Mae diwygiadau addysg yng Nghymru yn creu profiad addysg cynhwysol lle mae dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cefnogi i ffynnu ym mywyd ysgol brif ffrwd.
Ar ymweliad ag ysgol gynradd Llwyn yr Eos yn Aberystwyth, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle, weld drosti ei hun sut mae dysgwyr ag ystod eang o anghenion dysgu ac anghenion meddygol cymhleth, yn cael eu cefnogi mewn cyfleusterau addysgu arbenigol yn yr ysgol brif ffrwd.
Cafodd yr Ysgrifennydd Cabinet gwrdd â Gethin, 10 oed, a chanddo anabledd dwys, sy'n ddieiriau ac yn defnyddio technoleg llwybr llygad i gyfathrebu. Mae'n cymryd rhan mewn gweithgareddau ysgol gyfan fel y cyngerdd ysgol lle mae'n defnyddio ei dechnoleg llwybr llygad i weithredu'r system oleuadau.
Mae technoleg llwybr llygad yn galluogi rhywun i reoli cyfrifiadur neu lechen drwy edrych ar eiriau neu orchmynion ar sgrin.
Dywedodd rhieni Gethin:
Mae mor bwysig bod Gethin yn gallu mynd i'r ysgol, i brofi'r byd a chael ffrindiau. Po hiraf y mae wedi bod yn yr ysgol, y mwyaf rydyn ni wedi deall ei alluoedd. Ei gynorthwyydd dysgu a'i athrawon sydd wedi gwireddu ei botensial, mae wedi gwneud cynnydd aruthrol yn yr hyn y mae wedi gallu ei wneud, gyda mathemateg yn arbennig - mae'n anhygoel.
Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru, mae cyfleusterau'r ysgol wedi'u haddasu wrth i anghenion dysgwyr newid, er enghraifft ehangu uned Enfys, canolfan adnoddau arbenigol ar gyfer plant awtistig rhwng 3 ac 11 oed, ei hysgol goedwig ac offer i ddysgwyr fel celfi pwrpasol i blant ag anghenion synhwyraidd, teganau ffidlan, peli straen a gwrthrychau cyffwrdd. Mae'r offer hyn yn ddefnyddiol ar gyfer hunanreoleiddio a chynnal ffocws.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
Mae gweld sut mae ein diwygiadau yn creu system wirioneddol gynhwysol yn ysbrydoliaeth go iawn. Yma yn Llwyn yr Eos mae'n amlwg bod pob dysgwr yn elwa ar y dull gweithredu hwn, gan sicrhau bod y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu cynnwys ym mhob rhan o fywyd yr ysgol.
Roedd yn hawdd gweld eu hagwedd gadarnhaol, eu dull dysgu arloesol a sut mae hyblygrwydd y cwricwlwm newydd yn sail i fywyd yr ysgol.
Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu cael addysg o safon uchel. Mae ein diwygiadau, ynghyd â'r cyllid sylweddol yr ydym yn ei fuddsoddi mewn adeiladau ysgolion, yn galluogi ein hysgolion i gefnogi dysgu cynhwysol a helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial llawn.
Dywedodd Bethan Payne, Pennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghyngor Ceredigion:
Mae cydweithio rhwng Llwyn yr Eos ac awdurdod lleol Ceredigion bob amser wedi bod yn rhan annatod o ddatblygu darpariaeth well i ddysgwyr. Mae'r ysgol yn rhoi o'i gorau i gynorthwyo'r awdurdod lleol i wireddu ei weledigaeth ar gyfer arferion cynhwysol.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu darpariaeth allgymorth newydd ar gyfer cefnogi dysgwyr sy'n cael trafferth hunanreoleiddio yn eu hysgolion prif ffrwd.
Mae'r system ADY a'r Cwricwlwm i Gymru yn cael eu cyflwyno gyda'i gilydd i greu system addysg gynhwysol i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn.
