Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Medi 2022

Strategaeth

1. Gweledigaeth ynni adnewyddadwy

Argymhelliad

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Mae'r argymhelliad hwn yn gosod y weledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd yr argymhellion sy'n dilyn yn helpu i wireddu'r uchelgais i gyflawni'r weledigaeth hon.

Drwy Sero Net Cymru fe wnaethom ymrwymo i ymgynghori ar ein targedau ynni adnewyddadwy. Mae'r weledigaeth o'r argymhelliad hwn yn rhoi'r cyd-destun a'r uchelgais ar gyfer y targedau hynny.

Mae'r prif uchafbwyntiau yn cynnwys:

  • Gweithio gyda chontractwr annibynnol i gasglu tystiolaeth er mwyn darparu'r sylfaen ar gyfer y ffordd y gall Cymru symud i gyflawni'r weledigaeth;
  • Ystyried y sylfaen dystiolaeth, lansio ymgynghoriad ffurfiol cyn diwedd 2022.

Camau nesaf at gwblhau

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gwblhau.

O ystyried goblygiadau ein gweledigaeth ar gyfer ein hymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru, y camau sydd ar ddod sy'n gysylltiedig â'r argymhelliad hwn yw:

  • Cyhoeddi ymgynghoriad ar dargedau ynni adnewyddadwy Cymru cyn diwedd 2022;
  • Cyhoeddi ein targedau ynni adnewyddadwy wedi'u diweddaru erbyn Haf 2023.

2. Cynllun ynni cenedlaethol

Argymhelliad  

Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Mae'r argymhelliad hwn yn gwneud cynnydd cyson. Gan adeiladu ar gwblhau pedair Strategaeth Ynni Ranbarthol, a chyflwyno dau gynllun peilot ar gyfer Cynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEP) yng Nghasnewydd a Chonwy yn llwyddiannus, mae cefnogaeth yn cael ei darparu ar sail ranbarthol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Penodi'r Catapult System Ynni (ESC) fel ein cynghorydd technegol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu LAEPau ar draws pob Awdurdod Lleol yng Nghymru erbyn 2024;
  • ESC yn gweithio gyda rhanbarth canolbarth Cymru (Powys a Cheredigion) i ddatblygu eu cynlluniau ynni;
  • Gweithio gyda busnesau a allai gyflawni'r cynlluniau ynni ar gyfer y tri rhanbarth arall (Gogledd Cymru, De-orllewin Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd) er mwyn hyrwyddo'r cyfle sydd ar ddod; 
  • Cynnal sesiynau ymgysylltu cynnar gyda phob rhanbarth ac Awdurdod Lleol a phecynnau cymorth y cytunwyd arnynt i helpu i ddarparu LAEPau gyda methodoleg y cytunwyd arno;
  • Sefydlu Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar gyfer y rhaglen a fydd yn helpu i yrru ein hymrwymiad ar gyfer Cynllun Ynni Cenedlaethol cyfannol cyfun erbyn 2024.

Camau nesaf at gwblhau

Mae disgwyl i'r argymhelliad hwn gael ei gwblhau erbyn 2024, ar ôl i'r holl LAEPau gael eu cynhyrchu ynghyd â Chynllun Ynni Cenedlaethol cyfun.

Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Penodi cyflenwyr i weithio gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Uchelgais Gogledd Cymru a De-Orllewin Cymru i ddatblygu LAEPau ar gyfer eu hawdurdodau lleol;
  • Sefydlu fforwm awdurdod lleol ar gyfer cydweithio a gwybodaeth. Cynhaliwyd y fforwm cyntaf ar 13 Medi;
  • Cyfarfodydd pellach y Grŵp Cynghori Cenedlaethol;
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol i lywio datblygiad y cynlluniau ynni. 

3. Strategaeth ymgysylltu ag ymddygiad y cyhoedd

Argymhelliad    

Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae'r argymhelliad hwn yn mynd rhagddo'n dda wrth i ni geisio ymgysylltu â'r cyhoedd i groesawu uchelgais Net Sero Cymru a gyrru newid ymddygiad i ymateb yn effeithiol i newid hinsawdd.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Diweddaru ac ail gyhoeddi Gweithio Gyda'n Gilydd i Gyrraedd Sero net ym mis Ebrill 2022, gyda'r addewidion cyhoeddus diweddaraf, astudiaethau achos, mewnbynnau gan ein pobl ifanc ac effaith bellach digwyddiadau COP26 a COP Cymru;
  • Cyhoeddi ein Cynllun Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ym mis Mehefin 2022, sy'n amlinellu sut rydym yn bwriadu datblygu momentwm, ysgogi syniadau a chryfhau clymblaid Tîm Cymru ar faterion newid hinsawdd;

  • Cynnal digwyddiadau ymgysylltu cynnar gyda rhanddeiliaid allweddol yn ogystal â swyddogion mewnol ar draws Llywodraeth i lunio ein Strategaeth Newid Ymddygiad.

