Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Digwyddiad Cyd-greu Penodiadau Cyhoeddus 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru yn hwyluso digwyddiad cydweithredu a fydd yn cael ei gynnal ar 5 Tachwedd 2025. Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y digwyddiad hwn, mae'r tîm yn cyhoeddi ffurflen ar y we. Bydd y ffurflen hon yn gofyn am wybodaeth ynghylch anghenion dietegol a gofynion hygyrchedd, ynghyd â dewisiadau iaith a chaniatâd i dynnu a defnyddio lluniau. Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o sectorau yn bresennol yn y digwyddiad.

Wrth ichi lenwi'r ffurflen, bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwybodaeth bersonol (enw a chyfeiriad e-bost) sy'n gysylltiedig â'ch ymatebion.

Mae Llywodraeth Cymru yn cael yr wybodaeth bersonol hon (enw, cyfeiriadau e-bost ac ymatebion) am y mynychwyr pan fyddant yn cyflwyno eu hymatebion. 

Beth rydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Bydd yr wybodaeth bersonol a ddarperir gennych yn cael ei chadw er mwyn sicrhau bod yr addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud o ran gofynion hygyrchedd, ac i sicrhau bod opsiynau bwyd priodol yn cael eu darparu ar gyfer unrhyw anghenion dietegol, yn ogystal ag ystyried a oes gofynion cyfieithu'n codi, os bydd 10% neu fwy o'r mynychwyr yn nodi'r Gymraeg fel eu dewis iaith.   

Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio i anfon rhagor o wybodaeth atoch cyn y gweithdy. Ni fydd yn bosibl i Lywodraeth Cymru na chynrychiolwyr eraill weld unrhyw wybodaeth bersonol fel rhan o'r gweithdy gan y bydd gohebiaeth yn cael ei hanfon gan ddefnyddio mesurau sy'n cadw cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio’ch data?

Ni, sef Llywodraeth Cymru, fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol y byddwch yn eu darparu. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl fesurau'n cael eu defnyddio i ddiwallu eich gofynion hygyrchedd, eich anghenion dietegol, eich dewisiadau ynghylch ffotograffiaeth yn y digwyddiad, a'r defnydd o luniau yn y dyfodol. Yn ogystal â hyn, byddwn yn ystyried eich dewis o ran iaith.  Byddwn yn defnyddio'r data hyn wrth gynllunio ar gyfer y diwrnod, ac i sicrhau bod eich anghenion yn cael eu diwallu. 

Rydym yn gofyn am fanylion eich sefydliad er mwyn helpu i sicrhau bod cynrychiolaeth deg o sectorau yn bresennol yn y digwyddiad. Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ein buddiant cyfreithlon mewn cynnal digwyddiad cynrychiadol ac amrywiol. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt cyfranogwyr, ac unrhyw wybodaeth a anfonwyd atynt gan gyfranogwyr, nes bod y gweithdy wedi'i gwblhau.

Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol: 

  • gweld y data personol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw amdanoch;
  • ei gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan rai amgylchiadau)
  • gofyn am i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a'r defnydd ohoni, neu os ydych chi'n dymuno arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.