Neidio i'r prif gynnwys

Trosolwg

Rydym yn ceisio barn ar ganllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig ar gyfer dysgwyr 3 i 16 oed.

Mae’r canllawiau yn rhan o’r gwaith sy’n deillio o’r cynllun llythrennedd a rhifedd sylfaenol, a gyhoeddwyd ar 15 Medi, ac wedi’u datblygu i ddarparu mwy o eglurder ynghylch yr hyn y mae angen i ddysgwyr ei ddysgu a phryd. Eu bwriad yw ategu’r canllawiau presennol ar gyfer y Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Rydym eisiau eich barn ar:

  • strwythur a chynnwys y canllawiau arfaethedig
  • eglurder a chydlyniad cynnydd mewn siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu
  • a yw lefel y manylder a ddarperir yn briodol
  • sut y gall y canllawiau gefnogi cynllunio’r cwricwlwm, cynllunio cynnydd, a dysgu ac addysgu
  • ystyriaethau gweithredu, gan gynnwys dysgu proffesiynol, adnoddau a gofynion cymorth
  • effeithiau posibl y cynigion
  • unrhyw fater arall sydd, yn eich barn chi, yn berthnasol i gynnwys y canllawiau

Bydd ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn helpu i lywio’r canllawiau terfynol a’r trefniadau gweithredu ategol.

Mae amrywiaeth o asesiadau effaith wedi’u cynnal i gefnogi datblygiad y canllawiau, gan gynnwys Asesiad o’r Effaith ar Lwyth Gwaith. Mae’r asesiad hwn wedi nodi y disgwylir i’r canllawiau arwain at gynnydd cyfyngedig a thymor byr mewn llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â chyfarwyddo â’r canllawiau a’u rhoi ar waith. Disgwylir y bydd hyn yn cael ei liniaru drwy ddysgu proffesiynol a chymorth gweithredu. Dros amser, disgwylir i’r canllawiau leihau llwyth gwaith drwy ddarparu mwy o eglurder a chysondeb o ran dysgu ac addysgu llythrennedd a’r ddealltwriaeth o gynnydd. Mae’r ymgynghoriad yn gyfle i gasglu tystiolaeth ychwanegol am heriau ymarferol, ystyriaethau gweithredu a goblygiadau posibl o ran llwyth gwaith cyn cwblhau’r canllawiau.

Am beth mae’r ymgynghoriad

Rydym yn ymgynghori ar ganllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig i gefnogi dysgu ac addysgu llythrennedd yng Nghymru. Mae’r canllawiau yn darparu manylion ychwanegol, fesul blwyddyn, am yr hyn y dylai dysgwyr ei ddysgu a phryd wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau llythrennedd. Eu bwriad yw cryfhau’r ddealltwriaeth o gynnydd, cefnogi dysgu ac addysgu, a helpu ymarferwyr i nodi a chynllunio’r camau nesaf ar gyfer pob dysgwr, gan gynnwys y dysgwyr mwyaf abl.

Cyhoeddir y canllawiau hyn i gefnogi dylunio, mabwysiadu a gweithredu cwricwla o dan adran 71 o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021. Maent yn ganllawiau statudol i’r unigolion a’r cyrff a nodir isod. Rhaid i’r unigolion hynny roi sylw i’r canllawiau hyn wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt ystyried y canllawiau wrth wneud penderfyniadau ynghylch dylunio a gweithredu’r cwricwlwm a bod angen rhesymau cadarn os ydynt yn dymuno gwyro oddi wrthynt. 

Mae’r canllawiau hyn wedi’u cyfeirio at:

  • cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir
  • penaethiaid ysgolion a gynhelir gan gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir
  • awdurdodau lleol mewn perthynas ag unedau cyfeirio disgyblion (UCDau)
  • athrawon sy’n gyfrifol am UCDau
  • darparwyr addysg feithrin nas cynhelir a ariennir (er enghraifft, meithrinfeydd preifat a ariennir gan awdurdod lleol o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i ddarparu addysg feithrin i blant o dan oedran ysgol gorfodol)

Mae’r canllawiau arfaethedig yn rhan o’r gwaith sy’n deillio o’r Cynllun Llythrennedd a Rhifedd Sylfaenol, a gyhoeddwyd ar 15 Medi i godi safonau ledled Cymru. Fe’u cynlluniwyd i ategu’r canllawiau presennol ar gyfer Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

Datblygwyd y canllawiau gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Estyn, Dysgu a CAL:ON, gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru. Mae rhanddeiliaid sy’n ymwneud â gweithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, anghenion dysgu ychwanegol, addysg y blynyddoedd cynnar, a datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu hefyd wedi llywio’r gwaith o’u datblygu.

Pam mae’r canllawiau wedi’u datblygu

Mae’r canllawiau yn rhan o’r gwaith ehangach i godi safonau llythrennedd ledled Cymru. Fe’u datblygwyd i ddarparu mwy o eglurder a manylion ychwanegol am gynnydd mewn llythrennedd o fewn y Cwricwlwm i Gymru, gan helpu ysgolion ac ymarferwyr i ddeall sut mae dysgu llythrennedd yn datblygu ar draws y continwwm 3 i 16 oed. Eu bwriad yw ategu’r canllawiau cwricwlwm presennol er mwyn cefnogi cynllunio’r cwricwlwm, a dysgu ac addysgu llythrennedd. Ni fwriedir i'r canllawiau hyn effeithio ar gynnwys na gofynion y cymwysterau presennol.

