Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn storio ac yn prosesu eich manylion o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (digwyddiadau ymgysylltu ar strategaeth tlodi plant 2023).

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd yn Llywodraeth Cymru yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu rhithiol a rhanbarthol wyneb yn wyneb ym mis Chwefror a mis Mawrth 2023 i lywio'r Strategaeth Tlodi Plant diwygiedig 2023.

Bydd data yn cael eu casglu fel rhan o arolwg Smart Survey at ddiben prosesu a'ch galluogi i fynychu / cymryd rhan mewn digwyddiad.

Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble y daw'r wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Fel Rheolydd Data, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu dolen i ffurflen mynegi diddordeb er mwyn cymryd rhan yn y digwyddiad drwy flwch post Llywodraeth Cymru TechuTlodiaAChefnogiTeuluoedd@llyw.cymru.

Bydd y ddolen hon yn cael ei rannu gydag unigolion a sefydliadau y mae'n hysbys bod ganddynt ddiddordeb blaenorol yn y mater hwn a gofynnir iddynt raeadru'r gwahoddiad fel y bo’n berthnasol.

Os ydych am gymryd rhan yn y digwyddiad, bydd angen i chi gwblhau ffurflen mynegi diddordeb gan nodi eich manylion cyswllt a'ch dewisiadau ar gyfer cymryd rhan.

Bydd y ffurflen yn gofyn am yr wybodaeth bersonol ganlynol:

  • Enw
  • Teitl swydd
  • Sefydliad
  • Cyfeiriad e-bost
  • Awdurdod lleol neu ranbarth yr ydych yn gweithio/wedi’ch lleoli ynddo
  • Dewis iaith
  • A fyddai’n well gennych fynychu digwyddiad rhithiol neu wyneb yn wyneb

Wedyn bydd Llywodraeth Cymru'n anfon gwybodaeth atoch am sut i ymuno â digwyddiad.

Gyda phwy ydyn ni'n rhannu eich gwybodaeth?

Ni fydd Llywodraeth Cymru'n rhannu eich data gydag unrhyw un arall.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn y broses gasglu data hon yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Cedwir eich data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru ei gadw ar weinyddion diogel.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru'n defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd (e.e. bod yr holl ddata yn cael ei brosesu o fewn yr AEE).

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Bydd yr holl ddata personol yn cael ei ddileu dri mis ar ôl y digwyddiad.

Hawliau’r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • gweld copi o'ch data
  • gofyn i ni gywiro unrhyw wallau yn y data
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rhai amgylchiadau)
  • gofyn am ddileu eich data (mewn rhai amgylchiadau)
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheolydd annibynnol ar ddiogelu data

Os oes gennych gwestiynau pellach am sut y bydd y data a ddarperir fel rhan o'r digwyddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru neu os hoffech arfer eich hawliau gan ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â: Sam.clutton@llyw.cymru.

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru

Manylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yw:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 725 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth