Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Dylai pob unigolyn sy'n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 fod wedi cael eu cynnig i gael y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich gwahoddiad, cysylltwch â'ch bwrdd iechyd lleol. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gweithredu clinigau galw i mewn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich bwrdd iechyd. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Mae pawb sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw, sy’n cynnwys pob un dros 50 oed, yn cael eu hannog i ddysgu mwy am sut y gallant gael y brechlyn yn eu hardal nhw o Gymru.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd yn nodi bod tegwch brechu yn ganolog i gynllun a darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r camau gweithredu allweddol i wireddu hyn ar gyfer pob rhaglen frechu. 

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Yn unol â'n strategaeth, rhoddwyd gwahoddiad i bob unigolyn cymwys gael brechlyn COVID-19 erbyn 30 Tachwedd. 

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 1,058,129 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 12 Rhagyfr 2022)
  • Mae 14,898 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal (ar 12 Rhagfyr 2022)
  • Mae 12,603 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal (ar 12 Rhagfyr 2022)
  • Mae 36,392 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin (ar 12 Rhagfyr 2022)

Mae'r crynodeb o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ar 8 Rhagfyr yn nodi’r lefelau manteisio canlynol, sydd ar yr un lefel yn fras â blynyddoedd blaenorol ar yr adeg hon yn yr ymgyrch.

  • 72.5% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn
  • 38.5% o’r rheini yn y grŵp risg rhwng 6 mis oed a 64 oed
  • 35.4% o blant 2 a 3 oed
  • 33.7% o staff y GIG

Astudiaeth achos: Cartref gofal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 

Rheolwr Cartref Gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn annog staff cartrefi gofal i gael eu brechu rhag COVID-19 a’r ffliw

Mae rheolwr cartref gofal wedi rhannu ei phrofiad pwerus o COVID-19.  A hynny mewn ymgais i annog cydweithwyr yn y sector i fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu.

Cynhyrchodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe fideo gyda Michelle Stanton. Mae Michelle yn gweithio yng nghartref gofal Baglan Lodge ym Mhort Talbot. Mae hi'n sôn am ddyddiau cynnar y pandemig pan fu farw chwech o breswylwyr yn druenus o fewn pythefnos yn unig.

Mae Michelle yn egluro bod y sefyllfa wedi gwella oherwydd y rhaglen frechu yn unig. Mae hi'n annog cydweithwyr i fanteisio ar y cynnig i gael pigiad atgyfnerthu COVID-19 yr hydref. Mae hi hefyd yn egluro sut y “gall y ffliw ladd". Yn enwedig i'r preswylwyr hynny sydd â thrafferthion anadlu a phroblemau gyda'r galon.

Mae Michelle yn annog staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i fanteisio ar eu cynigion i gael eu brechu rhag COVID-19 a'r ffliw. Mae'r "aberth bach" hwn yn golygu amddiffyniad parhaus i'r bobl fregus y maen nhw'n gofalu amdanynt.

Cafodd y fideo ei rannu ar dudalen Facebook Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Dywedodd un gweithiwr gofal:

Clip hyfryd. Ro’n i'n meddwl nad o’n i am gael fy mhigiad nesaf, Michelle. Ond newidiodd hyn fy meddwl. Diolch.

Gwyliwch y fideo ar sianel YouTube GIG Bae Abertawe.

Edrych ymlaen

Brechiad Ffliw

Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr 2022.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan