Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf
  • amddiffyn plant a phobl ifanc
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw. Mae rhaglen y gaeaf hwn bellach yn ei chyfnod olaf gyda’r gwanwyn yn prysur nesáu. Mae cyhoeddiad wedi cael ei wneud ar roi terfyn ar y cynnig gwreiddiol, cyffredinol o gwrs sylfaenol a brechiad atgyfnerthu i bawb dros 5 oed. Mae rhagor o wybodaeth a manylion pellach ar gael yn y datganiad Gweinidogol. Mae’r Gweinidog wedi cyhoeddi y cynhelir rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yn y gwanwyn. Bydd y rhai sy’n gymwys yn cael cynnig apwyntiad o 1 Ebrill 2023.

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Dylai pob unigolyn sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 fod wedi cael eu gwahoddiad erbyn hyn. Os ydych chi’n gymwys ond heb gael eich gwahoddiad, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol cyn gynted â phosibl. Mae pob bwrdd iechyd bellach yn gweithredu clinigau galw i mewn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich bwrdd iechyd. 

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn sy’n gymwys i gael brechiad atgyfnerthu:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd (gov.uk)
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Dylai unigolion sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw, sy’n cynnwys pawb dros 50 oed, fod wedi cael cynnig y brechiad erbyn hyn. Os ydych yn gymwys ond heb gael eich brechiad eto, gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gael y brechiad yn eich ardal yng Nghymru. Mae pob bwrdd iechyd nawr yn cynnig dewisiadau hyblyg, gyda threfniadau ‘galw i mewn’ ar waith ar draws Cymru, gan gynnwys sesiynau i blant gael brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwyn.

Amddiffyn plant a phobl ifanc

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig. Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau. Er mwyn sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn eleni, yn enwedig yng nghyd-destun y lefelau uchel o feirysau anadlol a oedd yn cylchredeg yn y gymuned yn ddiweddar yn ogystal â feirysau eraill, megis y Dwymyn Goch a Streptococws A (Strep A) mae trefniadau ‘galw i mewn’ nawr ar gael i roi mwy o hyblygrwydd i deuluoedd ac i sicrhau’r lefelau uchaf o amddiffyniad.

Gadael neb ar ôl

Mae brechu teg yn parhau yn egwyddor allweddol yn rhaglen frechu Cymru. Mae’r egwyddor o ‘adael neb ar ôl’, sy’n rhan annatod o’n strategaeth frechu, wedi’i seilio ar y rhagosodiad y dylai pawb gael mynediad teg a chyfle teg i fanteisio ar y cynnig o frechlyn.  

Yn dilyn cyngor gan y JCVI, rydym wedi cyhoeddi y bydd y cynnig o’r brechiad atgyfnerthu cyffredinol (trydydd dos), a oedd yn cael ei gynnig i’r holl boblogaeth dros 5 oed o hydref 2021, yn dod i ben ar 31 Mawrth 2023. Bydd y cynnig o’r cwrs sylfaenol cyffredinol cychwynnol o’r brechlyn sy’n cynnwys dau ddos, a oedd yn cael ei gynnig i’r holl boblogaeth dros 5 oed o fis Rhagfyr 2020, yn dod i ben ar 30 Mehefin 2023. 

Nid yw hyn yn golygu bod y rhaglen brechu rhag COVID-19 yn cau; rydym yn rhagweld y bydd brechiadau COVID-19 yn parhau i fod yn rhan o’n rhaglen frechu yng Nghymru. Bydd modd i bobl sy’n datblygu cyflwr iechyd newydd sy’n eu rhoi mewn grŵp sy’n wynebu risg clinigol ac sydd heb gael eu cwrs sylfaenol a/neu eu brechiad atgyfnerthu eto, gael eu brechu yn ystod cyfnod yr ymgyrch nesaf neu cyn hynny yn dilyn cyngor clinigydd.

Yn ogystal, bydd y bobl y mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn credu sydd fwyaf agored i niwed yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn ystod y gwanwyn. Fel y cyhoeddwyd yn flaenorol, bydd y bobl sy’n wynebu’r mwyaf o risg (yn ôl y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu) hefyd yn cael cynnig brechiad atgyfnerthu yn ystod tymor yr hydref 2023.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o hyd o atal salwch difrifol a chadw COVID-19 rhag lledaenu. Rydym yn annog pawb sy’n gymwys ond sydd heb gael eu cwrs sylfaenol neu eu dos gwreiddiol o frechiad atgyfnerthu 2021 eto, i’w cael nhw cyn i’r cynigion cyffredinol hyn ddod i ben.

Mae’r byrddau iechyd yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau rhanddeiliaid ehangach a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn manteisio ar y cynigion cyffredinol hyn nawr, ac yn ystod ymgyrchoedd eraill yn y dyfodol.

Mae’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd yn nodi bod tegwch brechu yn ganolog i gynllun a darpariaeth y gwasanaeth. Mae’r Fframwaith yn amlinellu’r camau gweithredu allweddol i wireddu hyn ar gyfer pob rhaglen frechu.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Yn unol â'n strategaeth, rhoddwyd gwahoddiad i bob unigolyn cymwys gael brechlyn COVID-19 erbyn 30 Tachwedd a chyfle i gael eu brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr. Rydym bellach yng nghyfnod ‘gadael neb ar ôl’ y rhaglen gyda byrddau iechyd yn ceisio sicrhau bod y nifer mwyaf o bobl yn cael y brechlyn drwy gynnig parhaus, e.e. drwy glinigau galw i mewn. 

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 1,152,736 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 20 Mawrth 2023)
  • Mae 15,696 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal (ar 20 Mawrth 2023)
  • Mae 11,498 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i breswylwyr cartrefi gofal (ar 20 Mawrth 2023)
  • Mae 38,329 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi i bobl sydd â system imiwnedd gwannach na’r cyffredin (ar 20 Mawrth 2023)

Mae'r crynodeb o’r niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn rhag y ffliw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth 2023 yn nodi’r lefelau manteisio canlynol, sydd ar yr un lefel yn fras â blynyddoedd blaenorol ar yr adeg hon yn yr ymgyrch.

  • 76.2% o’r rheini sy’n 65 oed a hŷn
  • 44.1% o’r rheini yn y grŵp risg rhwng 6 mis oed a 64 oed
  • 44.1% o blant 2 a 3 oed
  • 45.2% o staff y GIG

Astudiaeth achos: Staff Cartrefi Gofal ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Fferyllfeydd cymunedol yn cynnig brechiadau rhag y ffliw i staff cartrefi gofal ar draws y Gogledd

Mae staff cartrefi gofal yn grŵp blaenoriaeth o weithwyr sy’n gymwys i gael brechiad rhag y ffliw. Cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr bron i 120 o sesiynau brechu rhag y ffliw mewn cartrefi gofal eleni. Roedd hyn yn rhoi mwy o gyfleoedd i staff cartrefi gofal gael y brechiad rhag y ffliw. Roedd fferyllydd cymunedol hefyd ar gael i ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon oedd gan staff am eu brechiad.  

Mae’r dull gweithredu hwn yn paru fferyllydd cymunedol gyda chartrefi gofal yn eu hardal. Bydd y fferyllydd yn brechu staff ar ddechrau neu diwedd eu diwrnod gwaith, neu ar adeg arall sy’n gyfleus i bawb. Mae fferyllwyr yn aml wedi dychwelyd i gartrefi gofal dro ar ôl tro. Mae hyn yn sicrhau bod y mwyaf posibl o bobl yn cael brechiad rhag y ffliw yn y grŵp allweddol hwn.

Tymor y ffliw eleni yw’r drydedd flwyddyn y mae’r model hwn wedi bod ar waith. Cafwyd ymgyrch lwyddiannus iawn y llynedd a chynllun peilot yn 2020/21. 

Rhoddodd y staff a gafodd y brechiad adborth cadarnhaol iawn ar werth y brechiad rhag y ffliw. Rhoesant wybod pa mor hawdd a chyfleus ydoedd i gael eu brechu fel rhan o’r dull hwn. 

Mae’r bwrdd iechyd yn parhau i weithio gyda gweithredwyr a rheolwyr cartrefi gofal i hyrwyddo’r brechiadau i’w staff. Mae hyn yn helpu i ddiogelu unigolion a’r bobl agored i niwed maent yn gofalu amdanynt.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan