Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Sefydlwyd Bwrdd y Rhaglen Dileu Elw o Ofal Plant sy'n Derbyn Gofal ("Bwrdd y Rhaglen") ym mis Medi 2021 ar ôl cyhoeddi'r Rhaglen Lywodraethu gychwynnol ym mis Gorffennaf 2021.

Ei ddiben yw goruchwylio a chynghori ar y gwaith o weithredu’r ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i Ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal, sy'n cael ei symud yn ei flaen drwy'r darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 ("Deddf 2025"). Cyhoeddir crynodeb o drafodaethau Bwrdd y Rhaglen er mwyn darparu tryloywder.

Crynodeb o drafodaethau Bwrdd y Rhaglen

Diweddariad gan Lywodraeth Cymru:

  • Cafodd adroddiad cryno yr ymgynghoriad ar newidiadau i'r rheoliadau cofrestru a ffurflenni blynyddol, ynghyd â'r dull monitro a gorfodi, eu cyhoeddi ym mis Ionawr. Disgwylir i'r rheoliadau diwygiedig ddod i rym ar 1 Ebrill 2026.
  • Lansiwyd ymgynghoriad pellach ym mis Chwefror ar ddyletswydd cynllunio digonolrwydd awdurdodau lleol, - y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 7 Ebrill 2026.
  • Mae cyllid wedi'i ddyfarnu i Cwmpas i barhau â'i gefnogaeth i ddarparwyr er-elw sy'n ystyried gweithredu ar sail nid-er-elw o dan y trefniadau newydd.
  • Mae'r gwaith o fonitro cyllid grant Dileu a Diwygio Radical 2025 i 2026 i awdurdodau lleol wedi'i gwblhau. Ar hyn o bryd mae swyddogion wrthi'n ystyried cynlluniau gwaith 2026 i 2027 yr awdurdodau.
  • Mae'r Trawsnewid ar gyfer Gwasanaethau i Blant: adroddiad etifeddiaeth wedi'i lunio a'i gyhoeddi.
  • Cafodd Datganiad Ysgrifenedig a Datganiad i’r Wasg eu cyhoeddi ar 10 Mawrth 2026 i roi diweddariadau ar weithredu Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025, ynghyd â cherrig milltir allweddol.
  • Cyhoeddwyd y cylchlythyr dileu elw cyntaf ar 19 Mawrth 2026, sy'n darparu diweddariadau gan sefydliadau allweddol mewn un lle.
  • Mae cyfarfodydd cyfathrebu rheolaidd ynghylch dileu elw yn parhau i gael eu cynnal bob mis gydag arweinwyr cyfathrebu ar draws gwahanol sefydliadau - Llywodraeth Cymru, AGC, GCC, Consortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant, CLlLC, Cwmpas, a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, gan sicrhau mwy o gysondeb mewn iaith a negeseuon fel y bo'n briodol.

Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad:

Roedd Adroddiad Gwybodaeth am y Farchnad wedi ei baratoi gan Gonsortiwm Comisiynu Cymru ar gyfer Plant a'i rannu gyda'r aelodau cyn y cyfarfod, a darparwyd diweddariad:

  • Roedd nifer y gwasanaethau a gomisiynwyd oddi wrth ddarparwyr gofal preswyl annibynnol wedi gostwng, ond roedd capasiti wedi parhau i dyfu. Roedd y rhan fwyaf o gofrestriadau newydd yn dal i fod yn gofrestriadau gan ddarparwyr er-elw.
  • Mae cyfran y cartrefi awdurdodau lleol sydd wedi'u cofrestru yn parhau i gynyddu, a disgwylir i'r duedd hon barhau yn y blynyddoedd i ddod.
  • Mae mwy o ddarparwyr preswyl er-elw wedi nodi eu bwriad i ailsefydlu i gydymffurfio â'r Ddeddf. Roedd y darparwyr hyn wedi cael eu cyfeirio at Cwmpas am gymorth lle bo angen hynny.
  • Mae nifer y lleoliadau gofal maeth sydd wedi'u comisiynu wedi gostwng, ac mae Cymru'n parhau i wynebu prinder yn y capasiti.
  • Mae sawl Asiantaeth Maethu Annibynnol yn ystyried ailsefydlu, ond mae ganddynt bryderon am y broses.
  • Mae adroddiadau'n awgrymu bod gofalwyr maeth yn annhebygol o drosglwyddo rhwng asiantaethau nes iddynt gael gwybod am fwriad eu sefydliad presennol.

Diweddariad Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ar gymorth i helpu Awdurdodau Lleol i weithredu:

Rhoddodd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru drosolwg o weithgareddau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan nodi cynnydd sylweddol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Gweithio ar adnoddau sy'n modelu cyllid a galw i lywio'r gwaith o gynllunio digonolrwydd.
  • Memorandwm Cydweithredu a gytunwyd ar draws awdurdodau lleol i helpu i feithrin dull cydweithredol o rannu gwybodaeth a data ar draws awdurdodau.
  • Cymerodd dros 200 o fynychwyr ran yn sesiwn 'Cinio a Dysgu' ddiweddar Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, a chafwyd adborth cadarnhaol.
  • Nodwyd ffocws penodol ar y gweithlu yng nghynllun gwaith 2026 i 2027 y Gymdeithas.

Cofrestr Risgiau a Log o'r Gwersi a Ddysgwyd:

  • Roedd newidiadau naratif wedi'u gwneud i'r Gofrestr Risgiau yn dilyn cyfarfod blaenorol Bwrdd y Rhaglen a chyfarfodydd Ffrwd Waith 1 a gynhaliwyd yn ddiweddar, ond ni wnaed unrhyw newidiadau i sgoriau risg penodol.
  • Ychwanegwyd cofnod newydd at Log Gwersi a Ddysgwyd Bwrdd y Rhaglen, a oedd yn ymwneud â chyfathrebu ynghylch yr amserlen weithredu, yn benodol y cyfyngiadau sydd i'w gosod ar ddarparwyr er-elw presennol ar ôl 1 Ebrill 2026.

Diweddariadau ar y ffrydiau gwaith:

Roedd Ffrwd Waith 1 wedi cyfarfod 3 gwaith ers cyfarfod Bwrdd y Rhaglen. Roedd y prif bynciau a drafodwyd yn cynnwys y canlynol:

  • Roedd Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru wedi comisiynu gwaith yn flaenorol i archwilio profiadau plant a phobl ifanc o ran cael eu rhoi mewn gwasanaeth sy'n gweithredu heb gofrestru, ac roedd disgwyl i hyn gael ei gyhoeddi ar wefan y Gymdeithas. Y bwriad y tu ôl i gyhoeddi'r adroddiad hwn yw rhannu gwersi a ddysgwyd ynghylch diogelwch a'r arferion gorau.
  • Roedd aelodau'r ffrwd waith hefyd wedi cyfrannu at y gwaith ar gynllunio digonolrwydd, a sut mae hynny’n troi'n sgyrsiau ynghylch digonolrwydd rhanbarthol a chenedlaethol.

Cyfarfu Ffrwd Waith 2 ddiwethaf ar 22 Ionawr 2026, gyda sgyrsiau'n canolbwyntio ar drefnu set o ddigwyddiadau ar gyfer newydd-ddyfodiaid posibl i'r sector gofal plant, megis y rheini sy'n gweithredu gwasanaethau mewn maes cysylltiedig.