Neidio i'r prif gynnwy

1. Gweledigaeth ynni adnewyddadwy

Argymhelliad

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Mae'r argymhelliad hwn yn gosod y weledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd yr argymhellion sy'n dilyn yn helpu i wireddu'r uchelgais i gyflawni'r weledigaeth hon.

Drwy Sero Net Cymru fe wnaethom ymrwymo i ymgynghori ar ein targedau ynni adnewyddadwy. Mae'r weledigaeth o'r argymhelliad hwn yn rhoi'r cyd-destun a'r uchelgais ar gyfer y targedau hynny.

Mae'r prif uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • Gweithio gyda chontractwr annibynnol i gasglu tystiolaeth er mwyn darparu'r sylfaen ar gyfer y ffordd y gall Cymru symud i gyflawni'r weledigaeth;
  • Ystyried y sylfaen dystiolaeth, lansio ymgynghoriad ffurfiol cyn diwedd 2022.

Camau nesaf at gwblhau

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gwblhau.

O ystyried goblygiadau ein gweledigaeth ar gyfer ein hymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru, y camau sydd ar ddod sy'n gysylltiedig â'r argymhelliad hwn yw:

  • Cyhoeddi ymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru cyn diwedd 2022;
  • Cyhoeddi ein targedau ynni adnewyddadwy wedi'u diweddaru erbyn Haf 2023.

2. Cynllun ynni cenedlaethol

Argymhelliad  

Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Mae'r argymhelliad hwn yn gwneud cynnydd cyson. Gan adeiladu ar gwblhau pedair Strategaeth Ynni Ranbarthol, a chyflwyno dau gynllun peilot ar gyfer Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEP) yng Nghasnewydd a Chonwy yn llwyddiannus, mae cefnogaeth yn cael ei darparu ar sail ranbarthol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Penodi'r Catapult System Ynni (ESC) fel ein cynghorydd technegol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu LAEPau ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru erbyn 2024;
  • ESC yn gweithio gyda rhanbarth canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) i ddatblygu eu cynlluniau ynni;
  • Gweithio gyda busnesau a allai gyflawni'r cynlluniau ynni ar gyfer y tri rhanbarth arall (Gogledd Cymru, De-orllewin Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd) er mwyn hyrwyddo'r cyfle sydd ar ddod; 
  • Cynnal sesiynau ymgysylltu cynnar gyda phob rhanbarth ac Awdurdod Lleol a phecynnau cymorth y cytunwyd arnynt i helpu i ddarparu LAEPau gyda methodoleg y cytunwyd arno;
  • Sefydlu Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen a fydd yn helpu i yrru ein hymrwymiad ar gyfer Cynllun Ynni Cenedlaethol cyfannol cyfun erbyn 2024.

Camau nesaf at gwblhau

Mae disgwyl i'r argymhelliad hwn gael ei gwblhau erbyn 2024, ar ôl i'r holl LAEPau gael eu cynhyrchu ynghyd â Chynllun Ynni Cenedlaethol cyfun.

Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Penodi cyflenwyr i weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-Orllewin Cymru i ddatblygu LAEPau ar gyfer eu hawdurdodau lleol;
  • Sefydlu fforwm awdurdod lleol ar gyfer cydweithio a gwybodaeth. Cynhaliwyd y fforwm cyntaf ar 13 Medi;
  • Cyfarfodydd pellach y Grŵp Cynghori Cenedlaethol;
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i lywio datblygiad y cynlluniau ynni. 

3. Strategaeth ymgysylltu ag ymddygiad y cyhoedd

Argymhelliad    

Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae'r argymhelliad hwn yn mynd rhagddo'n dda wrth i ni geisio ymgysylltu â'r cyhoedd i groesawu uchelgais Net Sero Cymru a gyrru newid ymddygiad i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Diweddaru ac ail gyhoeddi Gweithio Gyda'n Gilydd i Gyrraedd Sero net ym mis Ebrill 2022, gyda'r addewidion cyhoeddus diweddaraf, astudiaethau achos, mewnbynnau gan ein pobl ifanc ac effaith bellach digwyddiadau COP26 a COP Cymru;
  • Cyhoeddi ein Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ym mis Mehefin 2022, sy'n amlinellu sut rydym yn bwriadu datblygu momentwm, ysgogi syniadau a chryfhau clymblaid Tîm Cymru ar faterion newid hinsawdd;

  • Cynnal digwyddiadau ymgysylltu cynnar gyda rhanddeiliaid allweddol yn ogystal â swyddogion mewnol ar draws Llywodraeth i lunio ein Strategaeth Newid Ymddygiad.

Camau nesaf at gwblhau

Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r gwaith o weithredu'r argymhelliad hwn gael ei gwblhau o fewn y 6 mis nesaf, er y bydd ymgysylltu â'r cyhoedd i wella effeithlonrwydd ynni, ochr yn ochr â'r ymgyrch ehangach tuag at Sero Net, yn ymdrech barhaus gan tîm Cymru.

Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Cyhoeddi Strategaeth Newid Ymddygiad ddrafft (disgwylir ar hyn o bryd ddiwedd Mis Medi 2022);
  • Cwblhau ymgynghoriad agored o'n Strategaeth Newid Ymddygiad drafft;
  • Cynnal o leiaf un digwyddiad ymgysylltu cyfunol i adeiladu ar lwyddiant Wythnos Hinsawdd Cymru 2020 a COP Cymru 2021;
  • Cyhoeddi fersiwn terfynol o'n Strategaeth Newid Ymddygiad yn gynnar yn 2023;
  • Ailwampio ein cynnwys ar y we a dulliau eraill i wella cyfathrebu i fynd yn fyw yn 2023.

4. Cyngor ar Ynni – Cartrefi Cynnes / Strategaeth Gwres

Argymhelliad   

Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Cynnes a Strategaeth Gwres yn y dyfodol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Mae gwasanaeth cynghori hawdd cael gafael arno yn gysylltiedig â Strategaeth Gwres newydd Llywodraeth Cymru ac adolygiad o'r Rhaglen Cartrefi Cynnes ochr yn ochr â'r ymgyrch ymgysylltu â'r cyhoedd ar Sero Net Cymru (gweler argymhelliad 3). 

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cwblhau, ym mis Ebrill 22, ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol yr iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Cynnes (WHP);
  • Datblygu achos busnes yn barhaus i lywio opsiynau, gan gynnwys gwasanaethau rhoi cyngor, ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Cynnes; 
  • Penodi yr Ymddiriedolaeth Arbedion Carbon a Regen fel cynghorwyr arbenigol annibynnol i gefnogi datblygiad ein Strategaeth Gwres;
  • Darparu cyngor parhaus fel rhan o gynllun tlodi tanwydd dan arweiniad Nwy Prydain/EST sydd fel arfer yn darparu cyngor wedi'i deilwra ac yn cyfeirio at wasanaethau trydydd parti i dros 15,000 o aelwydydd y flwyddyn.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd ein hymchwil barhaus yn parhau i lywio'r gwaith o weithredu'r argymhelliad hwn. Mae'r camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Defnyddio ymatebion yr ymgynghoriad Gwersi a Ddysgwyd i lywio cyfeiriad polisi ar gyfer y WHP newydd erbyn hydref 2022;
  • Cyflwyno'r WHP newydd, y disgwylir o 2023 ymlaen, a fydd yn cael ei gefnogi gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE);
  • Cynnal ymgynghoriad rhanddeiliaid wrth inni ddatblygu ein Strategaeth Gwres, sydd i'w gyhoeddi ar ddiwedd 2023.