Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Bydd y rhan hon o’r Llawlyfr Democratiaeth Cymru yn rhoi gwybodaeth ichi am yr hyn y mae’r gyfraith yn ei fynnu o ran rôl cynghorydd mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a’r ffordd y caiff cynghorwyr eu cefnogi. I wneud hyn, bydd y pynciau canlynol yn cael eu hegluro:

  • beth yw cynghorydd
  • beth yw rôl cynghorydd
  • sut y mae pobl yn dod yn gynghorwyr
  • pwy sy’n penderfynu faint o gynghorwyr sydd ar gyfer pob ardal
  • a yw cynghorwyr yn cael tâl am eu gwaith
  • sut y mae disgwyl i gynghorwyr ymddwyn
  • pa gefnogaeth y mae cynghorwyr yn ei chael i’w helpu yn eu rôl

Beth yw cynghorydd?

Cynghorwyr yw’r bobl sy’n cynnig eu hunain i gynrychioli pobl leol mewn ardal benodol yng Nghymru. Fel arfer, yr ardal y maent yn byw ynddi yw hon. Bydd maint yr ardal a gynrychiolir yn dibynnu ar ba fath o gyngor y caiff y cynghorydd ei ethol iddo, cyngor sir / bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned / tref. Gellir ethol cynghorwyr i’r ddau fath o gyngor. Cyfeirir at y cynghorwyr hyn yn aml fel cynghorwyr dwy het. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o gynghorau yn Rhan 1 y llawlyfr hwn.

Pwy sy’n penderfynu faint o gynghorwyr sydd ym mhob ardal?

Bob blwyddyn mae newidiadau i’r boblogaeth, diwylliant ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol ar draws cymunedau yng Nghymru. Nid yw’r newidiadau hyn yr un fath ym mhob man, er enghraifft, mae rhai ardaloedd yn gweld cynnydd yn y boblogaeth tra bo eraill yn gweld gostyngiad. Mae’n bosibl y bydd y gwahaniaethau sy’n deillio o’r newidiadau hyn dros amser yn effeithio ar faint o gynghorwyr a allai fod eu hangen ar gyfer ward benodol (at ddibenion etholiadau mae ardaloedd cyngor yn cael eu rhannu’n wardiau).

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am benderfynu faint o gynghorwyr sydd ym mhob cyngor sir a bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy broses statudol a elwir yn adolygiad etholiadol. Cafodd y rhaglen ddiweddaraf o adolygiadau ei chwblhau yn 2021 cyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022.

Pwrpas adolygiadau rheolaidd o drefniadau etholiadol yw lleihau effaith newid cyson drwy sicrhau bod pob cynghorydd lleol mewn cyngor yn cynrychioli tua’r un nifer o bobl, cyn belled ag y bo modd.

Fel rhan o’r broses adolygu, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori ag ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y weithdrefn a’r dull y mae’n bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer yr adolygiad. Yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu ar y niferoedd priodol ar gyfer y cyngor sir yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

Ar ddiwedd yr adolygiad, mae’r Comisiwn yn cyflwyno adroddiad sy’n cynnwys ei argymhellion i Weinidogion Cymru ei ystyried.

Beth yw rôl cynghorydd?

Mae gan bob cynghorydd amrywiaeth o gyfrifoldebau, ond yn sylfaenol, rôl cynghorydd yw gweithio gyda chymunedau i wneud y lle mae’n ei gynrychioli yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Cynghorwyr yw’r cyswllt rhwng y cyhoedd a’r cyngor y maent yn aelod ohono. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau a all gynnwys:

  • cynrychioli buddiannau gorau pawb sy’n byw yn yr ardal neu’r ward y maent wedi’u hethol ynddi
  • hyrwyddo materion lleol a dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau
  • gweithio tuag at weledigaeth gymunedol ar y cyd â sefydliadau partner
  • datrys gwrthdaro rhwng mudiadau cymunedol
  • llunio atebion i broblemau cymunedol
  • cydbwyso’r galw am adnoddau sy’n cystadlu â’i gilydd
  • cyfrannu at ddadleuon a thrafodaethau am flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi
  • craffu ar, neu astudio, penderfyniadau penodol gan arweinwyr y cyngor neu’r polisïau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd
  • cymryd rhan ym mhrosesau'r cyngor megis penderfynu ar geisiadau cynllunio neu drwyddedu

Mae cynghorwyr yn cyflawni’r cyfrifoldebau hyn drwy:

  • fynd i gyfarfodydd y cyngor a chyfarfodydd eraill, gwrando ar wahanol safbwyntiau cyd-gynghorwyr ac eraill a phleidleisio fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau
  • cynrychioli a chwrdd â’r bobl a’r grwpiau buddiant yn yr ardal y maent yn ei chynrychioli a delio â’r materion y maent yn eu codi. Gall hyn gynnwys ymweld â busnesau a gwasanaethau yn y gymuned leol
  • cynnal cymorthfeydd i alluogi etholwyr i rannu eu barn, nodi problemau a gofyn am help

Y rolau sydd gan gynghorwyr

Mae nifer o rolau y gall cynghorwyr ymgymryd â nhw, gan gynnwys:

Arweinydd y Cyngor

Caiff ei ethol gan y cyngor llawn ac mae’n gyfrifol am gyfeiriad ac amcanion cyffredinol y cyngor ac am sicrhau bod yr amcanion hynny’n cael eu cyflawni. Yr arweinydd yw prif lefarydd gwleidyddol y cyngor ac mae ganddo rôl allweddol yn cynrychioli barn y cyngor i’r cyhoedd a’r sefydliadau y mae’r cyngor yn gweithio gyda nhw i gyflawni ei amcanion.

Mae’r arweinydd hefyd yn gyfrifol am benodi grŵp o bobl i’w gefnogi, drwy fod yn gyfrifol am ran benodol o fusnes y cyngor, er enghraifft addysg, yr amgylchedd neu ofal cymdeithasol. Cyfeirir at hyn yn aml fel cyfrifoldeb portffolio. Gyda’i gilydd, cyfeirir at y grŵp hwn o bobl fel y Cabinet. Mae rhagor o wybodaeth am waith y Cabinet ar gael yn Rhan 4.

Aelodau portffolio mewn cabinet

Caiff y rhain eu penodi gan Arweinydd y Cyngor i fod yn gyfrifol am faes o fusnes y cyngor. Maent yn gweithio’n agos gyda’r uwch-swyddogion yn y maes portffolio gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros y broses o wneud penderfyniadau am faterion yn y maes hwnnw a chymryd rhan ynddi. Mae eu rôl yn cynnwys cyflwyno adroddiadau i’r Cabinet, mynd i bwyllgorau priodol y cyngor, cynrychioli safbwynt y cyngor a’r cabinet mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau allanol, cysylltu’n rheolaidd ag arweinwyr grwpiau eraill ar faterion portffolio a chefnogi’r arweinydd a’r tîm rheoli i fonitro perfformiad y cyngor.

Cadeirydd Pwyllgor

Mae pwyllgor yn cynnwys grŵp bach o aelodau’r cyngor. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau’n sefydlu pwyllgorau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf un pwyllgor craffu, pwyllgor llywodraethu ac archwilio, pwyllgor trwyddedu a phwyllgor cynllunio. Gall cynghorau sefydlu pwyllgorau eraill sy'n angenrheidiol i gefnogi gwaith y cyngor, yn eu barn nhw.

Rôl Cadeirydd pwyllgor, boed hwnnw'n bwyllgor statudol neu’n anstatudol, yw sicrhau bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn briodol ac yn unol â’r safonau disgwyliedig fel yr amlinellir yn y rheolau sefydlog (llyfr rheolau’r cyngor ar gyfer sut y bydd yn cynnal ei fusnes). Mae’r Cadeirydd hefyd yn gyfrifol am gytuno ar fusnes ac amcanion cyfarfod, gan sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn cyd-fynd â chyfrifoldebau’r pwyllgor a threfnu bod y cyhoedd yn cael cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn unol â gweithdrefnau cytunedig y cyngor.

Aelod pwyllgor

Mae pob aelod o bwyllgor yn dod ag ystod o wybodaeth a phrofiad gyda nhw i’w defnyddio wrth drafod yr eitemau ar yr agenda. Disgwylir i aelodau gymryd rhan lawn yn y cyfarfod, gwrando ar yr hyn sydd gan eraill i’w ddweud, cyfrannu’n gadarnhaol at y drafodaeth a rhoi sylwadau yn ôl yr angen.  

Pwy gaiff fod yn gynghorydd?

Caiff bron unrhyw un fod yn gynghorydd. Nid oes unrhyw ofynion i gynghorwyr feddu ar gymwysterau penodol, na bod â phrofiad penodol. Yr hyn sy’n allweddol i fod yn gynghorydd yw diddordeb yn y gymuned y mae'n byw ynddi a brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu am y materion sy’n effeithio ar bobl leol.

Ni chaiff unigolion fod yn gynghorwyr os ydynt yn fethdalwyr, os oes ganddynt gofnod troseddol a oedd yn cynnwys dedfryd o garchar o dri mis neu fwy o fewn cyfnod o bum mlynedd cyn ceisio cael eu hethol, neu os oes ganddynt swydd o dan gyfyngiadau yn eu cyngor neu mewn cyngor arall. Mae swydd o dan gyfyngiadau’n golygu swydd fel Prif Weithredwr neu uwch-reolwr. Ystyrir bod swyddi o’r fath o dan gyfyngiadau oherwydd byddai sefyll mewn etholiad, heb ymddiswyddo yn gyntaf, yn golygu bod yr unigolyn hwnnw mewn sefyllfa fanteisiol o’i gymharu ag ymgeiswyr eraill a gallai hefyd arwain at anawsterau wrth gynnal busnes y cyngor.

Pa sgiliau sydd eu hangen ar gynghorydd?

Nid oes angen i gynghorydd feddu ar unrhyw gymwysterau penodol; fodd bynnag mae’r wybodaeth/sgiliau canlynol yn fuddiol i gynghorwyr eu cael neu eu datblygu. Nid oes disgwyl i gynghorydd feddu ar yr holl sgiliau hyn pan gaiff ei ethol am y tro cyntaf. Darperir cefnogaeth datblygu a hyfforddi i bob cynghorydd i’w helpu i gyflawni ei rôl.

Dyma enghreifftiau o wybodaeth neu sgiliau defnyddiol:

  • ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a chynrychioli etholwyr
  • gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n gwella cymunedau ac ardal y cyngor yn gyffredinol
  • gallu ystyried ystod eang o wybodaeth
  • cynnal meddwl gwrthrychol a dadansoddol
  • bod yn bendant a meddwl yn gyflym
  • gallu craffu ar wybodaeth/data a dod i benderfyniad neu gasgliad rhesymegol
  • gallu cyfathrebu ag etholwyr o bob oed a chefndir mewn modd cyfartal, cwrtais, teg a thryloyw
  • bod yn gyfathrebwr a chyflwynydd effeithiol a defnyddio arddull briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • gallu negodi a bod yn ddiplomataidd
  • dealltwriaeth o systemau cyllidebu ac ariannol y cyngor
  • dealltwriaeth o rôl y cyngor a’i drefniadau llywodraethu
  • gallu gweithio gydag eraill
  • gwybodaeth am systemau TG fel e-bost a Microsoft Office

Darllenwch fwy am Hyfforddi, Datblygu a Chynorthwyo Aelodau Awdurdodau Lleol.

Sut y mae pobl yn dod yn gynghorwyr?

I fod yn gynghorydd ar gyfer ward mewn prif gyngor, rhaid ichi fod yn 18 oed neu’n hŷn, rhaid ichi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal neu rhaid ichi fod wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yno am o leiaf 12 mis cyn etholiad. Rhaid ichi hefyd fod yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd tramor cymwys (yn byw yn y DU yn gyfreithlon). Mae angen i unigolyn gael ei enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad cyngor. Gwneir hyn drwy lenwi ffurflen enwebu, y mae angen ei llofnodi a chael tyst iddi. Nid oes angen ichi fod yn aelod o blaid wleidyddol.

Caiff ymgeiswyr a enwebir benodi asiant etholiad, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny a gallant weithredu fel eu hasiant eu hunain. Mae asiant etholiad yn gyfrifol am reoli etholiad ymgeisydd yn briodol, er enghraifft, dangos nad yw ymgyrch yr ymgeisydd wedi mynd dros y terfyn ariannol a nodir yn y gyfraith.

Ar ôl cadarnhau’r holl enwebiadau, cyhoeddir hysbysiad o bleidlais gan y Swyddog Canlyniadau sy’n cynnal yr etholiad, yn cadarnhau manylion pob ymgeisydd sy’n sefyll etholiad ym mhob ward.

A yw pob cynghorydd yn rhan o blaid wleidyddol?

Mae rhai ymgeiswyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol. Mae ymgeiswyr eraill yn annibynnol ac nid ydynt yn cynrychioli nac yn perthyn i blaid wleidyddol benodol.

A yw cynghorwyr yn cael tâl am eu gwaith?

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, neu’r Panel fel y gelwir ef yn aml, yn gyfrifol am benderfynu ar y swm a’r math o daliad y mae cynghorwyr yn ei gael.

Mae gan bob cynghorydd sir a bwrdeistref sirol hawl i gyflog sylfaenol. Mae’r cyflog ar gyfer cynghorwyr sir unigol yn dibynnu ar nifer y bobl sy’n byw yn y sir. Mae tri band, sef:

  • Grŵp A: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o fwy na 200,000
  • Grŵp B: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o 100,000 i 200,000
  • Grŵp C: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o lai na 100,000

Yn ogystal â’r cyflog sylfaenol, mae’r Panel wedi penderfynu y dylai’r cynghorwyr sy’n ffurfio gweithrediaeth y cyngor (mae’r weithrediaeth yn cynnwys yr Arweinydd ac aelodau’r cabinet) gael taliad ychwanegol i adlewyrchu cyfrifoldebau ehangach ac ymrwymiad amser cynyddol eu rôl. Mae nifer fach o rolau ychwanegol, megis cadeiryddion pwyllgorau, hefyd yn cael taliad ychwanegol. Gelwir y rhain yn gyflogau uwch.

Caiff pob cynghorydd hawlio taliadau am gostau teithio, prydau bwyd a llety os yw’r costau hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’w dyletswyddau swyddogol. Mae lefel y taliad y gellir ei hawlio yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys:

  • nifer y milltiroedd yr hawlir amdanynt mewn blwyddyn
  • y math o gerbyd a ddefnyddir i deithio
  • a oedd unrhyw deithwyr yn yr un cerbyd
  • lleoliad y llety
  • a oedd y cynghorydd yn aros gyda theulu neu ffrindiau

Gall pob cynghorydd hawlio cyfraniad at gostau Gofal a Chymorth Personol. Pwrpas y taliad hwn yw sicrhau nad yw pobl sydd eisiau bod yn gynghorwyr yn cael eu rhwystro rhag sefyll mewn etholiad oherwydd bod arnynt angen cymorth ariannol i dalu am eu hanghenion cymorth personol ychwanegol neu i dalu costau ychwanegol i ofalu am eraill er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.

Yn benodol, mae costau gofal misol yn amrywio’n sylweddol. Gall hyn ddibynnu ar nifer y dibynyddion, eu hoedran a ffactorau eraill. Dyma’r trefniadau ar gyfer hawlio costau gofalu am eraill:

  • costau gofal ffurfiol (wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu yn unol â’r dystiolaeth
  • telir costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) hyd at y gyfradd uchaf sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y DU ar yr adeg y bydd y costau’n codi
  • ni ellir talu’r costau gofal i rywun sy’n rhan o aelwyd yr aelod

A yw unigolion cyflogedig yn gallu bod yn gynghorwyr hefyd?

