Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu rhag y ffliw a COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Y Rhaglen Trawsnewid Brechu

Cyhoeddwyd y Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru ar 25 Hydref 2022.

Mae’r fframwaith hwn yn pennu ein huchelgais ar gyfer trawsnewid brechu yn ehangach, er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i bawb yng Nghymru. Mae’r Fframwaith hwn wedi’i gydgynhyrchu. Gweithiodd Llywodraeth Cymru a’r GIG fel Un Tîm i adnabod y gwersi a ddysgwyd o’r pandemig a’u defnyddio i bontio i sefyllfa o fusnes fel arfer ar gyfer pob rhaglen frechu.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Rydym wrthi’n gwahodd grwpiau cymwys eraill ar gyfer brechiad COVID-19. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn yw:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Mae pawb sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw, sy’n cynnwys pob un dros 50 oed, yn cael eu hannog i ddysgu mwy am sut y gallant gael y brechlyn yn eu hardal nhw o Gymru.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol yn nodi bod tegwch brechu yn ganolog i gynllun a darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r camau gweithredu allweddol i wireddu hyn ar gyfer pob rhaglen frechu.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn i anfon gwahoddiadau at bawb sy’n gymwys i gael pigiad atgyfnerthu erbyn diwedd mis Tachwedd.

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 682,338 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 31 Hydref 2022)
  • Mae 11,754 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal (ar 31 Hydref 2022)
  • Mae 11,038 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal (ar 31 Hydref 2022)
  • Mae 28,069 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin (ar 31 Hydref 2022)

Cyhoeddwyd y crynodeb cyntaf o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 27 Hydref. Mae’n nodi’r lefelau manteisio canlynol, sydd ar yr un lefel yn fras â blynyddoedd blaenorol ar yr adeg hon yn yr ymgyrch.

  • 48% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn
  • 21% o’r rheini yn y grŵp risg rhwng 6 mis oed a 64 oed

Bydd rhagor o ddata ar gael ar y niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.

Cydweithio i ddarparu Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol

Mae cynllun Rhwydwaith Gofal Cymdogaeth llwyddiannus yn cael ei gynnal gan feddygfeydd teulu lleol ar draws Gogledd Sir Fynwy. Ymunodd fferyllfa Shackleton yn y Fenni â’r cynllun yn ogystal er mwyn cyflwyno’r rhaglen frechu rhag y ffliw a COVID-19 i breswylwyr a staff Cartrefi Gofal Sir Fynwy. 

Tyfodd y syniad o ddigwyddiad ar y cyd i drafod sut i ddod â’n gwasanaethau partner ynghyd i sicrhau y gall preswylwyr Sir Fynwy gael mynediad at eu brechiad rhag y ffliw a COVID-19 yn lleol. 

Gan gydweithio, roedd meddygon teulu a staff fferyllfa Sir Fynwy yn rhan o’r gwaith o gynllunio a darparu’r clinigau ynghyd â Chartrefi Gofal Gogledd Sir Fynwy, a llwyddwyd i roi’r brechlyn i bob preswylydd ac aelod staff drwy gynnal clinig yn y cartrefi gofal. Roedd synnwyr o gymuned yn y clinigau ac fe gafwyd adborth positif gan gleifion. Nododd y clinigwyr arferion da o’r clinigau.

O ganlyniad i’r gwaith hwn ar y cyd, mae fferyllfa Shackleton hefyd yn cefnogi’r gwaith o roi’r brechlynnau i gleifion sy’n gaeth i’w tai. Wrth wneud hyn, byddant yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi gweithio’n dda eisoes.

Edrych ymlaen

Brechiad atgyfnerthu COVID-19

Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn 30 Tachwedd 2022. 

Brechiad Ffliw

Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr 2022.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan.