Neidio i'r prif gynnwy

Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a nifer yr aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2017 i Fawrth 2018.

Prif bwyntiau

Rhwng 2016-17 a 2017-18, cafwyd gostyngiad bychan yn nifer yr aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref. Fodd bynnag, cafwyd cynnydd yn nifer yr aelwydydd a aseswyd eu bod yn ddigartref a chynnydd yn y nifer oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth.

Rhwystro digartrefedd

  • Rhwng 2016-17 a 2017-18, gostyngodd nifer yr aelwydydd oedd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod o 2% i 9,072 aelwyd.
  • Llwyddwyd i rwystro 66% (6,021) o aelwydydd rhag bod yn ddigartref am o leiaf 6 mis. Roedd hyn yn gynnydd o 62% yn 2016-17.
  • Ni lwyddwyd i rwystro digartrefedd mewn 15% o achosion. Deilliannau eraill oedd yn cyfrif am y 18% oedd yn weddill. Roedd hyn yn cymharu gyda 18% a 20% yn 2016-17.
  • I’r 6,021 lle llwyddwyd i rwystro digartrefedd, arhosodd traean yn eu cartref eu hunain, a chafodd dau-draean lety arall.

Rhyddhau o ddigartrefedd

  • Cynyddodd nifer yr aelwydydd dderbyniwyd yn ddigartref a bod dyletswydd i’w helpu i gael llety o 3% i 11,277.
  • Mewn 41% o achosion, bu’r awdurdod lleol yn llwyddiannus yn eu helpu i gael llety oedd yn debygol o bara am 6 mis. Mewn 4,143 o aelwydydd (37%), ni fu’r awdurdod lleol yn llwyddiannus yn eu helpu i gael llety. Roedd y canrannau yma’n debyg i’r rhai a gofnodwyd yn 2016-17.
  • O’r 4,653 aelwyd a gynorthwyd yn llwyddiannus, cafodd 30% lety yn y sector gymdeithasol a 30% yn y sector breifat. Cafodd 23% lety mewn llety a gefnogwyd, 9% gyda theulu, ffrindiau neu ddychwelyd adre a 8% lety arall.

Angen sydd yn flaenoriaeth

  • Cynyddodd nifer yr aelwydydd a farnwyd eu bod yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth 7% i 2,229.
  • Y categori blaenoriaeth mwyaf cyffredin oedd presenoldeb plant dibynnol neu fenyw feichiog (45%).
  • O’r aelwydydd oedd yn anfwriadol ddigartref ac mewn blaenoriaeth angen, derbyniodd 78% gynnig o lety parhaol (i lawr o 81% yn 2016-17).

Aelwydydd mewn llety dros dro

  • Ddiwedd mis Mawrth 2018, roedd 2,052(r) o aelwydydd mewn llety dros dro yng Nghymru, i fyny 2%(r) ar y flwyddyn flaenorol.
  • Llety sector preifat oedd y prif fath o lety dros dro a ddefnyddiwyd. Roedd hyn yn cyfrif am 38%(r) o’r holl aelwydydd mewn llety dros dro, ddiwedd mis Mawrth 2018 o gymharu â 39% y flwyddyn flaenorol.
  • Ddiwedd mis Mawrth 2018, roedd 243(r) o aelwydydd mewn llety Gwely a Brecwast (B&B), cynnydd sylweddol o 189 y flwyddyn flaenorol. O’r rhain, roedd 30 aelwyd (13%(r)) yn deuluoedd â phlant.

Nodiadau

Roedd Deddf Tai (Cymru) 2014 yn cynnwys nifer o newidiadau i ddeddfwriaeth digartrefedd statudol. Cyflwynwyd y newidiadau hyn ar 27 Ebrill 2015. Ni ellir cymharu’r data yn yr adroddiad hwn â data digartrefedd statudol ar gyfer 2014-15 oherwydd y newidiadau deddfwriaethol.

Ceir gwybodaeth bellach  o fewn y datganiad ystadegol a’r  Adroddiad Ansawdd. 

Nodyn diwygio

Mae’r datganiad hwn wedi’i ddiwygio yn dilyn derbyn data wedi ei ddiwygio ar gyfer aelwydydd mewn llety dros dro ar 31 Mawrth 2018 ar gyfer un awdurdod lleol.

Adroddiadau

Digartrefedd, Ebrill 2017 i Fawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
Saesneg yn unig
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.