Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar gynnydd ein rhaglen frechu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae ein strategaeth frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn amlinellu ein cynlluniau ar gyfer rhaglen frechu integredig. Mae’n egluro sut y byddwn yn cynnig brechiadau rhag y ffliw a brechiadau atgyfnerthu COVID-19 i unigolion cymwys eleni.

Dyma ein tair prif flaenoriaeth ar gyfer ein rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol:

  • amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf 
  • amddiffyn plant a phobl ifanc 
  • gadael neb ar ôl drwy barhau i gynnig y cwrs cychwynnol o’r brechlyn COVID-19

Diweddariad ar y rhaglen

Dechreuwyd rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi 2022. Mae’n cyfuno’r rhaglen frechu rhag COVID-19 a’r rhaglen frechu rhag y ffliw.

Dyma’r diweddariad cyntaf mewn cyfres newydd o adroddiadau cynnydd bob pythefnos i:  

  • nodi’r cynnydd a wneir
  • darparu negeseuon pwysig yn ystod y rhaglen

Y rhaglen trawsnewid brechu

Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru. Y bwriad yw ei gyhoeddi yn nes ymlaen yn yr hydref. 

Cynnydd yn erbyn y strategaeth

Amddiffyn y rhai sy’n wynebu’r perygl mwyaf 

Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag COVID ar gyfer y grwpiau cymwys ar 1 Medi, gan frechu:

  • preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • unigolion sy’n gaeth i’r tŷ
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

Rydym wrthi’n gwahodd grwpiau cymwys eraill ar gyfer brechiad COVID-19. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cyhoeddi mai’r grwpiau hyn yw:

  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed mewn grŵp risg glinigol, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sy’n gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Amddiffyn plant a phobl ifanc 

Mae’r canlynol yn gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw eleni:

  • plant 2 a 3 oed
  • plant ysgolion cynradd o’r dosbarth derbyn i Flwyddyn 6
  • plant a phobl ifanc ysgolion uwchradd o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11
  • pobl rhwng chwe mis oed a 49 oed mewn grŵp risg glinigol fel y nodir yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru ar y ffliw

Byddwn yn gofyn i rieni neu warcheidwaid roi caniatâd. Rydym yn annog rhieni, gwarcheidwaid, plant a phobl ifanc i drafod â’i gilydd a ydyn nhw am gael y brechiad ai peidio. Mae gwybodaeth ffeithiol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i’w helpu i wneud y penderfyniad hwn.

Bydd y mwyafrif o blant a phobl ifanc yn cael eu brechiad COVID-19 mewn canolfan frechu. Bydd rhai ardaloedd hefyd yn cynnig y brechlyn drwy ysgolion arbennig.

Bydd y ffordd o ddarparu brechiadau yn cael ei llywio gan wybodaeth leol a gall newid yn ôl amgylchiadau.

Bydd byrddau iechyd yn defnyddio gwasanaethau nyrsio mewn ysgolion yn bennaf i ddarparu’r brechlyn i blant, sef chwistrelliad drwy’r trwyn. Yn ogystal, bydd sesiynau dilynol a’r defnydd o feddygfeydd yn rhan o’r model ar gyfer darparu brechiadau.

Bydd y brechlynnau canlynol yn cael eu defnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc eleni:
COVID-19

Dyma’r brechlynnau COVID-19 y cynghorir eu defnyddio ar gyfer pobl ifanc rhwng 12 a 17 oed:

  • Brechlyn deufalent ‘math gwyllt’ Gwreiddiol/Omicron BA.1 Pfizer-BioNTech mRNA (Comirnaty)
  • Brechlyn ‘math gwyllt’ Pfizer-BioNTech mRNA (Comirnaty)

Dyma’r brechlyn COVID-19 y cynghorir ei ddefnyddio ar gyfer plant rhwng 5 ac 11 oed:

  • Fformiwleiddiad pediatrig brechlyn ‘math gwyllt’ Pfizer-BioNTech mRNA (Comirnaty)

Y ffliw

Dyma’r brechlyn rhag y ffliw y cynghorir ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 2 a 17 oed:

  • Brechlyn ffliw pedwarfalent byw wedi'i wanhau (LAIV) – (oni bai y cynghorir yn erbyn ei ddefnyddio neu y’i gwrthodir oherwydd ei fod yn cynnwys gelatin)

Dyma’r brechlyn y cynghorir ei ddefnyddio ar gyfer plant rhwng 6 mis a 2 oed (neu pan gynghorir yn erbyn LAIV neu pan wrthodir LAIV):

  • Brechlyn ffliw pedwarfalent a feithrinwyd mewn wyau (QIVe)

Gadael neb ar ôl

Byddwn yn dal i gadw at yr egwyddor y gall pobl ddechrau eu cwrs brechu, neu barhau ag ef, unrhyw bryd. Bydd y GIG yn parhau i sicrhau bod y brechlyn ar gael yn hwylus er mwyn brechu cynifer o bobl â phosibl.

Rydym yn ehangu cylch gwaith y Pwyllgor Brechu Teg i gynnwys y ffliw eleni. Bydd hyn yn helpu i integreiddio brechu rhag y ffliw a brechu rhag COVID-19 yn Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol.

Rydym am sicrhau tegwch o ran mynediad a chyfle fel y gall pawb sy’n gymwys fanteisio ar y cynnig i gael eu brechu. Bydd canolbwyntio’n rheolaidd ar y niferoedd sy’n cael eu brechu a rhwystrau posibl i frechu yn cefnogi’r nod hwn.

Crynodeb o’n cynnydd cyffredinol

Ers dechrau rhoi Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar waith ar 1 Medi:

  • Mae 120,278 o frechiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi’u rhoi (yn gywir ar 20 Medi 2022)

Bydd data am y nifer sy’n cael eu brechu rhag y ffliw yn cael ei gynnwys unwaith y bydd ar gael.

Edrych ymlaen

  • Dechreuwyd rhoi brechiadau rhag y ffliw yn ystod yr wythnos yn dechrau 12 Medi, a hynny ar gyfer pob grŵp sy’n gymwys i gael y brechiad.
  • Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi cymeradwyo brechlyn deufalent gan Pfizer. Bydd byrddau iechyd, meddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dechrau defnyddio’r brechlyn hwn o 19 Medi ymlaen.
  • Yn sgil ymddangosiad amrywiolion, datblygwyd brechlynnau ar gyfer amrywiolion penodol, gan anelu at sicrhau eu bod yn cydweddu’n well o safbwynt imiwnedd a ysgogir gan frechlyn yn erbyn straeniau sy'n cylchredeg.

Mae brechlynnau sy'n cynnwys dau antigen gwahanol, gyda’r ddau yn seiliedig ar straeniau gwahanol o SARS-CoV2, yn cael eu galw'n frechlynnau deufalent. Felly, gall brechlynnau deufalent o bosibl wella amddiffyniad yn erbyn rhai amrywiolion o SARS-CoV2. 

  • Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad atgyfnerthu COVID-19 erbyn 30 Tachwedd.  
  • Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwahoddiad i gael brechiad rhag y ffliw erbyn 31 Rhagfyr.

Gwybodaeth ychwanegol am y rhaglen frechu

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cwestiynau cyffredin am y brechlynnau a diogelwch. Mae hefyd yn cyhoeddi data gwyliadwriaeth rheolaidd.

Mae gwybodaeth amrywiol am ein rhaglen frechu, gan gynnwys sut i gael eich brechu, ar gael ar ein gwefan