Camau nesaf at gwblhau

Disgwylir i'r rhan fwyaf o'r gwaith o weithredu'r argymhelliad hwn gael ei gwblhau o fewn y 6 mis nesaf, er y bydd ymgysylltu â'r cyhoedd i wella effeithlonrwydd ynni, ochr yn ochr â'r ymgyrch ehangach tuag at Sero Net, yn ymdrech barhaus gan tîm Cymru.

Mae ein camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Cyhoeddi Strategaeth Newid Ymddygiad ddrafft (disgwylir ar hyn o bryd ddiwedd Mis Medi 2022);
  • Cwblhau ymgynghoriad agored o'n Strategaeth Newid Ymddygiad drafft;
  • Cynnal o leiaf un digwyddiad ymgysylltu cyfunol i adeiladu ar lwyddiant Wythnos Hinsawdd Cymru 2020 a COP Cymru 2021;
  • Cyhoeddi fersiwn terfynol o'n Strategaeth Newid Ymddygiad yn gynnar yn 2023;
  • Ailwampio ein cynnwys ar y we a dulliau eraill i wella cyfathrebu i fynd yn fyw yn 2023.

4. Cyngor ar Ynni – Cartrefi Cynnes / Strategaeth Gwres

Argymhelliad   

Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Cynnes a Strategaeth Gwres yn y dyfodol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Mae gwasanaeth cynghori hawdd cael gafael arno yn gysylltiedig â Strategaeth Gwres newydd Llywodraeth Cymru ac adolygiad o'r Rhaglen Cartrefi Cynnes ochr yn ochr â'r ymgyrch ymgysylltu â'r cyhoedd ar Sero Net Cymru (gweler argymhelliad 3). 

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cwblhau, ym mis Ebrill 22, ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol yr iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Cynnes (WHP);
  • Datblygu achos busnes yn barhaus i lywio opsiynau, gan gynnwys gwasanaethau rhoi cyngor, ar gyfer iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Cynnes; 
  • Penodi yr Ymddiriedolaeth Arbedion Carbon a Regen fel cynghorwyr arbenigol annibynnol i gefnogi datblygiad ein Strategaeth Gwres;
  • Darparu cyngor parhaus fel rhan o gynllun tlodi tanwydd dan arweiniad Nwy Prydain/EST sydd fel arfer yn darparu cyngor wedi'i deilwra ac yn cyfeirio at wasanaethau trydydd parti i dros 15,000 o aelwydydd y flwyddyn.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd ein hymchwil barhaus yn parhau i lywio'r gwaith o weithredu'r argymhelliad hwn. Mae'r camau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Defnyddio ymatebion yr ymgynghoriad Gwersi a Ddysgwyd i lywio cyfeiriad polisi ar gyfer y WHP newydd erbyn hydref 2022;
  • Cyflwyno'r WHP newydd, y disgwylir o 2023 ymlaen, a fydd yn cael ei gefnogi gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE);
  • Cynnal ymgynghoriad rhanddeiliaid wrth inni ddatblygu ein Strategaeth Gwres, sydd i'w gyhoeddi ar ddiwedd 2023.

Grid

5. Ymgysylltu ag Ofgem

Argymhelliad

Byddwn yn cynyddu ein trafodaethau ag Ofgem er mwyn sefydlu anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth o fewn Cymru. Byddwn yn sefydlu grŵp cydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Trafod rheolaidd gyda Gweinidogion ac ymgysylltu swyddogol ag Ofgem gan ystyried buddsoddi strategol mewn rhwydweithiau grid yng Nghymru a thrafod penderfyniadau drafft Ofgem ar gynlluniau busnes DNOau;
  • Gweithio gyda Energy System Catapult (ESC), ein harweinydd annibynnol ar Brosiect Grid y Dyfodol, i gytuno ar dybiaethau modelu i greu senarios a fydd yn helpu i nodi'r buddsoddiad yn y seilwaith sy'n angenrheidiol yn y dyfodol mwyaf tebygol, i gryfhau'r ddadl dros fuddsoddi.  

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru. Mae ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Gweithio gydag ESC ar Gam 2 ein Prosiect Grid y Dyfodol, gan arwain at set o fewnwelediadau rhwydwaith a chynllun gweithredu terfynol erbyn Gwanwyn 2023;
  • Sefydlu'r llwybrau ar gyfer safbwyntiau Cymru er mwyn llywio datblygiad llwybrau i'r cysylltiad arfaethedig rhwng y gogledd a'r de yng Nghymru.

6. Pensaer Systemau Ynni Cymru

Argymhelliad   

Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn ni'n pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:

  1. Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
  2. Mapio cartrefi tlawd o ran tanwydd (a thrafnidiaeth) yn erbyn parthau rheoli cyfyngiadau Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) cyfredol ac a ragwelir (lle y mae gan ymateb/hyblygrwydd ochr y galw y gwerth mwyaf i'r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio technolegau hyblygrwydd carbon isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn 
  3. Datrysiadau smart ar gyfer trosglwyddo a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y gorau o'r defnydd o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid ac agor y farchnad i arloesi. Angen ymgysylltu a mewnbynnau o bob rhan o ddiwydiant.
  4. Cefnogi achosion busnes i gynllunio'r system gyfan a dod â chynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru at ei gilydd
  5. Cystadleuaeth i adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
  6. Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trosglwyddo a dosbarthu
  7. Dyluniad rhwydwaith ar y Môr Celtaidd ac   atgyfnerthiadau ar y tir.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Rydym wedi creu 'gweithgor grid' o aelodau yr archwiliad dwfn i ddatblygu argymhelliad gan ystyried datblygiadau ers adrodd ar yr archwiliad dwfn. Bydd y gweithgor hwn hefyd yn ystyried sut rydym yn gweithredu argymhelliad 21. 
Mae'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU i greu Gweithredwr System y Dyfodol ynghyd a chyhoeddi cynnig Dylunio Rhwydwaith Cyfannol wedi bod yn ddatblygiadau pwysig i weithredu'r argymhelliad hwn.  

Uchafbwynt allweddol ers yr archwiliad dwfn:

  • Drwy weithio gyda'r 'gweithgor grid' rydym yn asesu'r angen am 'Bensaer System' a beth ddylai ei nodau a'i amcanion fod os yw am gael gwerth ystyrlon i Gymru fel eiriolwr neu hyrwyddwr. 

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru.  Mae ein camau blaenoriaeth dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Gweithio gyda'r System Ynni Catapult ar Gam 2 ein Prosiect Grid yn y Dyfodol, a bydd y mewnwelediadau ohonynt yn helpu i lywio'r angen o/ar gyfer Pensaer System;
  • Gweithio gyda gweithgor ymchwilio dwfn ac ystod eang o randdeiliaid i lunio nodau'r Pensaer Systemau ymhellach gan ystyried cyhoeddi Gweithredwr Systemau'r Dyfodol gan Lywodraeth y DU a gwybodaeth bellach am weithredu'r Dyluniad Rhwydwaith Cyfannol drwy'r Dyluniad Rhwydwaith Manwl;
  • Ystyried synergeddau rhwng yr argymhelliad hwn a rôl Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ar ynni.

Cydsynio a thrwyddedu

7. Adolygiad CNC

Argymhelliad 

Byddwn yn cynnal adolygiad o gydsynio a chefnogi tystiolaeth a chyngor, er mwyn sicrhau proses amserol a chymesur gan gynnwys:

  1. Adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o'r prosesau cynghori ar drwyddedu morol, cydsynio a chefnogi i gael gwared ar rwystrau, gan dynnu ar waith y grwpiau presennol
  2. Adolygiad o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori i gadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Mor CNC
  3. Nodi bylchau o ran tystiolaeth forol a dulliau o'u llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio
  4. Adolygu a mapio'r broses ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir i gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar dechnolegau newydd
  5. Nodi opsiynau ar gyfer rhyddhau capasiti ac ailgyfeirio adnodd i feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt
  6. Byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau yn ystod haf 2022, ar wahân i bwynt b. y byddwn yn adrodd arno yng ngwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Mae'r argymhelliad hwn wedi cynnwys gwaith mewnol helaeth o fewn CNC a thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a CNC. 

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

(a)

 

  • Penodi contractwr i gynnal adolygiad annibynnol o'r broses drwyddedu forol fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. 
  • Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd cyfres o gyfweliadau ag ymgyngoreion a rhanddeiliaid i gasglu tystiolaeth ar y prosesau presennol.  Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn sail i'r argymhellion. 

(b) Mae CNC wedi cwblhau adolygiad o anghenion adnoddau sydd wedi cael eu bwydo i mewn i'r adolygiad annibynnol. 

(c)

  • Mae CNC wedi cyhoeddi ei Anghenion Blaenoriaethu Tystiolaeth Forol ac Arfordirol
  • Mae CNC hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar fentrau tystiolaeth strategol ar y môr (megis Cofrestr Tystiolaeth Amgylcheddol Gwynt ar y Mor Defra, Rhaglenni Cyd-ddiwydiannau Ynni Adnewyddadwy ar y Môr ar gyfer Ynni Gwynt a Chefnforol ar y Mor, ac Is-grŵp Cynghori Strategol Cymru, Gwyddoniaeth ac Is-grŵp Tystiolaeth) i fynd i'r afael â bylchau tystiolaeth ar gyfer ynni gwynt ar y môr ac ynni adnewyddadwy gwlyb.
  • Gan nodi bod tystiolaeth amgylcheddol berthnasol yn cael ei rhannu'n gyfrifol gan LlC, CNC a datblygwyr, mae LlC hefyd wedi nodi bod angen tystiolaeth i gefnogi cynllunio morol ar gyfer ynni adnewyddadwy.  
  • Disgwyl rhagor o waith ar dystiolaeth ddaearol, yn ddibynnol yn rhannol ar ganlyniad yr achos busnes uchod.

(d) Nifer o gyrff gwneud penderfyniadau perthnasolwedi'u nodi i weithio ar yr argymhelliad hwn ar y cyd 

(e) Gweler b.  Mae hyn bellach wedi'i gwblhau.

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf mae ein camau blaenoriaeth yn cynnwys:

(a) Adroddiad terfynol ar yr adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o drwyddedu morol, a ddisgwylir ddiwedd mis Hydref. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r broses.

(b) Mae angen gwaith pellach i adolygu'r adnoddau yn y dyfodol i alinio adnoddau CNC er mwyn diwallu anghenion y sector ynni adnewyddadwy. 
(c) 

  • CNC i gomisiynu tystiolaeth forol ychwanegol, yn ddibynnol ar ganlyniad yr achos busnes. 
  • Rhagor o opsiynau cyflenwi cydweithredol i'w nodi ar gyfer bylchau tystiolaeth mawr a hirdymor.
  • Cwmpasu'r hydref hwn ar anghenion tystiolaeth amgylcheddol sy'n flaenoriaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy daearol gan CNC gan gynnwys asesu'r ffordd orau o roi adnoddau i anghenion y dystiolaeth honno.

8. Ardaloedd adnoddau strategol morol

Argymhelliad  

Byddwn ni, gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol, yn nodi 'meysydd adnoddau strategol' morol erbyn 2023, ac yn rhoi arweiniad i gyfeirio meysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu technolegau ynni adnewyddadwy gwahanol. Bydd ein polisïau cynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth forol yn cydweithio i gynnig llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Mae'r argymhelliad hwn yn mynd rhagddo'n dda gydag ymarfer mapio ar y gweill a chynnydd i'w weld gydol yr haf.
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cynnal digwyddiad rhanddeiliaid rhagarweiniol ym mis Mawrth 2022;
  • Cwblhau ymarferion adborth rhanddeiliaid, er mwyn cytuno ar feini prawf technegol a mapio adnoddau sylfaenol cychwynnol;
  • Cwblhau cyfres o weithdai rhanddeiliaid penodol i'r sector technegol i gytuno ar feini prawf mapio Ardal Adnoddau Strategol (SRA) ar gyfer pob sector;
  • Cwblhau a chyhoeddi Arfarniad Rheoleiddio Cynefinoedd ac adroddiadau sgrinio Asesu'r Amgylchedd Strategol. Dechreuwyd ar y gwaith ar Arfarnu Cynaliadwyedd;
  • Dilyniant CNC o ymarfer mapio amgylcheddol cyflenwol

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn cael ei gwblhau yn 2023 pan fydd ymgynghoriad ar feysydd o adnoddau strategol morol yn cael eu cynnig.

Dros y 6 mis nesaf mae ein camau blaenoriaeth yn cynnwys:

  • Cylchredeg mapiau adnoddau sylfaenol i randdeiliaid ym mis Medi 2022;
  • Cynnal digwyddiadau rhanddeiliaid i drafod ein dull o adlewyrchu ystyriaethau amgylcheddol o ran mapio SRA yn hydref 2022;
  • Cyflwyno allbynnau ymarfer mapio amgylcheddol CNC erbyn diwedd mis Hydref;
  • Rhannu'r mapio SRA rhagarweiniol gyda rhanddeiliaid i'w trafod erbyn diwedd 2022;
  • Cwblhau mapiau o Ardaloedd Adfywio Strategol arfaethedig ynghyd ag adroddiad Arfarnu Cynaliadwyedd erbyn gwanwyn 2023.

9. Pwerau cynghori ar y môr (JNCC i CNC)

Argymhelliad

Wrth i ni geisio datganoli Ystâd y Goron, byddwn ni'n symleiddio'r broses o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy'r Môr Celtaidd gan gynnwys dirprwyo pwerau cynghori ar y môr o'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i CNC.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Creu papur briffio i Lywodraeth Cymru, gan CNC, i esbonio cefndir y ddirprwyaeth gan gynnwys sut mae'r dull gweithredu wedi'i fabwysiadu yn Lloegr a'r Alban;
  • CNC yn cychwyn trafodaethau gyda JNCC i drafod trosglwyddo pwerau cynghori yn y rhanbarth ar y môr;
  • Rhannu blaengynllun drafft ar gyfer gwerthuso'r ddirprwyaeth gyda JNCC. 
  • Parhau i drafod gydag Ystâd y Goron ar sut i wneud y mwyaf o'r gwerth economaidd a chymdeithasol o ddatblygiadau a gweithredoedd gwynt ar y môr ar gyfer sut y gall Ystâd y Goron roi mwy o eglurder ar botensial prosiectau buddsoddi yn y dyfodol. 

Camau nesaf at gwblhau

Yn amodol ar gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, CNC a JNCC, dros y 6 mis nesaf mae ein blaenoriaethau yn cynnwys:

  • Mae CNC a JNCC yn cynnal adolygiad llawn o opsiynau dirprwyo ar y cyd â JNCC a Llywodraeth Cymru ac ymgynghori â'r datblygwyr sy'n gweithredu yng Nghymru;
  • CNC a JNCC yn gofyn am benderfyniad terfynol drwy Lywodraeth Cymru, Bwrdd Rhaglen Forol CNC a Phwyllgor JNCC ac o bosibl rhoi cynlluniau ar y gweill.

Cyllid

10. Grŵp Buddsoddi

Argymhelliad   

Byddwn yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd o dynnu buddsoddiad ychwanegol i lawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddwn yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

  • Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:
  • Sefydlu is-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy, sy'n cynnwys aelodau yr archwiliad dwfn ac arbenigwyr yn y maes. Cynhaliodd y grŵp gyfres o gyfarfodydd a gweithdy sydd â'r nod o edrych ar fodelau ar gyfer ariannu a chwilio am fuddsoddiad mewn prosiectau adnewyddadwy a sut y gellid gynyddu prosiectau ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy'n cadw cyfoeth a gwerth yng Nghymru;
  • Derbyn mewnbwn gan Fanc Datblygu Cymru a swyddogion sy'n gweithio ar gynigion i'r Datblygwr Ynni Adnewyddadwy hysbysu'r ystod o opsiynau ar gyfer ariannu prosiectau ynni adnewyddadwy;
  • Cwblhau adroddiad drafft i roi cipolwg ac argymhelliad ar gyllido cyhoeddus, preifat a chymunedol o ddatblygiadau adnewyddadwy.

Camau nesaf at gwblhau

Mae allbynnau o'r gweithgor Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy i'w dosbarthu ar ôl eu cwblhau. 

11. Contract ar gyfer Gwahaniaeth

Argymhelliad   

Byddwn ni'n ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod proses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU yn esblygu'n briodol i:

  1. adlewyrchu uchafiaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi ac
  2. i gyflawni llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol cynnar a rhai newydd.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae'r argymhelliad hwn yn mynd rhagddo er oherwydd y risgiau ynghylch camau cyfreithiol gan yr UE, mae'r ffocws wedi symud i ffwrdd o gynghrair o lywodraethau datganoledig yn hytrach tuag at gylchoedd prydlesu gwely'r môr a chamau gweithredu a fydd yn sicrhau budd lleol i Gymru.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cynnal cyfarfodydd rhwng Gweinidogion LlC ac Ystâd y Goron (TCE) ar y manteision economaidd a chymdeithasol i'w sicrhau ar gyfer rowndiau prydlesu sydd ar y gweill a'r ystyriaethau ymarferol sy'n ymwneud â'r TCE i Gymru;
  • Cynnal cyfarfodydd gyda swyddogion a Llywodraeth y DU ar y cynigion CfD diweddaraf a chanlyniad y rowndiau prydlesu diweddaraf i Gymru.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru cyn pob rownd prydlesu. Mae ein blaenoriaethau dros y chwe mis nesaf yn cynnwys:

  • Dadansoddiad o ddyraniadau Rownd 4 i ddeall y canlyniadau i Gymru yn well.
  • Sicrhau cyllid ton a llanw wedi'i glustnodi gyda digon o gapasiti yn y rownd brydlesu nesaf.

12. Trethi annomestig

Argymhelliad    

Byddwn ni'n edrych ar yr opsiynau i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol trwy Ardrethi Annomestig.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Rydym wedi cytuno i barhau i ddarparu rhyddhad i gynlluniau ynni dŵr cymunedol yng Nghymru. Bydd yr ymyrraeth hon yn sicrhau bod y cynlluniau'n parhau'n hyfyw ac yn darparu buddion cymdeithasol ac amgylcheddol i gymunedau yng Nghymru.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn datblygu dros y 6 mis nesaf. Rydym yn ymgynghori ar ddiwygio sgôr annomestig yng Nghymru.

