Fel bod modd sicrhau datrysiad parhaol i'r trawstiau croes ar Bont Menai bydd mesurau rheoli traffig yn cael eu rhoi ar waith gyda system llif llanw ar gyfer y rhan hon o'r gwaith yn unig.
Mae disgwyl i'r mesurau rheoli traffig fod yn eu lle o 19 Chwefror am gyfnod o oddeutu wyth diwrnod.
Rhwng 7am a 1pm bydd traffig yn gallu croesi o Ynys Môn i'r tir mawr, a rhwng 1pm a 7pm bydd traffig yn gallu croesi o'r tir mawr i Ynys Môn. Rhwng 7pm a 7am bydd signalau traffig arferol ar waith.
Fel rhan o raglen ehangach a diwygiedig Cam 2 ni fydd mesurau rheoli traffig ond ar waith am gyfnodau byr er mwyn gallu cwblhau elfennau allweddol.
At ei gilydd mae'r cynlluniau diwygiedig wedi lleihau'n sylweddol yr angen i reoli traffig ar y bont, o'i gymharu â'r cynlluniau cynharach, a thrwy hynny bydd llai o darfu ar drigolion, cymudwyr a busnesau.
Mae gorfodi'r terfyn pwysau 7.5 tunnell yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer cynnal gweithrediad diogel y bont tra bo'r gwaith yn parhau.
Diolch i drigolion, cymudwyr a busnesau am eu hamynedd a'u cydweithrediad parhaus.
