Neidio i'r prif gynnwy

Data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd i gyfleusterau iechyd meddwl yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chleifion sy'n destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth ar gyfer Ebrill 2016 i Mawrth 2017.

Derbyniadau

  • Yn 2016-17, bu 8,723 o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru (ac eithrio cadwadau man diogel), gostyngiad o 574 (6%%) ers 2015-16.
  • Roedd 97% o'r bobl a dderbyniwyd (ac eithrio cadwadau man diogel) yn 2016-17 wedi'u derbyn i gyfleusterau'r GIG yng Nghymru, a'r gweddill wedi'u derbyn i ysbytai annibynnol.

Derbyniadau ffurfiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaethau eraill

  • Cafodd 1,776 eu derbyn yn 2016-17 dan y Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (ac eithrio cadwadau man diogel) a deddfwriaeth arall, cynnydd o 44 (3%) ers 2015-16.
  • Cafodd 94% (1,663 o 1,776) o dderbyniadau ffurfiol (ac eithrio cadwadau man diogel) eu cadw heb gynnwys llysoedd troseddol (Rhan II) gyda 75% (1,246 o 1,663) o’r rhain yn cael eu derbyn ar gyfer asesu, gyda neu heb driniaeth (Adran 2 Deddf Iechyd Meddwl 1983).
  • Adran 2 dangosodd y cynnydd mwyaf (yn nhermau niferoedd) rhwng 2015-16 a 2016-17 gan godi o 1,211 i 1,246 (35% neu 3%).

Triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth

  • Yn 2016-17, roedd 206 o gleifion yn destun triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT), gan gynnwys 17 lle oedd ysbyty annibynnol yn gyfrifol amdanynt. O'r cyfanswm hwn, roedd 117 yn ddynion a 89 yn fenywod.
  • O'r cleifion sy'n destun triniaeth SCT, roedd 128 wedi cael eu galw yn ôl i'r ysbyty, 89 wedi cael eu dirymu a 132 wedi cael eu gollwng yn 2016-17.

Adroddiadau

Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl, Ebrill 2016 i Mawrth 2017 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 690 KB

PDF
Saesneg yn unig
690 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.