13. Grŵp caffael

Argymhelliad 

Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall caffael gyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar werth economaidd a chymdeithasol lleol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  1. Gwella polisi caffael i ymgorffori gwerth cymdeithasol gan gynnwys archwilio gyda datblygwyr masnachol sut y gallant ddiwallu'r angen lleol orau.
  2. Opsiynau ar gyfer defnyddio pŵer prynu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi llwybrau dibynadwy i'w marchnata ar gyfer prosiectau ynni'r gymuned a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys trwy Gytundebau Prynu Pŵer hirdymor.
  3. Sut y gall gwasanaethau cyngor a chymorth gynorthwyo datblygwyr ynni cymunedol yn well i gael mynediad at gyfleoedd yn y farchnad.
  4. Sut mae ymgysylltu'n well â'r sector ynni cymunedol yn Rhaglen ariannu Cymru.
  5. Sut y gellir lledaenu arferion gorau, gan gynnwys bwydo i grŵp arferion gorau Llywodraethau Cymru neu'r Ganolfan Rhagoriaeth Caffael pe bai'n cael ei sefydlu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae gwerth gweithgor dynodedig i ddilyn yr argymhelliad hwn yn cael ei ystyried yn dilyn casgliadau'r Gweithgor Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy. Mae sawl elfen o'r argymhelliad hwn wedi eu cyflawni trwy waith presennol Llywodraeth Cymru.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cydnabod y cynnydd sydd eisoes ar y gweill drwy WGES a CEW i ledaenu arferion gorau ar gaffael a chefnogaeth barhaus i brosiectau ynni adnewyddadwy;
  • Edrych ar y themâu hyn drwy'r grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy a'r rhwystrau gwirioneddol sy'n cael eu hachosi gan rai o'r awgrymiadau.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn mynd rhagddo dros y 6 mis nesaf gyda swyddogion ac aelodau yr archwiliad dwfn yn dadansoddi'r opsiynau mewn perthynas â Chytundebau Prynu Pŵer (PPAau) ochr yn ochr â chefnogaeth ehangach ar gyfer caffael.

Bydd hyn hefyd yn bwydo i argymhelliad 16 ar gyfleoedd i fentrau cymunedol ar fynediad i'r ystad gyhoeddus.

Cymuned ac ynni lleol

14. Adnoddau ar gyfer Ynni cymunedol / lleol

Argymhelliad    

Byddwn yn cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru gan gynnwys:

  1. Gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyda staff a chymorth ariannol i sicrhau darpariaeth ar gyfer datblygu prosiect gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth cymunedol (gan barhau gyda trydan adnewyddadwy) a chymorth ar gyfer perchnogaeth a rennir
  2. Camau gan y llywodraeth i annog datblygwyr preifat i gynnwys opsiynau ar gyfer rhannu perchnogaeth leol a chymunedol, gan gynnwys trwy dendrau a gyhoeddwyd ar dir cyhoeddus.
  3. Cyllid Llywodraeth Cymru i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau graddio eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy a chynaliadwy.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Mae'r argymhelliad hwn yn datblygu yn dda gyda chefnogaeth barhaus i ynni cymunedol a lleol gan Lywodraeth Cymru.
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cynyddu cyllid i Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru (WGESG) i gefnogi grwpiau cymunedol i gael mynediad at grantiau i gefnogi eu prosiectau. Mae'r arian yn galluogi'r grwpiau i gyflogi staff ac archwilio cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau rhanberchnogaeth;
  • Cyhoeddi canllawiau manylach ar ein disgwyliadau, o ran anogaeth, i ddatblygwyr preifat gynnwys opsiynau ar gyfer rhanberchnogaeth, (gweler argymhelliad 17). 
  • Mae gwaith dadansoddi dichonoldeb yn mynd rhagddo ar Ystad Goed Llywodraeth Cymru a fydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar dir cyhoeddus.  
  • Ym mis Mawrth 2022, rhoddwyd pedair gwaith mwy o gyllid gennym i Ynni Cymunedol Cymru (CEW) i gyflawni eu cynllun busnes tair blynedd.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd recriwtio ar gyfer swyddi newydd o fewn WGES a CEW yn cefnogi'r argymhelliad hwn.

15. CEW a Datblygwr dan Berchnogaeth Gyhoeddus (Ynni Cymru)

Argymhelliad  

Byddwn yn sicrhau bod y sector sy'n eiddo i'r gymuned yn cymryd rhan ac yn rhoi mewnbwn i Ynni Cymru gan ystyried y 3 opsiwn canlynol:

  1. Mae lles y sector ynni cymunedol ynghlwm yn y datblygwr dan berchnogaeth gyhoeddus 
  2. Mae LlC yn buddsoddi mewn sefydliad ynni cymunedol i ddarparu'r gwaith hwn e.e., YnNi Teg, Egni neu gwmni cydweithredol o gwmniau Ynni cydweithredol.
  3. Mae LlC yn buddsoddi yn y datblygwr ynni dan berchnogaeth gyhoeddus a datblygwr ynni sy'n eiddo i'r gymuned = dau gorff gydag adnodd i ddatblygu prosiectau.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Mae dau linyn o weithgaredd i weithredu'r argymhelliad hwn. 

Mae trafodaethau'n parhau ynghylch gweithredu'r cytundeb cydweithredu i weithio tuag at greu Ynni Cymru. 
Wrth i'r trafodaethau hynny barhau, mae'r gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru ar sefydlu swyddogaeth datblygu ynni adnewyddadwy sydd dan berchnogaeth gyhoeddus.   

Uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn yn cynnwys:

  • penodi cyfarwyddwr anweithredol i fwrdd dros dro Datblygwr Ynni Adnewyddadwy i gynrychioli buddiannau ynni cymunedol.

Camau nesaf at gwblhau

Mae'r argymhelliad hwn wedi'i gwblhau gyda'r buddsoddiad yn YnNi Teg a phenodi aelod o Fwrdd cymunedol i'r datblygwr cyhoeddus. 

Dros y 6 mis nesaf mae ein blaenoriaethau'n cynnwys:

  • Parhau i drafod rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru ynghylch gweithio tuag at greu Ynni Cymru. 
  • Gweinidogion Llywodraeth Cymru i gytuno ar gwmpas a graddfa datblygwr ynni adnewyddadwy dan berchnogaeth gyhoeddus yn yr hydref.
  • Llywodraeth Cymru a CEW i barhau i adolygu gallu YnNi Teg, a hefyd ystyried rôl ehangach grwpiau cymunedol yn y trawsnewidiad ynni.

16. Mynediad ynni cymunedol I’r ystad gyhoeddus

Argymhelliad   

Byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd gyhoeddus i'r sector ynni cymunedol drwy (a) mae gan fentrau cymunedol hawliau i gynnig cyntaf os nad yw'n cael ei ddatblygu gan gorff cyhoeddus (b) strwythuro prosesau tendro i ffafrio prosiectau / cynlluniau cymunedol cymdeithasol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Prif ysgogydd yr argymhelliad hwn oedd mynediad i Ystad Goed Llywodraeth Cymru. Fel y nodwyd uchod mae dadansoddiad dichonoldeb yn mynd rhagddo o Ystad Goed Llywodraeth Cymru a fydd yn llywio'r gwaith o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar dir cyhoeddus.  

Camau nesaf at gwblhau

Dros y misoedd nesaf byddwn yn gweithio gyda CEW ac WGES i ddarparu arweiniad ar y manteision i gymunedau sy'n cael mynediad i'r ystad gyhoeddus.

Wrth i Gynlluniau Ynni Ardal Leol gael eu datblygu, bydd y rhain yn sail gadarn i nodi prosiectau posibl ar y cyd ar gyfer cyrff cyhoeddus a chymunedau'r ardal. 

Dylai canlyniad yr ystyriaethau hynny arwain at well mynediad i'r ystad gyhoeddus ar gyfer y sector ynni cymunedol.

17. Canllawiau perchnogaeth

Argymhelliad  

Byddwn yn cwblhau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r canllawiau ar ranberchnogaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad o 'ranberchnogaeth', ac yn gweithio'n agos gyda datblygwyr preifat i gael yr effaith fwyaf posibl. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Mae'r argymhelliad hwn bellach wedi'i gwblhau gyda chyhoeddi ein dogfen ganllaw ynghylch Rhanberchnogaeth a Pherchnogaeth Leol o Brosiectau Ynni yng Nghymru. Daeth y cyhoeddiad hwn yn dilyn ein datganiad polisi cynharach ar berchnogaeth leol o gynhyrchu ynni a gyhoeddwyd yn 2020.

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Ymgynghori ar ddrafftiau wedi'u diweddaru gydag aelodau'r grŵp archwilio dwfn a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru;
  • Cyhoeddi Canllawiau ym mis Mehefin 2022 ynghyd â datganiad o gefnogaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd.

Camau nesaf at gwblhau

Er bod yr argymhelliad hwn bellach wedi'i gwblhau, bydd gwaith parhaus i sicrhau bod y canllawiau hyn yn cael cymaint o effaith â phosibl drwy godi ymwybyddiaeth gydag awdurdodau lleol, datblygwyr cymunedol a masnachol, cyrff llywodraethol eraill a rhanddeiliaid perthnasol.

Caiff monitro parhaus ar ein targedau perchnogaeth leol ei adrodd yn ein cyhoeddiad rheolaidd Cynhyrchu Ynni yng Nghymru.

Economi a gwerth cymdeithasol

18. Seilwaith porthladdoedd a morol (TCE a Llywodraeth y DU)

Argymhelliad    

Byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i arbenigo a chydweithio, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod i fuddsoddi ynddynt. Rydym yn galw ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y gorau o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a'r seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Gweithio gyda Erebus i sicrhau Porthladd Cymru fel yr opsiwn a ffefrir ar gyfer ei brosiect;
  • Cefnogi ceisiadau am gyllid BEIS i gefnogi uwchraddio i'r Cynllun Gweithgynhyrchu a Seilwaith Gwynt Arnofiol ar y Môr (FLOWMIS).

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn flaenoriaeth barhaus yn enwedig gan fod cyfleoedd FLOW yn gysylltiedig â rhyddhau prydlesi gwely'r môr yn ogystal â phenderfyniadau yn y dyfodol ar gyfer y broses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (gweler argymhelliad 11). Mae ein camau blaenoriaeth dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Trafodaethau gyda Banc Seilwaith y DU ar fuddsoddiad posib;
  • Archwilio strategaeth aml-borthladd ar gyfer Gwyntoedd Arnofiol ar y Mor (FLOW) drwy hwyluso cyfarfodydd ar y cyd i drafod cynllun ar gyfer datblygu Port Talbot a Phenfro;
  • Ymchwilio a allai 'dull rhannu risg' fod yn opsiwn ymarferol, fel ei fod yn cynnwys arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, i sicrhau cyllid ar gyfer gwaith hwyluso cyfnod cynnar ar gyfer Port Talbot a Phenfro;
  • Gwneud yr achos busnes dros fuddsoddi hirdymor ar gyfer gwaith FLOW o safbwynt risg refeniw, o ystyried amseru ac amlygrwydd y prosiect ddatblygu hirdymor;
  • Parhau i edrych ar y cyfleoedd i sicrhau mwy o gyllid ar gyfer gwynt sefydlog yn y gogledd.

19. Cynllun gweithredu sgiliau sero net

Argymhelliad    

Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio mewn diwydiant er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Mae'r argymhelliad hwn yn mynd rhagddo ond i amserlen ddiwygiedig.  

Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Comisiynu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i gynnal adolygiad o lenyddiaeth Sgiliau Sero Net a phrofi'r canfyddiadau gyda rhanddeiliaid allweddol;
  • Cysylltu â rhanddeiliaid yn helaeth (yn fewnol ac yn allanol) i ddatblygu gweithredoedd/themâu allweddol.

Camau nesaf at gwblhau

Mae disgwyl i'r argymhelliad hwn gael ei gwblhau erbyn diwedd 2022 gyda'r Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net disgwyliedig yn cael ei gyhoeddi.

Mae ein camau nesaf dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Comisiynu tystiolaeth bellach ar gyfer amrywiol sectorau, gyda disgwyl y bydd digwyddiadau ymgynghori yn cael eu cynnal yn ystod yr hydref a'r gaeaf 2022;
  • Datblygu rhaglen beilot i brofi canfyddiadau o fylchau mewn sgiliau a nodwyd drwy'r ddarpariaeth Cyfrifon Dysgu Personol;
  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net yn derfynol tua diwedd 2022.

20. Rhaglen adnewyddadwy'r diwydiant

Argymhelliad    

Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn cwmpasu rhaglen waith i osod cymaint a phosibl o osodiadau ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storio ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ddulliau o gefnogi ac osgoi risg wrth fuddsoddi.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae'r argymhelliad hwn ar y gweill gyda Diwydiant Sero Net Cymru sydd newydd ei sefydlu i arwain y rhaglen hon.
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Cyhoeddiad Gweinidogol ffurfio Diwydiant Sero Net Cymru;
  • Recriwtio Prif Swyddog Gweithredol, a dechr’u'r broses o benodi cadeirydd a bwrdd i arwain y rhaglen waith hon.

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn arwain at raglen waith barhaus ar gyfer Diwydiant Sero Net Cymru. Mae ein blaenoriaethau dros y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Cwblhau llywodraethiant y corff hwn a rhaglen ddisgwyliedig o weithiau, gan gynnwys manteisio ar gyfleoedd ar gyfer solar to ym myd diwydiant, i'w cyhoeddi.

Arloesi

21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem

Argymhelliad  

Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:

  1. Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
  2. Galluogi arloesi modelau busnes ynni
  3. Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
  4. Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
  5. Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Mae'r argymhelliad hwn ar y gweill ac mae'n gysylltiedig ag argymhelliad 6. 
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:

  • Ymgysylltu Gweinidogol a swyddogol ag Ofgem ynghylch arloesi ac ystyried opsiynau rheoleiddiol yng Nghymru;
  • Gweithio gydag is-grŵp o aelodau yr archwiliad dwfn er mwyn cwestiynu'r rhwystrau i arloesi yng Nghymru yn ogystal ag ystyried amcanion Pensaer Systemau Ynni Cymru (argymhelliad 6).

Camau nesaf at gwblhau

Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys:

  • Defnyddio cynlluniau ynni lleol (argymhelliad 2) i nodi cyfres o heriau i'r cyfundrefnau rheoleiddio ac ariannu fel tystiolaeth i'w cyflwyno i Ofgem am ddatrysiad credadwy;
  • Llunio ymhellach amcanion Pensaer Systemau Ynni Cymru fel modd posib o brofi a hyrwyddo arloesedd yng Nghymru.