Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniadau

Diffiniadau o Ddisgyblion sy’n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol

Yng nghyd-destun y datganiad ystadegol hwn cofnodwyd bod disgybl oedd yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn derbyn neu’n aros am ddarpariaeth addysg a ariennir gan yr awdurdod lleol heblaw mewn ysgol a gynhelir yn ystod wythnos y Cyfrifiad Disgyblion sy’n Derbyn Addysg Heblaw yn yr Ysgol.

Gall disgybl gael ei gynnwys yn y categori hwn hefyd:

  • os yw’n mynychu ysgol arbennig annibynnol neu nas cynhelir y mae’r awdurdod lleol yn gyfrifol am dalu’r cyfan neu ran o’r ffioedd dysgu ar ei chyfer
  • os yw’n cael ei leoli mewn ysgol a gynhelir fel rhan o’i addysg a ariennir gan yr awdurdod lleol

Defnyddir yr ymadrodd disgybl EOTAS i gyfeirio at ddisgybl sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol fel y’i diffinnir uchod.

Disgybl EOTAS sydd â’u brif addysg heblaw yn yr ysgol yw disgybl sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol sydd naill ai heb fod ar gofrestr ysgol a gynhelir neu y cofnodir bod ganddo statws cofrestru ‘atodol gyfredol’ mewn ysgol a gynhelir yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion mis Ionawr.

Disgybl EOTAS sydd â’u brif addysg mewn ysgol a gynhelir yw disgybl sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol sydd â statws cofrestru ‘prif gyfredol’ neu ‘cyfredol’ yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion mis Ionawr.

Disgyblion sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref yw plant mae eu rhieni wedi penderfynu eu haddysgu yn y cartref yn hytrach nag yn yr ysgol ac nid ydynt yn cael eu cyfrif yn ddisgyblion EOTAS.  Er eu bod trwy ddiffiniad yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, nid yw’r addysg i’r disgyblion hyn yn cael ei hariannu gan yr awdurdod lleol ac nid oes unrhyw sail gyfreithiol i’r awdurdod lleol gasglu data personol amdanynt. Mae data ar ddisgyblion sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref wedi’u cyfyngu i gyfrifiadau gan awdurdod lleol ac fe’u darperir yn wirfoddol gan yr awdurdod lleol. Mae’r ffigurau ynghylch disgyblion sy’n derbyn addysg ddewisol yn y cartref wedi’u cofnodi mewn tablau ar wahân i’r rheiny ynghylch disgyblion EOTAS.

Cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim

Mae plant mae eu rhieni’n cael y taliadau cymorth canlynol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

  • Cymhorthdal Incwm.
  • Cymorth Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm.
  • Credyd Treth Plant, ar yr amod nad oes ganddynt hawl i Gredyd Treth Gwaith ac nad yw eu hincwm blynyddol yn fwy nag £16,190.
  • Elfen gwarant o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth.
  • Y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall pan nad yw’n gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach.
  • Credyd Cynhwysol.

Mae plant sy’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth yn gysylltiedig ag incwm, Credyd Cynhwysol, Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm yn eu hawl eu hunain hefyd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.

Ni ddylid cofnodi bod disgyblion yn gymwys ond os ydynt wedi gwneud cais am brydau ysgol am ddim i’r awdurdod lleol ac:

  • bod yr awdurdod perthnasol wedi cadarnhau eu bod yn gymwys, neu
  • eu bod yn dal i aros am gadarnhad terfynol eu bod yn gymwys ond bod yr ysgol wedi gweld dogfennau sy’n rhoi awgrym cryf eu bod yn gymwys

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Anghenion addysgol arbennig (AAA)

Gall disgyblion y gwyddys bod ganddynt anghenion addysgol arbennig fod yn un o’r categorïau canlynol.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan fo athro/athrawes dosbarth neu bwnc yn canfod bod gan ddisgybl anghenion addysgol arbennig mae’n darparu ymyriadau sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarperir fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan fo’r athro/athrawes dosbarth neu bwnc a’r Cydgysylltydd AAA yn cael cyngor neu gymorth gan arbenigwyr allanol, fel y gellir gweithredu ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarperir i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’.

Datganiad

Disgyblion mae’r awdurdod lleol yn cadw datganiad o anghenion addysgol arbennig iddynt o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996.  Gall datganiad gael ei gyhoeddi gan yr awdurdod lleol ar ôl asesiad o anghenion plentyn.

Talgrynnu a symbolau

Mewn tablau lle mae ffigurau wedi cael eu talgrynnu i’r digid terfynol agosaf, mae’n bosibl y bydd anghysondeb ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau unigol a’r cyfanswm a ddangosir.

Mae’r symbolau canlynol wedi cael eu defnyddio trwy’r cyhoeddiad hwn i gyd:

  • [n/a] nid yw’r eitem data’n gymwys
  • [ddim ar gael] nid yw’r eitem data ar gael
  • [wedi'i atal] mae’r eitem data yn datgelu gwybodaeth

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn 2010 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau. Cynhaliwyd yr asesiad llawn diweddaraf o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2010.

Ffynhonnell data a chwmpas

Cynhelir Cyfrifiad Disgyblion EOTAS bob blwyddyn ac mae’n casglu data ar ddisgyblion sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol oddi wrth awdurdodau lleol yn electronig trwy wefan ddiogel. Mae’r gwaith casglu’n cael ei wneud gan y tîm ystadegau ysgolion yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddeg yn Llywodraeth Cymru.

Mae’r wybodaeth yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn ymwneud â disgyblion sy’n derbyn addysg a ariennir gan awdurdod lleol y tu allan i ysgol brif ffrwd yn ystod wythnos cyfrifiad bob mis Ionawr a nifer y disgyblion o oedran ysgol gorfodol (rhwng 5 a 15 oed ar 31 Awst cyn dechrau’r flwyddyn academaidd) y gŵyr awdurdodau lleol eu bod yn derbyn addysg ddewisol yn y cartref. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 dyddiadau wythnos y cyfrifiad oedd 19 i 23 Ebrill 2021.

Yn 2020/21 cafwyd data ar 2,186 o ddisgyblion oedd yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol oddi wrth bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. O’r 2,186 o ddisgyblion oedd yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, cofnodwyd yng Nghyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion Ebrill 2021 bod 394 ohonynt â statws cofrestru ‘prif gyfredol’ neu ‘cyfredol’ mewn ysgolion cynradd, uwchradd neu arbennig a gynhelir ac felly barnwyd eu bod yn derbyn eu prif addysg mewn ysgol a gynhelir. Barnwyd bod y 1,792 o ddisgyblion eraill yn derbyn eu prif addysg heblaw yn yr ysgol. Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn canolbwyntio ar ddisgyblion sy’n derbyn eu haddysg gan fwyaf heblaw yn yr ysgol, ond er mwyn rhoi darlun cyflawn, roedd angen cynnwys yr holl ddisgyblion oedd yn derbyn addysg heblaw yn yr ysgol yn Tabl 1, Tabl 8 a Tabl 9. 

Cofnododd awdurdodau lleol ei bod yn hysbys yn 2020/21 bod 4,022 o ddisgyblion yn cael addysg ddewisol yn y cartref. O’r disgyblion hyn, roedd yn hysbys nad oedd 320 o oedran ysgol gorfodol, felly cawsant eu hepgor o’r ffigurau a geir yn y datganiad hwn, gan adael cyfanswm o 3,702 o ddisgyblion.

Nid yw data ar ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu yn gartrefol yn orfodol i'r awdurdod lleol ei ddarparu. Mewn rhai blynyddoedd, nid oes cwmpas llawn ar gael gan yr holl awdurdodau lleol am y data hwn (a gyflwynir yn nhabl 10).