Mae’n bosibl i gynghorwyr fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a bod yn gynghorydd hefyd.

Faint o amser y mae’n rhaid i gynghorwyr ei neilltuo?

Mae hyn yn amrywio yn ôl faint o fusnes y cyngor, yr etholaeth a’r blaid wleidyddol y mae gofyn ei wneud yn y rôl benodol. Rhaid i bob cynghorydd fynd i gyfarfodydd y cyngor llawn ac unrhyw bwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt a rhaid iddynt fynd i o leiaf un cyfarfod cyngor dros gyfnod o chwe mis neu cânt eu gwahardd yn awtomatig (oni bai fod y cyngor wedi rhoi goddefeb iddynt, er enghraifft oherwydd eu bod yn cael triniaeth am salwch neu’n gofalu am berthynas agos).

A oes rhaid i gyflogwyr ryddhau gweithwyr i gyflawni dyletswyddau’r cyngor?

O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 rhaid i gyflogwyr ddarparu amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, ond dylech drafod hyn â'ch cyflogwr. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol nad oes gofyniad cyfreithiol i gyflogwr dalu i gynghorydd am yr amser y mae’n ei gymryd i gyflawni ei rôl fel cynghorydd.

A all cynghorwyr gael amser o’r gwaith i ofalu am eu teuluoedd?

Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn gallu cydbwyso eu dewisiadau gyrfa a’u hymrwymiadau teuluol wrth wasanaethu cymunedau ledled Cymru.

Rhaid i gynghorau sefydlu trefniadau yn eu cyfansoddiad (llyfr rheolau'r cyngor) ar gyfer absenoldeb dros dro cynghorwyr am resymau personol (“absenoldeb teuluol”).

Nodir yn y gyfraith y caiff cynghorwyr sir gymryd cyfnodau o absenoldeb ar gyfer nifer o gerrig milltir teuluol gan gynnwys genedigaeth babi, mabwysiadu plentyn neu faterion rhieni eraill. Bydd y cyfnod o absenoldeb yn dibynnu ar bwrpas yr absenoldeb. Mae’r trefniadau wedi’u nodi mewn rheoliadau, ynghyd â’r gofynion.

  • Absenoldeb mamolaeth, hyd at uchafswm o 26 wythnos pan fo aelod yn bodloni'r amodau a nodir yn y Rheoliadau.
  • Absenoldeb oherwydd babi newydd-anedig, hyd at uchafswm o bythefnos, i’w gymryd o fewn 56 diwrnod i eni’r babi.
  • Absenoldeb mabwysiadu, a all ddechrau hyd at bythefnos cyn dyddiad lleoli’r plentyn ac sy’n para am 26 wythnos.
  • Absenoldeb rhiant, pan fo aelod yn dod yn gyfrifol dros dro neu’n barhaol am blentyn o dan 14 oed. Gall hyn olygu mwy nag un cyfnod o absenoldeb dros flwyddyn benodol.

Caiff cynghorydd sydd â hawl i absenoldeb teuluol fod yn absennol o gyfarfodydd yr awdurdod (ac, os yw'n aelod o’r weithrediaeth, o gyfarfodydd y weithrediaeth) yn ystod y cyfnod o absenoldeb. Fodd bynnag mae’n bosibl i gynghorydd wneud trefniadau i fynd i gyfarfodydd penodol yn ystod cyfnod o absenoldeb os yw’n dymuno, ond rhaid cytuno ar hyn gyda’r awdurdod lleol.

Mae absenoldeb teuluol wedi’i gynllunio i sicrhau bod aelodau sydd ag ymrwymiadau gofal personol brys yn gallu cyflawni’r ymrwymiadau hynny cyn dychwelyd i’w rolau.

Darllenwch fwy am absenoldeb teuluol yn Hyfforddiant, Datblygiad a Chymorth Parhaus i Aelodau.

A yw cynghorwyr yn cael rhannu swydd?

Mae trefniadau rhannu swydd yn caniatáu i ddau gynghorydd neu fwy ymgymryd â rolau penodol o fewn y cyngor drwy rannu cyfrifoldebau a llwyth gwaith y rôl. Fe wnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn bosibl i drefniadau rhannu swyddi gael eu rhoi ar waith ar gyfer arweinydd ac aelodau cabinet cyngor sir. Gwnaeth hyn drwy gynyddu nifer uchaf y cynghorwyr y mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt fod mewn cabinet, pan fydd trefniadau rhannu swyddi ar waith. Arweinydd y cyngor sy’n penderfynu ar benodiadau i’r cabinet, gan gynnwys a ddylid gwahodd cynghorwyr i ymgymryd â rôl weithredol ar sail rhannu swydd.

Gall trefniadau rhannu swydd gynnig nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • y cyfle i gynghorwyr iau neu gynghorwyr llai profiadol, a allai fod â chyfrifoldebau gofalu neu gyfrifoldebau eraill, gymryd rhan fel aelod o’r cabinet
  • annog pobl iau i gymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy ystyried sefyll mewn etholiad
  • fel rhan o raglen datblygu gyrfa, galluogi rhagor o unigolion i weithredu ar lefel cabinet

Darllenwch fwy am drefniadau rhannu swydd.

Sut y mae cynghorwyr yn sicrhau ac yn cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Nid oes unrhyw ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n delio’n benodol â chefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae gan gynghorau rwymedigaethau yng nghyswllt Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 o ran eu polisïau, eu systemau a’u gweithdrefnau.

Sut y mae disgwyl i gynghorwyr ymddwyn?

Mae fframwaith safonau moesegol statudol ar gyfer pob cynghorydd. Mae’n rhoi arweiniad i aelodau etholedig ar y safonau ymddygiad priodol a ddisgwylir ganddynt wrth ymgymryd â’u rolau, gan roi sicrwydd i’r cyhoedd y bydd camau’n cael eu cymryd os bydd pethau’n mynd o chwith.

Gwyliwch fideo ar y fframwaith safonau moesegol awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae holl aelodau etholedig cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru wedi’u rhwymo gan y Cod Ymddygiad statudol. Mae’r Cod yn gosod cyfres o safonau gorfodadwy ar gyfer y ffordd y dylai aelodau ymddwyn, o ran eu gallu swyddogol ac (mewn rhai achosion) o ran eu bywyd personol hefyd.

Mae’r fframwaith yn cynnwys set o ddeg egwyddor ymddygiad cyffredinol ar gyfer aelodau (sy’n deillio o ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ yr Arglwydd Nolan). Dyma’r egwyddorion:

  • anhunanoldeb
  • gonestrwydd
  • gonestrwydd a phriodoldeb
  • dyletswydd i gynnal y gyfraith
  • stiwardiaeth
  • gwrthrychedd wrth wneud penderfyniadau
  • cydraddoldeb a pharch
  • bod yn agored
  • atebolrwydd
  • arweinyddiaeth

Rhaid i bob prif gyngor sefydlu pwyllgor safonau i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan eu haelodau ac aelodau'r cynghorau tref a chymuned yn yr ardal. Mae eu rôl yn cynnwys cynghori’r awdurdod ar fabwysiadu a gweithredu cod ymddygiad, helpu aelodau i gadw at y cod, cefnogi arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gynnal safonau uchel o ymddygiad yn eu grwpiau gwleidyddol a threfnu neu ddarparu hyfforddiant i aelodau ar faterion sy’n ymwneud â’r cod. Mae un o swyddogion y cyngor a elwir yn swyddog monitro yn gweithio’n agos gyda’r pwyllgor safonau i’w gefnogi i ddarparu cyngor o ddydd i ddydd i aelodau ar faterion ymddygiad. Rhaid i Bwyllgorau Safonau lunio adroddiad blynyddol a chefnogi arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gyflawni eu dyletswydd statudol i gynnal safonau ymddygiad yn eu grŵp gwleidyddol.

Darllenwch fwy am bwyllgorau safonau.

Caiff unrhyw un wneud cwyn i Ombwdsmon Cymru fod aelod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad ei awdurdod. Pan fydd yr Ombwdsmon yn penderfynu bod ymchwiliad yn briodol, gall gynnal yr ymchwiliad ei hun neu gyfeirio’r mater at y swyddog monitro perthnasol ar gyfer ymchwiliad, ac yna ddyfarniad, gan y pwyllgor safonau lleol.

Dyma enghreifftiau o’r ffyrdd y gall aelod dorri cod ymddygiad awdurdod: ymddwyn mewn ffordd sy’n dwyn anfri ar rôl aelodau neu ar yr awdurdod, neu mewn ffordd sy’n effeithio’n negyddol ar enw da’r awdurdod; peidio â thrin pawb yn gyfartal, boed hynny ar sail rhyw, hil, anabledd,  cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.

Gwyliwch fideo ar sut i gwyno am gynghorydd yng Nghymru.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn ystyried achosion sy’n cael eu cyfeirio ato gan yr Ombwdsmon am eu bod yn achosion mwy difrifol o dorri’r cod ymddygiad. Mae’r Panel Dyfarnu hefyd yn gwrando ar apeliadau gan aelodau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau safonau.

Pa gefnogaeth mae cynghorwyr yn ei chael i’w helpu yn eu rôl?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd datblygu rhesymol yn cael eu darparu i'w haelodau. Rhaid i bob aelod (heb gynnwys Arweinydd cyngor), o dan drefniadau gweithredol, gael cyfle i gael adolygiad blynyddol o’i anghenion hyfforddi. Rhan o hyn yw  cyfle i gael cyfweliad â rhywun y mae’r cyngor yn ystyried ei fod “yn briodol gymwys” i roi cyngor ar anghenion hyfforddi a datblygu aelod. (a7, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Gall yr arweinydd hefyd ofyn am adolygiad o’i anghenion hyfforddi os yw’n dymuno gwneud hynny.

Darllenwch fwy am Hyfforddi, Datblygu a Chynorthwyo Aelodau Awdurdodau Lleol.

Sut y gall cynghorau helpu cynghorwyr i roi gwybod i’r cyhoedd beth maent wedi bod yn ei wneud?

Rhaid i gynghorau fod â threfniadau i ganiatáu i unrhyw gynghorydd gyhoeddi “adroddiad blynyddol” (a5, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Dylai cynghorau sicrhau bod adroddiadau blynyddol yn cael eu drafftio er mwyn dangos i’r etholwyr yr ystod o ddyletswyddau y mae cynghorwyr yn eu cyflawni, a’u cysylltiad â chynlluniau lleol.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol y dylid ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol, a dim ond gweithgareddau sy’n cael eu gwneud gan y cynghorydd unigol mewn cysylltiad â rôl y cyngor y dylid eu cynnwys. Ni ddylai’r cynnwys fod yn bleidiol wleidyddol ac ni ddylai fod yn feirniadol o aelod arall, grŵp arall, na swyddog neu swyddogion y cyngor.  

Mae cynghorwyr yn cyflawni amrywiaeth enfawr o swyddogaethau. Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r rolau hyn, a gwaith cynghorwyr ar gyfer y cymunedau maent yn eu gwasanaethu; mae adroddiadau blynyddol yn debygol o chwarae rhan bwysig yn hyn. Gall cynghorau ddatblygu templed safonol ar gyfer adroddiadau o'r fath i wneud y dasg yn haws, a gallai hwn gynnwys manylion am y materion y dylid eu cynnwys ac na ddylid eu cynnwys.