Er mwyn adlewyrchu nodweddion ieithyddol a dulliau dysgu ac addysgu penodol Cymru, datblygwyd dau ganllaw ar wahân ar yr un pryd: un ar gyfer cynnydd mewn llythrennedd Cymraeg ac un ar gyfer cynnydd mewn llythrennedd Saesneg. Er bod y ddwy ddogfen yn rhannu strwythur a dull gweithredu cyffredin, mae pob un yn adlewyrchu nodweddion, naws ieithyddol ac ystyriaethau pedagogaidd penodol yr iaith berthnasol.

Helpwch ni i lunio’r canllawiau

Mae’r ymgynghoriad yn gam allweddol yn natblygiad y canllawiau, ac rydym am gael clywed yn uniongyrchol gan ymarferwyr, ysgolion ac eraill sydd â diddordeb mewn addysg llythrennedd. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall a yw’r canllawiau yn glir, yn ymarferol ac yn gymesur, ac i nodi meysydd lle gellir eu cryfhau er mwyn sicrhau eu bod yn darparu cymorth ystyrlon i ysgolion ac ymarferwyr.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

I ba raddau y mae’r canllawiau cynnydd arfaethedig yn gwella eich dealltwriaeth o sut i gefnogi cynnydd dysgwyr mewn llythrennedd, gan gynnwys cefnogi datblygiad tuag at gam cynnydd 1?

Cwestiwn 2

I ba raddau y credwch fod y canllawiau cynnydd arfaethedig yn berthnasol ac yn addas ar gyfer deall cynnydd dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol?

Cwestiwn 3

Pa mor ddefnyddiol yw’r canllawiau cynnydd arfaethedig wrth gefnogi cynllunio’r cwricwlwm, dysgu ac addysgu?

Cwestiwn 4

Wrth geisio sicrhau cydbwysedd rhwng eglurder, ymreolaeth broffesiynol a llwyth gwaith, sut fyddech chi’n disgrifio lefel y manylder a ddarperir yn nhablau’r camau cynnydd?

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno â’n dull o drefnu’r wybodaeth yn ôl camau cynnydd gyda grwpiau blwyddyn dangosol? (Rydym yn croesawu awgrymiadau ar gyfer dulliau amgen os oes gennych farn ar hyn.)

Cwestiwn 6

A yw’r manylion ychwanegol yn addas i gefnogi ymarferwyr sy’n addysgu pynciau eraill i ddeall yr hyn y mae angen i blant ei ddysgu mewn llythrennedd, a phryd i wreiddio hyn ar draws y cwricwlwm?

Cwestiwn 7

Pa mor glir a defnyddiol yw’r adran ‘cyflwyniad’ yn y canllawiau?

Cwestiwn 8

Pa mor glir a defnyddiol yw’r cyflwyniad i bob cam cynnydd?

Cwestiwn 9

Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys tablau’r camau cynnydd o dan y pennawd: ‘Dylai ymarferwyr’?

Cwestiwn 10

Pa mor glir a defnyddiol yw cynnwys tablau’r camau cynnydd o dan y pennawd: ‘Mae dysgwyr yn gyson ac yn hyderus yn’?

Cwestiwn 11

Pa ddysgu proffesiynol, enghreifftiau, adnoddau, cymorth asesu neu ganllawiau fyddai’n cefnogi gweithredu’r canllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig yn effeithiol?

Cwestiwn 12

Pa effaith y credwch y byddai’r cynigion arfaethedig yn ei chael ar eich llwyth gwaith, wrth eu rhoi ar waith ac yn barhaus dros amser? Esboniwch unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ac unrhyw gamau a allai helpu i osgoi neu leihau llwyth gwaith ychwanegol. Mae gennym ddiddordeb penodol yn y canlynol:

  • yr effaith arnoch chi nawr ac yn ystod y 12 mis nesaf
  • yr effaith debygol ar ôl 12 mis
  • beth y gellid ei wneud i liniaru’r effaith

Cwestiwn 13

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y canllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig ar y Gymraeg?

Mae gennym ddiddordeb penodol mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

A ydych o’r farn bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
A ydych o’r farn bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?

Cwestiwn 14

Yn eich barn chi, a ellid llunio neu newid y canllawiau cynnydd llythrennedd arfaethedig er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol, neu effeithiau mwy cadarnhaol, ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

Defnyddiwch y ffurflen ymateb i’r ymgynghoriad i ymateb i’r cwestiynau uchod.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i’r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hwn, a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y broses casglu data hon yw ein tasg gyhoeddus: hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw, neu sy’n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl hefyd y bydd hyn yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiadau pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn cynnwys gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni fydd eich enw na’ch manylion cyswllt yn cael eu cynnwys. Os hoffech i’ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gallai Llywodraeth Cymru fod o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd unrhyw ddata arall sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawliau canlynol:

  • i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch, a gweld y data hynny
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i’ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gludadwyedd y data (o dan amgylchiadau penodol)
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar ddiogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd y mae’n cael ei defnyddio, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: ico gwefan.

Gwneud cwyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn saff ac yn ddiogel, a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.

Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn â'r ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, y peth gorau fyddai ichi eu codi â’r tîm perthnasol i ddechrau.

Gallwch hefyd gysylltu â'r Swyddog Diogelu Data drwy e-bostio SwyddogDiogeluData@llyw.cymru neu drwy anfon llythyr i'r cyfeiriad isod: 

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, mae sawl ffordd o wneud hynny:

Ffurflen ar-lein: Llenwi ein ffurflen gwyno ar-lein.

Dros y ffôn: 03000 251378

E-bost: Lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i cwynion@llyw.cymru.

Drwy'r post at:

Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn amserlen briodol, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.