Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 12 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2024

Strategaeth

1. Gweledigaeth ar gyfer ynni adnewyddadwy

Argymhelliad

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni o leiaf yn llawn a defnyddio'r ynni dros ben i fynd i'r afael â'r argyfyngau natur a hinsawdd. Byddwn yn cyflymu camau i leihau'r galw am ynni ac i sicrhau perchnogaeth leol cymaint â phosibl i gadw buddion economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Camau nesaf at gwblhau

Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.

2. Cynllun ynni cenedlaethol

Argymhelliad  

Byddwn yn cynyddu cynlluniau ynni lleol i greu cynllun ynni cenedlaethol erbyn 2024, gan fapio'r galw am ynni a'r cyflenwad i bob rhan o Gymru yn y dyfodol i nodi bylchau er mwyn ein galluogi i gynllunio ar gyfer system sy'n hyblyg ac yn glyfar - gan baru cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol gyda'r galw am ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

  • Rydym ar y trywydd iawn o ran datblygu Cynlluniau Ynni Ardal Leol a byddant yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Yr adeg honno, bydd y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cael eu cynyddu i ffurfio safbwyntiau rhanbarthol a chenedlaethol.
  • Bydd y cynlluniau’n sail i’n Cynllun Ynni Cenedlaethol, a hefyd defnyddir gwybodaeth a dealltwriaeth a fydd yn deillio o dystiolaeth polisi a chynlluniau ynni strategol eraill. Er enghraifft, Gridiau Ynni’r Dyfodol i Gymru, y Strategaeth Wres a’r adolygiad o Dargedau Ynni.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cynyddu’r Cynlluniau Ynni Ardal Leol
  • Pennu cwmpas y Cynllun Ynni Cenedlaethol
  • Cytuno ar fformat a strwythur adroddiad y Cynllun Ynni Cenedlaethol
  • Cytuno ar ddulliau ymgysylltu ac ymgynghori
  • Cyhoeddi Cynllun Ynni Cenedlaethol erbyn diwedd 2024

3. Strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a newid ymddygiad

Argymhelliad    

Bydd ein cynlluniau ymgysylltu cyhoeddus a newid ymddygiad ynghylch Sero Net Cymru yn helpu dinasyddion i weithredu i leihau'r galw, gwella effeithlonrwydd ynni a defnyddio ynni mewn ffordd sy'n cefnogi ein gweledigaeth.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud o ran cyflwyno’r rhaglen ymgysylltu cyhoeddus hon (cydnabuwyd hyn gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn ei adroddiad ar gynnydd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023).

Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • Cyhoeddi strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd a chenedlaethol Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ym mis Gorffennaf 2023.
  • Cyflwyno Hwb Digidol (gwefan) newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru ac ymgyrch genedlaethol i annog dinasyddion i wneud dewisiadau gwyrdd (yn cynnwys camau i ddefnyddio llai o ynni a gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi).
  • Cyflwyno Arolwg Hinsawdd chwe-misol 3 blynedd newydd fel dull ailadroddadwy o olrhain agweddau ac ymddygiadau pobl mewn perthynas â gweithredu ar newid hinsawdd. Cynnal cynhadledd rithwir Wythnos Hinsawdd Cymru 2023 (lle cafwyd 28 o sesiynau a 4,162 o edrychiadau byw), a chyflwyno cronfa ymgysylltu cymunedol newydd Llywodraeth Cymru (a lwyddodd i gynorthwyo 39 o sefydliadau i gynnal digwyddiadau Sgyrsiau am yr Hinsawdd gyda chymunedau ledled Cymru i gasglu tystiolaeth ar gyfer ymgynghoriad ynghylch fframwaith Pontio Teg newydd). 
     

Camau nesaf at gwblhau

Dros y 6 mis nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y Strategaeth ymgysylltu â’r cyhoedd newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, yn cynnwys:

  • Parhau i gynnal ymgyrch Gweithredu ar Hinsawdd Cymru a hyrwyddo’r Hwb Digidol
  • Llunio amserlen â blaenoriaeth ar gyfer cyflwyno ysgogiadau polisi i oresgyn rhwystrau sy’n atal dinasyddion rhag gweithredu ar newid hinsawdd.
  • Rhoi ail don Arolwg Hinsawdd chwe-misol 2023/24 ar waith, yn cynnwys cyhoeddi’r canfyddiadau allweddol.
  • Dechrau adolygu ein dull ar gyfer ymgysylltu â dinasyddion a rhanddeiliaid a’r cyfle i adeiladu ar Wythnos Hinsawdd Cymru a’r gronfa ymgysylltu cymunedol Sgyrsiau am yr Hinsawdd.
  • Gwerthuso effaith y rhaglen trwy ddefnyddio fframwaith gwerthuso newydd er mwyn sicrhau bod y canlyniadau a fesurir yn cysylltu â thargedau lleihau allyriadau a bennir yn ein llwybrau sero net.

4. Cyngor ar Ynni - Cartrefi Clyd / Strategaeth Wres

Argymhelliad   

Rydym am weld gwasanaeth cynghori hawdd ei ddefnyddio i helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni a pherfformiad clyfar eu cartrefi a'u busnesau yn ogystal â chyflenwad parod o gyflenwyr a gosodwyr systemau gwresogi carbon isel yng Nghymru. Byddwn yn cwmpasu camau gweithredu ychwanegol wrth i ni ddatblygu ein Rhaglen Cartrefi Clyd a Strategaeth Wres yn y dyfodol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

  • Cyhoeddwyd ein datganiad polisi ym mis Mehefin 2023, lle nodwyd y fanyleb ar gyfer gwasanaeth newydd a oedd yn cynnwys 3 lot: gwasanaeth cynghori annibynnol, asiant cyflawni a swyddogaeth asesu ansawdd.
  • Bydd y gwasanaeth cynghori’n cynnig cyngor diduedd i bawb ynglŷn â’r camau y gall pobl eu cymryd i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, a hefyd cynigir adnoddau a ffynonellau cyllid posibl pan fo hynny’n berthnasol.

Ymgysylltu â’r cyhoedd

  • Gweler y diweddariad ar gyfer argymhelliad 3.

Y Strategaeth Wres

  • Cyhoeddwyd ein dogfen ymgynghori ar y Strategaeth Wres yn ystod Haf 2023. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 8 Tachwedd 2023.

Camau nesaf at gwblhau

Y Rhaglen Cartrefi Clyd

  • Gweithredu ac integreiddio’r gwasanaeth. Bydd gwasanaeth cyhoeddus llawn yn cael ei lansio ar 1 Ebrill 2024.
  • Ar ôl i’r gwasanaeth cynghori gael ei lansio, bydd yn parhau i greu cysylltiadau â phartneriaid yn lleol ac yn genedlaethol, a hefyd gyda chynlluniau tlodi tanwydd a chynlluniau effeithlonrwydd ynni ledled Prydain Fawr, er mwyn ceisio cael gafael ar gyllid ar gyfer Cymru a chynorthwyo cynifer o aelwydydd â phosibl.

Y Strategaeth Wres

  • Byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i’r ymgynghoriad, y strategaeth wres derfynol a’r cynllun gweithredu cysylltiedig yn ystod Gwanwyn 2024.

Grid

5. Trafod ag Ofgem

Argymhelliad

Byddwn yn cynyddu ein trafodaethau ag Ofgem er mwyn sefydlu anghenion buddsoddi Cymru, gan ganolbwyntio ar gadw gwerth o fewn Cymru. Byddwn yn sefydlu grŵp cydweithio i edrych ar opsiynau ar gyfer cefnogi cysylltiadau grid newydd, hyblyg ar gyfer atebion adnewyddadwy a storio ynni.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd adroddiad blynyddol Ofgem gerbron y Senedd, er mwyn i aelodau’r Senedd gael cyfle i graffu arno.
  • Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ac Ofgem drafodaethau dwyochrog ynglŷn â chynigion y Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol cyn gwneud y penderfyniad ym mis Hydref, ac maent yn parhau i gymryd rhan mewn gweithdai i lywio’r cynllun.
  • Cymerodd Llywodraeth Cymru ran yn y gwaith parhaus o ddatblygu syniadau rhwydwaith strategol.

Camau nesaf at eu cwblhau

  • Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer cyflymu trawsyrru rhwydweithiau Trydan a’r Cynllun Gweithredu Cysylltiadau yn ymdrin â nifer o’r materion systemig a arweiniodd at yr argymhelliad hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn rhan o’r trefniadau cynghori sy’n llywio’r rhaglen weithgareddau gymhleth hon.
  • Mae’r ymrwymiad cenedlaethol hwn, yn ogystal â’r gwaith cynllunio ynni sydd ar waith ledled Cymru, yn ein rhoi mewn sefyllfa dda i bennu anghenion Cymru. O’r herwydd, ymwreiddir y cam gweithredu hwn yn ein gwaith cyflawni craidd.

6. Pensaer Systemau Ynni Cymru

Argymhelliad   

Gan adeiladu ar Brosiect Grid Ynni'r Dyfodol, byddwn ni'n pwyso ar Ofgem i greu Pensaer System Ynni Cymru i oruchwylio:

a.    Hyblygrwydd ochr y galw, domestig, annomestig a phenodedig, gan gynnwys storio ynni
b.    Mapio cartrefi tlawd o ran tanwydd (a thrafnidiaeth) yn erbyn parthau rheoli cyfyngiadau Gweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNO) cyfredol ac a ragwelir (lle y mae gan ymateb/hyblygrwydd ochr y galw y gwerth mwyaf i'r system) gyda'r bwriad o ddefnyddio technolegau hyblygrwydd carbon isel i'r cartrefi a'r aelwydydd hyn 
c.    Datrysiadau smart ar gyfer trawsyrru a dosbarthu gan gynnwys defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) i wneud y gorau o'r defnydd o'r rhwydwaith presennol. Gan gynnwys datblygu gofynion, cyllid ac agor y farchnad i arloesi. Angen ymgysylltu â mewnbynnau o bob rhan o ddiwydiant.
d.    Cefnogi achosion busnes i gynllunio'r system gyfan a dod â chynlluniau ar draws De, Canolbarth a Gogledd Cymru at ei gilydd
e.    Cystadleuaeth i adeiladu rhwydwaith i leihau costau a chyflymu amseroedd adeiladu
f.    Datblygu cynllun system gyfan manwl sy'n cwmpasu trawsyrru a dosbarthu
g.    Dyluniad rhwydwaith ar y Môr Celtaidd ac   atgyfnerthiadau ar y tir.
 

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

  • Mae cyhoeddiad Ofgem ynglŷn â’r Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol yn uniongyrchol gysylltiedig â’r argymhelliad hwn ac rydym wedi ymgysylltu’n uniongyrchol gydag Ofgem a hefyd gyda’r Gweithredwr Systemau Trydan (ESO) wrth iddo baratoi i ysgwyddo’r rôl hon fel rhan o’i rôl Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol (NESO).
  • Mae Cymru wedi cynnig cynorthwyo Ofgem a NESO i dreialu neu brofi agweddau ar rôl y Cynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol – oherwydd ein timau ynni rhanbarthol a’r ffaith bod ein Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cwmpasu Cymru i gyd, rydym mewn sefyllfa dda i gynnal profion.
  • Rydym wedi gweithio gydag ESO a CGI, yn ogystal â phartneriaid eraill, yn y prosiect arloesi Powering Wales Renewably sy’n anelu at ddatblygu dau rwydwaith trawsyrru a dosbarthu digidol yng Nghymru. Os bydd y prosiect hwn yn parhau i gael ei ariannu, bydd yn cynnig cyfle da i wneud y gorau o’r rhwydwaith presennol a’r cyfleoedd i gynnal profion ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol, yn cynnwys defnyddio dysgu peirianyddol a Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Camau nesaf at eu cwblhau

  • Byddwn yn parhau i weithio gydag Ofgem a NESO i helpu i lywio syniadau ynglŷn â Chynllunydd Strategol Ynni Rhanbarthol Cymru ac i sicrhau y bydd y gwaith presennol yn cyflymu syniadau system gyfan a gwaith cynllunio rhwydweithiau yng Nghymru.
  • Byddwn yn parhau i gynorthwyo’r prosiect Powering Wales Renewably, gan sicrhau y bydd modd iddo gynorthwyo cymunedau a busnesau Cymru i gael gafael ar gyfleoedd gan grid clyfrach.
  • Byddwn yn parhau i archwilio cyfleoedd ar gyfer systemau ynni lleol clyfar trwy gyfrwng Ynni Cymru, gan ddod o hyd i fodelau a all wireddu buddion yn lleol.

Cydsynio a thrwyddedu

7. Adolygiad CNC

Argymhelliad 

Byddwn yn cynnal adolygiad o gydsynio a chefnogi tystiolaeth a chyngor, er mwyn sicrhau proses amserol a chymesur gan gynnwys:

  1. Adolygiad o'r dechrau i'r diwedd o'r prosesau cynghori ar drwyddedu morol, cydsynio a chefnogi i gael gwared ar rwystrau, gan dynnu ar waith y grwpiau presennol
  2. Adolygiad o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer prosesau cydsynio a chynghori i gadw i fyny â'r twf mewn ynni adnewyddadwy, gan gynnwys adolygiad brys o anghenion o ran adnoddau ac opsiynau ar gyfer Rhaglen Ynni Adnewyddadwy ar y Môr CNC
  3. Nodi bylchau o ran tystiolaeth forol a dulliau o'u llenwi, er mwyn hwyluso'r broses ymgeisio
  4. Adolygu a mapio'r broses ar gyfer gosodiadau ynni adnewyddadwy ar y tir i gael trwydded amgylcheddol, gan ganolbwyntio ar dechnolegau Newydd
  5. Nodi opsiynau ar gyfer rhyddhau capasiti ac ailgyfeirio adnodd i feysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt

Byddwn yn adrodd ar ein canfyddiadau yn ystod haf 2022, ar wahân i bwynt b. y byddwn yn adrodd arno yng ngwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

  • Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o Drwyddedu Morol, cytunodd y Gweinidog Newid Hinsawdd i roi adnoddau ychwanegol i CNC. Mae’r cyllid ychwanegol wedi galluogi CNC i recriwtio 16 o staff newydd i gynyddu ei gapasiti o ran swyddogaethau rheoleiddio a chynghori, ac mae’r cyllid yn galluogi CNC i gyflwyno gwelliannau i’r broses trwyddedu morol er budd yr holl ddefnyddwyr, gan sicrhau bod y broses trwyddedu morol mewn sefyllfa gryfach i ategu uchelgeisiau Gweinidogion Cymru o ran defnyddio ardal forol Cymru mewn modd cynaliadwy.
  • Cyhoeddwyd  cyfresddiweddaraf CNC o fylchau o ran tystiolaeth forol ac arfordirol ar eu gwefan (Cyfoeth Naturiol Cymru / blaenoriaethau o ran tystiolaeth forol ac arfordirol). Mae nifer fawr o’r rhain yn ymwneud ag ynni adnewyddadwy alltraeth. Parhau mae’r gwaith ar ystyried adnoddau i ddatblygu gwaith blaenoriaeth uchel.
  • Mae CNC yn parhau i weithio gyda phartneriaid allanol ar fentrau tystiolaeth alltraeth strategol, fel y nodwyd yng nghyfnod 1. Hefyd, rydym yn ymchwilio i opsiynau ar gyfer cynnal prosiectau ar y cyd â Phrifysgolion, ond mae hyn oll yn ddibynnol ar allu Prifysgolion i gael gafael ar gyllid ymchwil.
  • Rydym wedi cwblhau’r gwaith i ddarganfod  bylchau tystiolaeth ar y tir  yn ôl math o dechnoleg.

Camau nesaf at gwblhau

  • Mae swyddogion yn parhau i weithio gyda CNC i gyflawni gwelliannau o fewn y broses, ac mae CNC yn mynd ati’n rheolaidd i lunio adroddiadau i swyddogion polisi trwyddedu morol ar sail y camau gweithredu.
  • Mae’r gwaith a wnaed yn ddiweddar gan CNC i symleiddio’r prosesau cydsynio yn hollbwysig o ran helpu i osgoi risgiau yn y broses benderfynu. Dangoswyd hyn pan roddwyd cydsyniad i brosiectau mawr fel Morlais, Awel-y-Môr ac Erebus, y fferm wynt alltraeth arnofiol gyntaf yng Nghymru – dyma arwydd o broses gydsynio sy’n galluogi.

8. Ardaloedd adnoddau strategol morol

Argymhelliad  

Byddwn ni, gyda CNC a rhanddeiliaid allweddol, yn nodi 'meysydd adnoddau strategol' morol erbyn 2023, ac yn rhoi arweiniad i gyfeirio meysydd priodol ac amhriodol ar gyfer datblygu technolegau ynni adnewyddadwy gwahanol. Bydd ein polisïau cynllunio morol, trwyddedu a chadwraeth forol yn cydweithio i gynnig llwybr ar gyfer datblygiadau adnewyddadwy morol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir 

Yn ystod y cyfnod hwn, cwblhawyd gwaith mapio technegol i lywio ystyriaethau o ran pennu meysydd adnoddau strategol posibl.

Mae’r uchafbwyntiau allweddol yn ystod y cyfnod hwn yn cynnwys:

  • Cynnal digwyddiad terfynol i randdeiliaid i drafod y gwaith mapio technegol.
  • Cyhoeddi allbynnau mapio ar Borth Cynllunio Morol Cymru. 
  • Cynnal cyfres o sesiynau arddangos mapio i randdeiliaid.
  • Trafodaethau parhaus gyda rheoleiddwyr ynghylch anghenion canllawiau i ategu’r gwaith o weithredu meysydd adnoddau strategol.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cyhoeddi’r mapiau adnoddau diweddaraf ar Borth Cynllunio Morol Cymru.
  • Cyhoeddi mapiau amgylcheddol diweddaraf CNC ar Borth Cynllunio Morol Cymru.
  • Cwmpasu’r dull o ymdrin â chynigion ar gyfer meysydd adnoddau strategol posibl.
  • Parhau i weithio gyda rheoleiddwyr ar anghenion canllawiau i ategu’r gwaith o weithredu meysydd adnoddau strategol.

9. Pwerau cynghori ar y môr (JNCC i CNC)

Argymhelliad

Wrth i ni geisio datganoli Ystâd y Goron, byddwn ni'n symleiddio'r broses o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy'r Môr Celtaidd gan gynnwys dirprwyo pwerau cynghori ar y môr o'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) i CNC

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Ym mis Mai 2023, cynhaliodd CNC a’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) waith ymgynghori penodol ar yr opsiynau ynglŷn ag adolygu cyfrifoldeb cynghori yn rhanbarth alltraeth Cymru. Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei ystyried ochr yn ochr â'r gofynion adnoddau ar gyfer CNC wrth drosglwyddo'r swyddogaethau hyn.

Camau nesaf at gwblhau

Datganoli Ystad y Goron

  • Rydym yn croesawu argymhelliad y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru yn unol â’r sefyllfa yng Nghymru. Rydym yn parhau i ddadlau o blaid datganoli Ystad y Goron i Gymru gerbron Llywodraeth y DU.

Cyllid

10. Grŵp Buddsoddi

Argymhelliad   

Byddwn yn sefydlu grŵp o arbenigwyr i edrych ar ffyrdd o dynnu buddsoddiad ychwanegol i lawr mewn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Byddwn yn blaenoriaethu perchnogaeth leol a chymunedol er mwyn sicrhau'r gwerth economaidd a chymdeithasol lleol mwyaf posibl.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir  

Amherthnasol

Camau nesaf at gwblhau

Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy.

Argymhellion yr is-grŵp Buddsoddi mewn Ynni Adnewyddadwy

Argymhelliad   

  1. Dylai Llywodraeth Cymru edrych ar ddatblygu menter/Siarter partneriaeth gyda'r sector ynni adnewyddadwy masnachol: gyda'r sector yn ymrwymo i safonau ynglŷn â buddion lleol a chymunedol, buddion o ran y gadwyn gyflenwi; a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi'r weledigaeth i Gymru fod yn allforiwr net o ynni adnewyddadwy, gan gyhoeddi targedau ynni adnewyddadwy wedi eu diweddaru ac eglurder o ran gofynion perchnogaeth gymunedol.
  2. Wrth i gronfeydd pensiwn Cymru fynd ati i weithredu eu gofynion cyfreithiol i reoli eu cronfeydd a goruchwylio risgiau, gan gynnwys amddiffyn y cronfeydd pensiwn rhag risgiau ariannol sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd, bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i achub ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy yng Nghymru drwy ddulliau presennol megis y Cyngor Partneriaeth. Mae gan y sector ynni adnewyddadwy rôl bwysig hefyd wrth hybu cyfleoedd i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn hwyluso buddsoddiad, er enghraifft drwy ddod â rheolwyr cronfeydd pensiwn a datblygwyr ynni adnewyddadwy ynghyd i archwilio'r cyfleoedd hyn ymhellach.   
  3. Dylai Banc Datblygu Cymru (DBW) barhau i ddatblygu'r achos busnes ar gyfer buddsoddi mewn datblygiadau ynni adnewyddadwy. Dylai buddsoddiad gan DBW lenwi bylchau a nodwyd lle nad yw'r modelau presennol ar gyfer perchnogaeth leol a chymunedol yn bosibl. Dylai enillion o fuddsoddiadau gefnogi buddsoddiad economaidd a chymdeithasol mewn cymunedau lleol. 
  4. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu'r cynnydd o ran gweithredu argymhellion ynghylch y grid o'r gwaith ymchwil manwl a diwygiadau ehangach y DU. Ar ôl yr adolygiad hwnnw, os yw maint a chyflymder y newid yn parhau i fod yn annigonol i ddiwallu anghenion Cymru, dylai adolygu a cheisio gwneud defnydd o'r holl ysgogiadau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu defnyddio i annog buddsoddiad uniongyrchol yn seilwaith y grid yng Nghymru. 
  5. Gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddarparu i Ynni Cymunedol Cymru (CEW) hybu cynigion cyfranddaliadau cymunedol, mae angen cwblhau gwaith i ddeall pam bod y nifer sy'n manteisio arnynt yng Nghymru yn is na chyfartaledd y DU.  Mae angen i CEW allu dangos effaith gadarnhaol eu gweithgarwch a sicrhau bod gan bobl amddiffyniad digonol wrth ystyried buddsoddiad. Dylai CEW adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar effeithiolrwydd y cyllid ychwanegol ac adrodd ar unrhyw fylchau mewn cyllid, os oes rhai.
     

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

Datgarboneiddio buddsoddiadau pensiwn:

  • Ym mis Rhagfyr 2023, hwylusodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ynghyd â Chyfeillion y Ddaear, ddigwyddiad i barhau sgyrsiau ledled Cymru ar ddatgarboneiddio cronfeydd pensiwn.
  • Gwahoddwyd r gwadd i’r digwyddiad ac fe  ystyriwyd  heriau i ddatgarboneiddio pensiynau, a sut i'w goresgyn.  Ystyirwyd  hefyd,  sut y gall buddsoddiadau fod yn fwy cynaliadwy a pha gymorth ac adnoddau fyddai eu hangen i gyflawni'r nodau hynny. 
  • Roedd y drafodaeth yn y digwyddiad yn cydnabod mai prif rôl yr arian fydd sicrhau bod yr arian yn bodloni gofynion pensiwn eu haelodau. Fodd bynnag, roedd cytundeb cyffredinol ar y potensial i ddefnyddio cyfran o'r arian i gefnogi ehangu sectorau sy'n creu elw ond sydd hefyd yn cyfrannu'n gadarnhaol tuag at nodau sero net a gwrthdroi colli natur. Nodwyd tai fforddiadwy, cyllid BBaCh wedi'i dargedu, ynni glân a chyfalaf naturiol fel enghreifftiau sydd â'r fath botensial. Nodwyd bod ymdrechion yn cael eu gwneud i ddatblygu fframwaith cyffredin y gall yr wyth cronfa yng Nghymru weithio tuag ato o ran datgarboneiddio eu cronfeydd.
  • Er bod llawer o fuddsoddiad cronfa bensiwn mewn bondiau rhestredig byd-eang ar hyn o bryd, nodwyd posibiliadau o ran mwy o ffocws ar fuddsoddiadau effaith ar sail lleoliad (PBI). Mae cronfa Manceinion Fwyaf, er enghraifft, yn buddsoddi 5% o'i chronfa ar hyn o bryd mewn prosiectau yn y rhanbarth. Clywodd y cyfarfod hefyd am fuddsoddiad Cronfa Abertawe mewn pren a glaswelltir cynaliadwy, gan gyfrannu at ddal a chadw carbon a bioamrywiaeth.

Camau nesaf at gwblhau

Datgarboneiddio buddsoddiadau pensiwn:
  • Cynhaliodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyfarfod gyda Chyfeillion y Ddaear er-mwyn dechrau  cynllunio ar gyfer digwyddiad dilynol.  Paratowyd papur ar gyfer cyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru ar gyfer cyfarfod Mawrth 2024 i nodi'r gwaith hwn a'r gwaith yn y dyfodol ar botensial datgarboneiddio'r gronfa bensiwn.
Bargen Sector
  • Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyflawni rhai o agweddau'r fenter/siarter wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad diwygiedig ar dargedau ynni adnewyddadol  a'r canllawiau diweddaraf ar berchnogaeth leol a chymunedol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i drafod gyda Renewable UK Cymru ar y ffordd orau o fwrw ymlaen â datblygu menter/siarter partneriaeth gyda'r sector adnewyddadol  masnachol yng Nghymru
Buddsoddiad 
  • Bydd Ynni Cymru yn ehangu ynni adnewyddadol  sy'n eiddo i'r gymuned a systemau ynni lleol craff, sy'n cadw'r buddion yng Nghymru. Trwy ymgynghori â'r sector ynni a rhanddeiliaid allweddol megis Ynni Cymunedol Cymru a'r Gwasanaeth Ynni, rydym yn dechrau nodi blaenoriaethau a gweithgareddau sy'n dod i'r amlwg ar unwaith ar gyfer Ynni Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn datblygu'r achos busnes ar gyfer Ynni Cymru, a fydd yn amlinellu ei gwmpas, cylch gwaith a pharamedrau gwaith.  
  • Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio yn y gwanwyn, gyda Bwrdd annibynnol a fydd yn cynnwys cymhwysedd anweithredol wrth wneud y mwyaf o werth cymunedol o waith y datblygwr.

11. Contract ar gyfer gwahaniaeth

Argymhelliad   

Byddwn ni'n ceisio creu cynghrair gyda Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod proses Contract ar gyfer Gwahaniaeth (CfD) Llywodraeth y DU yn esblygu'n briodol i:

a.    adlewyrchu uchafiaeth datblygu'r gadwyn gyflenwi ac
b.    i gyflawni llwybr datblygu cydlynol a chytbwys ar gyfer technolegau masnachol cynnar a rhai newydd

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ymgynghoriadau a thrafodaethau ynglŷn â Chontract ar gyfer Gwahaniaeth, a hefyd mae wedi cyfrannu at yr ymgynghoriadau a’r trafodaethau hyn.
  • Mynegodd Gweinidogion Cymru bryderon yn ymwneud ag AR5.
  • Rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth i’r Cynghrair Ynni Alltraeth i gomisiynu gwaith 

Camau nesaf at gwblhau

  • Mae’r argymhelliad hwn wedi’i gwblhau. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gydag Ystad y Goron mewn perthynas â’r Môr Celtaidd a chyfleoedd ar gyfer y Gadwyn Gyflenwi.

12. Trethi annomestig

Argymhelliad    

Byddwn ni'n edrych ar yr opsiynau i gefnogi cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol a chymunedol trwy Ardrethi Annomestig.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Rydym wedi ymgynghori ynglŷn â dau fesur newydd i ategu’r defnydd o ynni adnewyddadwy mewn eiddo annomestig o 1 Ebrill 2024, a hefyd rydym wedi deddfu yn eu cylch.
  • Yn achos cyfarpar a pheiriannau a ddefnyddir ar y safle ar gyfer ynni adnewyddadwy a mannau gwefru cerbydau trydan, rydym yn eithrio’r eiddo y mae’r cyfarpar a’r peiriannau hyn yn rhan ohono rhag asesiadau ardrethu. Mae’r mathau o dechnoleg adnewyddadwy a gaiff eu heithrio yn cynnwys technolegau a ddefnyddir i gynhyrchu, storio neu drawsyrru trydan o ffynonellau biomas, biodanwydd, solar, dŵr, gwynt a geothermol.
  • Trwy gyfrwng Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi newydd, rydym yn cynnig rhyddhad llwyr (100%) i rwydweithiau gwresogi sy’n darparu ynni thermol a gynhyrchir trwy ddefnyddio ffynonellau carbon isel. Bwriad y rhyddhad yw ategu’r datblygiad a’r twf a ragwelir ar gyfer y sector dros y degawd nesaf trwy helpu i leihau rhwystrau ariannol o ran sefydlu rhwydweithiau. Esbonnir yr amodau ymgymhwyso yn fanylach yn y canllawiau.

Camau nesaf at gwblhau

  • Byddwn yn monitro effaith y mesurau newydd sy’n cynnig cyfraddau annomestig i ategu ynni adnewyddadwy.
  • Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.

13. Grŵp caffael

Argymhelliad 

Bydd gweithgor yn cael ei sefydlu i adolygu opsiynau ar gyfer sut y gall caffael gyflymu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru i fanteisio i'r eithaf ar werth economaidd a chymdeithasol lleol i gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a.    Gwella polisi caffael i ymgorffori gwerth cymdeithasol gan gynnwys archwilio gyda datblygwyr masnachol sut y gallant ddiwallu'r angen lleol orau.
b.    Opsiynau ar gyfer defnyddio pŵer prynu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i gefnogi llwybrau dibynadwy i'w marchnata ar gyfer prosiectau ynni'r gymuned a'r sector cyhoeddus, gan gynnwys trwy Gytundebau Prynu Pŵer hirdymor.
c.    Sut y gall gwasanaethau cyngor a chymorth gynorthwyo datblygwyr ynni cymunedol yn well i gael mynediad at gyfleoedd yn y farchnad.
d.    Sut mae ymgysylltu'n well â'r sector ynni cymunedol yn Rhaglen ariannu Cymru.
e.    Sut y gellir lledaenu arferion gorau, gan gynnwys bwydo i grŵp arferion gorau Llywodraethau Cymru neu'r Ganolfan Rhagoriaeth Caffael pe bai'n cael ei sef

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

  • Llwyddwyd i gyflawni’r argymhelliad hwn yn rhannol trwy gyfrwng y Gweithgor Effeithiau Llesiant (y “Gweithgor”) a sefydlwyd ym mis Medi 2022 i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyflawni’r argymhellion yn adroddiad Cwmpas, yn dilyn adolygiad Cwmpas o dirweddau gwerth cymdeithasol yng Nghymru. (D.S. Mae’r gweithgor hwn yn wahanol i’r gweithgor y cyfeirir ato yn niweddariadau blaenorol yr archwiliad dwfn.) Mae’r Gweithgor hwn yn cynnwys rhanddeiliaid o sector cyhoeddus Cymru, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd i lunio methodoleg gyson ar gyfer mesur gwerth cymdeithasol, ac adrodd amdano, trwy ddefnyddio effeithiau llesiant.
  • Eir i’r afael â gwaith y Gweithgor yng nghyd-destun diwygiadau deddfwriaethol ehangach o lawer sy’n effeithio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru.
  • Bydd Deddf Gaffael 2023 Llywodraeth y DU, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Hydref 2023, yn creu cyfres o reolau symlach a mwy hyblyg, gan sicrhau y bydd caffael cyhoeddus yn fwy hygyrch i fusnesau, yn cynnwys busnesau bach a chanolig yng Nghymru. Mae’r amcan o ran “budd y cyhoedd” a gynhwysir yn y Ddeddf yn golygu y bydd yn rhaid i awdurdodau contractio Cymru ystyried sut y gall eu gweithgareddau caffael esgor ar fudd ychwanegol, yn cynnwys sut i wneud yn fawr o werth cymdeithasol trwy greu ychwaneg o effeithiau llesiant. Ymhellach, bydd y Ddeddf yn galluogi awdurdodau contractio Cymru i ystyried mesurau a fydd yn helpu i wella llesiant diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd lleol pan fo hynny’n berthnasol i gynnwys y contract.
  • Mae’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gan Lywodraeth Cymru yn rhoi dyletswydd ‘caffael cymdeithasol gyfrifol’ ar awdurdodau contractio Cymru, gan fynnu eu bod yn ystyried y modd y gallant wella llesiant diwylliannol, amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd eu hardal trwy fynd ati i gaffael mewn modd cymdeithasol gyfrifol, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Ochr yn ochr â’r diwygiadau deddfwriaethol, mae Cyd (y Ganolfan Ragoriaeth Caffael gynt) wedi bod yn gweithredu fel gwasanaeth alffa ers mis Hydref 2022. Ers rhoi’r gwasanaeth ar waith, mae wedi defnyddio Sero Net fel maes polisi hollbwysig, a datblygwyd gwasanaeth Cyd trwy’r maes polisi hwn. Erbyn hyn, mae Cyd yn cynnig platfform digidol, sef cyd.cymru, sy’n cyfeirio prynwyr at astudiaethau achos, arferion gorau, pecynnau cymorth ac adnoddau eraill, er mwyn eu cynorthwyo yn eu rolau.

Camau nesaf at gwblhau

  • Mae siwrnai gaffael wedi’i lansio ac mae adnoddau ar gyfer y cylch oes caffael wedi dechrau cael eu mapio.
  • Caiff yr adnoddau eu hymestyn i gynnwys nodiadau polisi caffael Cymru a deddfwriaeth berthnasol, ac erbyn hyn mae’r elfennau hyn hefyd wedi dechrau cael eu mapio.

Ynni cymunedol a lleol

14. Adnoddau ar gyfer Ynni cymunedol / lleol

Argymhelliad    

Byddwn yn cynyddu adnoddau i gefnogi ynni adnewyddadwy cymunedol a lleol yng Nghymru gan gynnwys:

a.    Gan Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru gyda staff a chymorth ariannol i sicrhau darpariaeth ar gyfer datblygu prosiect gwres, effeithlonrwydd ynni a thrafnidiaeth gymunedol (gan barhau gyda thrydan adnewyddadwy) a chymorth ar gyfer perchnogaeth a rennir
b.    Camau gan y llywodraeth i annog datblygwyr preifat i gynnwys opsiynau ar gyfer rhannu perchnogaeth leol a chymunedol, gan gynnwys trwy dendrau a gyhoeddwyd ar dir cyhoeddus.
c.    Cyllid Llywodraeth Cymru i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i'w helpu i ddechrau graddio eu gwaith a mentora sefydliadau llai, i greu sector mwy a chynaliadwy.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

Ar ffurf grantiau adnoddau, rhoddwyd cyllid i adeiladu capasiti ychwanegol mewn mentrau cymunedol i’w helpu i ddechrau graddio eu gwaith.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.
  • Mae’r gwaith hwn wedi esblygu’n naturiol i greu rhaglen Ynni Cymru.
  • Mae’r rhai sy’n cael cyllid grantiau adnoddau yn ymgysylltu ag Ynni Cymru fel rhan o weithgor rhanddeiliaid cymunedol.

15. CEW a Datblygwr dan Berchnogaeth Gyhoeddus (Ynni Cymru)

Argymhelliad  

Byddwn yn sicrhau bod y sector sy'n eiddo i'r gymuned yn cymryd rhan ac yn rhoi mewnbwn i Ynni Cymru gan ystyried y 3 opsiwn canlynol:

a.    Mae lles y sector ynni cymunedol ynghlwm yn y datblygwr dan berchnogaeth gyhoeddus 
b.    Mae LlC yn buddsoddi mewn sefydliad ynni cymunedol i ddarparu'r gwaith hwn e.e., YnNi Teg, Egni neu gwmni cydweithredol o gwmnïau Ynni cydweithredol.
c.    Mae LlC yn buddsoddi yn y datblygwr ynni dan berchnogaeth gyhoeddus a datblygwr ynni sy'n eiddo i'r gymuned = dau gorff gydag adnodd i ddatblygu prosiectau.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Bydd Ynni Cymru yn ehangu ynni adnewyddadwy sy’n eiddo i’r gymuned a systemau ynni lleol clyfar, lle caiff y buddion eu cadw yng Nghymru.
  • Trwy ymgynghori â’r sector ynni a rhanddeiliaid allweddol, fel CEW a’r Gwasanaeth Ynni, rydym yn dechrau pennu blaenoriaethau a gweithgareddau uniongyrchol ar gyfer Ynni Cymru.
  • Caiff Trydan Gwyrdd Cymru, sef datblygwr mawr sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, ei lywio gan gynrychiolydd cymunedol ar y Bwrdd.

Camau nesaf at gwblhau

  • Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu achos busnes Ynni Cymru, a fydd yn pennu ei gwmpas, ei gylch gwaith a’i baramedrau gweithio.
  • Bydd Trydan Gwyrdd Cymru yn cael ei lansio yn y gwanwyn. Bydd ganddo Fwrdd annibynnol a fydd yn cynnwys cymwyseddau anweithredol ar gyfer cynyddu gwerth cymdeithasol gwaith y datblygwr.

16. Mynediad ynni cymunedol i’r ystad gyhoeddus

Argymhelliad   

Byddwn yn gwella mynediad i'r ystâd gyhoeddus i'r sector ynni cymunedol drwy (a) mae gan fentrau cymunedol hawliau i gynnig cyntaf os nad yw'n cael ei ddatblygu gan gorff cyhoeddus (b) strwythuro prosesau tendro i ffafrio prosiectau / cynlluniau cymunedol cymdeithasol.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

  • Mae gwaith yn dal i fod ar y gweill i bennu cyfleoedd ar gyfer datblygiadau gwynt ar yr ystâd goetir.

Camau nesaf at gwblhau

  • Pan fydd Trydan Gwyrdd Cymru ar waith, ac ar ôl iddo bennu ei strategaeth ddatblygu, gellir ystyried rhoi ychwaneg o gyfleoedd i  grwpiau cymunedol gael mynediad i’r ystâd. Bydd hyn yn cynnwys asesu capasiti datblygu cymunedol a’r archwaeth i fwrw ymlaen â phrosiectau.
  • Wrth i Gynlluniau Ynni Ardal Leol gael eu cwblhau a’u cadarnhau, byddwn yn cynorthwyo’r sector ynni cymunedol i ystyried y modd y gall grwpiau cymunedol fynd ati yn y ffordd orau i gyflawni’r cyfleoedd cynhyrchu a bennir ganddynt.

17. Canllawiau perchnogaeth

Argymhelliad  

Byddwn yn cwblhau ac yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r canllawiau ar ranberchnogaeth, gan gynnwys yr hyn sy'n bodloni'r diffiniad o 'ranberchnogaeth', ac yn gweithio'n agos gyda datblygwyr preifat i gael yr effaith fwyaf posibl. Byddwn yn cyhoeddi'r canllawiau yn ystod gwanwyn 2022.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

Camau nesaf at gwblhau

  • Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy

Gwerth economaidd a chymdeithasol

18. Seilwaith porthladdoedd a morol (TCE a Llywodraeth y DU)

Argymhelliad    

Byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd i arbenigo a chydweithio, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod i fuddsoddi ynddynt. Rydym yn galw ar Ystad y Goron a Llywodraeth y DU i wneud y gorau o werth cyfleoedd datblygu'r gadwyn gyflenwi a'r seilwaith yng Nghymru o'u cylchoedd prydlesu.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir

  • Rhoddwyd cymorth cyfnod cynnar ar ffurf arian cyfatebol o hyd at £1m i Borthladd Penfro.
  • Mae Tîm y Rhaglen Ynni Morol wedi bod yn gweithio gydag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau/Porthladd Penfro ac ABP/Port Talbot i’w hannog i gydweithredu a chynnig dull ‘amlborthladd’ o ymdrin â’r cyfleoedd arwyddocaol iawn a gyflwynir gan wynt alltraeth arnofiol yn y Môr Celtaidd. Trwy gydweithredu ag awdurdodau lleol, llwyddwyd i gael statws Porthladd Rhydd i Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau/Porthladd Penfro ac ABP/Port Talbot ar sail gwynt alltraeth arnofiol.
  • Mae prosiect Erebus wedi’i ohirio yn sgil AR5 y Contract ar gyfer Gwahaniaeth – ni chafwyd cynigion gan ddatblygwyr gwynt alltraeth, yn cynnwys Blue Gem Wind.
  • Disgwylir cyhoeddiadau’n fuan ynglŷn â’r Cynllun Buddsoddi a Gweithgynhyrchu Ynni Gwynt Alltraeth Arnofiol (FLOWMIS)
  • Mae trafodaethau a gynhaliwyd yn ddiweddar gyda phorthladdoedd yn awgrymu bod ansicrwydd ynglŷn â refeniw yn parhau i fod yn bryder. Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod yna risg y gallai hyn effeithio ar fuddsoddi mewn porthladdoedd (camau uwchraddio llai dros gyfnodau hwy) – rhywbeth a allai, yn ei dro, leihau maint y manteision.
  • Mae Morglawdd Caergybi wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol Porthladd Caergybi.

Camau nesaf at gwblhau

Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • Monitro a chadarnhau grantiau ar gyfer y ddau borthladd.
  • Cyfarfod â Blue Gem Wind i drafod y camau nesaf (os o gwbl) mewn perthynas ag Erebus.
  • Parhau i gynnal trafodaethau gyda phorthladdoedd i drafod trefniadau cydweithredu a’r camau sy’n angenrheidiol i esgor ar y manteision economaidd-gymdeithasol mwyaf i Gymru yn sgil gwynt alltraeth arnofiol.
  • Gyda phartneriaid (e.e. Ystad  Goron), parhau i archwilio’r ansicrwydd ynghylch a fydd UKIB / Llywodraeth y DU yn gwarantu refeniw fel y gellir uwchraddio seilwaith yn gynnar ac yn llwyr yn y porthladdoedd.
  • Mae Bargen Twf y Gogledd yn gweithio gyda Phorthladd Caergybi i gynorthwyo i ddarparu seilwaith ar gyfer y Porthladd.
  • Ystyried potensial hybiau gweithrediadau a chynnal a chadw.

19. Cynllun gweithredu sgiliau sero net

Argymhelliad    

Wrth i ni ddatblygu cynllun gweithredu sgiliau sero net erbyn gwanwyn 2022 byddwn yn cefnogi mwy o gydweithio mewn diwydiant er mwyn gwneud y gorau o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi yng Nghymru.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir    

  • Ers cyhoeddi’r Cynllun ym mis Chwefror 2023, mae’r gweithgareddau wedi canolbwyntio ar gyflawni’r 36 cam gweithredu a chodi ymwybyddiaeth.
  • Roedd Cam Gweithredu 1 yn ymrwymo i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn helpu i wella ein dealltwriaeth o’r anghenion sgiliau sydd gan sectorau penodol, ac roedd yn cynnwys cwestiynau penodol yn ymwneud â’r diffiniad, heriau a chymorth i gyflogwyr, a themâu trawstoriadol.
  • Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Rhagfyr 2023. Mae Miller Research Ltd wrthi’n dadansoddi’r ymatebion.
  • Disgwylir y bydd yr adroddiad terfynol yn barod ddiwedd mis Mawrth ac y bydd Mapiau Trywydd y Sector yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai 2024 gyda digwyddiadau ymgysylltu.
  • Ym mis Hydref 2023, cyflwynwyd elfen newydd o’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Fe’i hanelir at gyflogwyr ac mae’n darparu 50% ar gyfer uwchsgilio gweithluoedd.
  • Mae cyfrifon Dysgu Personol Gwyrdd a chyfrifon Dysgu Personol yn darparu ar gyfer anghenion sgiliau presennol.
  • Mae adolygiad ar waith i greu pecyn cymorth newydd i Gyflogwyr ar gyfer Haf 2024.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru i fynd i’r afael â gwaith manwl yn ymwneud â’r bwlch sgiliau yng Ngogledd Cymru. Mae’r gwaith hwn wedi’i gyhoeddi bellach.

Camau nesaf at gwblhau

  • Cwblhawyd yr argymhelliad hwn. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen ag argymhellion yr Archwiliad Dwfn o Ynni Adnewyddadwy.
  • Comisiynwyd iCrossing i ddatblygu Rhestr Termau Sgiliau Gwyrdd / Sero Net, a fydd yn cyd-fynd â Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.
  • Mae Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb wrthi’n cael ei lunio i ategu’r cynllun ehangach.
  • Mae’r sector Addysg Bellach yn mapio cyrsiau sero net a disgwylir cael adroddiad erbyn diwedd mis Mawrth 2024.

20. Rhaglen adnewyddadwy'r diwydiant

Argymhelliad    

Gan weithio gyda diwydiant, byddwn yn cwmpasu rhaglen waith i osod cymaint â phosibl o osodiadau ynni adnewyddadwy, hyblygrwydd a storio ar safleoedd busnes a diwydiannol. Bydd y rhaglen yn edrych ar ddulliau o gefnogi ac osgoi risg wrth fuddsoddi.

Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir   

  • Mae Diwydiant Net Sero Cymru yn mynd o nerth i nerth. Yn y cyfnod hwn, mae wedi llwyddo i sicrhau “Safle Lansio” ar gyfer De Orllewin Cymru a oedd yn cynnwys hyd at £2.2m gan Lywodraeth y DU yn y rownd gyntaf.
  • Yn ddiweddar, arweiniodd Diwydiant Net Sero Cymru gais i ddatblygu Clwstwr Diwydiannol Gogledd Ddwyrain Cymru a llwyddodd i gael hyd at £71k gan strwythurau Llywodraeth y DU ar gyfer datgarboneiddio o fewn y ddau hwb twf glân yng Nglannau Dyfrdwy a Wrecsam.
  • Ar hyn o bryd, mae swyddogion yn annog y diwydiant i wneud cais am gyllid IETF Cam Tri gan Lywodraeth Cymru. Daw’r cyfnod ymgeisio i ben ym mis Ebrill 2024.

Camau nesaf at gwblhau

  • Bydd swyddogion yn parhau i annog y diwydiant i wneud cais am gyllid IETF Cam Tri gan Lywodraeth Cymru. Daw’r cyfnod ymgeisio i ben ym mis Ebrill 2024.

Arloesi

21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem

Argymhelliad  

Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:

a.    Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
b.    Galluogi arloesi modelau busnes ynni
c.    Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
d.    Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
e.    Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.

Camau nesaf at gwblhau

  • Hyd yn hyn, nid ydym wedi pennu unrhyw brosiectau penodol lle mae rhanddirymiad yn angenrheidiol.
  • Rydym yn parhau i ddefnyddio cynlluniau ynni lleol i bennu’r heriau ar gyfer cyfundrefnau rheoleiddio a chyllido. Y bwriad yw cwblhau’r cynlluniau erbyn mis Mawrth 2024. Byddwn yn cynnal gwaith monitro ac yn paratoi i rannu mewnwelediadau allweddol gydag Ofgem a rhanddeiliaid.