Diffyg cwmpas

  • Yn 2012/13 nid oedd Caerffili yn cyflwyno data ar gyfer disgyblion sydd wedi'u haddysgu gartref.
  • Yn 2016/17 a 2017/18 nid oedd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno data ar gyfer disgyblion sydd wedi'u haddysgu gartref.
  • Ni chwblhawyd casglu data 2019/20 oherwydd pandemig y coronafirws (COVID-19). Am y rheswm hwn, dim ond 14 awdurdod lleol a oedd yn gallu cyflwyno data ac mae'r data'n ymwneud â'r awdurdodau hynny yn unig.

Defnyddwyr a defnydd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
  • adrannau llywodraethol eraill
  • awdurdodau lleol ac ysgolion
  • Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru
  • Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a’r cyfryngau

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • i gynghori gweinidogion
  • i lywio’r broses benderfynu ym maes polisi addysg yng Nghymru
  • i ddarparu gwybodaeth i Estyn yn ystod arolygiadau o ysgolion
  • i gynorthwyo â gwaith ymchwil i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata’n cael eu dilysu cyn i dablau gael eu cyhoeddi. Caiff data eu casglu ar ffurflen electronig a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru trwy DEWi, system ddiogel i drosglwyddo data ar lein a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae gwahanol gamau dilysu a gwirio synnwyr awtomatig yn rhan annatod o’r broses er mwyn sicrhau bod y data o ansawdd da.

Gan ddechrau yn 2011/12, ar ôl casglu’r data, cynhaliwyd cyfnod dilysu ychwanegol pan anfonwyd tablau cryno o’u data at awdurdodau lleol, gan ofyn iddynt wirio eu bod yn gywir. Er y cadarnhawyd bod y rhan fwyaf o’r data’n gywir, tynnodd y cyfnodau gwirio hyn sylw at broblemau gyda data nifer o awdurdodau lleol, a gafodd eu datrys, gan wella cywirdeb y data ymhellach.

Amseroldeb a phrydlondeb

Gohiriwyd casglu data 2020/21 oherwydd y pandemig coronafirws (COVID-19) o Ionawr i Ebrill. Rhoddir cyfnod i'r awdurdodau lleol i lanlwytho data ac ymateb i ymholiadau dilysu cyn cyhoeddi'r canlyniadau.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru, ynghyd â thablau manylach yn cyd-fynd â'r datganiad ac ar StatsCymru, gwasanaeth am ddim sy'n galluogi ymwelwyr i weld, trin a llwytho i lawr ddata.

Cymaroldeb a chydlyniaeth

Mae’r tablau a’r siartiau yn y datganiad ystadegol cyntaf hwn yn cynnwys data am grwpiau gwahanol o ddisgyblion EOTAS fel y’i diffinnir yn yr adran Diffiniadau isod. Nodir yn glir a yw’r tablau a’r siartiau’n cyfeirio at ddisgyblion EOTAS mae eu prif addysg heblaw yn yr ysgol, mae eu prif addysg mewn ysgol a gynhelir neu'r holl ddisgyblion EOTAS, felly cyn cymharu dau dabl neu siart dylech wirio a ydynt yn cyfeirio at yr un grŵp o ddisgyblion EOTAS.

Gellir rhoi disgyblion fesul oedran (Tabl 3) a fesul AAA (Tabl 4) yn eu cyd-destun trwy gymharu â’r boblogaeth ysgol gyffredinol. Gellir gweld y data perthnasol yng nghyhoeddiad canlyniadau terfynol y cyfrifiad ysgolion.

O 2017/18 rydym yn cyhoeddi tablau ar StatsCymru wrth ochr y datganiad.

Mae Lloegr yn cyhoeddi nifer y disgyblion ar gofrestri Unedau Cyfeirio Disgyblion yn y datganiad ystadegol a elwir ‘Schools, Pupils and their Characteristics: January 2021 (GOV.UK)’.

Mae data ar gyfer Gogledd Iwerddon: Education Outside of School (Adran Addysg, Gogledd Iwerddon).