Diogelu cymunedau Cymru rhag tomenni glo nas defnyddir
Mae'r daflen hon yn esbonio sut mae Llywodraeth Cymru, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill yn gweithio gyda’i gilydd i’ch cadw’n ddiogel.
Rydyn ni'n gwybod bod rhai pobl yn poeni os oes tomen lo nas defnyddir ar bwys eu cymuned. Mae Llywodraeth Cymru, eich cyngor lleol a sefydliadau eraill yn gweithio gyda'i gilydd i'ch cadw'n ddiogel.
Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yn awr
- Archwilio a monitro pob tomen lo nas defnyddir yng Nghymru yn rheolaidd.
- Ariannu cynghorau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud gwaith i sicrhau bod tomenni'n fwy diogel – gan gynnwys tomenni preifat.
- Cyhoeddi mapiau sy'n dangos ble mae tomenni a pha mor aml maen nhw'n cael eu harchwilio. Mae'r rhan fwyaf o domenni nas defnyddir yng nghymoedd de Cymru, ond effeithir ar rannau eraill o'r wlad hefyd.
Perchnogion y tomenni sy'n parhau i fod yn gyfrifol amdanyn nhw, ond mae Llywodraeth Cymru yn helpu. Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi £100 miliwn mewn diogelwch tomenni glo ers 2020, ac mae cyllid arall gwerth £120 miliwn wedi cael ei gynllunio. Bydd hyn yn cefnogi'r rhai sy'n byw yng nghysgod y tomenni, ac yn dod â chyfleoedd am swyddi a'r potensial i gymunedau ddefnyddio'r safleoedd at ddibenion hamdden.
Cyfraith newydd i wella diogelwch
Bydd deddf newydd gan Lywodraeth Cymru yn mynd hyd yn oed ymhellach i amddiffyn cymunedau Cymru am genedlaethau i ddod.
Bydd y gyfraith hon yn creu sefydliad newydd o'r enw Awdurdod Tomenni nas Defnyddir Cymru. O fis Ebrill 2027 ymlaen, bydd yr Awdurdod hwn yn monitro pob tomen yn rheolaidd, yn creu cynlluniau diogelwch ar gyfer safleoedd risg uwch ac yn rheoli argyfyngau i gadw cymunedau'n ddiogel.
Angen help neu wybodaeth?
Os ydych yn poeni am domen yn eich ardal chi, rhowch wybod i'r Awdurdod Adfer Mwyngloddio ar 0800 021 9230 (radffôn) neu e-bostiwch tips@MiningRemediation.gov.uk
I gael rhagor o wybodaeth: www.llyw.cymru/diogelwch-tomenni-glo
neu ysgrifennwch at:
Y Tîm Diogelwch Tomenni Glo,
Swyddfeydd Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
