Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu rhag y ffliw a COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Y Rhaglen Trawsnewid Brechu

Gan gydweithio â’r GIG, rydym wrthi ar hyn o bryd yn datblygu Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru. Bydd y fframwaith hwn yn pennu ein huchelgais ar gyfer trawsnewid brechu yn ehangach, er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarperir i bawb yng Nghymru. Bydd y fframwaith yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Hydref 2022.

Bydd y trefniadau trawsnewid yn seiliedig ar yr arferion da sydd eisoes ar waith. Wrth i’r trefniadau trawsnewid fynd rhagddynt, bydd y rhaglenni sydd eisoes ar waith yn dal i weithredu’n effeithiol er mwyn sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i gael eu diogelu.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Rydym wrthi’n gwahodd grwpiau cymwys eraill ar gyfer brechiad COVID-19. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn yw:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Mae pawb sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw, sy’n cynnwys pob un dros 50 oed, yn cael eu hannog i ddysgu mwy am sut y gallant gael y brechlyn yn eu hardal nhw o Gymru.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 17 Hydref 2022:

  • Mae 471,488 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 3 Hydref 2022)

Bydd data am y nifer sy’n cael eu brechu rhag y ffliw yn cael ei gynnwys unwaith y bydd ar gael.

Diogelu eich gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn

Fel rhan o Raglen Frechu'r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a COVID-19 i staff sy’n dod i ganolfan frechu torfol. Gellir rhoi’r ddau frechiad ar yr un pryd, sy’n fwy cyfleus ac yn cymryd llai o amser, gan sicrhau y bydd staff yn cael eu diogelu cyn cyfnod y gaeaf. Drwy dderbyn y cynnig hwn, bydd staff yn cadw eu hunain yn iach, ac yn helpu i sicrhau y gall gwasanaethau gofal iechyd barhau i ddiwallu anghenion cleifion yn ystod y misoedd nesaf. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cynnig y brechlynnau i staff rhwng mis Medi a mis Tachwedd fel rhan o raglen pigiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref. Anogir pob staff i fanteisio ar y cynnig hwn.

Edrych ymlaen

Brechiad atgyfnerthu COVID-19

Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn 30 Tachwedd 2022. 

Brechiad Ffliw

Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr 2022.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan.