Neidio i'r prif gynnwy

Y newyddion diweddaraf am ein gwasanaethau a’n canllawiau Treth Trafodiadau Tir (TTT) ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Taliadau Treth Trafodiadau Tir

Pan fyddwch yn gwneud taliad Treth Trafodiadau Tir, mae'n bwysig bod cyfeirnod unigryw y trafodiad (CUT/UTRN) 12 digid yn cael ei ddefnyddio fel cyfeirnod talu’r banc.

Peidiwch ag:

  • ychwanegu unrhyw fylchau rhwng y 12 digid
  • ychwanegu'r llythrennau 'CUT/UTRN' neu unrhyw nodau eraill

Efallai y bydd eich taliad yn cael ei oedi os nad yw'r cyfeirnod talu’r banc (y CUT/UTRN) yn cyfateb yn union i'r CUT/UTRN ar eich ffurflen dreth TTT.

Cwestiwn cyfradd uwch newydd yn y ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT)

O 28 Mehefin 2023, bydd cwestiwn cyfradd uwch newydd yn y ffurflen TTT. Dim ond os ydych chi'n ffeilio trafodiad cyfradd uwch y bydd angen i chi gwblhau'r cwestiwn hwn.

Os byddwch yn cyflwyno ffurflen treth uwch cyn 28 Mehefin, nid oes angen i chi ateb y cwestiwn newydd. Os byddwch yn dechrau ffurflen treth uwch cyn 28 Mehefin, ond yn ei chyflwyno ar ôl 28 Mehefin, bydd angen ymateb i'r cwestiwn newydd cyn y gellir cyflwyno'r ffurflen.

Os ydych angen help i gwblhau'r ffurflen dreth, gweler ein canllawiau TTT wedi’u diweddaru neu cysylltwch â ni.

Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir (TTT) papur

O 3 Gorffennaf 2023, dim ond ar-lein y byddwch yn gallu ffeilio ffurflenni TTT. Ni fyddwn yn derbyn ffurflenni papur gan asiantau / trawsgludwyr wedi hynny.

I ffeilio ar-lein, bydd angen i chi gofrestru, caniatewch hyd at bythefnos i gwblhau'r broses.

Rydym wedi gwneud y newid hwn oherwydd bod ffurflenni wedi'u ffeilio ar-lein: 

  • yn gyflym i'w cwblhau, ac rydych yn cael cadarnhad ar unwaith
  • yn defnyddio porth diogel sy'n lleihau'r siawns ohonynt yn cael eu colli neu eu dwyn
  • yn rhoi gwell gwerth am arian drwy leihau’r costau gweinyddu 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut i ffeilio neu gofrestru ar-lein, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Mae ein cyfeiriad Blwch Post wedi newid

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i:

Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Cyfrifo rhyddhad anheddau lluosog

Rydym yn cynnal ymchwil defnyddwyr ynglŷn â sut mae ein cwsmeriaid yn cyfrifo rhyddhad anheddau lluosog (MDR).

Os ydych chi'n ffeilio trafodiadau sydd â hawl i MDR, byddem wir yn gwerthfawrogi pe gallech gymryd 5-10 munud i gwblhau ein harolwg byr am gyfrifo rhyddhad anheddau lluosog.

Mae hwn yn gyfle i chi ddweud wrthym beth yw eich barn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau mor hawdd â phosibl i’w defnyddio.

Diolch am eich cydweithrediad, rydym yn gwerthfawrogi eich cymorth.