Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae’r diweddariad hwn i’r Fframwaith Polisi Trethi a gyhoeddwyd gennym yn 2017 yn cydnabod y cynnydd gwirioneddol a wnaed gennym ers gwaith Comisiwn Silk a Deddf Cymru 2014, a ddechreuodd y broses o ddatganoli trethi. Fodd bynnag, mae tipyn o ffordd i fynd o hyd cyn y gallwn ddefnyddio’r ystod lawn o bwerau trethu datganoledig a roddwyd gan Ddeddf Cymru 2014. Ond erys cydweithio a chydweithredu cryf yn gonglfaen ein ffordd o weithredu o hyd. Rydym yn dal yn ymrwymedig i barhau â’r ddeialog adeiladol â Llywodraeth y DU er mwyn datblygu’r achos dros ddatganoli trethi mewn ffordd glir a sefydlog i Gymru.

Mae datganoli trethi yn bwysig. Mae’n cynnig ysgogiad pwysig sy’n ein galluogi i gyflawni blaenoriaethau strategol yn well i fusnesau a dinasyddion Cymru. O dan rai amgylchiadau, credwn ei bod yn gwneud synnwyr i fod yn rhan o system y DU, megis cymryd camau mewn perthynas â’n huchelgeisiau amgylcheddol lle rydym wedi cydweithio â llywodraethau eraill i roi treth pecynnau plastig ar waith. Rydym yn gwerthfawrogi rôl Cymru yn undeb gwirfoddol y Deyrnas Unedig, ochr yn ochr â’r tair gwlad arall sy’n rhan o’r DU, a byddwn yn parhau i ddatblygu a rheoli ein trethi datganoledig yng nghyd-destun system drethu ehangach y DU. Yn wir, mae datganoli cyllidol llwyddiannus yn gwahaniaethu rhwng pryd mae’n gwneud synnwyr i fod yn rhan o system y DU a phryd y gall ein nodweddion a’n blaenoriaethau gwahanol olygu bod datganoli treth yn fwy priodol. Mae’n rhaid inni barhau i chwarae ein rhan yn y gwaith o atgyfnerthu datganoli cyllidol drwy ddatblygu polisi trethi sy’n adlewyrchu sylfaen drethu a blaenoriaethau polisi Cymru.

Mae gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru hanes hir o gasglu a gweinyddu trethi, a datganoli trethi cenedlaethol yw’r bennod ddiweddaraf. Ac fel mae’r ymateb i bandemig y coronafeirws yn dangos yn glir, mae awdurdodau lleol yng Nghymru, ar y cyd â phartneriaid eraill, yn parhau i lywio polisi ac ymatebion economaidd sy’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl. Wrth inni edrych ymlaen at gyflawni ein cyfres gyfredol o flaenoriaethau o ran polisi trethi, byddwn yn dibynnu ar y cyfoeth o arbenigwyr treth ledled Cymru – ar lefelau lleol, datganoledig a chenedlaethol, a thu hwnt, i ddod ynghyd i gyflawni’r canlyniadau rydym am eu cyflawni i ddinasyddion a busnesau Cymru.

Rydym wedi nodi ein blaenoriaethau o ran polisi trethi yn y diweddariad hwn i’n fframwaith polisi trethi, ac yn ein cynllun gwaith polisi trethi ar gyfer 2021-2026. Fe welwch fod ein blaenoriaethau yn gyson ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad i greu Cymru decach, sy’n fwy cyfartal a gwyrdd. Mae hyn yn berthnasol i’n trethi datganoledig a’n trethi lleol, lle rydym yn parhau’n ymrwymedig i fod yn raddoledig wrth ddatblygu ein trethi ac o ran ein penderfyniadau gwario; yr uchelgeisiau sydd gennym ar gyfer diwygio cyllid llywodraeth leol, a’r dreth gyngor yn benodol; a’n penderfyniad i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru cyhyd ag y bydd effeithiau economaidd pandemig y coronafeirws yn parhau.

Mae ein dyletswyddau o ran llesiant cenedlaethau’r dyfodol wedi llywio’r ffordd rydym wedi mynd ati i lunio polisi trethi yng Nghymru. Rydym wedi achub ar y cyfle yn ein diweddariad ar y fframwaith polisi trethi i integreiddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn gliriach yn ein ‘dull o ymdrin â threthi’. Mae ein ‘dull o ymdrin â threthi’, ynghyd â’n hegwyddorion treth, yn parhau i lywio trethi Cymru ac yn sicrhau bod y system drethu gyffredinol yng Nghymru yn gyson ac yn gydlynol.

Yn 2017, cydnabuwyd pwysigrwydd trethi i alluogi pobl Cymru i gyflawni gyda’n gilydd y pethau na allwn eu cyflawni ar ein pennau ein hunain. Mae hyn yr un mor wir wrth inni edrych ymlaen ac ystyried y newidiadau sylweddol i’r dirwedd gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y byddwn yn datblygu ein blaenoriaethau o ran polisi trethi ynddi. Gweithgarwch ymgysylltu – cydweithio go iawn – er mwyn diwallu anghenion busnesau a dinasyddion Cymru fydd y ffactor pwysicaf o hyd wrth gyflawni ein nodau. Ac er mwyn hyrwyddo ein huchelgeisiau i Gymru gyda’n gilydd rwy’n cyflwyno’r diweddariad hwn i’r fframwaith polisi trethi.

Rebecca Evans AS
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyflwyniad

  1. Yng Nghymru, mae datganoli pwerau trethu wedi mynd law yn llaw â’r ymrwymiad i ddatblygu polisi trethi o fewn fframwaith strategol clir. Mae ‘Fframwaith Polisi Trethi’ Llywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2017, yn darparu fframwaith sy’n cydnabod ac yn adeiladu ar ein diwylliant o gydweithio a chynnwys rhanddeiliaid, partneriaid, trethdalwyr a dinasyddion yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’n rhoi cyfeiriad clir a sicrwydd ynghylch ein blaenoriaethau ar gyfer trethi yng Nghymru.

  2. Mae’r Fframwaith Polisi Trethi yn nodi’r setliad datganoli cyllidol a sefydlwyd gan Ddeddfau Cymru 2014 a 2017, yn adlewyrchu hanes hwy ein trethi lleol, ac yn amlinellu’n glir flaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi, ynghyd â heriau a chyfleoedd cysylltiedig. Mae’r Fframwaith Polisi Trethi, sy’n seiliedig ar egwyddorion treth Llywodraeth Cymru, wedi ategu’r cynlluniau gwaith a’r adroddiadau cynnydd blynyddol sydd wedi’u cyhoeddi ers hynny.

  3. Ers sefydlu’r Fframwaith Polisi Trethi a’r cylch polisi trethi blynyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi meithrin gwybodaeth newydd ac wedi ennill profiad o ddatblygu polisi trethi ac, yn benodol, o’r seilwaith ar gyfer datganoli trethi newydd y darparwyd ar ei gyfer gan Ddeddf Cymru 2014. Mae’r wybodaeth hon, ynghyd â phedair blynedd o brofiad o ddatganoli trethi, wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu cryn dipyn o allu ym maes trethi a sefydlu dull Cymreig o lywio polisi trethi sy’n rhoi blaenoriaeth i anghenion dinasyddion, busnesau a chymunedau yng Nghymru.

  4. Wrth symud ymlaen, a thrwy’r diweddariad hwn i’n Fframwaith Polisi Trethi, byddwn yn parhau i sicrhau bod ein ‘dull o ymdrin â threthi’ yn ymwreiddio wrth inni geisio datblygu a chyflawni blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trethi Cymru yn ystod y Chweched Senedd.

Diben y diweddariad hwn

  1. Yn sgil y broses o ddatganoli pwerau trethu penodol i Gymru, cawsom ysgogwr pwysig newydd ar gyfer cyflawni canlyniadau gwell a mwy cadarnhaol i’n dinasyddion. Aeth ein Fframwaith Polisi Trethi ati i ystyried sut y gallem ddefnyddio ein pwerau newydd i ddiwallu anghenion Cymru, ac i ba raddau y gallem wneud hynny, ac i amlinellu ein blaenoriaethau cychwynnol ar gyfer trethi Cymru.

  2. Nod y diweddariad hwn i’n Fframwaith Polisi Trethi yw gosod ac integreiddio trethi a pholisi trethi Cymru yn gadarn yn ein proses o lunio polisïau a’n seilwaith strategol cenedlaethol.

  3. Yn y ddogfen hon, rydym yn egluro sut rydym yn llunio ac yn cyflawni polisïau trethi yng Nghymru. Yna, nodwn y blaenoriaethau o ran polisi trethi y byddwn yn eu datblygu yn ystod chweched tymor y Senedd. Drwy wneud hynny:

    • Rydym yn cydnabod y ffordd y caiff cynigion ar gyfer polisi trethi eu llunio o fewn y fframwaith a ddarperir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r blaenoriaethau strategol cenedlaethol a amlinellir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, a’r ffordd y maent yn adlewyrchu’r fframwaith hwnnw.
    • Rydym yn atgyfnerthu ein hegwyddorion treth drwy nodi ymrwymiad clir i’n dull o ymdrin â threthi yng Nghymru.
    • Wrth gydnabod rôl y system drethu ehangach a threthi Cymru, rydym yn egluro’r pwys ychwanegol a rown ar ystyriaethau o ran cynaliadwyedd, yn enwedig yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd a natur.
    • Rydym yn egluro’r angen i sicrhau bod ein mesurau treth yn parhau i fod yn gymesur ac yn raddoledig, ac yn pwysleisio ac yn amlygu pwysigrwydd cyflawni ein dyletswydd economaidd-gymdeithasol newydd.
    • Rydym yn dangos y cyfraniad y mae trethi Cymru yn ei wneud o ran cyllido ein gwasanaethau cyhoeddus, cyn nodi’r blaenoriaethau o ran polisi trethi y byddwn yn eu datblygu dros y pum mlynedd nesaf.
    • Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn ffordd dryloyw a byddwn yn parhau i fod yn atebol i’n partneriaid, rhanddeiliaid a dinasyddion. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw a’u cynnwys yn ein gwaith, gan adrodd yn flynyddol ar gynnydd wrth inni fynd ati i gyflawni ein hamcanion.
Image
Ffigur 1: Sut mae polisi trethi yn cefnogi ein hamcanion strategol

Llesiant cenedlaethau’r dyfodol

  1. Yn 2015, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’n gyfarwydd â gwneud pethau’n wahanol er mwyn sicrhau ein bod i gyd yn cydweithio i wella ein hamgylchedd, ein heconomi, ein cymdeithas a’n diwylliant. Er budd pobl, er budd ein planed. Nawr ac ar gyfer y dyfodol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y cyfeirir ati fel y Ddeddf o hyn ymlaen) yn codeiddio ein dull o ddatblygu a chyflawni polisïau, gan gynnwys polisi trethi, yng Nghymru.

  2. Mae’r Ddeddf yn nodi saith nod llesiant y dylem weithio tuag at eu cyflawni er mwyn sicrhau y gwelwn y Gymru a garem a’r Gymru rydym am fyw ynddi:
     
    • Cymru lewyrchus
    • Cymru gydnerth
    • Cymru iachach
    • Cymru sy’n fwy cyfartal
    • Cymru o gymunedau cydlynus
    • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
    • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
       
    Image
    Ffigur 2: Ein saith nod llesiant cysylltiedig ar gyfer Cymru

     
  3. Drwy’r Rhaglen Lywodraethu (2021), mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddangos ei hymrwymiad i greu Cymru decach, sy’n fwy cyfartal a chyfiawn yn gymdeithasol; ac sy’n ceisio gosod cynaliadwyedd a diogelu’r rhai mwyaf agored i niwed wrth wraidd ei hamcanion. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi’r gyfres uchelgeisiol a radical o ymrwymiadau y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu cyflawni yn ystod y tymor hwn.

  4. Gan ddefnyddio’r fframwaith unigryw y mae’r Ddeddf yn darparu ar ei gyfer, mae’r Rhaglen Lywodraethu yn nodi deg o amcanion llesiant a chamau gweithredu penodol cysylltiedig. Gyda’i gilydd, bydd y camau gweithredu hyn yn creu Cymru gryfach, decach, fwy cydnerth a gwyrdd ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Nod y deg amcan llesiant, a gaiff eu hegluro yn y Datganiad Llesiant a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r Rhaglen Lywodraethu (2021), yw sicrhau ein bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl i’r saith nod llesiant.

    Dyma’r deg amcan llesiant:

    • Darparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy ac o ansawdd uchel.
    • Diogelu, ailadeiladu a datblygu ein gwasanaethau ar gyfer pobl agored i niwed.
    • Adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol.
    • Adeiladu economi gryfach a gwyrddach wrth inni ddatgarboneiddio cymaint â phosibl.
    • Ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn.
    • Parhau â’n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau’n codi.
    • Dathlu amrywiaeth a gweithredu i ddileu anghydraddoldeb o bob math.
    • Bwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
    • Gwneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell fyth i fyw a gweithio ynddynt.
    • Arwain Cymru mewn sgwrs genedlaethol ar y cyd ynglŷn â’n dyfodol cyfansoddiadol, a rhoi’r presenoldeb cryfaf posibl i’n gwlad ar y llwyfan byd-eang.
       
  5. Mae’r nod o greu Cymru fwy cyfartal yn rhan annatod o’n hystyriaethau o ran polisi trethi, ac fe’i hadlewyrchir yn un o’n pum egwyddor treth. Mae fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhan annatod hefyd o’n ‘dull o ymdrin â threthi’ (a drafodir ymhellach yn ddiweddarach yn y ddogfen hon); ac mae’n ymgorffori pum ffordd o weithio’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Pum ffordd o weithio’r egwyddor datblygu cynaliadwy:

    • Cydweithio
    • Integreiddio
    • Cynnwys
    • Hirdymor
    • Atal
       
  6. Mae cydweithio a chyfranogiad wrth wraidd y ffordd rydym yn gweithio ar bolisi trethi, ac rydym yn integreiddio drwy ystyried, ar y cyd ag eraill, sut y gall polisi trethi helpu i gyflawni amcanion strategol Llywodraeth Cymru a’r saith nod llesiant. Mae cydbwyso anghenion uniongyrchol ag ystyriaethau tymor hwy er mwyn atal unrhyw niwed i’n heconomi, ein cymdeithas, ein cymunedau a’r byd naturiol yn y dyfodol yn rhan annatod o’n blaenoriaethau hefyd.

  7. Mae’r ymrwymiad i beidio â chymryd cyfraniad drwy Gyfraddau Treth Incwm Cymru oddi ar deuluoedd y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt; y flaenoriaeth rydym yn ei rhoi i’r gwaith o atgyfnerthu’r sylfaen drethu Gymreig; a’n gwaith parhaus ar y cyd â Llywodraeth y DU i gyflwyno treth pecynnau plastig yn 2022 yn enghreifftiau o’r ffordd rydym yn ceisio diwallu anghenion uniongyrchol a chanolbwyntio ar y tymor hwy ar yr un pryd.

Ein blaenoriaethau strategol i Gymru

  1. Yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, cyhoeddodd y Prif Weinidog Raglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-2026. Mae’r Rhaglen Lywodraethu, sy’n uchelgeisiol ac yn radical, yn cydnabod faint o weithgarwch sydd ei angen wrth inni adfer yn sgil pandemig y coronafeirws a dechrau edrych y tu hwnt i’w effaith ddigynsail, yn ogystal â’n lle newydd yn y byd ar ôl Brexit. Fodd bynnag, o ran ei hanfodion, mae’n parhau i fod yn driw i werthoedd cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, sy’n nodweddiadol o Gymru.

  2. Mae ein Rhaglen Lywodraethu, sy’n adeiladu ar ein hymrwymiad i sicrhau sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030, yn sicrhau bod yr angen i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur wrth wraidd ein holl weithgarwch. Mae’r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo i sicrhau ein bod yn ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’. Mae’r weledigaeth ar gyfer sefyllfa carbon sero net yng Nghymru yn parhau i ysgogi gweithgarwch fel y’i nodir yn y cynllun carbon sero net a’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, cynllun newydd 10 mlynedd, lle mae’r uchelgais i sicrhau economi ddigarbon yn hollbwysig.

  3. Mae ein blaenoriaethau o ran polisi trethi (a nodir yn ddiweddarach yn y ddogfen hon) yn gyson â’r ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd polisi trethi hefyd yn chwarae rôl wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod nad yw newid ymddygiad drwy drethi penodol (fel gwaith ymchwiliol ar dreth ar ddeunydd plastig untro) yn ddigon. Mae’n rhaid inni achub ar bob cyfle i sicrhau bod ein system drethu yn wyrdd, yn deg ac yn gynhwysol.

  4. Bydd polisi trethi a’n system drethu yn chwarae rhan yn y gwaith o fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur drwy gynnwys yn gyson y nodweddion sy’n gwneud y broses o gasglu a rheoli trethi mor wyrdd â phosibl. Gan weithio mewn ffordd integredig a chydgysylltiedig lle y bo’n bosibl ac yn briodol, byddwn yn ceisio cymell ymddygiadau sy’n cefnogi ein huchelgeisiau gwyrdd. Drwy wneud hyn, byddwn yn sicrhau bod ein gwaith yn arwain at welliannau ymarferol ac ystyrlon i bobl sy’n byw yng Nghymru.

Ein hegwyddorion treth

  1. Mae gan Lywodraeth Cymru bum egwyddor treth graidd sy’n sicrhau bod polisi trethi yn cael ei ddatblygu a’i gyflawni mewn ffordd gyson a strategol yng Nghymru. Mae’r broses barhaus o asesu a chymhwyso’r egwyddorion hyn yn sicrhau bod polisïau trethi yn gyson ag amcanion ehangach Llywodraeth Cymru. Mae angen i’n trethi weithredu mewn ffordd gyson a chydlynol hefyd fel rhan o system trethi a budd-daliadau ehangach y DU. Drwy gysoni ein dull o ymdrin â threthi â’r egwyddorion craidd hyn, dylem fod mewn sefyllfa well i fynd i’r afael ag anghenion ehangach dinasyddion a busnesau Cymru.

    Dylai trethi yng Nghymru:

    • Godi refeniw i ariannu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sydd mor deg â phosibl.
    • Cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
    • Bod yn glir, yn sefydlog ac yn syml.
    • Cael eu datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud.
    • Cyfrannu’n uniongyrchol at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal.
       
  2. Mae ein hegwyddorion treth yn adlewyrchu gwerthoedd ac amcanion Llywodraeth Cymru. Maent yn darparu llwyfan y gallwn ei ddefnyddio, wrth feddwl am syniadau a llunio polisïau, i gynnwys ystyriaethau o ran cynaliadwyedd a phwysigrwydd sicrhau bod trethi Cymru yn parhau i fod yn gymesur ac yn raddoledig (a drafodir ymhellach isod). Felly, ynghyd â’n dull o ymdrin â threthi, mae ein hegwyddorion treth yn cynnig cyfres glir o feini prawf ar gyfer asesu cyfraniad polisi trethi a’n system drethu ehangach at greu Cymru werdd, deg a chynhwysol.

Ein dull o ymdrin â threthi

  1. Yn yr un ffordd ag y mae ein hegwyddorion treth yn llywio trethi Cymru ac yn sicrhau bod trethi Cymru yn gweithredu mewn ffordd gydlynol o fewn y system drethu ehangach, rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn mynd ati mewn ffordd gyson a chydlynol i ddatblygu a chyflawni ein blaenoriaethau o ran polisi trethi.

  2. Byddwn yn parhau i weithredu yn unol â’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion cenedlaethau presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae hyn yn golygu defnyddio’r pum ffordd o weithio (gweler yn gynharach) o fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fel sail ar gyfer sut y byddwn yn cyflawni ein huchelgeisiau.

  3. Bydd ein rhanddeiliaid a’n partneriaid yn cydnabod y gwerth rydym yn ei roi ar gyfathrebu, dysgu gan arbenigwyr a chydweithio. Er nad oes unrhyw beth newydd am y ffordd rydym yn mynd ati i gyflawni ein gwaith, rydym yn achub ar y cyfle yma i nodi’r ffordd rydym yn ymdrin â threthi yng Nghymru. Mae ein ‘dull o ymdrin â threthi’, a gyflwynir isod fel cyfres o werthoedd, yn gyson â’n hegwyddorion treth ac yn sicrhau bod ein fframwaith polisi trethi yn fwy trwyadl.

  4. Wrth ddatblygu a chyflawni ein blaenoriaethau o ran polisi trethi, byddwn yn:

    • Cydgynhyrchu ein cynigion polisi trethi, gan gydweithio â’n partneriaid i sicrhau bod y cynigion yn gyson ag amcanion polisi ehangach effeithiol a dulliau cyflawni, a sicrhau cysondeb ag ystyriaethau cyllidebol mewn perthynas â threthiant a gwariant.
    • Ceisio prif ffrydio syniadau am dreth a pholisi trethi drwy fabwysiadu dull integredig gan gynnwys mwy o gydweithio ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru a gyda’n partneriaid ac asiantaethau cyflawni, er mwyn cyflawni polisïau cenedlaethol a lleol.
    • Sicrhau bod polisïau yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith yn seiliedig ar dystiolaeth; a gwerthuso drwy ddefnyddio’r ystod ehangaf o wybodaeth a data sydd ar gael i lywio ein gwaith, gan gynnwys cyrchu a chasglu data newydd fel y bo’n briodol. Drwy wneud hyn, byddwn yn ceisio deall gwreiddiau problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd neu waethygu.
    •  Mabwysiadu dull integredig o gynnal dadansoddiadau dosbarthiadol a dadansoddiadau o effaith (gweler Cynllun Gwella’r Gyllideb) lle y bo’n bosibl er mwyn sicrhau bod polisi trethi yn raddoledig ac yn gymesur yn gyffredinol, gan ystyried ein cyfrifoldebau o dan y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, a thrwy hynny sicrhau mai’r rhai â’r ysgwyddau lletaf sy’n cyfrannu fwyaf.
    • Wrth edrych i’r hirdymor, byddwn yn deall yr ysgogwyr a’r tueddiadau allweddol sy’n debygol o effeithio ar bolisi trethi dros y blynyddoedd sydd i ddod.
    • Sicrhau bod ystyriaethau o ran cynaliadwyedd amgylcheddol wrth wraidd ein trafodaethau ynghylch polisi trethi, gan gynnig y llwyfan sydd ei angen i gyflawni ymrwymiadau allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â datgarboneiddio a sicrhau sefyllfa carbon sero net yng Nghymru.
    • Gweithio i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o drethi Cymru er mwyn sicrhau y gall mwy o ddinasyddion gael y wybodaeth ddiweddaraf a chymryd rhan mewn trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch codi refeniw a blaenoriaethu gwariant sy’n effeithio arnynt.
    • Sicrhau bod ein cyfrifoldebau mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i fod yn rhan annatod o waith datblygu polisi, gan gyflawni’r canlyniadau cywir i Gymru.
       
  5. Yng Nghymru, mae gennym hanes hir a diwylliant sefydledig o gydweithio, dysgu gan eraill a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hamcanion a’n cynnydd i’n rhanddeiliaid. Mae ein Fframwaith Polisi Trethi yn cydnabod bod datganoli cyllid a threthi i Gymru wedi darparu ar gyfer meysydd gwaith newydd a, thrwy hynny, gyfleoedd newydd i ddatblygu ac atgyfnerthu gweithgarwch ymgysylltu uniongyrchol a chydberthnasau â dinasyddion, busnesau, partneriaid a rhanddeiliaid.

  6. Wrth inni barhau i wneud cynnydd ar y daith hon, byddwn yn achub ar bob cyfle i ymdrin â threthi yma yng Nghymru mewn ffordd strategol, Gymreig. Mae hyn yn golygu meithrin dealltwriaeth dda ac ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu effeithiol â llywodraeth genedlaethol, ddatganoledig a lleol; trethdalwyr; a’r amgylchedd economaidd-gymdeithasol ehangach lle rydym oll yn cyd-fyw. Mae’n golygu rhannu arferion da a gwersi a ddysgwyd gan lywodraeth leol, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), CThEM, y gweinyddiaethau datganoledig ac yn rhyngwladol.

  7. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU mewn ffordd adeiladol wrth inni bwyso am broses ddatganoli trethi barhaus a sefydlog i Gymru, ac wrth inni ddatblygu polisi sy’n gyson â’r system trethi a budd-daliadau ehangach.

  8. Mae ein hymrwymiad i lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae tystiolaeth yn ei chwarae ar gamau gwahanol o’r broses bolisi:

    • Cynllunio – nodi’r angen i ymyrryd, deall y boblogaeth dan sylw, nodi opsiynau a helpu i’w harfarnu, a dysgu am ‘yr hyn sy’n gweithio’ o brofiad blaenorol yng Nghymru ac mewn mannau eraill. Mae hyn yn cynnwys deall dyfodol Cymru a’r tueddiadau a’r ysgogwyr a all effeithio ar bolisi trethi yn y dyfodol.
    • Gweithredu – asesu dealltwriaeth o’r polisi, nodi rhwystrau a mynd i’r afael â phroses weithredu lwyddiannus, a nodi a rhannu arferion da.
    • Monitro a gwerthuso effaith – asesu a yw’r polisi yn sicrhau’r canlyniadau a fwriadwyd ac unrhyw ganlyniadau anfwriadol, asesu a yw’r polisi yn rhoi’r gwerth gorau am arian.
       
  9. Mae ein dull gweithredu yn cynnwys manteisio ar allu ac arbenigedd ymchwil Llywodraeth Cymru, gweithio gyda phartneriaid mewn llywodraethau datganoledig a chenedlaethol, meithrin cysylltiadau â rhanddeiliaid rhyngwladol a, lle y bo’n briodol, gomisiynu gwaith ymchwil a gwerthuso allanol. Mae enghreifftiau blaenorol yn cynnwys gweithio gyda Chomisiwn Cyllidol Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Cynaliadwyedd

  1. Mae pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu ar gyfer rhoi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith lle rydym yn ceisio cydbwyso anghenion cenedlaethau presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae’r rhain wedi’u hymgorffori yn ein dull o ymdrin â threthi fel y’i nodir uchod.

  2. Mae pwysigrwydd ystyried cynaliadwyedd yn ein ffordd o feddwl, yn ein gweithgarwch ac yn ein canlyniadau wedi dod yn allweddol wrth inni geisio ymestyn ein hadnoddau i barhau i reoli goblygiadau pandemig y coronafeirws a cheisio gweithredu ar fyrder i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ar yr un pryd. Wrth symud ymlaen, byddwn yn atgyfnerthu’r ffordd y mae gwaith polisi trethi yn ystyried, yn asesu ac yn datblygu ein hymrwymiadau mewn perthynas â chynaliadwyedd a’r ymateb ehangach i’r argyfwng hinsawdd a natur.

  3. Byddwn yn ymgorffori cynaliadwyedd yn ein gwaith o ddatblygu polisi trethi mewn tair ffordd.

    1. Yn gyntaf, byddwn yn cymhwyso egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn drwyadl at ein gwaith o lunio polisi trethi.
    2. Yn ail, byddwn yn parhau i flaenoriaethu syniadau treth penodol a all gael effaith uniongyrchol ar ein hymrwymiadau amgylcheddol. Un flaenoriaeth uniongyrchol yw parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu pwerau sylfaenol ym Mil Amgylchedd y DU ar gyfer codi tâl am ddeunydd plastig untro.
    3. Y drydedd ffordd y byddwn yn mynd ati i ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur mewn polisi trethi yw drwy ein hegwyddorion treth a’n dull o ymdrin â threthi.
       
  4. Rydym yn cydnabod bod trethi yn ysgogwr pwysig y gallwn ei ddefnyddio i gyflawni amcanion polisi penodol; newid ymddygiad; ac, wrth gwrs, godi refeniw i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr. Fodd bynnag, nid trethi fydd y dull mwyaf priodol o gyflawni amcanion bob amser. Drwy fynd ati i brif ffrydio syniadau am drethiant, trethi penodol a pholisi trethi yn fwy cyffredinol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru, gallwn gefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ehangach y Rhaglen Lywodraethu.

  5. Gallwn geisio “ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn” drwy weithio gyda meysydd polisi eraill i wneud y defnydd gorau posibl o’r system drethu er mwyn cefnogi ein hymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur. Drwy’r dull gweithredu hwn byddwn yn annog mwy o gydweithio, arloesedd ac effeithlonrwydd i gyflawni amcanion polisi cenedlaethol.

Cymesur a graddoledig

  1. Mae trethi yn ysgogwr pwysig y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i gyflawni rhai o’i hamcanion. Fodd bynnag, y brif uchelgais o hyd yw adeiladu Cymru gyfartal – Cymru ffyniannus, wydn ac iach i bob un o’n dinasyddion. Wrth inni adfer yn sgil effeithiau pandemig y coronafeirws, mae angen inni sicrhau nad yw’r cymunedau yr effeithiwyd fwyaf arnynt yn parhau i deimlo effeithiau cronnol anfantais cymdeithasol ac economaidd.

  2. Mae’r Ddyletswydd Economaiddgymdeithasol, a ddaeth i rym yng Nghymru ym mis Mawrth 2021, yn arf hollbwysig arall sy’n cefnogi ein hymdrechion i leihau anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a, thrwy hynny, sicrhau canlyniadau gwell i bawb. Byddwn yn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol wrth fynd ati i lunio pob polisi trethi, gan gydnabod gwerth y trylwyredd y mae’n ei ychwanegu i’n prosesau asesu effaith integredig. Byddwn yn ymgorffori’r Ddyletswydd yn y gwaith o ddatblygu polisi trethi drwy gasglu ac ystyried yr ystod lawn o dystiolaeth, ac ymgynghori’n eang er mwyn deall anghenion y rhai yr effeithiwyd arnynt yn well ac asesu’r effaith economaidd-gymdeithasol bosibl ar grwpiau gwahanol.

  3. Rydym yn cydnabod y rôl y mae treth yn ei chwarae o ran codi refeniw ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, a’r hyn y mae’n ei gynnig i lywio a chyflawni amcanion polisi. Mae’r ymdrech i lunio trethi graddoledig a sicrhau bod beichiau treth yn parhau’n gymesur â’r gallu i dalu yn hanfodol i’r ffordd yr awn ati i sicrhau bod ein trethi yn gyllidol gynaliadwy ac yn galluogi gwariant graddoledig ledled Cymru. Byddwn yn ceisio atgyfnerthu dealltwriaeth ehangach o’r cysylltiad rhwng trethiant a chodi refeniw, ein cyllideb a’n penderfyniadau gwario. Mae hyn yn golygu y bydd angen inni feddwl mewn ffordd raddoledig yn gyffredinol.

  4. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n partneriaid i ddatblygu ein gallu i gynnal dadansoddiadau dosbarthiadol ar effaith trethiant ac effaith gwariant cyhoeddus ar draws y dosbarthiad incwm er mwyn llywio penderfyniadau cyllidol strategol. Dros amser, ac wrth inni ddatblygu ein gallu yn y maes hwn, bydd ein dull gweithredu yn cynnig data pwysig i lywio ein hystyriaethau o ran anfantais economaidd-gymdeithasol ymhellach a chefnogi gweithgarwch i leihau canlyniadau anghyfartal yn unol â’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol.

Trethi Cymru

  1.  Daw cyfran sylweddol o’r cyllid ar gyfer ein gwasanaethau cyhoeddus o drethi lleol a threthi datganoledig a gesglir yng Nghymru, sef:

    • y dreth gyngor
    • ardrethi annomestig
    • treth trafodiadau tir
    • treth gwarediadau tirlenwi
    • cyfraddau treth incwm Cymru
       
  2. Cyn i bwerau trethu penodol gael eu datganoli i Gymru, roedd cyllideb Cymru yn cael ei chyllido’n bennaf drwy grant bloc gan Lywodraeth y DU. Cytunodd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar fframwaith cyllidol er mwyn cymryd i ystyriaeth y trethi penodol a ddatganolwyd i Gymru a gwneud addasiad priodol i’r grant bloc i Gymru.

  3. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn casglu trethi lleol ers sawl degawd, gyda’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn gwneud cyfraniad sylweddol at y refeniw sy’n helpu i gyllido gwasanaethau hanfodol a ddarperir gan awdurdodau lleol gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, tai a phlismona. Mae’n rhaid i refeniw o’r ddwy dreth leol hyn gyllido gwariant awdurdodau lleol. Er bod ardrethi annomestig yn cael eu casglu a’u gweinyddu’n lleol, maent yn ymddangos yn nyraniadau Cyllideb Cymru fel Gwariant a Reolir yn Flynyddol, yn bennaf oherwydd y trefniadau dosbarthu sydd eu hangen fel rhan o’r Setliadau Llywodraeth Leol blynyddol. Caiff y dreth gyngor ei phennu a’i gweinyddu gan awdurdodau lleol o fewn fframwaith cyfreithiol sefydledig.

  4. Mae Siart 1 (isod) yn dangos y Gyllideb Atodol ar gyfer 2021-2022 a’r cyfraniad y mae trethi Cymru yn ei wneud i’r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ei gwario ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Nid yw’r dreth gyngor yn rhan o Gyllideb Llywodraeth Cymru ac mae’n cynhyrchu £1.9 biliwn arall (ar ôl gostyngiadau). Mae'r gyllideb o £19.9 biliwn yn cynnwys cyfraddau treth incwm Cymru 10%, treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi 2%, ardrethi annomestig 6%, benthyciadau ac arian a dynnir o’r gronfa wrth gefn 1%, a grant bloc 81%.

  5. Erys trethi Cymru yn ysgogwr pwysig y gall Llywodraeth Cymru godi refeniw drwyddynt i’w ddosbarthu yn unol â’i blaenoriaethau gwariant, er enghraifft, i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb neu’r argyfwng hinsawdd. Felly, bydd angen i’r gwaith strategol o ddatblygu trethi a godir eisoes yng Nghymru ac unrhyw drethi yn y dyfodol a’u rhoi ar waith gael ei integreiddio/ fod yn gyson â’r strategaeth gyllidol a chyllidebol ehangach a’r ffordd y’i rhoddir ar waith.

Image
Siart 1: Cyllideb Atodol 1af 2021-22 (nid yw’n cynnwys cyllid COVID, gwariant a reolir yn flynyddol na’r Terfyn Gwariant Adrannol anghyllidol)

Blaenoriaethau o ran polisi trethi

  1. Nodwyd ein dull strategol o gyflawni polisïau trethi yng Nghymru yn y Fframwaith Polisi Trethi cyntaf (2017). Pedair blynedd yn ddiweddarach, mae’r diweddariad hwn yn cynnig cyfle i ailddatgan ein hymrwymiad parhaus i ymgysylltu â’n partneriaid ac ymchwilio, dadansoddi a dysgu gyda nhw er mwyn bwrw ymlaen â’n blaenoriaethau craidd ar gyfer datblygu trethi a pholisi trethi yng Nghymru. Ochr yn ochr â’r blaenoriaethau presennol hyn, mae ein rhaglen waith yn adlewyrchu’r ymrwymiadau penodol o ran trethi Cymru a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu.

  2. Yn eu plith mae:

    • Peidio â chymryd mwy drwy gyfraddau treth incwm Cymru oddi ar deuluoedd Cymru cyhyd ag y bydd effaith economaidd coronafeirws yn parhau, o leiaf.
    • Ceisio diwygio’r dreth gyngor i sicrhau system decach i bawb.
    • Ymgynghori ar ddeddfwriaeth sy’n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth.
    • Archwilio a datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol – a allai gynnwys cyfraddau lleol i’r Dreth Trafodiadau Tir – i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.
    • Cadw’r cynnydd o 1% yn y Dreth Trafodiadau Tir a godir ar bryniannau ail gartrefi.
    • Dadlau dros ddatganoli trethi’n glir ac yn sefydlog i Gymru a dod i gytundeb â llywodraeth y DU ar system addas ar gyfer datganoli pwerau trethu newydd i Gymru.
    • Parhau i reoli trethi Cymru, gan gydweithio â’n partneriaid cyflawni gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru, Llywodraeth Leol, CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng nghyd-destun ehangach y DU.
    • Blaenoriaethu gweithgarwch i atgyfnerthu a deall y sylfaen drethu Gymreig yn well, yn enwedig yng nghyd-destun pandemig y coronafeirws.
    • Cynnal adolygiadau annibynnol a gwrthrychol o’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi er mwyn llywio unrhyw welliannau sydd eu hangen i’w gweithgarwch polisi/gweithredol.
    • Cyflwyno’r Bil a fydd yn ei gwneud yn bosibl cyflwyno newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru.
    • Ystyried a manteisio ar gyfleoedd creadigol i godi ymwybyddiaeth ehangach o drethi, ochr yn ochr â gwella ymwybyddiaeth a gweithgarwch ymgysylltu sy’n ymwneud â chyllidebau Cymru.
       
  3. Gall y broses o ddatblygu a chyflawni polisïau rychwantu sawl blwyddyn galendr. Felly, er mwyn gwella tryloywder a galluogi mewnbwn a gweithgarwch ymgysylltu gwirioneddol a gwerthfawr mewn perthynas â’n gwaith, rydym wedi nodi ein blaenoriaethau o ran polisi trethi ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn ein cynllun gwaith polisi trethi strategol ar gyfer 2021-2026. Mae hyn yn golygu symud i ffwrdd oddi wrth y broses o gyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol, ond byddwn yn parhau i adrodd yn ffurfiol ar gynnydd yn flynyddol.

Parhau’n atebol

  1. Gan gydnabod pwysigrwydd ein pwerau a’n galluoedd trethu o ran gwella atebolrwydd democrataidd ac atgyfnerthu’r gydberthynas uniongyrchol honno rhwng Llywodraeth Cymru a threthdalwyr, byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth ehangach o drethi a pholisi trethi Cymru ledled y wlad.

Sicrhau cyfranogiad

  1. Mae gan bob un o ddinasyddion Cymru ran i’w chwarae o ran trethi Cymru, boed yn drethdalwr neu’n fuddiolwr gwasanaethau cyhoeddus a gyllidir drwy drethiant, neu’r ddau. Wrth i Lywodraeth Cymru barhau i ddatblygu ei galluoedd trethu, mae angen ymgysylltu’n eang, casglu barn a chyngor er mwyn helpu i lywio cynlluniau yn y dyfodol, a helpu rhannau o gymdeithas Cymru i ddeall yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni. Mae ymgysylltu â chymunedau a busnesau, a’r sefydliadau a all gynrychioli eu barn a’u profiadau, yn hollbwysig i’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu.

  2. Rydym wedi sefydlu proses glir o gynnwys ac ymgysylltu ag arbenigwyr treth a sector-benodol, ein partneriaid a rhanddeiliaid eraill wrth lunio polisi trethi. Byddwn yn parhau i gydweithio yn y ffordd hon. Byddwn yn ymgysylltu’n rhagweithiol â rhanddeiliaid drwy amryw o sianeli, gyda’r nod o ddefnyddio eu harbenigedd a’u gwybodaeth i gydgynllunio, cydgynhyrchu a chydgyflawni’n effeithiol bolisi trethi sy’n addas i Gymru.

  3. Mae ymgysylltu yn rhan annatod o’r gwaith o ddatblygu polisi trethi a byddwn yn ceisio ehangu a gwella ein sianeli, fel y’u rhestrir isod, er mwyn sicrhau ein bod yn ymgysylltu mewn ffordd ystyrlon â’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Ymhlith ein sianeli ymgysylltu mae:

    Prosesau Ymgynghori Ffurfiol

    Byddwn yn parhau i gynnal ymgyngoriadau cyhoeddus agored a rhai wedi’u targedu wrth ddatblygu polisi trethi. Bydd ymgyngoriadau wedi’u targedu yn cynnwys y rhai y tybir y bydd y cynnig treth dan sylw yn effeithio arnynt.

    Grŵp Ymgysylltu ar Drethi

    Fforwm o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr arbenigol yw Grŵp Ymgysylltu ar Drethi Llywodraeth Cymru sy’n dod ynghyd i ystyried a rhoi cyngor ar effeithiau posibl datblygiadau presennol ac arfaethedig ym maes polisi, deddfwriaeth a gweinyddu trethi yng Nghymru ar gymunedau a busnesau yng Nghymru, ac i nodi cyfleoedd i feithrin dealltwriaeth ehangach o bolisi trethi Cymru.

    Cynhadledd Dreth Flynyddol

    Mae cynhadledd dreth flynyddol Llywodraeth Cymru yn gyfle pwysig arall i ymgysylltu â grwpiau rhanddeiliaid allweddol ac unigolion ynghylch polisi trethi yng Nghymru.

    Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Threthdalwyr

    Byddwn yn ceisio ymgysylltu â’r cyhoedd a threthdalwyr er mwyn codi ymwybyddiaeth o wariant cyhoeddus a threthiant yng Nghymru a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf amdanynt drwy wefan Llywodraeth Cymru ac ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ein sianeli Twitter @TrysorlysCymru ac @WelshTreasury.

    Y gymuned academaidd

    Byddwn yn parhau i geisio mewnbwn annibynnol ac academaidd ar syniadau ym maes polisi threthi er mwyn ein helpu i werthuso dewisiadau ac effaith ein penderfyniadau.

Cyflawni ein hamcanion ac adrodd ar gynnydd

  1. Gall trethi gael eu defnyddio at ddibenion gwahanol, o godi refeniw i ddylanwadu ar ymddygiad a chyflawni canlyniadau penodol. Wrth ddatblygu gweithgarwch mewn perthynas â’r trethi gwahanol yng Nghymru a’r amrywiaeth o gynigion polisi trethi, byddwn yn nodi’r amcan polisi penodol ar gyfer polisïau trethi unigol yn glir. Bydd disgyblaeth o’r fath yn darparu ar gyfer proses gadarn o lunio polisi trethi. Byddwn hefyd yn ceisio defnyddio egwyddorion rheoli prosiect yn gyson wrth ddatblygu ein blaenoriaethau a’n ffrydiau gwaith polisi trethi, a fydd yn hwyluso’r broses flynyddol o adrodd ar gynnydd.

  2. Yn flaenorol, buom yn cyhoeddi cynlluniau gwaith blynyddol a oedd yn nodi ein dyheadau polisi ar gyfer trethi Cymru a’r broses o ddiwygio trethi. Fodd bynnag, mae’r diweddariad hwn i’n Fframwaith Polisi Trethi eisoes yn nodi ymrwymiadau strategol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â threthiant. Byddwn yn blaenoriaethu’r ymrwymiadau strategol hyn dros dymor pum mlynedd y Senedd hon. Felly, wrth inni osod trethiant o fewn prosesau cyllidol a chyllidebol ehangach Llywodraeth Cymru, a chysoni ac integreiddio’r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi trethi, byddwn yn ymrwymo i’r ddisgyblaeth o weithio ar draws Llywodraeth Cymru i gyhoeddi manylion ein cynlluniau trethi ochr yn ochr â’n cynlluniau gwariant, a darparu adroddiadau cynnydd ar ein blaenoriaethau treth strategol er mwyn llywio digwyddiadau cyllidol allweddol. Bydd y ddisgyblaeth hon yn sicrhau tryloywder wrth gyflawni ein strategaeth gyllidol.