Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau a’n canllawiau Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Newidiadau pwysig i'n system rheoli trethi a gweminarau hyfforddi cyffrous rydym yn eu cynnal ym mis Ebrill ar:

  • ryddhad anheddau lluosog
  • trafodiadau cyfraddau uwch
  • adeiladau adfeiliedig

Newid i'r cwestiwn trafodiadau cyfraddau uwch

Rydym yn ychwanegu cwestiwn at ein system rheoli trethi ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch.

Rydym yn ychwanegu'r cwestiwn hwn gan mai cyfraddau uwch yw rhan o'r dreth y mae'n rhaid i ni gysylltu â threthdalwyr a'u hasiantau amlaf amdani ar ôl ffeilio a thalu, sy’n achosi gwaith ychwanegol i bawb.

Bydd y cwestiwn newydd yn gofyn pam ei fod yn drafodiad cyfradd uwch, bydd gwybod hyn yn lleihau pa mor aml rydym yn gofyn i chi am ragor o wybodaeth ar ôl ffeilio. Mae ein hymchwil defnyddwyr yn dweud wrthym fod y wybodaeth yma wrth law gan gyfreithwyr a thrawsgludwyr gan amlaf.

Rydym yn gobeithio ychwanegu'r cwestiwn ganol i ddiwedd mis Mai a byddwn yn cadarnhau hyn cyn gynted â phosib.

Gweminarau'r gwanwyn

Mae ein geminarau yn ôl! Rydym yn falch o gynnal gweminarau rhad ac am ddim i gyfreithwyr, trawsgludwyr a'u timau sy'n ffeilio ac yn talu'r Dreth Trafodiadau Tir.

Mae'r gweminarau’n canolbwyntio ar rannau'r dreth y mae cyfreithwyr a thrawsgludwyr wedi gofyn am fwy o hyfforddiant arnynt. Rydym yn cynnal pob gweminar ddwywaith, gallwch eu mynychu mewn unrhyw drefn felly dewch pan fydd fwyaf cyfleus i chi. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a hynny ar sail cyntaf i'r felin.

Am fwy o fanylion ac i archebu ei lle ewch i'n tudalen ddigwyddiadau.

Mae ein cyfeiriad Blwch Post yn newid

Bydd gennym gyfeiriad blwch post newydd cyn hir. Byddwn yn rhoi ein cyfeiriad newydd i chi pan fydd yn barod.

Yn y cyfamser, daliwch i ddefnyddio ein cyfeiriad presennol.

Bydd unrhyw bost a anfonir i'n cyfeiriad post blaenorol, ar ôl i'n cyfeiriad blwch post newid, yn cael ei ailgyfeirio i'r un newydd.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.