bod gwir effeithiau incwm isel yn fwy eithafol nag a nodir yma oherwydd y gogwydd hwn tuag at gyfraddau llwyddiant uwch. Efallai bod gogwydd hefyd yn nosraniad yr enillion, er enghraifft os oedd llawer o enillwyr is eisoes wedi rhoi'r gorau iddi cyn mis Mawrth.

Mae data enillion yr Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol yn cynnwys dyddiadau cyfnod cyflogaeth, ond nid oes modd priodoli'r enillion hyn i gyflogwr penodol. Cafodd prentisiaid nad oeddent yn eu prentisiaeth am y flwyddyn ariannol gyfan eu heithrio er mwyn sicrhau nad oedd incwm dysgwr ar ôl gadael ei brentisiaeth yn effeithio ar yr enillion.

Cyd-destun enillion prentisiaethau

Caiff cyflog prentisiaid ei bennu gan eu cyflogwr.

Rhaid i brentisiaid 16 i 18 oed, neu brentisiaid hŷn ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth gael o leiaf yr isafswm cyflog prentisiaid. £4.30 yr awr oedd hyn ym mlwyddyn ariannol 2021-22, sy'n cyfateb i £8,400 y flwyddyn os oedd y prentis yn gweithio wythnosau 37.5 awr.

Llywodraeth y DU sy'n pennu isafswm cyflog prentisiaid.

Mae gan brentisiaid sy'n 19 oed hawl i'r isafswm cyflog cenedlaethol/cyflog byw ar ôl cwblhau eu blwyddyn gyntaf. £8.91 oedd hyn i weithwyr 23 oed a hŷn yn 2021-22, sy'n cyfateb i £17,400 y flwyddyn.

Caiff prentisiaid eu talu am eu horiau gwaith a'u horiau astudio.

Yn y data hyn, mae holl enillion prentis yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol wedi'u cynnwys, ac eithrio enillion hunangyflogedig. Os oedd gan ddysgwr ail swydd, byddai'r enillion hynny'n cael eu cynnwys yn y ffigurau hyn.

Nodiadau

Mae'r holl ddata a gynhwysir yn yr adroddiad hwn i'w gweld yn y daenlen ategol.

Gellir dod o hyd i ragor o ddata ar ddeilliannau prentisiaethau yn yr adroddiad Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion:Awst 2021 i Orffennaf 2022. Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth allweddol o ansawdd am sut mae cyfraddau llwyddiant prentisiaethau yn cael eu mesur.

Mae'r adroddiad Defnyddio hanes unigolion o ran prydau ysgol am ddim fel dangosydd amddifadedd mewn perthynas â deilliannau prentisiaethau a chyfleoedd dysgu oedolionAwst 2021 i Orffennaf 2022 yn archwilio sut mae cymhwysedd am brydau ysgol am ddim yn y gorffennol yn gysylltiedig â'r gostyngiad mewn deilliannau yn 2021/22.

Yn adroddiadau Mesurau perfformiad cyson ar gyfer dysgu ôl-16 (cyrchfannau dysgwyr), mae mwy o wybodaeth am ddata'r Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol a ddefnyddiwyd i greu'r erthygl hon.

Ffynonellau data

Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru - dyma'r ffynhonnell swyddogol o ystadegau ar ddysgwyr mewn lleoliadau dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yng Nghymru. Mae darparwyr cyfleoedd dysgu yn cyflwyno'r data i Lywodraeth Cymru. Cânt eu casglu ar sail dreigl. Mae'r data a ddefnyddir ar gyfer ystadegau swyddogol yn cael eu casglu ym mis Rhagfyr ar ôl diwedd y flwyddyn academaidd berthnasol.

Astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol, mae hyn yn cysylltu data dysgu â data cyflogaeth ac enillion Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi.

Daw'r wybodaeth am gyflogaeth ac enillion o ddata P45 a P14. Mae'r data hyn yn cynnwys y rhai sy'n talu treth drwy gynllun Talu Wrth Ennill wrth i gyflogwyr gyflwyno P45 a P14, neu drwy lenwi ffurflen dreth hunanasesiad. Diben craidd y broses hon yw casglu treth gan y rhai sy'n gymwys i'w thalu drwy'r mecanwaith hwn, ac felly nid yw'n cwmpasu pawb. Nid yw'n ofynnol i gyflogwyr ddarparu gwybodaeth i CThEF am unigolion sy'n ennill llai na'r trothwy treth, ond credir bod yr unigolion hyn yn cael eu cynnwys gan gyflogwyr mawr oherwydd dulliau trosglwyddo data.

Dechreuodd CThEF weithredu ar sail Gwybodaeth Amser Real ym mis Ebrill 2013. Mae Gwybodaeth Amser Real yn cynnig gwelliannau sylweddol i'r system P45 o ran cwmpas data gan fod yn rhaid i gyflogwyr nawr ddarparu gwybodaeth am eu holl weithwyr os telir hyd yn oed un cyflogai uwchlaw'r Terfyn Enillion Isaf. Bydd symud i system Gwybodaeth Amser Real yn golygu bod mwy o ddata ar gael am y blynyddoedd ariannol diweddaraf.

Set Ddata Addysg Gydlynol - mae hyn yn cysylltu setiau data am ddysgwyr ar wahanol adegau o'u cofnod addysgol. Mae'n cysylltu cofnodion sy'n mynd yn ôl i 2010/11. Caiff ei diweddaru bob blwyddyn.

Y dull o gyfrifo enillion

Mae'r dull a ddefnyddir yn yr erthygl hon yn newydd ac arbrofol. Dyma'r tro cyntaf inni ddefnyddio data incwm cysylltiedig. O ganlyniad, mae risg uwch o gamgymeriad yn y data a'r dull a ddefnyddir i gynhyrchu'r ystadegau nag mewn adroddiadau ystadegol eraill gan Lywodraeth Cymru.

Cyfrifwyd data deilliannau prentisiaethau yn unol â'r dulliau a amlinellir yn adroddiad Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion:Awst 2021 i Orffennaf 2022.

Yna cafodd prentisiaid yn y data hyn eu cysylltu â data cyflogaeth ac incwm yn yr astudiaeth o Ddeilliannau Addysg Hydredol. Roedd y data incwm yn cynnwys pob math o gyflogaeth a gofnodwyd drwy gynllun Talu Wrth Ennill, gan gynnwys incwm o gyflogaeth heblaw am eu prentisiaeth. Ni chynhwyswyd incwm hunangyflogedig.

Cyfrifwyd enillion blynyddol ar sail enillion dyddiol ar hyd cyfnod cyflogaeth y dysgwr yn ystod y flwyddyn ariannol (Ebrill - Mawrth).

Cafodd prentisiaid nad oeddent yn eu prentisiaeth am y flwyddyn ariannol gyfan eu heithrio o'r dadansoddiad. Gwnaed hyn er mwyn sicrhau nad oedd incwm dysgwr ar ôl gadael ei brentisiaeth yn effeithio ar y canlyniad.

Addasu yn ôl chwyddiant

Lle nodir bod data wedi'u haddasu yn ôl chwyddiant, cymhwyswyd ffactor addasu o 6.28% i ddata 2018/19. Mae hyn yn seiliedig ar gyfartaledd misol mynegai tai perchen-feddianwyr y Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar draws blynyddoedd ariannol 2018-19 a 2021-22.

Cynyddodd chwyddiant yn sylweddol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 a pharhaodd i godi ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Enillwyr yn y dosbarth enillion uchaf

Cyfrifwyd enillion blynyddol ar sail hyd y cyfnod cyflogaeth a gofnodwyd yn nata CThEF. Mewn rhai achosion, nid oedd union hyd y cyfnod yn hysbys, ac felly cofnodwyd enillion blynyddol uwch nag yr oeddent yn ôl pob tebyg.

Oherwydd hyn, dylid trin ffigurau'r dosbarth enillion uchaf yn ofalus.

Mae lle i gredu bod 30 o'r dysgwyr yn y dosbarth enillion uchaf ar gyfer 2021-22 wedi gorddatgan eu henillion. Mae hyn yn cynrychioli ychydig yn llai na 10% o ddysgwyr yn y dosbarth £35,000 neu fwy.

Enillion anhysbys

Ni ellid nodi data enillion 5% o'r prentisiaid a oedd mewn prentisiaeth am y flwyddyn ariannol lawn. Mae'r prentisiaid hyn wedi'u heithrio o'r cyfrifiadau o ddosbarthiad enillion. 

Cyfradd lwyddiant prentisiaethau

Rhaid i ddysgwyr ar raglenni prentisiaeth yng Nghymru ennill ystod o gymwysterau i gyflawni eu prentisiaeth, a elwir yn fframwaith prentisiaethau.

Y gyfradd lwyddiant yw canran y rhai sy'n gadael prentisiaeth wedi cyflawni'r fframwaith yn llawn.

Talgrynnu

Mae niferoedd y prentisiaethau wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Mae'r costau ariannol wedi’u talgrynnu i’r £100 agosaf. Mae'r canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Mae'r canrannau sy'n seiliedig ar enwadur o lai na 23 wedi cael eu cuddio er mwyn diogelu cyfrinachedd unigolion, yn ogystal â ffigurau sy'n seiliedig ar lai na 5 o ddysgwyr.

Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau unigol lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a’u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ystadegau swyddogol sy'n cael eu datblygu
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu’r data a ddefnyddir
  • rhesymau eraill a nodir

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond efallai ei fod yn seiliedig ar
‌allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl ‌cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad yn cael ei gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymariaethau â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellid defnyddio’r dadansoddiad, a disgrifiad o’r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau'n ddarostyngedig i'r arferion cyhoeddi fel y'u diffinnir gan yr protocol arferion cyhoeddi, ac felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ‑a bennir ymlaen llaw yn yr un modd ag allbynnau ystadegol eraill.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Thomas Rose
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol